Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

3.

MATERION BRYS

4.

COFNODION pdf eicon PDF 72 KB

5.

COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL pdf eicon PDF 161 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar y dyddiau canlynol:

 

a)     07-05-24

b)     10-06-24

c)     04-09-24

d)     08-10-24

Dogfennau ychwanegol:

6.

DIRPRWYO HAWLIAU I BENDERFYNU AR GEISIADAU TRWYDDEDAU TACSI pdf eicon PDF 185 KB

I gymeradwyo diwygio’r drefn dirprwyo penderfyniadau i’r Is Bwyllgor yn unol a’r drefn a argymhellir yn yr adroddiad .

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD: Cymeradwyo diwygio’r drefn dirprwyo penderfyniadau i’r Is-bwyllgor.

 

Hawliau Dirprwyedig Pennaeth Amgylchedd: adolygu cymal 11.3.5 fel a ganlyn-

 

Gweithredu pwerau’r Cyngor ym maes trwyddedu cerbydau hacni a cherbydau hur preifat ag eithrio’r materion canlynol sydd yn gyfrifoldeb i’r Is-Bwyllgor o'r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol.

 

·       Penderfynu ar gais am drwydded gyrrwr hacni/hurio preifat pan fydd adroddiad o'r Biwro Cofnodion Troseddol yn dangos collfarn neu rybudd heddlu,  a phan fydd y cais yn groes i bolisi’r Awdurdod.

·       Penderfynu ar gais am drwydded cerbyd hacni/hurio preifat pan na fydd y cerbyd yn cydymffurfio â pholisi'r awdurdod.

·       Penderfynu ar gais am drwydded gweithredwr hurio preifat pan fydd adroddiad o'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn dangos collfarn neu rybudd heddlu , a phan fydd y cais yn groes i bolisi’r Awdurdod.

·       Y drefn i sicrhau fod y penderfyniad wedi ei ddirprwyo i swyddog mewn amgylchiadau lle nad yw hanes troseddol yr unigolyn, neu unrhyw fater i’w ystyried, yn groes i bolisi.

·       Bod gan y Pennaeth ddisgresiwn o dan y Cynllun Dirprwyo i gyfeirio unrhyw gais am wrandawiad Is Bwyllgor lle mae amgylchiadau yn cyfiawnhau gwneud hynny: ni fydd y newidiadau yn effeithio ar yr hawl hynny.

 

Cyflwyno’r diwygiadau i’r Swyddog Monitro fel y gall eu cynnwys fel rhan o adroddiad ‘Adolygu’r Cyfansoddiad’ fydd yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn eu cymeradwyo yn derfynnol.