skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod a diolchwyd i staff sydd wedi bod yn gweithio ym mhob tywydd yn ystod y stormydd diweddar.

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 21 A 28 IONAWR pdf eicon PDF 92 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 21 ar 28 Ionawr 2020 fel rhai cywir.

6.

YSGOL LLANAELHAEARN pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr Cemlyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd derbyn y sylwadau yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol ynghyd a chytuno i:

  1. Cymeradwyo’r cynnig i gau Ysgol Llanaelhaearn ar 31 Awst 2020, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Bro Plennydd, Y Ffôr o 1 Medi 2020.
  2. Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig yn (i) yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
  3. Cymeradwyo trefniadau cludiant ar gyfer y cyfnod trawsnewidiol yn unig, pryd bydd cludiant di-dâl i’r disgyblion hynny sydd wedi cofrestru yn Ysgol Llanaelhaearn ar hyn o bryd, i Ysgol Bro Plenydd, Y Ffôr neu Ysgol Chwilog yn benodol, os yn byw dros 2 filltir i’r ysgol a ddewisir, neu yn derbyn cludiant am ddim oherwydd natur y ffordd yn unol â pholisi cludiant cyfredol Cyngor Gwynedd.

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Cemlyn Williams

PENDERFYNIAD

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ym mis Rhagfyr fod y Cabinet wedi cymeradwyo y cais i ddechrau cyfnod o ymgynghoriad statudol ar y cynnig i gau Ysgol Llanaelhaearn yn unol â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Pwysleisiwyd bod niferoedd y disgyblion wedi lleihau i 8 dros y blynyddoedd diwethaf a bod rhagamcanion yn amlygu y bydd tebygolrwydd y bydd y niferoedd yn cwympo ymhellach dros y 5 mlynedd nesaf a bod hyn yn anorfod yn ffactor blaenllaw.

Nododd y Pennaeth Addysg yn ystod y cyfnod ymgynghori fod 7 ymatebiad wedi ei dderbyn ynghyd ag ymatebiad gan Estyn a trefnwyd sesiynau gyda’r disgyblion. Bu i’r Swyddog Ardal nodi’r sylwadau a godwyd gan y disgyblion a oedd yn pwysleisio eu bod yn tristau fod cau'r ysgol yn opsiwn a'u bod yn awyddus i fynychu Ysgol Chwilog yn hytrach ‘nac Ysgol Bro Plennydd o ganlyniad i gysylltiadau ar ysgol yn barod. Ategwyd fod Ysgol y Chwilog ac Ysgol Llanaelhaearn wedi bod yn gweithio yn agos ond fod Ysgol Bro Plennydd wedi ei ddewis fel ysgol amgen gan ei bod yn nes yn ddaearyddol. Ychwanegwyd fod modd i Ysgol Bro Plennydd ymdopi a’r nifer ychwanegol o ddisgyblion ac o ganlyniad i hyn y bydd dalgylch yr ysgol yn cael ei ymestyn. Ymhelaethwyd yn ogystal gan fod y disgyblion yn awyddus i fynd i Ysgol Chwilog y byddai’r Adran yn fodlon talu costau cludiant i ddisgyblion presennol yr ysgol fynychu’r ysgol honno os mai hynny fyddai dymuniad y rhieni a bod modd eu cofrestru yn yr ysgol.  Yn hynny o beth tanlinellwyd y byddai hynny yn ddibynnol ar argaeledd lle yn ysgol Chwilog, o gofio mai plant y dalgylch fyddai’n cael blaenoriaeth. Ar sail y sefyllfa fel ag y mae hi ar hyn o bryd, ac oni bai i bethau newid yn sylweddol ym Medi, ni ddylai hynny  fod yn broblemus.

Mynegodd yr aelod Lleol ei siom a thristwch o gau'r ysgol. Diolchwyd a mynegodd glod i’r staff am ddarparu addysg i’r disgyblion sydd ar ôl ac i’r Llywodraethwyr am ymgeisio i gael disgyblion yn ôl i’r ysgol. Diolchwyd yn ogystal i’r adran Addysg am roi'r cynnig yno i gael mynd i Ysgol Chwilog yn ogystal.

Sylwadau’n codi  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Gwern ap Rhisiart

7.

CYNLLUN Y CYNGOR pdf eicon PDF 116 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo Cynllun Cyngor Gwynedd 2018/23 – Adolygiad 2020/21 i’w gyflwyno i’r Cyngor ar y 5 Mawrth 2020 yn ddarostyngedig i’r canlynol:

¾     Ychwanegu cymalau yn Adran Dai i nodi beth mae’r Cyngor yn ei wneud ac yn blaenoriaethau am y flwyddyn i ddod o ran y broblem sy’n cael ei greu o ran cyflenwad yn sgil y nifer o dai haf sydd yn y sir.

