Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2024/25. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Goronwy
Edwards yn Gadeirydd yr Is-bwyllgor ar gyfer 2024/25. Cofnod: PENDERFYNWYD Ethol y
Cynghorydd Goronwy Edwards yn Gadeirydd yr Is-bwyllgor ar gyfer 2024/25. |
|
IS-GADEIRYDD I ethol
Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Dave
Hughes yn Is-gadeirydd yr Is-bwyllgor ar gyfer 2024/25. Cofnod: PENDERFYNWYD Ethol y Cynghorydd
Dave Hughes yn Is-gadeirydd yr Is-bwyllgor ar gyfer 2024/25. Mewn
trafodaeth bellach, llongyfarchwyd y Cynghorydd Dave Hughes am gael ei ethol yn
Arweinydd Cyngor Sir y Fflint yn ddiweddar. Ystyriwyd os yw’n briodol iddo
benodi’r Aelod Cabinet perthnasol sydd â chyfrifoldeb am faterion trafnidiaeth
o fewn yr Awdurdod hwnnw i gymryd ei sedd ar yr Is-bwyllgor hwn. Cadarnhawyd
bydd y Dirprwy Swyddog Monitro yn ymchwilio i’r mater ymhellach a chynnal
trafodaethau pellach gyda’r Cynghorydd yn unol â’r angen. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan:- · Y Cynghorydd Barry
Mellor (Cyngor Sir Ddinbych) · Katie Wilby (Prif
Swyddog Cyngor Sir y Fflint) · Iwan Evans (Swyddog
Monitro) · Dafydd Wyn Williams
(Prif Swyddog Cyngor Gwynedd) gyda Gerwyn Jones yn dirprwyo. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
CYLCH GORCHWYL AR GYFER YR IS-BWYLLGOR TRAFNIDIAETH STRATEGOL PDF 169 KB I adolygu’r Cylch Gorchwyl ar gyfer yr Is-bwyllgor
Trafnidiaeth Strategol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadwyd y Cylch
Gorchwyl. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro. PENDERFYNIAD Mabwysiadwyd Y Cylch Gorchwyl. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Rhaid i’r
Is-bwyllgor weithredu’r rheolau a’r gweithdrefnau hynny fel y’u mabwysiadir gan
y CBC ac a nodir yn y Cylch Gorchwyl - dyma’r pwerau sy’n cael eu dirprwyo i’r
Is-bwyllgor. Rhaid i unrhyw ddiwygiad i’r telerau hyn gael eu cymeradwyo gan y
CBC. TRAFODAETH Adroddwyd
y bu i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd sefydlu’r Is-bwyllgor Trafnidiaeth
Strategol i gyflawni’r swyddogaeth o ddatblygu a chynhyrchu Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol a pholisïau cysylltiedig. Cadarnhawyd mai rôl yr Is-bwyllgor hwn yw datblygu
polisïau rhanbarthol ar y cyd gyda’r Awdurdodau Lleol a phartneriaid. Nodwyd
bod yr Is-bwyllgor hwn yn rhoi cyngor strategol i’r Cyd-bwyllgor wrth ddatblygu
a mabwysiadu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Tywyswyd
yr Aelodau drwy’r Cylch Gorchwyl gan gyfeirio at y ddeddfwriaeth berthnasol
megis Adran 109 Deddf Trafnidiaeth 2000, Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig
(Swyddogaethau Trafnidiaeth)(Cymru) a Rhan 5 Deddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) 2021. Eglurwyd bod naw prif agwedd o rôl yr Is-bwyllgor hwn,
gan fanylu ar y rolau creiddiol, sef: · Gwneud argymhellion i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ar
gymeradwyo ac adolygu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a’i gyflwyno i
Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo. · Gwneud
argymhellion i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ar bolisïau i’w gweithredu gan yr
awdurdodau trafnidiaeth leol yn ei ardal o Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. · Cynghori a gwneud argymhellion ar wasanaeth trafnidiaeth
strategol integredig a chysylltiedig yn y Gogledd, drwy fonitro ac adolygu
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Pwysleisiwyd bod rôl yr Is-bwyllgor yn strategol ei
natur, gan ei fod yn cydlynu gweithgarwch Awdurdodau Lleol a phartneriaid
eraill fel y byddai dull rhanbarthol strategol yn ei le yn y maes polisi
perthnasol. Nodwyd
