Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:

·       Y Cynghorydd Julie Fallon (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy).

·       Dylan Williams (Cyngor Sir Ynys Môn).

·       Alwyn Jones (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), gyda Richard Weigh yn dirprwyo.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol ar gyfer Eitem 4 gan y Pennaeth Cyfreithiol Dros Dro. Nodwyd ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a bu iddo adael y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth.

 

Cadarnhawyd nad oedd yn briodol i’r Swyddog Monitro ddatgan buddiant yn ystod y cyfarfod hwn oherwydd bod ei fod wedi camu i lawr o’r swydd yn ffurfiol cyn y cyfarfod hwn. Eglurwyd y byddai ar gael i ddarparu cyngor yn ystod y cyfarfod petai unrhyw fater cyfreithiol yn codi fel rhan o’r drafodaeth.

 

Diolchwyd i’r Swyddog Monitro am ei waith manwl a theg. Mynegwyd diolchiadau am fod yn gytbwys, diduedd a chyson a nodwyd bod ei gyfraniad wedi bod yn werthfawr iawn i ddatblygiad Cyd-bwyllgor Corfforedig y gogledd. Cydnabuwyd bod rôl y Swyddog Monitro yn gallu bod yn un heriol, gan ddiolch iddo am fod yn gadarn yn ei safiad a gwybodaeth gyfreithiol ar bob achlysur.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gelir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

PENODI SWYDDOG MONITRO DROS DRO pdf eicon PDF 148 KB

Alwen Williams, Prif Weithredwr, i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cymeradwyo penodiad Mark Watkins fel Swyddog Monitro dros dro.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Y Prif Weithredwr.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo penodiad Mark Watkins fel Swyddog Monitro dros dro.

 

TRAFODAETH

 

Adroddwyd bod dyletswydd gan Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd i benodi Swyddog Monitro yn unol ag Adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (fel y’i diwygiwyd gan Reoliad 7 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol)(Rhif 2)(Cymru)2021).

 

Eglurwyd bod y rôl wedi cael ei gyflawni gan Iwan Evans yn rhan amser ers 2019, gan ei fod hefyd yn Swyddog Monitro a Phennaeth Cyfreithiol yng Nghyngor Gwynedd. Fodd bynnag, pwysleisiwyd nad yw’r trefniant hyn yn gynaliadwy mwyach gan fod cyfrifoldebau a gweithreded Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd wedi tyfu’n sylweddol gan arwain at gynnydd yn y gefnogaeth a chyngor cyfreithiol sydd ei angen.

 

Tynnwyd sylw at risgiau posib a all godi os fyddai’r trefniant presennol yn cael ei addasu megis; diffyg capasiti cyffredinol, y posibilrwydd y byddai buddiannau yn gwrthdaro yn ogystal â risgiau wrth sicrhau bod yn annibynnol, atebolrwydd gwytnwch a didueddrwydd.

 

Atgoffwyd bod Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd wedi sicrhau cyllideb ar gyfer y rôl hon wrth gytuno ar gyllideb 2026/27 yn ei gyfarfod ar 23 Ionawr 2026. Cynigwyd bod unigolyn profiadol yn cyflawni’r swydd dros-dro, er mwyn sicrhau parhad gweithgareddau ac i sicrhau bod risgiau yn cael eu rheoli, hyd nes mae penodiad parhaol yn cael ei wneud. Cadarnhawyd bod Mark Watkins wedi cael ei adnabod fel unigolyn priodol ar gyfer y rôl dros-dro gan ei bod wedi cyflawni’r un rôl ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig Prifddinas-Rhanbarth Caerdydd. Nodwyd ei fod wedi bod wedi ei gontractio gyda Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ers 2 Chwefror 2026 fel locwm er mwyn trosglwyddiad llyfn o gyfrifoldebau a swyddogaethau statudol.

 

Mynegwyd diolchiadau diffuant i’r Swyddog Monitro am ei gefnogaeth barhaus a chefnogaeth ddiflino ym mhob agwedd o waith y Cyd-bwyllgor.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:

 

Ategwyd diolchiadau i’r Swyddog Monitro am ei holl gefnogaeth.

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn gofyn i’r aelodau ystyried penodi Mark Watkins fel Swyddog Monitro, ac nad yw’n cadarnhau ei fod yn benodiad dros dro. Mewn ymateb, pwysleisiwyd mai penodiad dros-dro a ystyrir yn ystor y drafodaeth a’r cyfarfod hwn, gyda penodiad parhaol i’w wneud yn y dyfodol.

 

Cyfeiriwyd at y swydd ddisgrifiad, gan bwysleisio pwysigrwydd cynnal trafodaeth ar sgiliau ieithyddol pan fydd penodiad parhaol yn cael ei wneud yn y dyfodol. Cytunwyd bod y drafodaeth hon yn un pwysig gan sicrhau y byddai’n ystyriaeth wrth benodi Swyddog Monitro ar sail barhaol. Ychwanegodd y Prif Weithredwr bydd llunio’r swydd ddisgrifiad yn un o gyfrifoldebau’r Swyddog Monitro dros dro, gan bwysleisio bydd yr elfen ieithyddol yn rhan bwysig ohono. Eglurwyd hefyd y bwriedir penodi Swyddog Monitro parhaol yn gymharol gyflym, gan nodi bod y penodiad dros dro hwn yn rhoi’r rhyddid i sicrhau amser fel bod y penodiad cywir yn cael ei wneud er lles Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.