skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Madog, Coleg Llandrillo, Ffordd Llandudno, Llandrillo yn Rhos, Conwy LL28 4HZ

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Hugh Evans (Cyngor Sir Ddinbych), Yr Athro Iwan Davies(Prifysgol Bangor), Yana Williams (Coleg Cambria) a Dilwyn Williams (Cyngor Gwynedd).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol ar gyfer eitem 9 – Cadeirydd y Bwrdd Cyflawni Busnes gan y canlynol:

¾     Dafydd Evans (Grŵp Llandrillo Menai)

¾     Askar Sheibani (Bwrdd Cyflawni Busnes)

yr oedd yn fuddiant a oedd yn a oedd yn rhagfarnu a bu iddynt adael y cyfarfod ar gyfer yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu

hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAERNOROL pdf eicon PDF 87 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar y 15 Tachwedd 2019 fel rhai cywir

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Bwrdd Uchelgais a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2019 fel rhai cywir.

 

5.

DIWEDDARIAD CYNNYDD pdf eicon PDF 179 KB

Adroddiad gan Jane Richardson – Cadeirydd Grŵp Swyddogion

Gweithredol y Bwrdd Uchelgais.

Penderfyniad:

Nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Jane Richardson - Cadeirydd Grŵp Swyddogion Gweithredol y Bwrdd Uchelgais.

 

PENDERFYNWYD

 

Nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn rhoi diweddariad ar y cynnydd gan y Grŵp Swyddogion Gweithredol. Derbyniwyd diweddariad ar apwyntio pedwar aelod o staff i’r Swyddfa Rhaglen, sydd yn cynnwys Cyfarwyddwr Rhaglen.  Hefyd, nodwyd y bydd gweithdy Llywodraethu yn cael ei gynnal ar gyfer 14 Chwefror 2020, ac fe dderbyniwyd diweddariad ar waith Cadeirydd y Bwrdd Uchelgais

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod llawer o waith wedi ei wneud yn dilyn y cyfarfod blaenorol. Mynegwyd fod ffocws clir wedi ei amlygu yn ystod y cyfnod pontio ac amlinellwyd rôl y Bwrdd Uchelgais, Swyddfa Raglen a'r Grŵp Gweithredol. Nodwyd na fydd y Cyfarwyddwr Rhaglen yn Cadeirio’r Grŵp Gweithredol am y tro a bydd Jane Richardson yn parhau fel Cadeirydd.

 

Amlygwyd fod Gweithdy Llywodraethu wedi ei drefnu ar 14 Chwefror. Mynegwyd yn ogystal fod gwaith wedi ei wneud i gryfhau’r berthynas a Thîm Rhanbarthol Llywodraeth Cymru a thrafodaethau yn cael eu cynnal ar sut y bydd modd gweithio ar y cyd ar y Fframwaith Economaidd Rhanbarthol ac adolygu’r Weledigaeth Twf.

 

Nodwyd mai un o’r blaenoriaethau nesaf fydd i greu strategaeth gyfathrebu ac i benderfynu beth mae’r Swyddfa Raglen am ei gyflwyno i Ogledd Cymru. Pwysleisiwyd fod angen naratif i’r Gogledd a sut y bydd y Weledigaeth Twf yn gweu i mewn i’r naratif.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

·         Nodwyd balchder fod cydweithio gwell a Llywodraeth Cymru. Mynegwyd pwysigrwydd creu fframwaith ar y cyd ac yr un weledigaeth.

·         Trafodwyd y Grŵp Gweithredol gan drafod y gadeiryddiaeth. Pwysleisiwyd yr angen i’r Cyfarwyddwr Rhaglen fod yn aelod gan y bydd yn anodd cyflwyno eitemau ac i gadeirio.

·         Pwysleisiwyd yr angen i arwyddo'r Penawdau’r Telerau erbyn mis Hydref. Ychwanegwyd fod angen trafodaeth mewn gweithdy am ba mor hyblyg yw’r ddwy Lywodraeth o ran cynlluniau yn y wedd gyntaf a’r ail. Pwysleisiwyd gan mai prosiectau yw gwraidd yr holl raglen y bydd angen bod yn hyblyg. Mynegwyd yr angen i’r Llywodraeth fod yn gwbl eglur o bryd mae’r prosiectau yn symud i fod yn rhaglen.

 

6.

