Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cyng. Anwen Davies, Cyng. Alan Jones Evans a’r Cyng.
Angela Russell Cydymdeimlwyd
gyda’r Cynghorydd Angela Russell oedd wedi colli ei gŵr yn ddiweddar Dymunwyd y gorau a
diolchwyd i’r Cyng. Linda Ann Jones, cyn Aelod o’r Pwyllgorau Trwyddedu am ei
chefnogaeth i’r Pwyllgorau a’r Is-bwyllgorau Trwyddedu yn ei chyfnod fel Aelod
Plaid Cymru. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Cofnod: |
|
COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CANOLOG a) 21-01-25 b) 02-12-24 c) 11-11-24 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd a derbyniwyd er gwybodaeth, gofnodion Is Bwyllgorau Trwyddedu
Canolog a gynhaliwyd 21ain Ionawr 2025, 2il o Ragfyr 2024 a Tachwedd
11eg 2024 fel rhai cywir. Mewn ymateb i sylw
i sicrhau llais yr ymgeisydd mewn gwrandawiadau yn hytrach na llais eu
cynrychiolydd, nodwyd bod gan aelodau’r Is-bwyllgor yr hawl i herio’r
cynrychiolydd a gofyn i’r ymgeisydd gyflwyno / cynnig sylwadau ar y cais. Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â mewnbwn gan Gynghorau Cymuned i geisiadau trwydded eiddo, nodwyd
bod Cynghorau Cymuned yn rhan o’r broses ymgynghori statudol a’u bod yn cael
cyfle i fynegi barn. Ategwyd nad oedd amserlen cyfarfodydd Cynghorau Cymuned bob
tro yn cyd-fynd ag amser yr ymgynghoriad, ond bod cyfle iddynt gynnig
sylwadau. Petai sylwadau yn cael eu
cyflwyno, bydd gwahoddiad i gynrychiolydd o’r Cyngor Cymuned fynychu’r
gwrandawiad i gyflwyno eu sylwadau ar lafar. Cymerodd y Cyng
Elfed Williams y cyfle i ddiolch i Aelodau’r Pwyllgor ac i’r Swyddogion am eu
cefnogaeth tra’n Gadeirydd y Pwyllgorau Trwyddedu. |