Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Rhith-gyfarfod (Ar hyn o bryd nid oes modd i’r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Dyfrig Siencyn, Cyng. Nia Jeffreys, Cyng. Gareth Thomas, Cyng. Cemlyn Williams a Morwena Edwards (Cyfarwyddwr Corfforaethol). 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu

 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 16 MEHEFIN 2020 pdf eicon PDF 322 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2020 fel rhai cywir.

 

6.

STRATEGAETH DDIGIDOL YSGOLION pdf eicon PDF 230 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)       Cymeradwyo’r strategaeth mewn egwyddor

b)    Ein bod yn gofyn i Lywodraethwyr pob ysgol yn unigol i nodi a fyddent yn fodlon tanysgrifio’r gost adnewyddu dyfeisiadau o’u cyllidebau/ cronfeydd ysgolion ac os ddim i nodi pam;

c)    Bod y gwasanaeth yn agor trafodaethau ar fyrder gyda rhanddeiliad perthnasol i fanylu mwy ar sut y bwriedir cynnal y gyfundrefn a sut y bwriedir talu amdano gyda golwg ar gynnwys hynny yn y strategaeth ;

d)    Gan gymryd nad ydym am gael yr holl arian ar gyfer cyflawni’r strategaeth yn Medi, bod y gwasanaeth yn ystyried ac yn gosod allan beth fyddai’r cynllun ar gyfer mewnosod y strategaeth yn raddol;

e)    Bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn ei gyfarfod ar 8 Medi yn nodi lle dan ni wedi cyrraedd gyda hyn oll, gyda golwg ar i ni unai gymeradwyo’r Strategaeth yn derfynol neu i gymeradwyo gosod yr archeb gyntaf.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Garem Jackson.  

 

PENDERFYNIAD

 

a)    Cymeradwyo’r strategaeth mewn egwyddor

b)    Ein bod yn gofyn i Lywodraethwyr pob ysgol yn unigol i nodi a fyddent yn fodlon tanysgrifio’r gost adnewyddu dyfeisiadau o’u cyllidebau/ cronfeydd ysgolion ac os ddim i nodi pam;

c)    Bod y gwasanaeth yn agor trafodaethau ar fyrder gyda rhan ddeiliad perthnasol i fanylu mwy ar sut y bwriedir cynnal y gyfundrefn a sut y bwriedir talu amdano gyda golwg ar gynnwys hynny yn y strategaeth ;

d)    Gan gymryd nad ydym am gael yr holl arian ar gyfer cyflawni’r strategaeth yn Medi, bod y gwasanaeth yn ystyried ac yn gosod allan beth fyddai’r cynllun ar gyfer mewnosod y strategaeth yn raddol;

e)    Bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn ei gyfarfod ar 8 Medi yn nodi lle dan ni wedi cyrraedd gyda hyn oll, gyda golwg ar i ni unai gymeradwyo’r Strategaeth yn derfynol neu i gymeradwyo gosod yr archeb gyntaf;

 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth mewn egwyddor i’r strategaeth. Mynegwyd fod arian ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ei wario ar offer sydd wedi ei gaffael yn genedlaethol. Nodwyd y bydd y buddsoddiad yn cryfhau isadeiledd technoleg gwybodaeth mewn ysgolion er mwyn cyfoethogi profiadau pobl ifanc. Ychwanegwyd fod Covid-19 wedi amlygu gwerth technegol gwybodaeth i gryfhau addysg o ran dysgu cyfunol a bod dysgu o bell wedi bod yn allweddol i gadw cysylltiad yn ystod y cyfnod.

 

Mynegwyd fod y strategaeth sydd wedi ei lunio yn un cyffroes sydd yn amlygu llwybr clir. Esboniwyd fod angen gwneud cais am arian cychwynnol ac er mwyn gwneud hyn fod angen i’r Cabinet mabwysiadu mewn egwyddor i symud ymlaen a’r gwaith. Ychwanegwyd y bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn dilyn trafodaethau gyda rhan ddeiliaid.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Nodwyd fod y Llywodraeth yn ariannu y rhan gyntaf y strategaeth o brynu'r cyfarpar technoleg gwybodaeth ond fod angen dod o hyd i’r arian er mwyn diweddaru a chefnogi’r dyfeisiadau.

