skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Anwen Davies, Selwyn Griffiths, Charles W.Jones, Aeron Jones, Linda Ann Jones, Dewi Owen, Peter Read ac Angela Russell.

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 136 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr, 2019 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr, 2019 fel rhai cywir.

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Swyddog Monitro fuddiant personol yn eitem 8 - Adolygiad Blynyddol – Polisi Tâl y Cyngor 2020/21 - ar ran y prif swyddogion oedd yn bresennol gan fod yr adroddiad yn ymwneud â’u cyflogau.

 

‘Roedd o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu ac, ynghyd â’r Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol, gadawodd y Swyddog Monitro'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cydymdeimlwyd â’r canlynol:-

 

·         Y Cynghorydd Linda Ann Jones ar golli ei gŵr yn ddiweddar;

·         Y Cynghorydd Angela Russell ar golli ei thad yn ddiweddar;

·         Teulu Bob Daimond, cyn-gyfarwyddwr Priffyrdd Cyngor Gwynedd, a fu farw’n ddiweddar.

 

Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Safodd y Cyngor fel arwydd o barch.

 

Croesawyd y Cynghorydd Linda Morgan i’r cyfarfod yn dilyn anhwylder diweddar.

 

Dymunwyd yn dda i’r canlynol:-

 

·         Y Cynghorydd Charles W.Jones, oedd yn derbyn triniaeth ar hyn o bryd.

·         Y Cynghorwyr Aeron Jones, yn dilyn anhwylder diweddar.

 

Llongyfarchwyd Elfyn Evans ar fod y Prydeiniwr cyntaf i ennill Rali Sweden.  Nodwyd ei fod yn arwain pencampwriaeth y byd ar y funud, a dymunwyd pob lwc iddo dros weddill y bencampwriaeth.

 

5.

GOEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL

Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

7.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.9 o’r Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Annwen Hughes

         

“Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar y bydd niwed yn cael ei wneud i’r diwydiant amaeth ac economi cefn gwlad os bydd cynghorau sir yn parhau i werthu eu stoc o ffermydd, gofynnaf yma heddiw am sicrwydd nad oes gan y Cyngor hwn fwriad i feddwl am werthu’r mân-ddaliadau sydd yn ei berchnogaeth?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Tai, y Cynghorydd Craig ab Iago

 

“Mae’r Stad Manddaliadau yma yn rhoi grym i ni dros siapio yr economi, yr amgylchedd a’r iaith yn yr ardaloedd yma, felly nid oes yna fwriad i wneud hynny o gwbl.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Annwen Hughes

 

“Oes modd cael gwybod faint o incwm mae’r Cyngor yn wneud o’r manddaliadau hyn yn flynyddol?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Tai, y Cynghorydd Craig ab Iago

 

“10 mlynedd yn ôl, roeddem yn colli £17,000 y flwyddyn, a llynedd bu i ni ennill £31,000, rwy’n credu.  Mae hyn i gyd oherwydd y gwaith da mae’r staff yn ei gyflawni, a hoffwn ddiolch yn fawr iddyn nhw am hynny.”

 

(2)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Dewi Roberts

         

“Pa gynlluniau sydd wedi’u darparu gan y Cyngor ynglŷn â Coronafeirws ac ydi’r cynlluniau hyn a’r wybodaeth ar gael i staff a chynghorwyr?”

 

Diolchodd yr aelod i’r Prif Weithredwr am yrru neges allan i’r cynghorwyr a’r staff ers iddo anfon ei gwestiwn i mewn.

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Mae hwn yn amlwg yn gwestiwn amserol iawn ac mae hyn yn fater o drafodaeth a phryder i ni i gyd yn ddyddiol.

 

Bydd pob Aelod erbyn hyn wedi derbyn neges gan y Prif Weithredwr sy’n crynhoi ymdrechion y Cyngor i baratoi ac ymateb i ymlediad posibl Coronafeirws i Wynedd.  Mae’r neges hwnnw yn pwysleisio mai Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n gyfrifol am ymateb i’r haint ac mai rôl cefnogi sydd gan y Cyngor hwn a phob awdurdod lleol arall.