CYLLIDEB REFENIW 2019/20 - ADOLYGIAD TRYDYDD CHWARTER (RHAGFYR 2019) pdf eicon PDF 523 KB

Adroddiad gan Dafydd L.Edwards, Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod

Lletya.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adolygiad trydydd chwarter o gyllideb y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2019/20, a cytunwyd i drosglwyddo unrhyw danwariant yn 2019/20 i’r gronfa wrth gefn fel y bydd ar gael yn y dyfodol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd Edwards – Pennaeth Cyllid Statudol.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyniwyd yr adolygiad trydydd chwarter o gyllideb y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2019/20, a cytunwyd i drosglwyddo unrhyw danwariant yn 2019/20 i’r gronfa wrth gefn fel y bydd ar gael yn y dyfodol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

Adroddwyd ar y gwahanol benawdau cyllideb roedd yn gorwario / tanwario, a nodwyd fod amcangyfrif y bydd tanwariant net o £117,424 ar ddiwedd 2019/20, fydd yn cael ei drosglwyddo i’r gronfa wrth gefn a sefydlwyd ar ddiwedd 2018/19. 

 

Er mwyn gweithredu yn effeithiol, mae angen i’r Cydbwyllgor (y Bwrdd Uchelgais) fod yn ymwybodol o’i sefyllfa gwariant hyd yma a’r rhagamcanion gwariant eleni yn erbyn ei gyllideb flynyddol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi y bydd y gyllideb ar gyfer 2020/21 yn cael ei thrafod yn y cyfarfod nesaf. Ychwanegwyd nad oes newid mawr wedi bod dros y chwarter diwethaf. Tywyswyd drwy’r daenlen gan bwysleisio fod tanwariant oherwydd bod oediad wedi bod yn penodi’r Cyfarwyddwr Rhaglen. Amlygwyd fod incwm ychwanegol wedi ei ychwanegu ar gyfer grant ESF os fydd y cais yn cael ei gymeradwyo.

 

Mynegwyd y bydd sefyllfa derfynol yn cael ei drafod ym mis Mehefin, a derbyniwyd y bydd unrhyw danwariant yn cael ei drosglwyddo i’r gronfa wrth gefn sydd wedi’i chlustnodi,

 

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

·         Amlygwyd fod arian wrth gefn ar gyfer unrhyw gostau pellach ac i leihau’r baich a’r gofyn am arian gan bartneriaid.

·         Holwyd faint o arian sydd yn cael ei drosglwyddo am eleni a faint o arian sydd wrth gefn, nodwyd fod £117,424 yn cael ei drosglwyddo ar gyfer eleni a bydd hyn yn dod a’r cyfanswm i £453,000.

 

7.

CAIS EFL pdf eicon PDF 176 KB

Adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Strwythur Staffio ar gyfer y Swyddfa Rhaglen, a dirprwyo’r hawl i’r Cyfarwyddwr Rhaglen mewn ymgynghoriad gyda Phrif Weithredwr y Corff Lletya a’r Swyddog Cyllid Statudol i addasu’r strwythur fel yr angen o fewn y gyllideb.

 

Cymeradwyo’r dyddiadau cychwyn ar gyfer staff o fewn y strwythur staffio, a penodi i’r Swyddfa Rhaglen cyn y Cytundeb Terfynol, lle mae’r swyddi yn fforddiadwy o fewn y gyllideb graidd a chyllideb ESF (fel y’i rhestrwyd yn rhan 4.2.5 o’r adroddiad).

 

Penderfynwyd, yn amodol ar y materion sydd wedi ei amlygu yn yr adroddiad, awdurdodi’r Cyfarwyddwr Rhaglen i greu y swyddi ac ymgymryd â’r broses benodi yn unol â threfniadau a pholisïau’r Corff Lletya. 

 

Penderfynwyd dirprwyo’r hawl i’r Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad a Prif Weithredwr y Corff Lletya a’r Swyddog Cyllid Statudol i dderbyn cynnig grant gan WEFO yn seiliedig ar 50% o gyfanswm cost y prosiect ar gyfer cyfnod Gorffennaf 2018 at Mehefin 2023.  Cadarnhawyd y bydd y Bwrdd Uchelgais yn cyfrannu 50% o arian cyfatebol, yn bennaf drwy gyfuniad o gyfalafu prosiectau a chyllideb craidd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen

 

PENDERFYNIAD

Cymeradwyo’r Strwythur Staffio ar gyfer y Swyddfa Rhaglen, a dirprwyo’r hawl i’r Cyfarwyddwr Rhaglen mewn ymgynghoriad gyda Phrif Weithredwr y Corff Lletya a’r Swyddog Cyllid Statudol i addasu’r strwythur fel yr angen o fewn y gyllideb.

