skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru 01286 679 878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2020 / 21

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Etholwyd y Cynghorydd Eric Merfyn Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2020/21

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Eric M Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2020/2021

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is Gadeirydd ar gyfer 2020 / 21

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Etholwyd y Cynghorydd Gareth A Roberts yn Is Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2020 /21

 

Cofnod:

Cynigiwyd ac eiliwyd y Cynghorydd Gareth A Roberts

Cynigiwyd ac eiliwyd ail enw, y Cynghorydd Louise Hughes

 

Pleidleisiwyd ar y cynigion

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Gareth A Roberts yn Is gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2020 /2021

 

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Linda A W Jones a’r Cynghorydd Elin Walker Jones (Aelodau Lleol)

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Y Cynghorydd Berwyn P Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/1072/11/LL) oherwydd ei fod yn Aelod o Fwrdd Adra

 

Roedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

Y Cyfreithiwr Rhun ap Gareth, yn eitem 7.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/1072/11/LL) oherwydd bod ei rieni yng nghyfraith yn byw gerllaw'r safle.

 

Roedd y swyddog o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

b)    Datganodd yr aelodau canlynol ei bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

Y Cynghorydd John Pughe Roberts (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/1197/02/LL)

 

Y Cynghorydd Gareth A Roberts (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/1072/11/LL)

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 250 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y10fed o Fedi 2020 ac ar y 24ain o Fedi 2020 fel rhai cywir  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 10fed o Fedi a’r 24ain o Fedi  2020 fel rhai cywir, yn ddarostyngedig i nodi bod y Cynghorydd Gareth T Jones yn bresennol yn y cyfarfodydd.

 

7.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

7.1

Cais rhif C19/1028/03/LL Gwesty Wynnes Arms, Ffordd Manod, Manod, Blaenau Ffestiniog pdf eicon PDF 363 KB

Cais ar gyfer addasu tŷ tafarn yn 5 fflat ynghyd â chodi estyniad cefn a llefydd parcio

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Linda Ann Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gwrthod y cais ar sail:

 

Mae’r bwriad i drosi adeilad yn 5 fflat o fewn safle gyda hanes o lifogi ac nid oes gwybodaeth wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais i ddangos bod modd rheoli’r perygl yn ddiogel ac felly ystyrir bod y bwriad yn groes i bolisi ISA 1 a PS 6 o’r Cynllun datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn a Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygiad a Pherygl o Lifogi.

 

Cofnod:

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi bod y cais wedi ei gyflwyno i bwyllgor ym mis Medi lle gwnaed y penderfyniad i ohirio’r cais o ganlyniad i dderbyn pryderon llifogydd ar y safle. Yn y cyfamser, adroddwyd bod yr ymgeisydd wedi rhoi gwybod i’r Cyngor ei fod wedi cyflwyno apêl i’r Arolygaeth yn erbyn diffyg penderfyniad gan y Cyngor ar y cais (dyddiad cau 20/10/20).

 

Yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor (cyfarfod Medi 10fed 2020), i ohirio’r penderfyniad er mwyn derbyn mwy o wybodaeth ynglŷn â materion draenio, fe ymgynghorwyd gyda’r Uned Rheoli Llifogydd ac Erydiad Arfordirol. Derbyniwyd ymateb yn nodi gwrthwynebiad oherwydd eu bod yn ymwybodol fod cwrs dŵr yn llifo drwy’r safle datblygu mewn cylfat, sydd heb ei adnabod yn y cais. Cynghorwyd y datblygwr i sefydlu union lwybr a chyflwr y cylfat cyn ymgymryd ag unrhyw waith ar y safle. Nodwyd bod  tystiolaeth gref yn bodoli bod y cwrs dŵr wedi achosi llifogydd yn hanesyddol i lawr seler yr adeilad presennol. Cynghorwyd y datblygwr i sefydlu union lwybr a chyflwr y cylfat a pharatoi Asesiad Canlyniad Llifogydd (FCA) cyfyngedig fyddai'n ystyried a all y safle gael ei ddatblygu'n ddiogel yn unol â TAN15. Hyd nes y cynhyrchir asesiad llifogydd derbyniol, roedd yr Uned yn gwrthwynebu'r datblygiad ar sail risg llifogydd.

