Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL |
|
MATERION BRYS |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol
oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â
hawl i breifatrwydd. Ar y pwynt yma nid oes penderfyniad yn cael ei wneud ac
mae angen trafod y bwriad. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am
ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r
unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r
wybodaeth yn eithriedig. |
|
AILSTRWYTHURO ARFAETHEDIG O UWCH DÎM RHEOLI GwE I ystyried
yr adroddiad (copi i’r Aelodau
yn unig) Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cymeradwyo’r cynnig ailstrwythuro arfaethedig o Uwch Dîm Rheoli GwE, yn unol â’r
argymhellion, 1.
Yng ngwyneb gweithredu
proses dirwyn GwE i ben fod y strwythur rheoli interim diwygiedig ar gyfer y
cyfnod 1 Medi i 31 Mawrth wedi ei
gymeradwyo a fod y trefniadau ar gyfer
gwireddu hyn yn cael eu gweithredu yn unol a’r adroddiad . 2.
Bod Bwrdd Trosglwyddo
yn cael ei sefydlu i sicrhau trosglwyddiad effeithiol o fodel GwE i'r strwythur
partneriaeth newydd. 3.
Bod Rheolwr Prosiect
yn cael ei benodi i gynorthwyo’r Bwrdd Trosglwyddo gyda’i waith. 4.
Bod Prif Weithredwr yr
Awdurdod Lletya, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, Swyddog Monitro a'r Swyddog
Adran 151, yn cael ei awdurdodi i wneud y penderfyniadau angenrheidiol i
hwyluso gweithrediad y penderfyniad hwn. |