 

Cymeradwyo’r dyddiadau cychwyn ar gyfer staff o fewn y strwythur staffio, a phenodi i’r Swyddfa Rhaglen cyn y Cytundeb Terfynol, lle mae’r swyddi yn fforddiadwy o fewn y gyllideb graidd a chyllideb ESF (fel y’i rhestrwyd yn rhan 4.2.5 o’r adroddiad).

 

Penderfynwyd, yn amodol ar y materion sydd wedi ei amlygu yn yr adroddiad, awdurdodi’r Cyfarwyddwr Rhaglen i greu'r swyddi ac ymgymryd â’r broses benodi yn unol â threfniadau a pholisïau’r Corff Lletya. 

 

Penderfynwyd dirprwyo’r hawl i’r Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad a Prif Weithredwr y Corff Lletya a’r Swyddog Cyllid Statudol i dderbyn cynnig grant gan WEFO yn seiliedig ar 50% o gyfanswm cost y prosiect ar gyfer cyfnod Gorffennaf 2018 at Fehefin 2023.  Cadarnhawyd y bydd y Bwrdd Uchelgais yn cyfrannu 50% o arian cyfatebol, yn bennaf drwy gyfuniad o gyfalafu prosiectau a chyllideb graidd.

 

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Bydd y grant ESF yn rhoi arian i’r rhanbarth i ddatblygu a gweithredu’r Weledigaeth Twf drwy sefydlu Swyddfa Rhaglen. Bydd y Swyddfa Rhaglen yn cychwyn gyda thîm craidd o swyddogion wedi’i ariannu’n rhannol drwy’r grant ESF.

 

O ran y gyllideb, mynegwyd ei bod yn fwy cost effeithiol i benodi swyddogion yn hytrach na’ penodi ymgynghorwyr ar gytundebau llawrydd. Pwysleisiwyd na fydd penodiadau yn cael ei gwneud hyd nes y bydd cadarnhad o’r arian wedi ei dderbyn.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn ddiweddariad ar y cais grant. Amlygwyd y swyddi oedd yn rhan o’r cais a'r dyddiadau ar gyfer penodi a chychwyn y swyddi.

 

O ran y gyllideb, mynegwyd ei bod yn fwy cost effeithiol i benodi swyddogion yn hytrach na’ penodi ymgynghorwyr staff ar gytundebau llawrydd. Pwysleisiwyd na fydd penodiadau yn cael ei gwneud hyd nes y bydd cadarnhad o’r arian wedi ei dderbyn.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

·         Holwyd pryd y bydd cadarnhad oes yn derbyn yr arian. Mynegwyd fod arwyddion yn ymddangos fel y bydd y cais yn cael ei dderbyn a diolchwyd i Gyngor Conwy am y gwaith o baratoi’r  cais.

·         Trafodwyd y gwahaniaeth rhwng rheolwr rhaglen a rheolwr prosiect. Pwysleisiwyd fod y swyddi yma yn parhau i ddatblygu ac i gael ei addasu er mwyn sicrhau nad oes dyblygu yn benodol wrth edrych ar rôl swyddogion y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol sydd eisoes yn weithredol yn y rhanbarth.

·         O ran derbyn yr arian, mynegwyd unwaith yn cael y cadarnhad fod yr arian ar gael y  bydd modd gwneud cais am ôl-daliad ac yna yn hawlio'r arian yn chwarterol.

 

 

8.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod

yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir

gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad

12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol

oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol

sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw

am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso

hawliau’r unigolion yma. O ganlyniad, mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o

blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

Cofnod:

Penderfynwyd cau allan y wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol.

 

9.

CADEIRYDD Y BWRDD CYFLAWNI BUSNES - RHESTR FER

Tynnu rhestr fer o ymgeiswyr ar gyfer y swydd Cadeirydd y Bwrdd Cyflawni Busnes

(ceisiadau a dogfennau ategol i’w cylchredeg ar wahân ar gyfer aelodau’r

Bwrdd yn unig).

Penderfyniad:

Bod pedwar o’r ymgeiswyr yn gymwys i’w rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Bod pedwar o’r ymgeiswyr yn gymwys i’w rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Byddai tynnu rhestr fer o ymgeiswyr yn un o’r cerrig milltir allweddol yn y broses o recriwtio a phenodi unigolyn i’r swydd allweddol hon.