 

Yng ngoleuni'r wybodaeth a ddaeth i law, adroddwyd mai'r unig opsiwn fyddai argymell gwrthod y cais.

 

b)    Amlygwyd bod yr Aelod Lleol yn gwrthwynebu ar sail pryderon llifogydd

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais

 

PENDERFYNWYD: gwrthod y cais ar y sail bod y bwriad i drosi adeilad yn 5 fflat o fewn safle gyda hanes o lifogi ac nid oes gwybodaeth wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais i ddangos bod modd rheoli’r perygl yn ddiogel ac felly ystyrir bod y bwriad yn groes i bolisi ISA 1 a PS 6 o’r Cynllun datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn a Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygiad a Pherygl o Lifogi.

 

8.

Cais Rhif C19/1197/02/LL Canolfan Grefftau Corris, Corris Uchaf, Gwynedd pdf eicon PDF 327 KB

Creu safle carafanau teithiol ar gyfer 11 uned teithiol ynghyd a gosod bloc toiledau a tirlunio.

AELOD LLEOL: Cynghorydd John Pughe Roberts

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD - caniatau gydag Amodau

 

1.            5 mlynedd.

2.            Yn unol â’r cynlluniau diwygiedig ac adroddiadau arbenigol.

3.            Cyfyngu’r niferoedd i 11 uned deithiol

4.            Tymor gwyliau / lleoli

5.            Cyfyngu'r unedau i ddefnydd gwyliau.

6.            Dim storio unedau teithiol ar y safle

7.            Bioamrywiaeth

8.            Cyfyngu i’r tymor gwyliau.

9.            Cadw cofrestr.

10.         Dim torri coed, gwrychoedd neu glirio llystyfiant o fewn tymor nythu.

11.         Cytuno/rheoli goleuo.

12.         Cytuno manylion clawdd.

13.         Cytuno manylion uned ymolchi cyn ei gosod ar safle

14.         Tirlunio

15.         Cynnal tirlunio

16.         Darparu Cynllun Gwella Bioamrywiaeth

17.         Dim clirio y tir yn y gaeaf yn ystod tymor cysgu ymlusgiaid

 

Nodyn Tir Halogedig

 

Cofnod:

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer creu maes carafanau teithiol i leoli 11 uned deithiol ynghyd a gosod cwt bugail fel adnodd ymolchi.

 

Eglurwyd bod yr egwyddor i  sefydlu safle carafanau teithiol wedi ei selio ym Mholisi TWR5 o’r CDLl ac y byddai datblygiadau o’r fath yn cael eu caniatáu os gellid cydymffurfio gyda’r meini prawf perthnasol. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli mewn cae gyda gorweddiad y dirwedd ynghyd a thirlunio presennol ar y terfynau, yn creu safle sy’n weddol guddiedig.  O safbwynt mwynderau gweledol, ystyriwyd nad oedd y bwriad yn amharu’n andwyol  ar naws a chymeriad cefn gwlad y tirlun lleol sydd wedi ei ddynodi yn Ardal Tirwedd Arbennig.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl ni ystyriwyd y byddai’r defnydd bwriededig yn creu mwy o sŵn ac aflonyddwch yn sylweddol fwy na’r amgylchiadau presennol o gofio bod lleoliad y safle wrth gefnffordd brysur a’i leoliad ger Canolfan Grefftau Corris. Derbyniwyd sylwadau'r Uned Drafnidiaeth ac Uned Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru yn cadarnhau nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r cynllun diwygiedig.

 

Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth ystyriwyd bod y bwriad yn golygu defnyddio tir sydd wedi ei adennill ac nad oes defnydd i’r tir ar hyn o bryd. Cyfeiriwyd at yr adroddiad coed oedd yn datgan bod y datblygiad wedi ei ddylunio yn ofalus er mwyn cadw'r sgrin bresennol o amgylch y safle gyda’r bwriad i wella'r sgrin yma gyda phlannu ychwanegol ar hyd y terfynau.