bod gan yr Is-bwyllgor gyfrifoldebau i reoli prosiectau a rhaglenni. Esboniwyd
bydd y rôl hon yn cael ei gyflawni drwy gydlynu, cynllunio a datblygu’r
Rhaglenni prosiectau perthnasol a chyflwyno argymhellion i’r Cyd-bwyllgor
Corfforedig. Ymhelaethwyd ar y cyfrifoldeb i fonitro ac adolygu lefel a defnydd
adnoddau gan gynnwys staff, gan gyfeirio unrhyw argymhellion i’r Cyd-bwyllgor
Corfforedig. Cyhoeddwyd
bydd yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol yn paratoi adroddiad chwarterol ar
ei waith i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig. Eglurwyd bod angen i’r adroddiadau hyn
gynnwys: · Cynnydd ar weithredu’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol
yn cynnwys Rhaglenni a Phrosiectau unigol. · Perfformiad
Ariannol y Pwyllgor · Datblygiadau sydd ar y gweill |
|
CYFETHOL I'R IS-BWYLLGOR TRAFNIDIAETH STRATEGOL PDF 187 KB I ystyrid
Aelodaeth yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol. Penderfyniad: ·
Cyfethol Aelodau (heb
bleidlais) ar yr Is-bwyllgor i gefnogi ei swyddogaethau a’i gyfrifoldebau. ·
Gofyn i’r isod am gynrychiolydd
fel yr Aelodau Cyfethol: o
Parc Cenedlaethol Eryri
(unigolyn sydd â chyfrifoldeb am y portffolio trafnidiaeth) o
Trafnidiaeth Cymru ( unigolyn
sydd âchyfrfoldeb dros ranbarth y Gogledd) Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro. PENDERFYNWYD · Cyfethol Aelodau (heb bleidlais) ar yr Is-bwyllgor i
gefnogi ei swyddogaethau a’i gyfrifoldebau. · Gofyn i’r isod am gynrychiolydd fel yr Aelodau
Cyfethol: o
Parc
Cenedlaethol Eryri (unigolion sydd â chyfrifoldeb am y portffolio trafnidiaeth) o
Trafnidiaeth
Cymru (unigolyn sydd â chyfrifoldeb dros ranbarth y Gogledd) RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Cryfhau Aelodaeth yr Is-bwyllgor drwy gynyddu ei aelodaeth i gynnwys
cynrychiolaeth Aelodau sydd â phrofiad a sgiliau penodol, ac arbenigedd ar
drafnidiaeth o safbwynt rhanbarthol a chenedlaethol. TRAFODAETH Adroddwyd bod Canllawiau Statudol yn nodi natur strategol i waith yr
Is-bwyllgor ac yn rhoi’r hawliau i ethol dau Aelod Cyfetholedig (heb bleidlais)
er mwyn eu cefnogi. Pwysleisiwyd bod y penderfyniad terfynol ar gyfethol
Aelodau hynny yn gyfrifoldeb i’r Cyd-bwyllgor corfforedig. Eglurwyd bod yr
Aelodau Cyfetholedig yn cael eu penodi’n
Aelodau i gefnogi swyddogaeth y Cyd-bwyllgor yn hytrach na
chynrychioli unrhyw sefydliad neu gyflogwr. Cadarnhawyd bydd telerau cyfethol yn cael eu
nodi yn y cytundeb cyfethol a dim ond y swyddogaethau trafnidiaeth hynny sy’n cael
eu dirprwyo i’r Is-bwyllgor fydd yn berthnasol
iddynt. Rhoddwyd arweiniad
ar y math a’r ystod o sefydliadau a fyddai’n cael eu cynrychioli
orau yn ogystal
â’r sgiliau a’r profiad a fyddai’n
fuddiol, gan nodi ei fod yn
benderfyniad i’r Aelodau os ydynt yn
awyddus i gyfethol dau Aelod
(di bleidlais) i’r Is-bwyllgor hwn. Cefnogwyd yr
argymhelliad i gyfethol Aelodau (heb bleidlais). Cadarnhawyd y byddai’n gyfrifoldeb ar Barc Cenedlaethol Eryri a Thrafnidiaeth i Gymru i gadarnhau’r
unigolion addas i fynychu cyfarfodydd yr Is-bwyllgor. |
|
CYNLLUN TRAFNIDIAETH RHANBARTHOL: DIWEDDARIAD CYNNYDD AC ARGYMHELLION PDF 223 KB I gyflwyno
diweddariad ar y gwaith i ddatblygu’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. Argymhellwyd cyflwyno ‘Datganiad gweledigaeth Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru’, ‘Amcanion SMART’ ac ‘Themâu
trawsbynciol’ i CBC y Gogledd er mwyn eu mabwysiadu a’u cynnwys yn ‘Achos Dros
Newid y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol’ a ‘Chynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol
drafft Gogledd Cymru’. 2. Nodwyd prif ddyddiadau cerrig milltir ar gyfer cyflawni’r
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a chyfarwyddo gwaith pellach i gyflawni’r prif