 

Nodir bod y Cyngor wedi cymryd y camau canlynol hyd yma:

 

·         Ymgynnull cyfarfod o benaethiaid / uwch swyddogion o bob adran er mwyn cyd-gordio ein paratoadau ac ymateb - mae’r grŵp wedi cyfarfod ddwywaith yn barod a bydd yn cyfarfod yn wythnosol o hyn allan;

·         Darparu arweiniad i reolwyr o ran beth i’w wneud os ydynt yn derbyn ymholiadau am y firws gan staff neu gan aelodau o’r cyhoedd, gan gynnwys dolen i dudalennau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y we;

·         Mae gwybodaeth wedi ei rannu gyda thrwch staff y Cyngor yn ogystal – gwnaethpwyd hyn drwy gyfryngau’r rhwydwaith rheolwyr, y fewnrwyd, a grŵp Facebook staff a phosteri o gwmpas lleoliadau gwaith.  Bydd ychwaneg o wybodaeth yn cael ei rhannu os a phryd caiff ei chyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Manteisir ar y cyfle yma i’ch cyfeirio at wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru am y cyngor diweddaraf.  Mae’r ddolen i’r wefan honno wedi’i chynnwys yn neges y Prif Weithredwr i chi.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Dewi Roberts

 

“Pryd fydd y cynllun argyfwng  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TAL BLYNYDDOL 2020/21 pdf eicon PDF 66 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol (ynghlwm).  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion adroddiad yn argymell i’r Cyngor gymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Datganiad Polisi Tâl ar gyfer 2020/21.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Datganiad o Bolisi Tâl drafft ar gyfer 2020/21 yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

9.

CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD 2018-23 - ADOLYGIAD 2020/21 pdf eicon PDF 79 KB

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor (ynghlwm).  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn gwahodd y Cyngor i fabwysiadu Cynllun y Cyngor 2018-23 (Adolygiad 2020/21).

 

Nodwyd y bwriedid cychwyn y broses o adolygu’r Cynllun yn gynharach y flwyddyn nesaf.

 

Nodwyd bod yr argyfwng llifogydd diweddar wedi pwysleisio rôl y Cyngor ac aelodau lleol.  Diolchwyd am y gwaith a gyflawnwyd, a dymunwyd y gorau i’r trigolion a’r cymunedau oedd wedi dioddef llifogydd.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Nodwyd, er y cydnabyddid bod gwireddu’r Cynllun Gweithredu Newid Hinsawdd yn gyfrifoldeb ar bob un o adrannau’r Cyngor (tud 53 o’r rhaglen), bod angen penodi un person i arwain ar y gwaith ar ran y Cyngor er mwyn sicrhau dull cyson o weithredu.  Mewn ymateb, nodwyd y bwriedid adrodd yn fuan i’r Cabinet ar waith yr is-grŵp sy’n edrych ar newid hinsawdd.  O bosib’ y byddai’r Cabinet yn sefydlu bwrdd gyda Chadeirydd a swyddog penodol yn gwasanaethu’r Bwrdd, fel bod y maes yn derbyn sylw ar yr un lefel â’r Bwrdd Adfywio a’r Bwrdd Cefnogi Pobl.

·         Nodwyd bod uchelgais y Cyngor o weld trigolion Gwynedd yn ennill cyflog digonol i fedru cynnal eu hunain a’u teuluoedd yn ganmoladwy, ond holwyd beth oedd y diffiniad o ‘gyflog digonol’ a pha mor gyraeddadwy ydoedd?  Mewn ymateb, nodwyd bod y cynllun datblygu’r economi presennol yn diffinio swyddi cyflogaeth uchel fel rhai dros £26,000, ond bod y Cyngor, drwy ei waith datblygu’r economi, yn chwilio am swyddi gyda chyflogau llawer uwch na hynny.  Ychydig o gyfleoedd cyflogaeth oedd ar gael mewn ardal wledig fel Gwynedd, ac roedd yn ofynnol parhau gyda’r gwaith o ddatblygu’r economi er mwyn anelu at y nod o sicrhau cyflogaeth dda i bobl yng Ngwynedd.  Credid bod y nod yn gyraeddadwy yn y tymor hir.  Ystyrid bod y Cyngor yn mynd i’r cyfeiriad iawn er gwaethaf amgylchiadau anodd eu goresgyn, ond roedd llawer o’r hyn oedd yn effeithio ar lefel tlodi yn ein hardaloedd yn dibynnu ar yr hyn oedd yn digwydd yn San Steffan.

