Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD 2025 - 2026

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2025 - 2026

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: AIL ETHOL Y CYNGHORYDD ELWYN EDWARDS YN GADEIRYDD Y PWYLLGOR HWN AR GYFER 2025/26

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD 2025 - 2026

I ethol Is gadeirydd ar gyfer 2025 - 2026

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

AIL ETHOL Y CYNGHORYDD HUW ROWLANDS YN IS-GADEIRYDD Y PWYLLGOR HWN AR GYFER 2025/26

3.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

5.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

6.

COFNODION pdf eicon PDF 240 KB

Dogfennau ychwanegol:

7.

DEDDF BYWYD GWYLLT A CHEFN GWLAD 1981: CAIS I GOFRESTRU LLWYBR CYHOEDDUS AR Y MAP A DATGANIAD SWYDDOGOL YNG NGHYMUNED PENTIR, GWYNEDD pdf eicon PDF 604 KB

I ystyried a ddylai'r Awdurdod lunio Gorchymyn Addasu Map Swyddogol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Menna Baines

 

 

Nodyn:  Atodiadau 1 -19 wedi eu cynnwys

 

  Atodiad 20 – Llinell Amser Treborth ar gael drwy gais       

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu i’r Cyngor wneud gorchymyn dan Adran 53 (3)(c)(i), Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, i gofrestru llwybr A-B-C-D-E-F, fel llwybr troed cyhoeddus ar y map a’r Datganiad Swyddogol.

 

Nodyn: Gan mai'r Cyngor ei hun oedd y tirfeddiannwr am y mwyafrif helaeth o’r cyfnod perthnasol (1995 - 2015), ni fyddai’n briodol i’r Cyngor gefnogi a hyrwyddo Gorchymyn o’r fath pe byddai gwrthwynebiad i’r Gorchymyn. Bydd y mater felly yn cael ei gyfeirio at Lywodraeth Cymru i’w benderfynu gyda’r Gorchymyn yn cael ei bennu drwy gynrychiolaeth ysgrifenedig, gwrandawiad neu Ymchwiliad Cyhoeddus.

 

8.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Dogfennau ychwanegol:

8.1

Cais Rhif C18/0767/16/LL Tir yn Coed Wern, Glasinfryn,, Bangor, LL57 4BE pdf eicon PDF 399 KB

Datblygiad llety gwyliau (cynllun diwygiedig) sy'n golygu:-

·        Gosod sylfeini ar gyfer cabannau gyda decio cysylltiedig.

·        Gosod sylfeini ar gyfer podiau glampio.

·        Seilwaith cysylltiedig i gynnwys ffyrdd mewnol, mannau parcio, systemau draenio cynaliadwy ynghyd a draenio dwr aflan.

·        Tirlunio meddal a chaled gan gynnwys torri rhai coed, cadw coed ac ymgymryd a gwelliannau i'r goedlan presennol.

·        Codi derbynfa/adeilad gwerthiant ynghyd ac ail-orchuddio'r adeilad presennol a'i ddefnyddio fel hwb e-beicio gyda  pwyntiau gwefru trydan.

 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Beca Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod yn groes i’r argymhelliad

 

Rhesymau:

Gwrthod ar sail Polisi TWR 3 Rhan 1 maen prawf i, y byddai’r safle yn arwain at ormodedd o safleoedd carafanau sefydlog neu safleoedd siale neu safleoedd gwersylla amgen parhaol yn yr ardal leol a fyddai yn achosi effaith weledol andwyol ac effaith andwyol ar fwynderau’r ardal a thrigolion lleol oherwydd aflonyddwch.

 

8.2

Cais Rhif C24/0072/02/LL Tir ger Pandy, Corris, SY20 9RJ pdf eicon PDF 376 KB

Cynllun arallgyfeirio fferm ar gyfer gosod 5 uned llety gwyliau ar y tir

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd John Pughe Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod yn unol ar argymhelliad

 

Rhesymau:

 

  • Byddai’r bwriad yn creu safle llety gwersylla amgen parhaol newydd o fewn Ardal Tirwedd Arbennig ac felly yn groes i bwynt 1 o bolisi TWR 3 a PCYFF 1 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2011-2026) sy'n diogelu'r Ardal Tirwedd Arbennig rhag y math yma o ddatblygiad.