Amlygwyd nad oedd gwrthwynebiad i'r cynnig hwn gan yr Uned Bioamrywiaeth cyn belled â bod mesurau yn cael eu cymryd i osgoi niwed i rywogaethau a bod y safle'n cael ei reoli i greu gweirglodd blodau gwyllt. Nodwyd bod mesurau lliniaru wedi eu gosod yn yr adroddiad ecolegol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:-

 

·         Bod Canolfan Grefftau Corris yn atyniad twristiaeth hir sefydlog

·         Bod y cais dan sylw yn gyfle i arall gyfeirio gan ddarparu cyfleuster bychan ar gyfer 11 uned deithiol gan sicrhau hyfywdra a diogelu dyfodol i’r ganolfan grefftau

·         Bod yr ymgeisydd wedi derbyn nifer o geisiadau am ddarpariaeth o’r fath. Byddai’r cyfleuster yn caniatáu i ymwelwyr i’r ganolfan aros ymlaen am ychydig o ddyddiau i fwynhau’r hyn sydd gan y ganolfan i’w gynnig ynghyd a’r ardal o’i gwmpas

·         Bod bwriad i gadw coed y terfyn a chreu sgrin ychwanegol

·         Yn gyfle i greu ffynhonnell incwm ychwanegol, sicrhau cyflogaeth ac yn adnodd sydd ei angen yn yr ardal - yn cyfrannu at yr economi leol ac yn fodd o gefnogi busnesau eraill lleol

·         Wedi cydweithio yn agos gyda’r Adran Cynllunio; wedi defnyddio ymateb i sylwadau’r cyfnod ymgynghoriad i sicrhau dyluniad a chynllun addas

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·        Ei fod yn gefnogol i’r cais

·        Bod galw am y math o gyfleuster yn yr ardal

·        Y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C20/0190/19/AC Seiont Brickworks, Seiont Works Ffordd Felin Seiont, Caernarfon pdf eicon PDF 389 KB

Cais ar gyfer gwaith sy’n gysylltiedig ag adeiladu’r ffordd osgoi arfaethedig, A487 Caernarfon i Bontnewydd gan gynnwys;

·         Defnydd tir fel estyniad i compownd y safle bresennol a darparu sied cynnal a chadw, adeiladau swyddfa, cyfleusterau lles a maes parcio, storfa tanwydd, tanc storio carthffosiaeth, cyfleuster sypynnu concrid symudol a sypynnu asffalt ac adeiladu trac cludiant (defnydd dros dro),

·         Adeiladu ffordd cludiant newydd ar ffin ogleddol y chwarel bresennol gyda chysylltiad dros dro i lwybr y ffordd osgoi arfaethedig, A487 Caernarfon i Bontnewydd, yn ystod y cyfnod adeiladu,

·         Parhau i gloddio am fwynau, symud deunydd o ddyddodion gweithio mwynau a phentwr stoc o ddeunyddiau sy’n bodoli eisoes,

·         Darparu llawr caled a lleoli offer a pheiriannau ar gyfer prosesu a sgrinio deunyddiau,

·         Gwaredu deunyddiau gwastraff anadweithiol ar gyfer gwaith peirianyddol/adfer yn ystod y tymor hir.

      (Cais o dan Adran 73 i amrywio Amod 3 ar ganiatâd cynllunio C17/0011/19/MW i gyrraedd y lefelau daear y cytunwyd arnynt yng nghynllun adfer rhif. 3030/16, ddeunyddiau cloddio sydd dros ben i ofynion prosiect ffordd osgoi Caernarfon i Bontnewydd yn ogystal â deunyddiau a gloddiwyd o ffynonellau eraill, gael eu gwaredu ar y safle yn unol â thrwydded CNC)

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Garlick

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD - Gwrthod y cais

 

Mae'r bwriad yn newid graddau neu natur y datblygiad a gymeradwywyd yn flaenorol i "waith yn gysylltiedig gydag adeiladu ffordd osgoi arfaethedig yr A487 Caernarfon i Bontnewydd ..." ac mae'r Awdurdod felly yn ystyried na ddylid newid amod 3 yn unol â a.73(2) (b) o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref.