·         Holwyd a oedd y Cabinet wedi ystyried ail-gymryd tai cyngor drosodd gan fod yna arian ar gael a llog yn isel.  Mewn ymateb, eglurwyd, er bod dadl, o bosib’, dros gymryd y stoc tai yn ôl, nad oedd hynny’n flaenoriaeth i Wynedd, ac roedd gan y Cyngor rôl bwysig o ran datblygu syniadau gwahanol ac arloesol ar sut i ddarparu tai yn y llefydd iawn ac fel mae pobl eu hangen.  Roedd yna amrywiaeth o ffyrdd o wneud hynny, ac edrychid ymlaen at weld y Cynllun Gweithredu Tai yn fuan.

·         Croesawyd y Cynllun Merched mewn Arweinyddiaeth (Blaenoriaeth Gwella 3) a gofynnwyd i’r Aelod Cabinet ymhelaethu ar gynnydd y gwaith.  Mewn ymateb, nodwyd bod dau weithdy - un ar gyfer merched a’r llall ar gyfer dynion, wedi amlygu mai diffyg hyder, cyfrifoldebau gofalu a chydbwysedd bywyd personol a gwaith oedd y prif rwystrau i ferched ymgeisio am swyddi uwch o fewn y Cyngor.  Yn dilyn y gweithdai, datblygwyd cynllun gweithredu drafft ar y cyd, ac un o brif flaenoriaethau’r cynllun hwnnw  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

CYLLIDEB 2020/21 pdf eicon PDF 219 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid (ynghlwm).  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid:-

 

·         Adroddiad yn argymell cyllideb i’r Cyngor ei chymeradwyo ar gyfer 2020/21;

·         Penderfyniad drafft y Dreth Cyngor yn seiliedig ar argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor (ar sail cynnydd o 3.9%) ynghyd â thablau yn dangos lefel y Dreth Cyngor a’r cynnydd fesul cymuned.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet i staff yr Adran Gyllid, ac yn benodol yr Uwch Reolwr Cyllid a gweddill y tîm cefnogol, am eu holl waith yn absenoldeb y Pennaeth Cyllid am gyfnod.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Nodwyd bod Fairbourne wedi dod yn adnabyddus dros y byd fel pentref heb ddyfodol, a bod effaith Cynllun Rheoli Traethlin y Cyngor yn golygu bod tai yn Fairbourne wedi colli bron i draean o’u gwerth.  Roedd y Cyngor Cymuned yn flin bod y Dreth Gyngor yn parhau i godi, er bod y pentref wedi’i gondemnio gan Gyngor Gwynedd, ac yn galw am ostyngiad yn y Dreth.  Mewn ymateb, nodwyd ei bod yn bwysig tanlinellu nad y Cyngor oedd wedi condemnio Fairbourne.  Yn hytrach, roedd y Cyngor wedi amlygu’r risg roedd y pentref yn wynebu i’r dyfodol.  O ran y Dreth Gyngor, yr unig ffordd o gael gostyngiad fyddai i’r Prisiwr edrych eto ar y bandiau, a rhoddwyd addewid y byddai’r Cyngor yn cysylltu â’r Prisiwr ar ran pobl Fairbourne i ofyn iddynt ddod yno i edrych ar y sefyllfa.

·         Nodwyd bod y Cyngor wedi bod yn derbyn a derbyn toriadau ers 12 mlynedd bellach, a bod y codiadau parhaus yn y Dreth yn cael effaith ddifrifol ar y bobl hynny sydd ar gyflogau bychain.  Holwyd pryd roedd y Cyngor am sefyll fel un yn erbyn y toriadau sy’n dod o Gaerdydd a San Steffan?  Mewn ymateb, nodwyd y deellid y sylwadau, ond bod rhaid i’r Cyngor osod cyllideb hafal, a’i fod, trwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a nifer o gyrff eraill, yn lobïo’n barhaus.

