Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting
Cyswllt: Sera Jane Whitley
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatgan o fuddiant personol. |
|
|
MATERION BRYS |
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL 2025/26 Alwen Williams, Prif Weithredwr i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2025/26. |
|
|
DIWEDDARIAD AR Y RHAGLEN TRAWSNEWID A GWELLA Alwen Williams, Prif Weithredwr ac Uwch Berchennog Cyfrifol y Rhaglen a Dave Hole, Arweinydd y Rhaglen i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Nodwyd cynnydd a heriau rhaglen 2026/27. Yn y cyd-destun o drawsnewid a newid, na ddylai’r CBC dalu
costau unrhyw rolau, swyddogaethau neu gyfrifoldebau ychwanegol a roddir iddo,
gan defnyddio ei adnoddau ei hun. |
|
|
CYNLLUN DEISEBAU CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD Helen Edwards, Dirprwy Swyddog Monitro i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd y Cynllun Deisebau. |
|
|
SEFYDLU IS-BWYLLGORAU SAFONAU Helen Edwards, Dirprwy Swyddog Monitro i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cytunwyd ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer yr Is-bwyllgor
Safonau. Cytunwyd y gofynnir i'r awdurdodau cyfansoddol ac Awdurdod y
Parc Cenedlaethol enwebu aelodau o'r is-bwyllgor fel y nodir ym mharagraff 4.5
isod. Cytunwyd y byddai'r CBC yn cynnal ymgyrch recriwtio allanol
gyhoeddus fel y bo angen, ac y byddai'r awdurdodau cyfansoddol yn cael gwybod
am hyn fel y gallant dynnu sylw aelodau annibynnol eu
Pwyllgorau Safonau rhag ofn y byddai unrhyw un ohonynt yn gymwys ac â diddordeb
mewn gwneud cais. Cytunwyd ar yr amserlen a'r broses recriwtio ar gyfer
Aelodau Annibynnol fel y nodir ym mharagraffau 4.6 a 4.7 o'r adroddiad hwn, ac
awdurdodi'r Swyddog Monitro i a) ei haddasu os oes angen a b) sefydlu a phennu
panel penodi yn unol â rheoliad 15 o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001,
fel y'u diwygiwyd. |
|
|
NEWIDIADAU I AELODAETH IS-BWYLLGORAU'R CBC A PHENODIAD AELOD LLEYG Mark Watkins, Swyddog Monitro i gyflwyno’r adroddiad. Mae Atodiad 2 ar wahân ar gyfer Aelodau yn unig. Mae'r Atodiad wedi'i eithrio o dan Baragraff 12, Rhan 4, Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (gwybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn penodol); yn ddarostyngedig i baragraff 21, Rhan 5 (prawf budd y cyhoedd). Wedi'i gymhwyso i'r CBC gan reoliad 26 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif. 2) (Cymru) 2021 Penderfyniad: Nodwyd bod y Cynghorydd Hugh Evans, fel Arweinydd Cyngor Sir
Ddinbych, yn aelod o'r CBC a'i Is bwyllgor Lles Economaidd yn rhinwedd y swydd
honno. Nodwyd penodiadau'r Swyddog Monitro o dan y ddirprwyaeth
dyddiedig 21 Mehefin 2024, sef y Cynghorydd James Elson
i'r Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol a'r Cynghorydd Geraint Lloyd Williams
i'r Is-bwyllgor Cynllunio Strategol. Penodwyd Dewi Lewis yn aelod lleyg o'r Is-bwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio am gyfnod o bedair blynedd o ddyddiad effeithiol y
penodiad, yn amodol ar gwblhau'r cytundeb cyd-ethol perthnasol. |