 

Cofnod:

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

           

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod cais C17/0011/19/MW ( a ganiatawyd ym Mehefin 2017) yn ddarostyngedig i amodau ar gyfer cynigion datblygu oedd yn gysylltiedig gydag adeiladu ffordd osgoi Caernarfon i Bontnewydd. Amlygwyd bod y cais dan sylw yn ceisio, o dan Adran 73 o Ddeddf Cynllunio Gwlad Thref 1990, amrywio un o’r amodau hynny. Eglurwyd bod Amod 3 yn cyfyngu mewn gludo deunydd gwarged o fannau eraill i’r hyn a grëwyd gan brosiect adeiladu’r ffordd osgoi.

 

Eglurwyd bod Adran 73 yn galluogi ymgeisydd i wneud cais i ddatblygu tir heb gydymffurfio gyda'r amodau sy'n atodol i ganiatâd cynllunio blaenorol sy’n bodoli. Dan yr adran yma gall yr Awdurdod Cynllunio Lleol newid neu dynnu amodau, ond ni all newid unrhyw ran arall o'r caniatâd. Mae cais a.73 llwyddiannus yn golygu caniatáu caniatâd cynllunio newydd ac felly mae'r caniatâd gwreiddiol yn parhau yn gyfan.  Wrth benderfynu ar gais a.73, gall yr ACLl osod amodau y tu hwnt i'r rhai a gynigir yn y cais.  Er hynny, dylai'r amodau a osodwyd ond fod yn rhai y gellid fod wedi eu gosod ar y caniatâd gwreiddiol.  Yn flaenorol, y farn oedd na ddylai'r newidiadau a ganiateir olygu 'newid sylfaenol' o'r bwriad a gynigiwyd yn y cais gwreiddiol. Ymhelaethwyd ar y rhesymau pam nad oedd swyddogion yn ystyried fod gwneud y fath newid yn briodol drwy gais Adran 73.

 

Amlygodd y Cyfreithiwr bod yr ymgeisydd wedi rhannu gwybodaeth / opiniwn ychwanegol gyda’r Aelodau a bod yr ymateb swyddogion y Cyngor i’r opiniwn hwnnw wedi ei rannu gyda’r ymgeisydd ym mis Ebrill 2020.

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd  i wrthod y cais

 

c)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan aelodau:

 

·           Pam nad oes cais o’r newydd yn cael ei gyflwyno?

·           Pryder y byddai’n cael effaith ar amserlen cwblhau'r ffordd osgoi

·           Bod angen cyflwyno cais o’r newydd fel bod modd rheoli'r hyn sydd yn cael ei roi yn y twll chwarel

 

ch)  Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chyflwyno cais o’r newydd, nodwyd bod trafodaethau helaeth wedi cymryd lle dros y misoedd diwethaf a bod anghytundeb barn o’r ffordd gywir ymlaen.

 

d)    Mewn ymateb i’r sylw ynglŷn â’r cais o bosib yn atal gwaith o gwblhau'r ffordd osgoi, nodwyd  bod y cais yn ymwneud a llenwi twll chwarel gyda chynnyrch ac ni ddylai amharu ar  amserlen y ffordd osgoi

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rheswm bod y  bwriad yn newid graddau neu natur y datblygiad a gymeradwywyd yn flaenorol i "waith yn gysylltiedig gydag adeiladu ffordd osgoi arfaethedig yr A487 Caernarfon i Bontnewydd ..." ac mae'r Awdurdod felly yn ystyried na ddylid newid amod 3 yn unol â a.73(2) (b) o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref.

 

10.

Cais Rhif C19/1072/11/LL Tir oddi ar Pen Y Ffridd Road, Pen Y Ffridd Road, Penrhosgarnedd, Bangor pdf eicon PDF 511 KB

Datblygiad preswyl o 30 uned (i gynnwys 12 uned fforddiadwy) ynghyd a isadeiledd, llecynnau parcio, mynedfa, llwybrau a llecyn agored.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth A Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

·                     Cyfeirio y cais i gyfnod cnoi cil

·                     Gwrthod y cais am y rhesymau canlynol

 

           Diffyg angen am dai

           Asesiad Ieithyddol yn annigonol

           Materion llifogydd

           Materion halogiad tir

           Materion trafnidiaethcyffordd Ffordd Penrhos ac hefyd Ffordd Penyffridd

           Darpariaeth / cyfraniad annigonol o lecynnau agored

 