 

  • Mae’r bwriad yn groes i faen prawf 7 o bolisi PCYFF 2 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn gan y byddai’n debygol o gael effaith andwyol sylweddol ar fwynderau meddianwyr eiddo lleol o ran mwy o weithgareddau, aflonyddwch a sŵn. 

 

8.3

Cais Rhif C24/1119/42/LL Tir ger Helyg, Tai Lôn, Nefyn, Pwllheli, LL53 6LG pdf eicon PDF 273 KB

Cais llawn i godi hyd at 14 o dai fforddiadwy (dosbarth defnydd C3) ynghyd a datblygiadau cysylltiol gan gynnwys creu mynedfa gerbydol a ffordd stad newydd, gofod mwynderol, tirlunio a gwelliannau bioamrywiaeth

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gruffydd Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Amgylchedd ganiatáu’r cais gyda’r amodau canlynol :

 

1.         Amser

2.         Datblygiad yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd

3.         Rhaid cyflwyno a chytuno ar raglen ddarparu tai fforddiadwy

4.         Rhaid cytuno’r deunyddiau allanol gan gynnwys y llechi to

5.         Tynnu’r Hawliau Datblygu a Ganiateir

6.         Amod Dŵr Cymru

7.         Amodau Priffyrdd

8.         Amodau Bioamrywiaeth

9.         Cynllun Rheolaeth Adeiladu

10.       Rhaid rhoi enw Cymraeg i’r stad a’r tai unigol.

11.       Cyfyngu’r defnydd i ddosbarth defnydd C3 yn unig

12.       Cwblhau tirlunio

13.       Cytuno manylion cyfarpar chwarae

 

 

8.4

Cais Rhif C20/1079/12/AC Hafod Y Wern, Waunfawr, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7AQ pdf eicon PDF 186 KB

Cais o dan Adran 73 o'r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref i Amrywio Amod 2 ar Ganiatad Cynllunio C04A/0771/12/MW (Symud Deunydd o Ddyddodion Gweithio Mwynau) er mwyn Caniatau Estyniad o 2-Flynedd i Gwblhau'r Gwaith Mwynau hyd at 31/12/2022, Gydag Adfer Terfynnol i'w Gwblhau Erbyn 31/12/2023

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Edgar Owen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth yr Adran Amgylchedd wrthod y cais

 

Rhesymau:

 

  1. Nid yw'r cais wedi darparu cynllun adfer ac ôl-ofal digonol fel y gofynnir amdano ym meini prawf 10 o bolisi MWYN 3 a pholisi MWYN 9 ac felly, nid oes modd diystyru effaith andwyol y datblygiad ar fwynderau gweledol a'r Ardal Tirwedd Arbennig yn groes i bolisïau PCYFF 3 ac AMG 2 o'r CDLl ar y Cyd.

 

  1. Nid oes Datganiad Iaith Gymraeg wedi'i gyflwyno yn unol â gofynion polisi PS 1 o'r CDLl ar y Cyd.

 

8.5

Cais Rhif C25/0245/14/LL Cae Peldroed Tref Caernarfon, Yr Oval, Stryd Marcws, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2HT pdf eicon PDF 175 KB

Uwchraddio ac ail-adeiladu cae stadiwm presennol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Coj Parry

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod a derbyn gwybodaeth ychwanegol i ddod dros sylwadau’r Heneb a Dŵr Cymru.

 

Amodau:

 

  1. Dechrau'r gwaith o fewn 5 mlynedd
  2. Unol a'r cynlluniau
  3. Cyfyngu oriau gweithio 08:00 i 18:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener a 08:00 i 13:00 ar ddydd Sadwrn
  4. Cyflwyno gwelliannau bioamrywiaeth.
  5. Amodau perthnasol i sylwadau Dwr Cymru
  6. Amodau perthnasol i sylwadau Heneb.