Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Annwen Hughes, Nia Jeffreys, Cai Larsen, Beth
Lawton, Dafydd Meurig, Gwynfor Owen, Angela Russell, a Wendy Cleaver. Mynegwyd siom bod nifer sylweddol wedi ymddiheuro am fethu mynychu’r Pwyllgor a hynny am amryw o resymau teilwng. Y gobaith i’r dyfodol
yw gweld gwell cynrychiolaeth yn y cyfarfodydd hyn gan fod
presenoldeb Aelodau yn allweddol i sicrhau
prosesau cadarn a thryloyw. Croesawyd
Eleri Jones i’r cyfarfod a llongyfarchwyd hi ar ei phenodiad yn
Rheolwr Gwasanaethau Ymgynghorol
Adnoddau Dynol. Dymunwyd y gorau
iddi yn y swydd. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w nodi |
|
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
|
Cofnod: |
|
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig Cofnod: |
|
|
CYFWELIAD AR GYFER PENNAETH ADRAN PLANT A CHEFNOGI TEULUOEDD (DROS DRO) I gyfweld ymgeisydd ar gyfer y swydd Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Penodi Sharron
Williams Carter fel Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teulueodd (Dros Dro) Cofnod: Cadarnhawyd trefn
y diwrnod gyda’r Aelodau. Cyfwelwyd un ymgeisydd ar gyfer y swydd Pennaeth Adran
Plant A Chefnogi Teuluoedd
(Dros Dro) Gwahoddwyd yr ymgeisydd i roi cyflwyniad rhwng 10 a 15 munud ar y testun, “Sut ellir
darparu sicrwydd ar effeithiolrwydd gwasanaeth, ansawdd gwaith cymdeithasol a gweithredu diogel yr Adran
Plant?” Ymatebwyd i bum cwestiwn ffurfiol a ofynnwyd
gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Ioan Thomas, ynghyd a chwestiynau ategol gan yr Aelodau. Ar ddiwedd y cyfweliad,
ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell. Gwahoddwyd Mr
Dylan Owen (Cyfarwyddwr Statudol
Gwasanaethau Cymdeithasol) i
gyflwyno adborth cryno o berfformiad yr ymgeisydd mewn cyfweliad proffesiynol gydag yntau a Catrin Thomas (Cyfarwyddwr Corfforaethol) gyda’r Cyng. Menna Trenholme (Aelod Cabinet Adran Plant A Chefnogi Teuluoedd) yn arsylwi. Eglurwyd
na chynhaliwyd profion ac ymarferion seicolegol gan mai penodiad dros
dro oedd hwn. Trafodwyd y cyflwyniad ac ymateb yr ymgeisydd i’r cwestiynau Cynigiwyd ac eiliwyd cynnig y
swydd i Sharron Williams
Carter PENDERFYNWYD penodi Sharron Williams Carter i’r swydd Pennaeth Adran Plant A Chefnogi Teuluoedd (Dros Dro) |