gerrig milltir yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. 3. Nodwyd Cynllun Ymgysylltu â Rhanddeiliaid drafft y mae’n
rhaid ei baratoi i gefnogi’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, ac i argymell
unrhyw ystyriaethau ychwanegol y dylid eu cynnwys. 4. Nodwyd bydd y swyddog arweiniol yn uwch swyddog â
chyfrifoldeb am drafnidiaeth ym mha bynnag Awdurdod a gynrychiolir trwy’r
Cadeirydd etholedig. Cadarnhawyd bydd y swyddog arweiniol hwn yn gweithredu fel
cyswllt rhwng y Grŵp Trafnidiaeth Ymgynghorol a’r Is-bwyllgor hwn. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Brif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. PENDERFYNWYD 1. Argymhellwyd cyflwyno ‘Datganiad gweledigaeth Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru’, ‘Amcanion SMART’ ac ‘Themâu
trawsbynciol’ i CBC y Gogledd er mwyn eu mabwysiadu a’u cynnwys yn ‘Achos Dros
Newid y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol’ a ‘Chynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol
drafft Gogledd Cymru’. 2. Nodwyd prif ddyddiadau cerrig milltir ar gyfer cyflawni’r
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a chyfarwyddo gwaith pellach i gyflawni’r prif
gerrig milltir yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. 3. Nodwyd Cynllun Ymgysylltu â Rhanddeiliaid drafft y mae’n
rhaid ei baratoi i gefnogi’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, ac i argymell
unrhyw ystyriaethau ychwanegol y dylid eu cynnwys. 4. Nodwyd bydd y swyddog arweiniol yn uwch swyddog â
chyfrifoldeb am drafnidiaeth ym mha bynnag Awdurdod a gynrychiolir trwy’r
Cadeirydd etholedig. Cadarnhawyd bydd y swyddog arweiniol hwn yn gweithredu fel
cyswllt rhwng y Grŵp Trafnidiaeth Ymgynghorol a’r Is-bwyllgor hwn. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae’n ofynnol i
CBC y Gogledd gynhyrchu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh)
a Chynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRP) yn unol â chanllawiau
Llywodraeth Cymru erbyn 31 Mawrth, 2025. Er mwyn cyflawni hyn, dylai’r
Is-bwyllgor Trafnidiaeth ystyried cydrannau datblygol y CTRh
drafft ac arwain y gwaith i gael ei gymeradwyo’n derfynol gan gynnwys cytuno ar
y camau a’r dogfennau gofynnol ar gyfer ymgynghori’n gyhoeddus. Mae gwaith yn mynd
rhagddo gyda chefnogaeth ymgynghorwyr ARUP, sydd wedi creu map ffordd mewn
perthynas â chamau cyflenwi critigol, a fydd yn cael ei ddatblygu i sicrhau bod
materion yn cael sylw priodol drwy’r Is-bwyllgor ac yn cael eu cyfeirio at y
CBC mewn modd amserol er cymeradwyaeth. TRAFODAETH Cyhoeddwyd mai gweledigaeth y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer y
dyfodol yw ‘bydd gan Ogledd Cymru rwydwaith trafnidiaeth integredig ddiogel,
cynaliadwy, fforddiadwy, gwydn ac effeithiol sy’n cefnogi twf economaidd,
ffyniant a lles’. Ymhelaethwyd yr amcenir i gefnogi economi ffyniannus, gwella
cysylltedd, cyfoethogi ansawdd bywyd, gwella mynediad i wasanaethau, sefydlu
system drafnidiaeth fwy gwydn a lleihau’r ddibyniaeth ar geir preifat ac
hyrwyddo opsiynau teithio mwy ecogyfeillgar. Ymhelaethwyd bod y Cynllun
yn pwysleisio’r angen i leihau
effaith amgylcheddol negyddol wrth annog
cynaladwyedd rhanbarthol a lliniaru newid hinsawdd. Eglurwyd y gobeithiai gyflawni hyn drwy flaenoriaethu
buddsoddiadau mewn trafnidiaeth gyhoeddus, seilwaith teithio llesol a chyflwyno atebion arloesol i heriau symudedd. Eglurwyd bod 15 blaenoriaeth
wedi cael ei nodi ar gyfer y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn wreiddiol. Er hyn, mae cydweithio gyda Thrafnidiaeth i Gymru ac ARUP wedi arwain at ddatblygiad pedwar amcan SMART sy’n cwmpasu’r argymhellion gwreiddiol yn gliriach.