¾     Addasiadau i drefn gwybodaeth Adran Addysg yn y Cynllun.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn 

PENDERFYNIAD

Penderfynwyd cymeradwyo Cynllun Cyngor Gwynedd 2018/23 – Adolygiad 2020/21 i’w gyflwyno i’r Cyngor ar y 5 Mawrth 2020 yn ddarostyngedig i’r canlynol:

¾     Ychwanegu cymalau yn Adran Dai i nodi beth mae’r Cyngor yn ei wneud ac yn blaenoriaethau am y flwyddyn i ddod o ran y broblem sy’n cael ei greu o ran cyflenwad yn sgil y nifer o dai haf sydd yn y sir.

¾     Addasiadau i drefn gwybodaeth Adran Addysg yn y Cynllun.

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Cynllun y Cyngor wedi ei fabwysiadu yn wreiddiol gan y Cyngor Llawn yn 2018. Ychwanegwyd fod y Cynllun yn cael ei adolygu yn flynyddol. Mynegwyd fod y Cyngor yn ceisio gwneud y Cynllun yn ddealladwy i drigolion ac yn amlinellu prif brosiectau’r Cyngor am y flwyddyn i ddod.

Tynnwyd sylw at ddwy eitem newydd sydd wedi ei hychwanegu yn y Cynllun - Gwaith y Cynllun Newid Hinsawdd a'r Gwasanaeth Tai ac Eiddo. Mynegwyd fod y meysydd hyn yn cyfarch cyfrifoldebau yn y maes newid hinsawdd ac yn arddangos blaenoriaethu sylweddol mae’r Cyngor yn ei wneud yn y Maes Tai.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Croesawyd yr ychwanegiad o adran Tai ac Eiddo a phwysleisiwyd fod y maes yn un heriol gan fod nifer uchel o dai'r sir yn dai haf. Ategwyd fod angen ychwanegu cymal i’r adran yn nodi eu blaenoriaethau am y flwyddyn sydd i ddod o ran y broblem sy’n cael ei greu o ran cyflenwad yn sgil y nifer o dai haf yn y sir.

¾     Mynegwyd balchder fod newid hinsawdd i’w gweld yn y Cynllun ac amlygwyd yr heriau sydd gan Ymgynghoriaeth Gwynedd i amddiffyn cymunedau. Pwysleisiwyd fod yr Adran Priffyrdd yn ogystal yn uchafu ailgylchu, lleihau ysbwriel yn mynd i dirlenwi a drwy gynlluniau yn ymgeisio lleihau ar wastraff yn cael ei greu. Ychwanegwyd fod y cyfarfod Grŵp Newid Hinsawdd yn cyffwrdd pob adran ac yn edrych ar ffyrdd i symud ymlaen.

¾     Trafodwyd gwybodaeth yr Adran Addysg yn yr adroddiad gan nodi os yn edrych arno fel dinesydd nad yw’r wybodaeth yn sôn llawer am waith yr ysgolion eu hunain gan gychwyn gyda’r gwasanaeth gwella ysgolion.  Pwysleisiwyd fod angen addasu cynllun yr Adran Addysg i sicrhau eglurdeb.

¾     Tynnwyd sylw ar Flaenoriaeth 8 - Busnesau’n Cael Cymorth i Ffynnu gan holi os yw’r gwaith hwn yn waith dydd i ddydd. Mynegwyd fod cefnogi busnesau yn waith dydd i ddydd ond ei fod wedi ei uchafu oherwydd bod y dyfodol yn ansicr o ganlyniad i Brexit.

¾     Pwysleisiwyd fod yr adroddiad yn rhoi darlun clir o waith y Cyngor ac yn amlygu cyfeiriad clir.

¾     Amlygwyd fod y ddogfen yn y pendraw yn cael ei greu ar gyfer y trigolion a thra ei fod yn amlygu’n glir beth yr ydym yn ei wneud i wasanaethu trigolion Gwynedd, nid yw’n amlygu’n glir drwyddo pa mor dda yr ydym yn cyflawni hynny gan fod hynny yn ymddangos yn ein Adroddiad ar Berfformiad. Mynegwyd hefyd bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Dewi Jones

8.

CYLLIDEB 2020/21 pdf eicon PDF 227 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd i:

a)    Argymell i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 5 Mawrth 2020) y dylid:

1.    Sefydlu cyllideb o £261,837,750 ar gyfer 2020/21 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £187,579,040 a £74,258,710 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 3.9%.

