skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan David Jones (Coleg Cambria), Yr Athro Iwan Davies ( Prifysgol Bangor) a Dilwyn Williams (Cyngor Gwynedd).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 79 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar y 18fed Hydref 2019 fel rhai cywir  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Bwrdd Uchelgais a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2019 fel rhai cywir.

 

5.

DIWEDDARIAD AR Y CYNLLUN TWF pdf eicon PDF 161 KB

Adroddiad gan Colin Everett (Prif Weithredwr Arweiniol – Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru)

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar Gynllun Twf Gogledd Cymru a cytunwyd fod angen ychwanegu y ddau risg isod i’r gofrestr risg:

¾    Y buasai llithriad yn yr amserlen i gyrraedd Cytundeb Terfynol yn cael effaith ar dderbyn arian y Cynllun Twf gan y Llywodraeth, ac yna yn cael effaith ar y gallu i gyflawni prosiectau yn llwyddiannus o fewn yr amserlen.

¾    Cynllun Economaidd Llwyodraeth Cyrmu ddim yn cyd fynd gyda’r Weledigaeth Twf gan y Bwrdd Uchelgais

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Colin Everett, Y Prif Weithredwr Arweiniol.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyniwyd yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar Gynllun Twf Gogledd Cymru a cytunwyd fod angen ychwanegu y ddau risg isod i’r gofrestr risg:

¾     Y buasai llithriad yn yr amserlen i gyrraedd Cytundeb Terfynol yn cael effaith ar dderbyn arian y Cynllun Twf gan y Llywodraeth, ac yna yn cael effaith ar y gallu i gyflawni prosiectau yn llwyddiannus o fewn yr amserlen.

¾     Cynllun Economaidd Llywodraeth Cymru ddim yn cyd fynd gyda’r Weledigaeth Twf gan y Bwrdd Uchelgais

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn rhoi diweddariad ar ddatblygiad Cynllun Twf Gogledd Cymru a thynnwyd sylw at arwyddo’r Penawdau’r Telerau, Penodiadau yn y swyddfa’r rhaglen ynghyd ac adrodd ar waith o adolygu a diweddaru’r Rhaglen Waith ynghyd a chofrestr risg.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bellach fod y Penawdau’r Telerau wedi ei llofnodi cyn y cyfnod cyn etholiadol. Ychwanegwyd drwy eu llofnodi fod £240 miliwn o fuddsoddiad wedi ei sicrhau ac y bydd angen llofnodi’r fargen derfynol yn ystod trydydd chwarter 2020/21.

 

Mynegwyd fod pum penodiad wedi ei wneud i’r Swyddfa Rhaglen a bod lleoliad i’r Swyddfa Rhaglen wedi ei gadarnhau. Nodwyd y bydd trafodaeth bellach ar y rhaglen waith a’r gofrestr risg yn y cyfarfod nesaf. Pwysleisiwyd y bydd angen ychwanegu risg i’r gofrestr yn nodi pe bai llithriad yn yr amserlen i gyrraedd Cytundeb Terfynol byddai’n  cael effaith ar dderbyn arian y Cynllun Twf gan y Llywodraeth.

 

Nodwyd dyddiadau’r cyfarfodydd yn 2020 a diolchwyd i staff am eu gwaith yn ystod y cyfnod dros dro.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

¾     Trafodwyd strwythur y Swyddfa raglen..

¾     Diolchwyd i’r aelodau am fynd i lofnodi’r Penawdau’r Telerau.

¾     Nodwyd o ran y gofrestr risg nad yw Cynllun Economaidd Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd a’r Weledigaeth Twf ac y gallai fod yn risg.

¾     Ategwyd fod y cyfarfod nesaf wedi ei amserlennu i fod ddiwrnod ar ôl yr etholiad, o ganlyniad i hyn penderfynwyd gohirio’r cyfarfod.

 

 

6.

CAIS AM ARIAN ESF pdf eicon PDF 175 KB

Adroddiad gan Nia Medi Williams (Uwch Swyddog Gweithredol, Cyngor Gwynedd) a

Barbara Burchell (Prif Swyddog Datblygu Prosiectau Ewropeaidd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy)

Penderfyniad:

Penderfynwyd i:

¾    Ddirprwyo’r hawl i Gyngor Gwynedd fel Corff Lletya i baratoi a chyflwyno’r Cynllun Busnes i WEFO ar sail cynnwys yr adroddiad.

¾    Ddirprwyo’r hawl i Brif Weithredwr y Corff Lletya mewn ymgynghoriad gyda’r Cyfarwyddwr Arweiniol y Bwrdd Uchelgais a Swyddog 151 y Corff Lletya i dderbyn cynnig grant gan WEFO yn seiliedig ar 50% o gyfanswm cost y prosiect (£5.6miliwn) ar gyfer y cyfnod Gorffennaf 2018 hyd at Fehefin 2023.