Cofnod:

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais  gan egluro bod y  safle wedi ei leoli ym Mhenrhosgarnedd ac yn safle a ddefnyddiwyd yn flaenorol gan Brifysgol Bangor fel canolfan maes garddwriaeth. Yn bresennol, mae’n llecyn o dir segur a diffaith a gordyfiant arno gyda cyn-adeiladwaith y ganolfan maes wedi eu dymchwel ers peth amser. O gwmpas y safle gwelir tai preswyl ar ffurf stad ac mae’r safle oddi fewn i ffin datblygu Bangor.

 

Adroddwyd bod adeiladu tai ar safle o fewn y ffin datblygu yn dderbyniol. Yng nghyd-destun y cais, amlygwyd bod dwysedd arfaethedig y datblygiad tai ychydig yn is na’r disgwyl, ond gan ystyried cyfyngiadau’r safle sy’n cynnwys yr angen i greu corridor bywyd gwyllt, cadw coedlan, darparu llecynnau amwynder agored ynghyd a diogelu ardal ar gyfer draenio tir, ystyriwyd y  byddai darparu 30 uned yn dderbyniol ar gyfer y safle.

 

Amlygwyd bod Polisi TAI1 yn datgan  y bydd tai yn cael ei sicrhau drwy ddynodiadau tai ynghyd â safleoedd ar hap o fewn y ffin datblygu. Gwir nad yw'r tir dan sylw heb ei ddynodi ar gyfer tai, ond mae wedi ei leoli yn llwyr o fewn y ffin datblygu a bod elfen o gydnabyddiaeth o dwf Bangor yn dod drwy safleoedd ar hap. 

 

Nodwyd mai lefel cyflenwad dangosol ar gyfer Bangor dros gyfnod y Cynllun Datblygu Lleol yw 969. Yn unol â ffigyrau mwy diweddar (o ganlyniad i fonitro rheolaidd), sydd yn ystyried unedau wedi eu cwblhau, y nifer sydd yn y banc tir presennol a’r nifer o fewn  y cais, y dangosir capasiti / targed dangosol ar gyfer 10 uned i’r safle. I ddarparu mwy na’r targed dangosol, eglurwyd bod rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno cyfiawnhad sydd yn bodloni’r Cyngor, bod y bwriad yn cyfarch angen cydnabyddedig am dai.  Yn yr achos yma, bydd 12 o unedau arfaethedig yn dai fforddiadwy (sydd yn ganran uwch na gofynion y polisi) ynghyd a 18 uned  i’w gwerthu ar y farchnad agored. Nodwyd bod y datganiad cymysgedd tai yn cyfateb gyda’r angen a bod Uned Strategol Tai'r Cyngor wedi cadarnhau bod y 30 uned ar restr cynlluniau wrth gefn i dderbyn grant Tai Cymunedol Llywodraeth Cymru o ystyried bod datblygiad fel hyn yn flaenoriaeth.

 

Nodwyd bod yr ymgeisydd hefyd wedi nodi bod potensial i rai o’r tai marchnad agored gael eu cynnig fel tai rhent canolradd neu fel cynllun rhannu ecwiti fyddai’n cynyddu’r nifer o achrediad o dai fforddiadwy fyddai’n cael eu cynnig.  Ategwyd bod elfen o sicrwydd bod y bwriad yn cael ei wireddu’r fuan a bod y cynllun yn cyfarch yr angen cydnabyddedig am dai yn yr ardal. Adroddwyd bod y cynllun yn un o ansawdd uchel gyda naws a ffurf stad fyddai’n darparu tai i deuluoedd gyda digon o le gwyrdd o’i cwmpas.

 

Tynnwyd sylw at y prif wrthwynebiadau - pryderon o ychwanegiadau mewn lefelau trafnidiaeth a mynediad, llifogydd a draenio tir a llygredd. Er bod yr Uned Trafnidiaeth yn cydnabod y pryderon, nid oedd ganddynt wrthwynebiad i’r bwriad. Amlygwyd bod materion llifogydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.