Cadarnhawyd mai’r pedwar amcan hynny
yw: 1.
Gwella cysyllted digidol a gwasanaethau lleol 2.
Gwell hygyrchedd a dewis
trafnidiaeth 3.
Galluogi datgarboneiddio
drwy bontio i fflyd allyriadau sero 4.
Galluogi twf economaidd
cynaliadwy. Nodwyd hefyd bod pum thema wedi
cael eu hadnabod
i gyd-redeg gydag amcanion SMART. Manylwyd bod y rhain yn cynnwys ‘Gwerth
Cymdeithasol’, ‘Ecwiti’,
‘Bod dan arweiniad y Gymuned’,
‘Integreiddio’ a ‘Fforddiadwyedd’. Tywyswyd yr Aelodau drwy’r amserlen i ddatblygu’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol gan ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
CYNLLUN TRAFNIDIAETH RHANBARTHOL: ADRODDIAD CWMPASU ARFARNU LLES INTEGREDIG PDF 225 KB I ddatblygu
Adroddiad Cwmpasu Arfarniad Lles Integredig. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Argymell bod yr Adroddiad
Cwmpasu Arfarniad Lles Integredig (IWBA) gan gynnwys ei Atodiadau’n cael eu
mabwysiadu gan yr Is-bwyllgor gan fod yn rhaid
eu paratoi i gefnogi’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Brif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd gyda chymorth
cynrychiolydd ARUP. PENDERFYNWYD Argymell bod yr Adroddiad Cwmpasu Arfarniad Lles
Integredig (IWBA) gan gynnwys ei Atodiadau’n cael eu mabwysiadu gan yr
Is-bwyllgor gan fod yn rhaid eu paratoi i gefnogi’r Cynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae’n ofynnol i
CBC y Gogledd gynhyrchu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh)
a Chynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol (CCTRh)
yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru erbyn 31 Mawrth, 2025. Mae ail elfen y CTRh yn cynnwys yr IBWA. Er mwyn cyflawni hyn, dylai’r
Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol ystyried datblygu cydrannau'r CTRh drafft ac arwain y gwaith i gael ei gymeradwyo’n
derfynol gan gynnwys cytuno ar y camau a’r dogfennau gofynnol ar gyfer
ymgynghori’n gyhoeddus. Mae’r IWBA yn gam
hanfodol yng nghynllun map ffordd, sydd yn sicrhau bod materion yn cael sylw
priodol drwy’r Is-bwyllgor ac yn cael eu cyfeirio at y CBC mewn modd amserol er
cymeradwyaeth. TRAFODAETH Eglurwyd bod yr adroddiad technegol hwn wedi ei ddatblygu gan ARUP er mwyn
cyflwyno’r gwaith i ddatblygu Adroddiad Cwmpasu Arfarniad Lles Integredig
(IWBA). Adroddwyd bod yr
IWBA yn gam allweddol o’r Cynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol ac yn edrych i weld sut
bydd y gallu ymgorffi llesiant ym mhob agwedd
ohono. Nodwyd bod ystyriaeth yn cael
ei roi i
strategaethau eraill er mwyn dangos bod egwyddorion datblygu cynaliadwy yn cael
eu defnyddio wrth ddiwallu gofynion
deddfwriaethol. Nodwyd bod rhai o’r ystyriaethau
perthnasol hyn yn cynnwys: · Rheoliadau Asesu Amgylcheddol Cynlluniau a Rhaglenni (OS 2004/1656)
(Rheoliadau Asesu Amgylcheddol Strategol (SEA)) · Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 · Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau’r Gymraeg · Asesiad Effaith
ar Hawliau Plant (CRIA), fel
sy’n ofynnol gan Fesur Hawliau
Plant a Phobl Ifanc (Cymru)
2011. · Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy
(SMNR) A’R Polisi Adnoddau Naturiol (NRP) fel sy'n ofynnol
gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 · Asesiad Rheoliadau
Cynefinoedd, fel sy’n ofynnol gan
Reoliadau Gwarchod Cynefinodd a Rhywogaethau 2017 fel y’u diwygiwyd
(a elwir yn
Rheoliadau Cynefinoedd
2017) Cadarnhawyd
y bwriedir rhannu’r Adroddiad Cwmpasu gyda chyrff anstatudol,
gan gynnwys Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru, Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth
Cymru, er mwyn rhoi’r cyfle i gael
adborth wrth gynnal ymgynghoriad gyda chyrff statudol.
Nodwyd bod yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn yn cael
ei gynnal am gyfnod o 12 wythnos yn fuan yn
2025. |