¾    Gadarnhau y bydd y Bwrdd Uchelgais yn cytuno i gyfrannu 50% o arian cyfatebol yn bennaf drwy gyfuniad o gyfalafu prosiectau a chyllideb graidd (o gyfraniadau partneriaid).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Jane Richardson, Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Conwy.

 

PENDERFYNWYD

 

Penderfynwyd i:

¾     Ddirprwyo’r hawl i Gyngor Gwynedd fel Corff Lletya i baratoi a chyflwyno’r Cynllun Busnes i WEFO ar sail cynnwys yr adroddiad.

¾     Ddirprwyo’r hawl i Brif Weithredwr y Corff Lletya mewn ymgynghoriad gyda’r Cyfarwyddwr Arweiniol y Bwrdd Uchelgais a Swyddog 151 y Corff Lletya i dderbyn cynnig grant gan WEFO yn seiliedig ar 50% o gyfanswm cost y prosiect (£5.6miliwn) ar gyfer y cyfnod Gorffennaf 2018 hyd at Fehefin 2023.

¾     Gadarnhau y bydd y Bwrdd Uchelgais yn cytuno i gyfrannu 50% o arian cyfatebol yn bennaf drwy gyfuniad o gyfalafu prosiectau a chyllideb graidd (o gyfraniadau partneriaid).

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

                                                                                  

Nodwyd fod y Grŵp Swyddogion Gweithredol wedi bod yn gweithio ar gais Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) i ddylunio ac adeiladu’r capasiti angenrheidiol ar gyfer cyflawni’r Cynllun Twf Gogledd Cymru. Ychwanegwyd y bydd y grant ESF yn rhoi arian i’r rhanbarth i ddatblygu a gweithredu’r weledigaeth Twf drwy sefydlu Swyddfa Rhaglen.  Mynegwyd fod y cam cyntaf y cais wedi ei gwblhau ac mae WEFO wedi cadarnhau y gall y Bwrdd Uchelgais fwrw ymlaen i’r cam Cynllunio Busnes.

 

Ategwyd fod y Grŵp Swyddogion Gweithredol wedi datblygu’r manylion ar gyfer y Cynllun Busnes a bydd y Cynllun yn cael ei gyflwyno i WEFO yn dilyn cymeradwyaeth y Bwrdd Uchelgais.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan dynnu sylw at addasiadau i’r adran gyllidol yn yr adroddiad. Ychwanegwyd fod cam cyntaf y cais wedi ei gwblhau ac mae WEFO wedi cadarnhau y bydd modd bwrw ymlaen i’r cam Cynllunio Busnes.

 

Ategwyd fod strwythur staffio wedi ei greu ac y bydd angen rhai aelodau staff yn eu lle erbyn mis Ebrill er mwyn i WEFO edrych yn ffafriol ar y cais. Ychwanegwyd os bydd y Bwrdd Uchelgais yn llwyddiannus ar cais  bydd modd ôl-ddyddio costau staff ac yn galluogi’r rhanbarth i adhawlio costau staffio o Orffennaf 2018.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

·         Nodwyd fod y Bwrdd Uchelgais wedi cadw argostau yn isel a buasai cael adhawlio costau staffio yn sicrhau y bydd  arian wrth gefn i gymorthdalu amrywiol gostau.

·         Holwyd beth oedd amserlen cael gwybod os yn llwyddiannus a'r cais, nodwyd y bydd yn anodd cael dyddiad pendant ond y bydd yn fwy clir yn dilyn cyflwyno’r cais i WEFO.

·         Mynegwyd y bydd y swyddi a fydd yn cael eu penodi o fis Ebrill ymlaen yn ddibynnol ar gadarnhau y bydd y Bwrdd Uchelgais yn derbyn yr arian grant ac na fydd y swyddi yn cael eu hysbysebu nes y bydd cadarnhad o’r arian grant.

 

 

 

7.

CYNLLUN SGILIAU A CHYFLOGAETH RHANBARTHOL pdf eicon PDF 190 KB

Adroddiad gan David Roberts (Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru) a Sian Lloyd Roberts (Rheolwr Rhaglen Sgiliau)

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cadarnhawyd y Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth ranbarthol a cytunwyd ar y tair blaenoriaeth sydd wedi’u hamlinellu yn y cynllun.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan David Roberts, Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol a Sian Lloyd Roberts, Rheolwr y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol

 

PENDERFYNIAD

 

Cadarnhawyd y Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth ranbarthol a cytunwyd ar y tair blaenoriaeth sydd wedi’u hamlinellu yn y cynllun.

 

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

Nodwyd fod y Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Cymru 2019-2022 wedi’i ddatblygu fel Sylfaen i ddull gweithredu strategol Llywodraeth Cymru i gyflawni darpariaeth sgiliau a chyflogaeth yn y rhanbarth.

