Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL |
|
MATERION BRYS |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 226 KB ‘City
Sports and Cocktail Bar’, 20/21 Canolfan Menai, Bangor, LL57 1DN I ystyried
y cais Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Caniatáu y cais fel cafodd ei gyflwyno, yn ddarostyngedig ar gynnwys yr amodau
sŵn a gyflwynwyd gan Adran Iechyd yr Amgylchedd. ·
Ni
chaniateir cynnydd yn y lefel LAeq 15munud na’r lefel LZeq 15 munud yn y bandiau amledd trydedd wythfed 31.5,
63 a 125Hz oddi fewn i unrhyw eiddo
preswyl (wedi ei fesur gyda ffenestri’r eiddo ar agor neu ar gau) o ganlyniad i sŵn adloniant yn
deillio o’r eiddo trwyddedig. I bwrpas
yr amod yma mae LAeq wedi ei ddiffinio yn BS4142:2014 ·
Os,
wedi cyhoeddi'r drwydded hon bydd Cyngor Gwynedd yn derbyn tystiolaeth nad oes
cydymffurfiaeth ag amod 1 bydd
perchennog yr eiddo yn gwneud y
canlynol: a) Gwneud unrhyw waith ynysu / arbed sŵn er mwyn sicrhau
bod yr eiddo yn cydymffurfio ac amod sŵn ·
Unwaith
bydd lefel ar ddyfais reoli sŵn yn cael ei sefydlu, nid yw’r lefel yma i’w
newid heb ymgynghoriad a Swyddog Iechyd yr Amgylchedd Llygredd, Cyngor
Gwynedd. ·
Ni
chaniateir chwarae cerddoriaeth yn allanol ·
Rhaid
cau'r ardal eistedd allanol ar ol 21:00 ·
Er
mwyn arbed sŵn a dirgrynant adael yr eiddo trwyddedig, bydd drysau a
ffenestri'r adeilad yn cael eu cadw ar gau yn ystod yr adloniant, heblaw am
fynediad i mewn ac allan o’r eiddo. ·
Ni
chaniateir gwaredu gwastraff poteli neu ganiau i gynhwysydd y tu allan i'r
adeilad trwyddedig rhwng yr oriau 22:00
- 09:00 . Bydd y poteli yn cael eu cadw oddi fewn i gwrtil yr eiddo mewn sgip
neu fin gyda chaead Amodau
ychwanegol i gynnwys ·
Cynnwys
y mesurau ychwanegol a gyflwynwyd yn rhan M o’r cais, fel amodau i’r drwydded. ·
Stopio
gwerthu alcohol ar y penwythnosau am 03:30 a chau am 04:00 |