2.    Sefydlu rhaglen gyfalaf o £44,247,260 yn 2020/21 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

b)    Cymeradwyo symud ymlaen i weithredu’r rhestr cynlluniau arbedion sy’n Atodiad 3, er mwyn sefydlu’r gyllideb argymhellir i’r Cyngor llawn.

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Ioan Thomas 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y bydd gyllideb yn cael ei chyflwyno i’r Cyngor Llawn yn dechrau mis Mawrth. Esboniwyd fod y setliad drafft Gwynedd yn un o’r rhai uchaf yng Nghymru ac yn well na’ beth oedd wedi ei rhagweld. Er hyn, mynegwyd, nid yw’r setliad drafft yn ddigonol i gyfarch chwyddiant a galw ychwanegol ar wasanaethau. Nodwyd y bydd y setliad yn llawn yn cael ei gyhoeddi gan y Llywodraeth ar 25 Chwefror.

Trafodwyd y  gwariant refeniw gan dynnu sylw at Derfynu Grantiau Penodol gan nodi fod y Llywodraeth yn ariannu cynlluniau drwy grantiau ac yna yn nodi na fydd y grantiau yn parhau'r flwyddyn ganlynol ac nid yw’r arian yn trosglwyddo i’r setliad chwaith. O ganlyniad nodwyd fod angen i’r Cyngor ddarparu’r arian. Tynnwyd sylw at y bidiau oedd i’w gweld o dan y pennawd Pwysau ar Wasanaethau gan nodi diolch i’r Prif Weithredwr am ei waith yn mynd drwy’r holl fidiau. Mynegwyd fod y gyllideb yn nodi y bydd addasiadau cytundebau torfol i staff yn cael ei ddiddymu eleni yn gyfan gwbl. Nodwyd fod y Gronfa Bensiwn wedi derbyn dychweliadau gwell na’r disgwyl dros y blynyddoedd diwethaf ac o ganlyniad ni fydd angen i’r Cyngor ychwanegu cymaint mewn i’r gronfa'r flwyddyn nesaf.

Esboniwyd fod cynlluniau arbedion wedi eu trafod yn Pwyllgorau cCaffu dros y misoedd diwethaf a phwysleisiwyd fod nifer ohonynt yn gynhennus. Mynegwyd yn dilyn y trafodaethau hyn fod y nifer o gynlluniau arbedion wedi lleihau. Tynnwyd sylw at y tabl a oedd yn nodi sefydlu’r gyllideb a oedd yn amlygu anghenion gwario'r Cyngor a bod y bwlch ariannol yn cael ei gyfarch drwy godi’r dreth Cyngor 3.9%. Ychwanegwyd gyda’r dyfodol mor aneglur ar hyn o bryd nad oedd angen edrych ymhellach nac eleni ac argymhellwyd i’r adroddiad gael ei thrafod yn y Cyngor Llawn.

Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid fod cynlluniau i falensau wrth gefn gael eu defnyddio er mwyn rheoli risg pe bai'r setliad is nag yr un sydd wedi ei gyhoeddi. Mynegwyd na fydd angen ei defnyddio’r balansau eleni. Pwysleisiwyd fod y dyfodol a llawer o ansicrwydd ac yr angen am gyllideb gan y Canghellor. Mynegwyd y bydd yr adran yn dod yn ôl i’r Cabinet ym mis Mai neu Mehefin er mwyn trafod cyllideb am 2021/22 a bydd modd defnyddio’r balansau wrth gefn os bydd angen. Er hyn, mynegodd, fod y gyllideb yn gytbwys a bod yr arbedion sydd wedi eu cynnig yn rhai fydd a lleiaf o ardrawiad a’r trigolion.

Sylwadau’n codi  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

Awdur: Dafydd L Edwards

9.

DEMENTIA GO pdf eicon PDF 105 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cyfrannu £200,000 o’r Gronfa Drawsffurfio i ariannu 2 swydd llawn amser (Ym Mhwllheli a Porthmadog) a dwy swydd 7 awr yr wythnos (Yn Nhywyn a Chaernarfon) i barhau i gynnal Cynllun Gwasanaeth Cefnogi Dementia Go yn y Gymuned hyd Mawrth 2022.

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Dafydd Meurig

PENDERFYNIAD

Penderfynwyd cyfrannu £200,000 o’r Gronfa Drawsffurfio i ariannu 2 swydd llawn amser (Ym Mhwllheli a Porthmadog) a dwy swydd 7 awr yr wythnos (Yn Nhywyn a Chaernarfon) i barhau i gynnal Cynllun Gwasanaeth Cefnogi Dementia Go yn y Gymuned hyd Mawrth 2022.