 

Mynegwyd fod yr adroddiad yn adrodd i’r Bwrdd ar y cynllun Sgiliau a Chyflogaeth ranbarthol sydd wedi ei gynhyrchu gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru yn dilyn ymgynghoriadau gyda’r rhan ddeiliaid a darparwr rhanbarthol a’r diwydiant rhwng Ebrill a Gorffennaf 2019.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn amlinellu rhai o’r cynlluniau yn dilyn ymgynghoriad eang a gynhaliwyd yn ystod yr haf. Mynegwyd eu bod yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cytuno a’r cynllun fel bod modd symud ymlaen a’r cynlluniau. Ategwyf fod Uwchgynhadledd Sgiliau yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd a fydd yn amlygu ‘r prif ffocws.

 

Pwysleisiwyd fod y blaenoriaethau wedi eu creu yn dilyn casglu tystiolaeth gyda rhan ddeiliaid. Amlinellwyd y blaenoriaethau gan nodi mai’r camau nesaf fydd i ddatblygu’r blaenoriaethau ymhellach ar gyfer creu cynllun gweithredu penodol a manwl a fydd y ogystal yn  gynllun cyflawni yn y tair blynedd nesaf.

 

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Diolchwyd am y cyflwyniad a chytunwyd ar y 3 blaenoriaeth gan ychwanegu efallai pedwerydd - swyddi cynaliadwy. Ategwyd fod angen cadw staff yn eu swyddi er mwyn lleihau staff trosiannol ac i gadw talent yn yr ardal.

·         Mynegwyd fod angen pwysleisio fod y maes twristiaeth yng Nghymru yn un ble mae modd datblygu a derbyn cyflogau uchel.

·         Nodwyd fod y gwaith gan Rheolwr y Bartneriaeth Sgiliau wedi cael effaith positif ar sut mae’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yn cael ei weld gan y Prifysgolion a’r Colegau.

·         Tynnwyd sylw at y Gymraeg gan amlygu mai dim ond un frawddeg sydd yn cyfeirio at y Gymraegyn y Cynllun. Mynegwyd fod angen uchafu’r Gymraeg.

·         Amlygwyd fod materion gweledig yn codi o ran anawsterau mynediad, nodwyd fod cynllun Leader ar gael ond efallai y bydd yn dod i ben ac o ganlyniad fod angen ei nodi fel bygythiad.

 

8.

FFRAMWAITH DATBYLGU CENEDLAETHOL pdf eicon PDF 235 KB

Adroddiad gan Andrew Farrow (Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi, Cyngor Sir y Fflint) a Graham Boase (Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a'r Cylch Cyhoeddus, Cyngor Sir Ddinbych)

Penderfyniad:

Diwygio’r ymateb i ymgynghoriad ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol fel sydd wedi’i amlinellu yn Atodiad 2, i gynnwys unrhyw faterion sy’n codi yn ystod y cyfarfod hwn o’r Bwrdd Uchelgais a’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 18 Tachwedd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Andrew Farrow (Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi - Cyngor Sir y Fflint)

 

PENDERFYNIAD

 

Diwygio’r ymateb i ymgynghoriad ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol fel sydd wedi’i amlinellu yn Atodiad 2, i gynnwys unrhyw faterion sy’n codi yn ystod y cyfarfod hwn o’r Bwrdd Uchelgais a’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 18 Tachwedd.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Nodwyd fod y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn pennu ymhle y bydd datblygiadau’n digwydd o fewn y rhanbarth. Ychwanegwyd ei bod yn hanfodol fod y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn adlewyrchu yn gywir amcanion y Bwrdd Uchelgais a'r Strategaeth Economaidd Ranbarthol sydd wedi’i mabwysiadu a’r Cynllun Twf sydd ar ddod.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn nodi ble fydd datblygiadau yn cael ei gwneud hyd 2040. Mynegwyd fod trafodaethau wedi eu cynnal ar y fframwaith fod 13 pwynt wedi eu codi gan y Bwrdd Uchelgais. Amlygwyd yr 13 pwynt.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾                 Nodwyd fod cyfle i drafod y materion yma a’r Aelodau Cabinet ddydd Iau nesaf

¾                 Mynegwyd fod angen edrych ar drafnidiaeth dros y ffin yn Lloegr ac i beidio canolbwyntio ar Gymru yn unig.

¾                 Mynegwyd y bydd disgwyliad gan y Llywodraeth i Gynlluniau Datblygu Lleol gael eu haddasu i gyd fynd a’r fframwaith Datblygu Cenedlaethol.

¾                 Pwyslesiwyd fod angen i’r ymateb fod yn fwy siarp a nodi’r risgiau yn glir drwy addasu’r paragraff cyntaf. Nodwyd y bydd ymatebion yn mynd o bob awdudrdod lleol yn ogystal.