Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679325
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 20 Medi 2024 fel rhai cywir. |
|
CYFRIFON TERFYNOL AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2024 A'R ARCHWILIAD PERTHNASOL PDF 153 KB Dewi Morgan
(Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletya a’r Swyddog Cyllid Statudol) ac Sian Pugh
(Pennaeth Cyllid Cynorthwyol r Awdurdod Lletya) i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd: ·
Adroddiad
‘ISA 260’ gan Archwilio Cymru ar gyfer y BUEGC. ·
Datganiad
o Gyfrifon terfynol y BUEGC (ôl archwiliad) am 2023/24. |
|
CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISGIAU CHWARTER 2 2024/25 PDF 245 KB Hedd
Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: ·
Ystyriwyd
a nodwyd Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i
ddiweddaru. ·
Cymeradwywyd
cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y
DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol. |
|
Alwen
Williams (Cyfarwydd Portffolio a Phrif Weithredwr Dros Dro y CBC) ac Dylan J.
Williams (Prif Weithredwr Arweiniol Cynghorau Gogledd Cymru ar gyfer y Bwrdd
Uchelgais) i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: 1.
Derbyniwyd
diweddariad ar y gwaith i sefydlu CBC y Gogledd, gan gynnwys trosglwyddo’r
Cynllun Twf a symud ymlaen ar dasgau sy’n ofynnol i gyflawni swyddogaethau
statudol y CBC. 2.
Awdurdodi’r
Cyfarwyddwr Portffolio i gytuno ar raglen a dyddiad trosglwyddo ddiwygiedig
gyda’r Awdurdodau Lleol a phartneriaid Addysg Uwch ac Addysg Bellach o fewn y
dyddiad targed o 31 Mawrth 2025. 3.
Cymeradwyo
bod y trefniadau dros dro i ryddhau amser y Cyfarwyddwr Portffolio am ddau
ddiwrnod yr wythnos i ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr Dros Dro yn cael eu
hymestyn tan 31 Mawrth, 2025 neu’r dyddiad trosglwyddo, yn dibynnu p’un fydd
gyntaf. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei chyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau. |
|
DIWEDDARIAD ACHOS BUSNES PORTFFOLIO 2024 Alwen
Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) ac Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth
Gweithrediadau) i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: 1.
Cymeradwyo
diweddariad 2024 Achos Busnes y Portffolio a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU fel rhan o’r broses dyfarnu cyllid blynyddol 2.
Gofyn i’r
Cyfarwyddwr Portffolio gyflwyno’r holl ddogfennaeth ofynnol a’r ffurflen cais i
newid i Lywodraethau Cymru a’r DU fel rhan o’r broses dyfarnu cyllid blynyddol
a dirprwyo hawl i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad ag Is-gadeirydd
Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru, y Swyddog Monitro a’r Swyddog a151, i negodi
gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar amseriad dyfarnu’r cyllid ac i
wneud unrhyw fân addasiadau ar gyfer y naill lywodraeth neu’r llall. 3.
Nodi
adroddiad Adolygiad Porth ac yn gofyn i’r Cyfarwyddwr Portffolio ddatblygu
cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r argymhellion. 4.
Cymeradwyo
tynnu prosiect safle Treuliad Anaerobig Glannau Dyfrdwy yn ôl o Gynllun Twf
Gogledd Cymru. 5.
Cytuno
ar y dull o ymdrin â phrosiectau sydd mewn risg o ailddyrannu cyllid a gofyn
i’r Cyfarwyddwr Portffolio gychwyn ar y broses ac adrodd i’r Bwrdd ar y prif
bwyntiau penderfynu a nodir yn Atodiad 5. 6.
Trefnu
cyfarfod gyda Gweinidogion perthnasol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, gan
sicrhau bod materion strategaethol ychwanegol yn cael eu trefnu o flaen llaw i
ddarparu sicrwydd pellach yn Achos Busnes Portffolio Bwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru. |