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod cynnydd yn y galw am gefnogaeth i rai sy’n dioddef a dementia. Mynegwyd fod yr arian hwn ar gyfer cyfnod dros dro o ddwy flynedd er mwyn ariannu cynllun Dementia Go. Pwysleisiwyd yn dilyn y ddwy flynedd y gobeithir y bydd y gwaith yma yn dod yn waith pob dydd yr adran ond er mwyn sicrhau hyn fod angen gwneud gwaith ymchwil a chasglu tystiolaeth i fesur effaith y Cynllun.

Ychwanegodd Rheolwr Rhaglen Dementia Go fod y cynllun yn un sydd yn cynnal gweithgareddau ar draws Gwynedd gydag oddeutu 110 o bobl yn rhan o’r gweithgareddau yn wythnosol. Amlygwyd fod bod yn actif yn amlwg yn rhan ganolog o’r gwaith i sicrhau balans a chryfder ond fod cefnogaeth hefyd yn rhan allweddol. Mynegwyd fod y gweithgareddau yn gyfle i bobl ddod at ei gilydd mewn lleoliad cyfforddus yn eu cymuned. 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Ategwyd balchder o weld y cynllun yn gweithio i gael adroddiad gan y Gwasanaeth Dadansoddeg ac Ymchwil er mwyn gwerthusiad llawn. Ychwanegwyd fod budd mawr o’r cynllun a bod effaith amlwg i ofalwyr ac unigolion.

¾     Pwysleisiwyd fod cefnogaeth i’r cynllun a bod aelodau yn hynod ffyddiog y bydd tystiolaeth gadarn yn amlygu ei effaith. Tynnwyd sylw at y meysydd fydd yn gweld effaith yn y dyfodol a oedd yn cynnwys y Maes Iechyd ynghyd â gwasanaethau gofal. Holwyd os yw’r Bwrdd Iechyd yn barod i gyfrannu, nodwyd eu bod yn gefnogol o’r cynllun. Ychwanegwyd drwy gasglu tystiolaeth y bydd modd pwysleisio’r buddiannau i’r Maes Iechyd.

Awdur: Aled Davies

10.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinir ym maragraff 14 ac 16 o Atodiad 12A o Deddf Llywodraeth Leol 1972

Gofynnir i gadw’r eitem yn eithriedig o dan yr adran isod:

14.10.2 Gwybodaeth Eithriedig – Disgresiwn i Wahardd y Cyhoedd

(a) Ceir gwahardd y cyhoedd o gyfarfodydd pryd bynnag y bo’n debygol, oherwydd natur y busnes sydd i’w drafod, neu natur y trafodion, y byddai gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei ddatgelu.

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig  mewn bod yn agored  ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.   Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi.  Mae’r adroddiad yn benodol ynglyn a materion ariannol cyrff eraill a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i  fuddiannau’r cyrff  a’r Cyngor. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau yma mae’r Swyddog Monitro yn fodlon fod y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Dyfrig Siencyn

PENDERFYNIAD

Penderfynwyd y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 14 ac 16 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

Gofynnwyd i gadw’r eitem yn eithriedig o dan yr adran isod:

14.10.2 Gwybodaeth Eithriedig – Disgresiwn i Wahardd y Cyhoedd

(a) Ceir gwahardd y cyhoedd o gyfarfodydd pryd bynnag y bo’n debygol, oherwydd natur y busnes sydd i’w drafod, neu natur y trafodion, y byddai gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei ddatgelu.

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig  mewn bod yn agored  ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.   Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi.  Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn â materion ariannol cyrff eraill a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i  fuddiannau’r cyrff  a’r Cyngor. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau yma mae’r Swyddog Monitro yn fodlon fod y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

11.

CYMDEITHAS DAI PWYLEG

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd i:

  1. Gefnogi’r bwriad i ddatblygu cynllun busnes manwl a fyddai’n cynnig opsiynau ar gyfer cynnal y gwasanaethau gofal presennol ar y safle ac ystyried a yw y cyfleusterau ar y safle yn hyfyw ar gyfer y tymor byr a tymor hwy.
  2. Yn amodol ar dderbyn achos busnes hyfyw, cynnig cefnogaeth ariannol er mwyn diogelu’r ddarpariaeth gofal a nyrsio ar y safle, tra’n datblygu cyfleustra / adeilad newydd yn amodol ar sicrhau cyfraniad teg gan y Bwrdd Iechyd.
  3. Cymeradwyo cais Clwyd Alyn i weithredu yng Ngwynedd fel Cymdeithasol Dai, fel gall y safle neu elfennau o safle Penrhos drosglwyddo i Gymdeithas Tai Clwyd Alyn.
  4. Cefnogi’r egwyddor o fenthyca’n ddarbodus, yn amodol ar gael achos busnes manwl boddhaol.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig

Trafodwyd yr adroddiad.

Awdur: Arwel Wyn Owen