¾  Mynegwyd fod y strategaeth a bwriad gwych ond fod yr ymrwymiad yn sylweddol. Holwyd beth yw’r safon mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio ei gyrraedd a beth mae awdurdodau eraill yn ei wneud. Holwyd os oes opsiynau eraill a phwysleisiwyd pwysigrwydd o gael ymgynghoriad ac ysgolion. Nodwyd nad yw’r cyfarpar sydd ar gael yn ddigon da a bod hyn i’w weld ledled Cymru. Amlygwyd y safonau sydd yn ddisgwyliedig sydd yn cynnwys safonau diogelwch a rheoli dyfeisiadau. Pwysleisiwyd fod Gwynedd yn awyddus i roi dyfais i bob plentyn yn yr ysgol uwchradd fel bod modd iddynt gael ei defnyddio ymhob gwers gan roi’r cyfle i bob plentyn barhau gyda’r dysgu adref yn ogystal.

¾  Amlygwyd fod diweddaru'r cyfarpar am fod oddeutu £2m a bod y strategaeth yn nodi cyfraniadau gan ysgolion sydd yn ddigon teg, ond pwysleisiwyd yr angen i gael trafodaethau gyda’r ysgolion. Nodwyd fod trafodaethau wedi cychwyn a'i bod wedi amlygu fod y symiau yn rhy uchel i rai ysgolion gan ei  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Gwern ap Rhisiart a Huw Ynyr

7.

PROSIECT PROFI OLRHAIN DIOGELU pdf eicon PDF 254 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

¾    Ymrwymo i Gytundeb Rhwng Awdurdodau (CRA) gydag awdurdodau lleol eraill y Gogledd i reoli’r gwaith o recriwtio a rheoli staff ychwanegol i weithredu’r prosiect Profi Olrhain Diogelu;

¾     Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth Amgylchedd mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid a Phennaeth Cyfreithiol i gytuno dogfen derfynol a chwblhau y gytundeb.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith 

 

PENDERFYNIAD

 

¾  Ymrwymo i Gytundeb Rhwng Awdurdodau (CRA) gydag awdurdodau lleol eraill y Gogledd i reoli’r gwaith o recriwtio a rheoli staff ychwanegol i weithredu’r prosiect Profi Olrhain Diogelu;

¾  Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth Amgylchedd mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid a Phennaeth Cyfreithiol i gytuno dogfen derfynol a chwblhau'r cytundeb.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod nifer o drafodaethau wedi ei cynnal am yr eitem hwn. Amlygwyd y penderfyniad gan nodi y bydd yn ymrwymo’r Cyngor i gytundeb a fydd yn rheoli’r gwaith ac y recriwtio y gwaith i Brofi Olrhain Diogelu. Tynnwyd sylw at sylwadau’r swyddogion statudol oedd i’w gweld yn yr adroddiad.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth                                                                   

¾  Mynegwyd cefnogaeth i’r cynllun gan nodi i fod yn amlygu cydweithio ar draws y gogledd ac yn sicrhau nad yw’r awdurdodau yn ceisio cystadlu am yr un staff.

¾     Nodwyd ei bod yn falch fod trefniadau pendant yn ei lle ond gan fod  recriwtio ac adnoddau dynol yn cael ei wneud yn Sir Fflint gofynnwyd os oes modd sicrhau fod safonau iaith yn cael ei gadw ynghyd ag oriau o fewn y cytundeb. Pwysleisiwyd y bydd y Gymraeg yn cael ei flaenoriaethu pan yn creu rhestr fer yng Ngwynedd, a nodwyd fod yr oriau o fewn y cytundeb yn cyd fynd a’r gwaith – gall cyfnodau fod yn brysur ac yn dawel.  Ymhelaethwyd gan nodi nad yw’n amlwg faint o staff fydd ei angen

Awdur: Dafydd Wyn Williams