·         Nodwyd bod y Dreth Gyngor ar Fand D yng Ngwynedd wedi codi o £889 yn 2004 i £1,699 yn 2018.  Dim ond 5 Cyngor trwy Gymru oedd â lefel treth Band D uwch na Gwynedd, ac roedd gan y sir hon ardaloedd difreintiedig iawn.  Nid oedd cyflogau pobl gyffredin Gwynedd wedi codi, ac er bod staff y Cyngor wedi derbyn codiad yn eu cyflog yn ddiweddar, roedd hynny’n cael ei gymryd yn ôl drwy’r codiad yn y dreth.  Roedd effaith codi trethi, yn ogystal â chodi tâl am barcio yn y trefi, yn cael effaith enfawr ar fusnesau Gwynedd.  Teimlid nad oedd unrhyw un yn cymryd cyfrifoldeb dros drethi yng Nghymru ac roedd Llywodraeth Cymru’n parhau gyda’r model o roi rhyddid i’r cynghorau godi’r dreth heb sylw i’r effaith ar bobl.  Roedd llai o incwm gwario yn golygu bod llai o wariant yn digwydd yn ein heconomi, ac roedd hynny, yn ei dro, yn golygu llai o swyddi i bobl, llai o bobl yn talu trethi, ayb.

·         Nodwyd bod prif wariant y Cyngor yn y maes gofal, yn enwedig yn y maes henoed, ac o  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

STRATEGAETH GYFALAF 2020/21 (YN CYNNWYS STRATEGAETHAU BUDDSODDI A BENTHYG) pdf eicon PDF 449 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid (ynghlwm).  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid adroddiad yn rhoi trosolwg lefel uchel ar y modd y mae gwariant cyfalaf, ariannu cyfalaf a gweithgaredd rheolaeth trysorlys yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol.  ‘Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o sut y rheolir risgiau cysylltiedig, a’r goblygiadau i gynaliadwyedd ariannol yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2020/21.

 

12.

DIWYGIO CYNLLUN HAWLIAU DIRPRWYEDIG SWYDDOGION pdf eicon PDF 95 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad ar newidiadau i’r cynllun dirprwyo swyddogion yn dilyn sefydlu’r Adran Tai ac Eiddo.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

13.

ADOLYGIAD O'R DOSBARTHIADAU PLEIDLEISIO A'R MANNAU PLEIDLEISIO pdf eicon PDF 61 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cyngor i ganlyniadau’r adolygiad o ddosbarthiadau pleidleisio a’r mannau pleidleisio yn etholaethau seneddol Arfon a Dwyfor Meirionnydd.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo canlyniadau’r adolygiad o ddosbarthiadau pleidleisio a’r mannau pleidleisio yn etholaethau seneddol Arfon a Dwyfor Meirionnydd.

 

14.

CALENDR PWYLLGORAU 2020/21 pdf eicon PDF 49 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd  (ynghlwm). 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaeth Democrataidd galendr ar gyfer dyddiadau cyfarfodydd y Cyngor ar gyfer 2020/21.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Calendr Pwyllgorau ar gyfer 2020/21.

 

 

 

15.

YMATEBION I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL

Dogfennau ychwanegol:

16.

Ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Owain Williams pdf eicon PDF 261 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth – llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o cynnig y Cynghorydd Owain Williams i gyfarfod 19 Rhagfyr, 2019 ynglŷn â’r Anthem Genedlaethol  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth – llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Owain Williams i gyfarfod 19 Rhagfyr, 2019 ynglŷn â’r Anthem Genedlaethol.

 

17.

Ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Gruffydd Williams pdf eicon PDF 361 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth – llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o cynnig y Cynghorydd Gruffydd Williams i gyfarfod 19 Rhagfyr, 2019 ynglŷn â’r Tiriogaethau Palesteinaidd  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth – llythyrau gan Lywodraeth Cymru a’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Gruffydd Williams i gyfarfod 19 Rhagfyr, 2019 ynglŷn â’r Tiriogaethau Palesteinaidd.

 

Atodiadau 1-3 pdf eicon PDF 190 KB

Dogfennau ychwanegol: