skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu

 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 8 A 15 MEDI 2020 pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 a 15 Medi 2020 fel rhai cywir.

 

6.

YSGOL NEWYDD YNG NGHRICIETH pdf eicon PDF 503 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Rhoddwyd caniatâd i gynnal ymgynghoriad statudol, yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Treferthyr i 150 ac adleoli’r ysgol i safle amgen, cyfeirir ato fel safle A497, ar 1 Medi 2023, gan adrodd yn ôl i Gabinet yn dilyn cwblhau’r ymgynghoriad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Cemlyn Williams   

 

PENDERFYNIAD

 

Rhoddwyd caniatâd i gynnal ymgynghoriad statudol, yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Treferthyr i 150 ac adleoli’r ysgol i safle amgen, cyfeirir ato fel safle A497, ar 1 Medi 2023, gan adrodd yn ôl i Gabinet yn dilyn cwblhau’r ymgynghoriad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Cynllun Strategol y Cyngor yn amlygu fod angen i ddisgyblion Gwynedd dderbyn addysg o’r radd flaenaf ac o fewn y lleoliadau gorau posib. Amlygwyd fod Ysgol Treferthyr bellach yn adeilad anaddas ac y buasai yn aneconomaidd i barhau yn yr un adeilad. O ganlyniad i hyn, ychwanegwyd fod y penderfyniad yn gofyn i adleoli’r ysgol mewn safle amgen.

 

Nododd y Pennaeth Adran ei bod yn gyffroes i gyflwyno’r argymhelliad i fuddsoddi yng Nghricieth  a bod y Cyngor, drwy’r cynllun hwn, yn manteisio ar arian Band B o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y Llywodraeth.

 

Derbyniwyd cefndir yr adroddiad gan y Swyddog Addysg dros Dwyfor a Meirionydd gan dynnu sylw ar y mater fod Ysgol Llanystumdwy bellach wedi tynnu allan o’r trafodaethau. Mynegwyd fod trafodaeth wedi ei gynnal ar leoliad addas i’r ysgol a thynnwyd sylw at y safle sydd yn cael ei ffafrio. Amlygwyd fod gofyn i gynyddu capasiti’r ysgol i 150 ac mae hynny yn dilyn gwersi a ddysgwyd yn dilyn agor ysgolion newydd sef fod nifer y plant yn dueddol o godi ym mlynyddoedd cyntaf ysgol newydd.

 

O ran y gyllideb, nodwyd fod y cais gwreiddiol am £4.97m ond rhagwelir y bydd y cais yn codi i £5.4m gan fod angen am ofod ychwanegol ar gyfer yr Uned ABC ac anhwylder iaith a fydd yn cynyddu cyllideb y prosiect.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Croesawyd yr adroddiad gan nodi fod y cynllun yn un cyffroes sydd a’i fod yn newyddion cadarnhaol i’r dyfodol.

¾  Amlygwyd ychydig o heriau o ran y lleoliad i fywyd gwyllt a phwysleisiwyd yr angen i weithredu i gadw’r bywyd gwyllt yno. Pwysleisiwyd yn ogystal y nifer isel o blant sy’n byw o fewn ardal yr ysgol newydd a holwyd am sut y bydd y plant yn teithio i’r ysgol. Mynegwyd y bydd yr adran yn comisiynu gwaith pellach i edrych i mewn i lwybrau amgen i’r ysgol.

¾     Holwyd o ran yr hen safle os bydd yn cael ei gynnig i’r gymuned. Mynegwyd y bydd edrych i weld os bydd gan y Cyngor ddefnydd i’r tir cyn ei gynnig i’r gymuned. g it to the community. 

Awdur: Garem Jackson

7.

COD GWIRFODDOL AR GYFER RHEOLAETH O ARWYDDION AR OSOD YM MANGOR pdf eicon PDF 105 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad sydd yn cadarnhau canlyniad y gwaith monitro a llwyddiant y Cod Gwirfoddol ar gyfer rheolaeth arwyddion ar osod ym Mangor, a fabwysiadwyd gan y Cabinet ar y 16 o Hydref 2018.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith. 

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad sydd yn cadarnhau canlyniad y gwaith monitro a llwyddiant y Cod Gwirfoddol ar gyfer rheolaeth arwyddion ar osod ym Mangor, a fabwysiadwyd gan y Cabinet ar y 16 o Hydref 2018.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn anodd credu fod dwy flynedd wedi mynd heibio ers cyhoeddi’r Cod Gwirfoddol mewn ardaloedd ym Mangor. Mynegwyd fod yr adroddiad yn dilyn cyfnod monitro.  Mynegwyd fod y cynllun wedi bod yn llwyddiant a bod yr adran yn parhau i ymateb i rai cwmnïau.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Diolchwyd i’r adran am eu gwaith a diolchwyd i gwmnïau Bangor am weithredu yn unol â’r Cod Gwirfoddol. Holwyd yn yr hir dymor gyda chwmnïau newydd yn cael ei greu sut mae’r adran yn ymateb i’r cwmnïau rhain. Nodwyd fel arfer unwaith mae’r adran yn ymwybodol o’r cwmni newydd maent yn codi ymwybyddiaeth o’r cod ac yn cydweithio gyda’r cwmnïau yma.

¾    Diolchwyd i’r cwmnïau am fod mor barod i gyd-weithio a phwysleisiwyd fod    hyn yn dangos be all ddigwydd os sgwrs yn cael ei gynnal a chwmnïau

Awdur: Gareth Jones

8.

COVID-19 - PARATOADAU AR GYFER AIL DON pdf eicon PDF 166 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Penderfyniad:

Derbyn y diweddariad ar y trefniadau sydd mewn lle i baratoi ar gyfer ail don posibl Covid-19.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dilwyn Williams

 

PENDERFYNIAD

Derbyn y diweddariad ar y trefniadau sydd mewn lle i baratoi ar gyfer ail don posibl Covid-19.

 

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y sefyllfa Covid yn un sydd yn newid yn sydyn.  Nodwyd fod yr adroddiad wedi dyddio ers iddo gael ei greu bron i bythefnos yn ôl gyda nifer achosion yng Ngwynedd dros yr wythnos diwethaf bellach wedi codi i 114.

Nodwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi darlun o beth fydd y Cyngor yn ac wedi ei wneud er mwyn paratoi ar gyfer yr ail don. Amlygwyd fod y Llywodraeth wedi creu'r senario gwaethaf rhesymol sydd wedi bod yn sail cynllunio i’r gwaethaf a all ddigwydd.

O ran trefniadau Gwynedd mynegwyd fod yr adrannau wedi nodi fod y gwersi a ddysgwyd yn ystod y don gyntaf bellach wedi ymgorffori yng ngwaith yn yr adrannau. Mynegwyd fod staff yn parhau i weithio o’i cartrefi sydd yn lleihau risg o fewn y Cyngor. Amlygwyd fod llai o drafferthion o ran offer gwarchod personol gan fod cyflenwad digonol gan y Cyngor. Pwysleisiwyd un pryder yw’r potensial o weld cyfuniad o haint yn gafael yn ddrwg a all olygu mwy o alw ar wasanaethau a staff adref o’r gwaith yn sâl. Nodwyd fod yr adran Oedolion wedi creu cynllun parhad gwasanaeth a fydd yn cael ei drafod yr adroddiad nesaf. Ychwanegwyd fod trefniadau i adfer Tîm Covid os angen yn codi. 

Nodwyd fod Tîm Profi, Olrhain a Diogelu wedi bod yn hynod weithgar ond fod niferoedd wedi bod yn isel dros fis Awst. Ychwanegwyd fod y niferoedd yn codi yn raddol. Mynegwyd o ran Grŵp Atal a Gwyliadwriaeth eu bod bellach yn cyfarfod bron yn ddyddiol i gadw golwg ar y sefyllfa. Ategwyd fod y Grŵp hwn yn gyfuniad o’r Cyngor a phartneriaid fel y Brifysgol sydd yn trafod ardaloedd penodol. Nodwyd fod y grŵp hwn bod yn ganolog i drafodaeth a Llywodraeth Cymru am achosion Bangor ynghyd a’r penderfyniad o greu Ardal gwarchod Iechyd newydd yn dilyn nifer uchel o achosion.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Mynegwyd pryderon lleol am y rheoliadau ym Mangor o ran mannau gwyrdd i drigolion gael mynediad iddynt, yn ogystal holwyd os oedd y drefn Olrhain a Diogelu yn un peth i fyfyrwyr. Mynegwyd fod niferoedd wedi codi o ganlyniad  i  nifer uchel o fyfyrwyr gyda’r haint gan ychwanegu fod y Cyngor yn gweithio yn agos gyda’r Brifysgol, ychwanegwyd fod y drefn Profi, Olrhain a Diogelu'r un peth i fyfyrwyr ac i drigolion.

¾  Mynegwyd angen i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i roi cefnogaeth ariannol i fusnesau Bangor. Pwysleisiwyd yn ogystal yr angen i bawb gadw at y rheoliadau er mwyn dod yn ôl i’r normal newydd yn gynt.

¾  Nodwyd fod paratoadau ar gyfer y gaeaf yn anodd gan fod staff wedi bod yn gweithio yn galed dros y misoedd diwethaf. Ychwanegwyd fod y cyfnod wedi amlygu fod staff yn fodlon mynd y filltir ychwanegol. Diolchwyd i staff am eu holl waith.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

Awdur: Dilwyn Williams

9.

CYNLLUN GWEITHLU GWASANAETHAU GOFAL OEDOLION pdf eicon PDF 246 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Penderfyniad:

¾    Cymeradwyo i ddyrannu hyd at £375,000 o adnodd un-tro (wedi’i ddadansoddi yn y tabl o dan rhan 4 o’r adroddiad) i gyllideb 2020/21 yr Adran Oedolion, ynghyd â £390,000 pellach o adnodd un-tro i gyllideb 2021/22, gydag union swm y dyraniadau i’w adolygu ar ddiwedd y ddwy flynedd ariannol berthnasol.

¾    I gefnogi’r bwriad i wario’r gyllideb ychwanegol uchod ar gost cyflogi gweithlu y tu hwnt i lefelau cyllidebau staffio arferol, er mwyn ymateb i gynnydd anochel mewn galw am wasanaeth gofal cymdeithasol i ddiogelu pobl Gwynedd, a llenwi bylchau staffio sy’n ymddangos o ganlyniad i Covid19.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNIAD

·         Cymeradwyo i ddyrannu hyd at £375,000 o adnodd un-tro (wedi’i ddadansoddi yn y tabl o dan rhan 4 o’r adroddiad) i gyllideb 2020/21 yr Adran Oedolion, ynghyd â £390,000 pellach o adnodd un-tro i gyllideb 2021/22, gydag union swm y dyraniadau i’w adolygu ar ddiwedd y ddwy flynedd ariannol berthnasol.

·         I gefnogi’r bwriad i wario’r gyllideb ychwanegol uchod ar gost cyflogi gweithlu y tu hwnt i lefelau cyllidebau staffio arferol, er mwyn ymateb i gynnydd anochel mewn galw am wasanaeth gofal cymdeithasol i ddiogelu pobl Gwynedd, a llenwi bylchau staffio sy’n ymddangos o ganlyniad i Covid19.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y cais ar gyfer arian un tro o £375,000 am 2020/21 ac £390,000 ar gyfer 2021/22. Mynegwyd fod yr adroddiad blaenorol wedi rhoi cefndir i’r angen am yr arian a bod pawb yn ymwybodol o’r heriau sylweddol a fydd yn wynebu’r adran Oedolion. Nodwyd fod yr adroddiad yn ymgais i edrych ar y sefyllfa waethaf posib. Ategwyd yr angen i edrych ar hyn cyn cyfnod y gaeaf gan y bydd y sefyllfa yn  amharu ar lesiant staff gyda staff heb gael cyfle i gymryd gwyliau, bydd aelodau o staff yn sâl ac y bydd cynnydd yn y galw.

Ychwanegodd Arweinydd Rhaglen Tîm Trawsffurfio Cymunedol Iechyd a Gofal fod yr adran wedi paratoi Cynllun Gweithlu a oedd ddarn o waith a oedd yn edrych ar feysydd megis beth sydd wedi  digwydd, lefelau salwch staff a'r galw am wasanaeth. Nodwyd fod y darn o waith wedi defnyddio'r modelu gwaith cenedlaethol gorau posib i geisio rhagamcanu niferoedd covid a rhoi syniad i weld be all daro'r adran yn ystod yr ail don. Amlygwyd fod yr adran wedi ymdopi yn rhyfeddol efo staff yn fodlon mynd y filltir ychwanegol a pŵl o weithlu dros dro wedi ei sefydlu. Nodwyd bellach fod yr adran mewn lle ychydig yn wahanol gyda  staff bellach yn blino a heb gael cyfle i gymryd gwyliau ynghyd a dechrau edrych i ail agor rhai gwasanaethau. Ategwyd yn ogystal fod arwyddion fod cynnydd am fod yn y galw am ofal wrth i bobl adref yr ysbyty gyda sgil effeithiau Covid.

Mynegwyd fod yr adran wedi rhagamcanu faint staff a all fod o’r gwaith yn sâl a bod yr adran wedi cynllunio yn rhesymol ar sail absenoldebau rhwng 1 a 2%. Golygai hyn fod bydd angen adnabod tua £60,000 er mwyn medru ôl-lenwi absenoldebau oherwydd salwch. Nodwyd oherwydd bod staff heb fod yn cymryd eu gwyliau fod faint o wyliau sydd heb eu cymryd cyfwerth a 18 person yn gweithio 20 awr yr wythnos tad ddiwedd y flwyddyn ariannol. Felly y bydd angen adnabod £135,000 o arian er mwyn ôl-lenwi’r staff i gymryd eu gwyliau.

Yn ogystal â hyn nodwyd y bydd cynnydd yn y galw a bod gan y Cyngor gynllun pendant ar gyfer ymateb i gynnydd yn y galw gydag agor gwelyau ychwanegol ac i agor canolfannau gofal yn Glan Llyn a Phlas Menai. Nodwyd er mwyn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

Awdur: Meilys Smith

10.

TROSOLWG ARBEDION 2020/21: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION pdf eicon PDF 346 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

¾    Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2020/21, 2019/20 a blynyddoedd blaenorol.

¾     Cymeradwywyd y cynlluniau amgen a fanylir yn Rhan 6 ac Atodiad 5 i ddisodli cynlluniau hanesyddol nad ydynt yn gwireddu.

¾     Nodwyd bod effaith Covid19 wedi cyfrannu at lithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth ddilyffethair i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng, a hynny wedi golygu na fu modd parhau efo’r trefniadau herio perfformiad ac arbedion dros gyfnod yr argyfwng.

¾     Cefnogwyd bwriad y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid i drefnu i gyfarfod pob Aelod Cabinet gyda’u Penaethiaid Adran, i drafod sut bydd modd ail afael yn y drefn o gyflawni’r arbedion arfaethedig, fel bydd modd i’r Cyngor symud ymlaen efo cyfran o’r rhaglen arbedion er gwaethaf yr argyfwng. 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas 

 

PENDERFYNIAD

·         Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2020/21, 2019/20 a blynyddoedd blaenorol.

·         Cymeradwywyd y cynlluniau amgen a fanylir yn Rhan 6 ac Atodiad 5 i ddisodli cynlluniau hanesyddol nad ydynt yn gwireddu.

·         Nodwyd bod effaith Covid19 wedi cyfrannu at lithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth ddilyffethair i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng, a hynny wedi golygu na fu modd parhau efo’r trefniadau herio perfformiad ac arbedion dros gyfnod yr argyfwng.

·         Cefnogwyd bwriad y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid i drefnu i gyfarfod pob Aelod Cabinet gyda’u Penaethiaid Adran, i drafod sut bydd modd ail afael yn y drefn o gyflawni’r arbedion arfaethedig, fel bydd modd i’r Cyngor symud ymlaen efo cyfran o’r rhaglen arbedion er gwaethaf yr argyfwng. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a oedd yn crynhoi sefyllfa arbedion y Cyngor. Mynegwyd ers 2015/16 fod y Cyngor wedi cymeradwyo £36m o arbedion. Nodwyd eleni fod adrannau wedi canolbwyntio ar ymateb i’r argyfwng ac mae effaith Covid19 wedi cyfrannu ar lithriad yn y rhaglen arbedion. Yn ogystal nodwyd fod blaenoriaeth wedi bod i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd wedi golygu na fu modd parhau a threfniadau herio perfformiad nac arbedion dros y cyfnod.

 

Mynegwyd fod gwireddu arbedion yn mynd yn anodd gydag arwyddion pellach fod trafferthion cyflawni arbedion mewn rhai meysydd. Tynnwyd sylw at atodiad 1 sydd yn dangos fod 98% o arbedion 2015/16 i 2018/19 bellach wedi ei gwireddu. Amlygwyd y cynlluniau sydd a’r risg mwyaf a oedd yn cynnwys cynllun Dechrau i’r Diwedd gan yr Adran Blant a Chefnogi Teuluoedd.

 

Nodwyd fod 76% o arbedion 2019/20 bellach wedi ei gwireddu a nodwyd y prif risgiau cyflawni ar gynlluniau yn yr Adran Oedolion, Amgylchedd ynghyd a’r Adran Blant. Wrth edrych ar eleni, mynegwyd fod 16% wedi ei gwireddu ar 34% ar drac i gyflawni’n amserol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Pwysleisiwyd fod rhai cynlluniau gan yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol a’r Adran Tai ac Eiddo yn cydnabod nad oes modd i rai cynlluniau gael ei gwireddu a bod cynlluniau amgen yn cael ei cynnig.

 

Mynegwyd fod gwireddu dros £30m o arbedion ers Ebrill 2015 wedi bod yn heriol. Ychwanegwyd fod yr adran eisoes wedi rhagweld problem gyda gwireddu arbedion fod darpariaeth gorfforaethol i’r pwrpas yng nghyllid 2020/21 i leddfu’r sefyllfa. Mynegwyd fod angen bellach ail afael yn y drefn o gyflawni arbedion er gwaethaf yr argyfwng.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Mynegwyd nad oedd yn sioc i neb fod yr adran oedolion ddim am gyflawni arbedion eleni. Mynegwyd fod arwyddion toriadau dros ddeg mlynedd bellach yn cael ei gweld yn glir.

¾  Nodwyd fod cynlluniau amgen i’w gweld i arbediad yr adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol ond fod yr adran yn asesu’r ffordd ymlaen. Mynegwyd fod yr arbediad yr un peth ond fod y swm am fod yn wahanol.

¾  Mynegwyd ei bod yn anodd coelio fod toriadau yn cael ei gwneud yng nghanol pandemig  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

Awdur: Ffion Madog Evans

11.

CYLLIDEB REFENIW 2020/21 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST pdf eicon PDF 86 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

¾    Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2020 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.

¾     Nodwyd effaith ariannol Covid19, sydd yn gyfuniad o gostau ychwanegol, colledion incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth ddilyffethair i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng, a hynny wedi golygu na fu modd parhau efo’r trefniadau herio perfformiad ac arbedion dros gyfnod yr argyfwng.

¾     Cefnogwyd bwriad y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid i drefnu i gyfarfod pob Aelod Cabinet gyda’u Penaethiaid Adran, i drafod sut bydd modd ail afael yn y drefn o gyflawni’r arbedion arfaethedig, fel bydd modd i’r Cyngor symud ymlaen efo cyfran o’r rhaglen arbedion er gwaethaf yr argyfwng.

¾     Nodwyd fod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant eleni, gan fod angen egluro manylder cymhleth yn y darlun yma yng ngofal Oedolion, mae'r Prif Weithredwr eisoes wedi comisiynu gwaith er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r materion a rhaglen glir i ymateb,

¾     Nodwyd fod Tasglu Cyllideb Plant wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr i roi sylw i faterion ariannol dyrys yr Adran Plant a Theuluoedd fel bod modd mynd at wraidd gorwariant yr Adran, gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiad gerbron y Cabinet fydd yn manylu ar y cynllun ymateb.

¾     Cymeradwywyd yr argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn Atodiad 2).

·         Ar gyllidebau Corfforaethol, fod:

¾     (£250k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei drosglwyddo i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf. - tanwariant net o (£1,127k) ar gyllidebau Corfforaethol yn mynd i falansau cyffredinol y Cyngor i gynorthwyo i wynebu’r her ariannol sydd yn wynebu’r Cyngor yn arbennig felly yn sgil argyfwng Covid19.

¾     Fod derbyniadau grant ar gyfer digolledu gwariant ychwanegol a cholledion incwm cysylltiedig â’r argyfwng Covid19 gan y Llywodraeth yn cael ei ddyrannu i’r adrannau perthnasol yn unol â’r hyn a nodir yn Atodiad 1.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas 

 

PENDERFYNIAD

·         Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2020 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.

·         Nodwyd effaith ariannol Covid19, sydd yn gyfuniad o gostau ychwanegol, colledion incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth ddilyffethair i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng, a hynny wedi golygu na fu modd parhau efo’r trefniadau herio perfformiad ac arbedion dros gyfnod yr argyfwng.

·         Cefnogwyd bwriad y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid i drefnu i gyfarfod pob Aelod Cabinet gyda’u Penaethiaid Adran, i drafod sut bydd modd ail afael yn y drefn o gyflawni’r arbedion arfaethedig, fel bydd modd i’r Cyngor symud ymlaen efo cyfran o’r rhaglen arbedion er gwaethaf yr argyfwng.

·         Nodwyd fod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant eleni, gan fod angen egluro manylder cymhleth yn y darlun yma yng ngofal Oedolion, mae’r Prif Weithredwr eisoes wedi comisiynu gwaith er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r materion a rhaglen glir i ymateb,

·         Nodwyd fod Tasglu Cyllideb Plant wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr i roi sylw i faterion ariannol dyrys yr Adran Plant a Theuluoedd fel bod modd mynd at wraidd gorwariant yr Adran, gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiad gerbron y Cabinet fydd yn manylu ar y cynllun ymateb.

·         Cymeradwywyd yr argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn Atodiad 2).

o   Ar gyllidebau Corfforaethol, fod:

¾    (£250k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei drosglwyddo i gronfa ariannu’r rhaglen gyfalaf.

¾    tanwariant net o (£1,127k) ar gyllidebau Corfforaethol yn mynd i falansau cyffredinol y Cyngor i gynorthwyo i wynebu’r her ariannol sydd yn wynebu’r Cyngor yn arbennig felly yn sgil argyfwng Covid19.

·         Fod derbyniadau grant ar gyfer digolledu gwariant ychwanegol a cholledion incwm cysylltiedig â’r argyfwng Covid19 gan y Llywodraeth yn cael ei ddyrannu i’r adrannau perthnasol yn unol â’r hyn a nodir yn Atodiad 1.

 

 

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn amlygu ar adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw y Cyngor a rhagolygon ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mynegwyd fod y ffigyrau’r adolygiad diwedd Awst yn amlygu effaith ariannol Covid ar y ffigyrau sydd yn gyfuniad o gostau ychwanegol, colledion incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion.

 

Nodwyd fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu cronfa caledi i ddigolledu costau a cholledion incwm Awdurdodau Lleol. Mynegwyd yng Ngwynedd fod ceisiadau dros £4.5miliwn wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i ddigolledu Cyngor am y cyfnod hyd at ddiwedd Awst, gyda £3.6miliwn eisoes wedi ei dderbyn. Nodwyd o ran colled incwm, roedd cais am chwarter cyntaf y flwyddyn bron yn £3.7miliwn gyda £3.3 eisoes wedi ei dderbyn.

 

Pwysleisiwyd fod pwysau ar adrannau yn amlwg eleni a bod problemau gwireddu arbedion fwy fwy amlwg eleni ac yn ffactor sydd yn cyfannu at y gorwariant a adroddir yn y meysydd megis Plant, Oedolion a Phriffyrdd a Bwrdeistrefol. Amlygwyd y prif faterion yn rhai adrannau fel yr ardrawiad mae Covid19 wedi cael ar  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

Awdur: Ffion Madog Evans

12.

RHAGLEN CYFALAF 2020/21 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST pdf eicon PDF 60 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Penderfyniad:

¾    Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst (sefyllfa 31 Awst 2020) o’r rhaglen gyfalaf.

¾     Cymeradwywyd i ariannu addasiadau a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

·         defnydd o amryw ffynonellau i ariannu gwir lithriadau gwerth cyfanswm o £3,646,000 o 2019/20,

·         lleihad o £558,000 mewn defnydd o fenthyca,

·         cynnydd o £7,105,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau,

·         dim newid mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf,

·         cynnydd o £53,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw,

·         dim newid mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf, a

·         cynnydd o £283,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas 

 

PENDERFYNIAD

¾    Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst (sefyllfa 31 Awst 2020) o’r rhaglen gyfalaf.

¾    Cymeradwywyd i ariannu addasiadau a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

·         defnydd o amryw ffynonellau i ariannu gwir lithriadau gwerth cyfanswm o £3,646,000 o 2019/20,

·         lleihad o £558,000 mewn defnydd o fenthyca,

·         cynnydd o £7,105,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau,

·         dim newid mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf,

·         cynnydd o £53,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw,

·         dim newid mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf, a

·         cynnydd o £283,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai prif ddiben yr adroddiad yw cyflwyno’r rhaglen gyfalaf ac i gymeradwyo’r ffynonellau ariannu perthnasol. Ategwyd fod effaith Covid i’w gweld ar y rhaglen cyfalaf gyda dim ond 13% o’r gyllideb wedi ei wario hyd ddiwedd Awst.

 

Pwysleisiwyd fod y Cyngor a chynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi tua £44m eleni gyda £17m wedi ei ariannu drwy ddenu grantiau penodol. Mynegwyd fod £9.4miliwn yn cael ei ragweld i lithio eleni i’r flwyddyn ganlynon ond na fydd unrhyw golled ariannol. Nodwyd y grantiau ychwanegol y llwyddwyd i’r ddenu a oedd yn cynnwys £2.3m mewn Grant Digartrefedd Gwedd II, £2.2m Grant Ysgolion Ganrif 21 a £1.3m Grantiau o’r Gronfa Trafnidiaeth Leol a’r Gronfa Teithio Llesol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Tynnwyd sylw at y Grant Ysgolion gan fynegi fod yr arian hwn at adnewyddu un o ysgolion uwchradd y sir. Pwysleisiwyd pwysigrwydd prosiectau o’r math yma i sicrhau cefnogaeth i bobl ifanc.

¾  Amlygwyd fod £100m o arian cyfalaf dros y 3 blynedd ariannol 2020/21 – 2022/23 yn sylweddol ac mae prosiectau yn llithro i’w disgwyl eleni. Nodwyd balchder fod cymaint o fuddsoddiad o fewn y sir.

 

Awdur: Ffion Madog Evans

13.

STRATEGAETH CYLLIDEB 2021-22 pdf eicon PDF 47 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y drefn ac amserlen llunio Cyllideb 2021/22, wrth nodi fod cynllunio ariannol yn hynod heriol, ac felly os bydd bwlch cyllido i fantoli cyllideb 2021/22, bydd y Cyngor yn defnyddio cyllidebau a chronfeydd wrth gefn i liniaru colledion adnoddau yn y tymor byr.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas 

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd y drefn ac amserlen llunio Cyllideb 2021/22, wrth nodi fod cynllunio ariannol yn hynod heriol, ac felly os bydd bwlch cyllido i fantoli cyllideb 2021/22, bydd y Cyngor yn defnyddio cyllidebau a chronfeydd wrth gefn i liniaru colledion adnoddau yn y tymor byr.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn amlinellu trefnu llunio cyllideb 2021/22 yng nghyd-destun anghyffredin eleni. Mynegwyd fod yr adran ar hyn o bryd yn adnabod anghenion gwario 2021/22 fel arfer ac y bydd bidiau am adnoddau ychwanegol yn dod ger bron y Cabinet cyn bo hir.

 

Ers rhyddhau’r’ rhaglen mynegwyd ei bod wedi dod yn glir y bydd y Llywodraeth ddim yn cyhoeddi ‘Cyllideb’ hydrefol ond y bydd y Trysorlys yn cynnal Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr un flwyddyn. Nodwyd fod y Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi setliad drafft awdurdodau lleol yn Rhagfyr, ar setliad terfynol ym mis Mawrth. Ategwyd fod yr amserlen hon yn heriol i awdurdodau lleol ac y bydd cyfnod estynedig o ansicrwydd ariannol. Er hyn, mynegwyd y bydd y Cyngor yn cychwyn o sylfaen gyllidol gymharol gadarn.

 

Amlinellwyd y rhestr ‘dwsin dieflig’ o faterion ariannol ansicr mae’r Cyngor yn ei wynebu a oedd yn cynnwys effaith Covid, ardrawiad Brexit a thueddiad chwyddiant prisiau. Mynegwyd fod y cynllunio ariannol am fod yn hynod heriol gan ymhelaethu y gall y bwlch cyllideb fod hyd at £8m, er hyn y dylai sylfaen gadarn Gwynedd ganiatáu i ni ‘bontio’ yn y tymor byr.

 

Argymhellwyd y bydd y Cyngor yn awyddus i osgoi ystyriaeth ddiangen o restrau arbedon a thoriadau yn ystod ail don o’r pandemig ac os bydd bwlch cyllido i fantoli cyllideb 2021/22 am y tro. Argymhellwyd i’r Cyngor ystyried defnyddio cyllidebau a chronfeydd wrth gefn i liniaru colledion adnoddau ac i gynyddu’r Dreth Cyngor 3.5%.

 

Nodwyd yn y tymor hir y bydd angen ailgyflenwi’r cronfeydd wrth gefn fel eu bod ar gael i’r dyfodol. Mynegwyd pan fydd llai o ansicrwydd bydd modd sefydlu cynlluniau i’r tymor canolig. Amlygwyd amserlenni adroddiadau i’r Cabinet gan nodi y bydd cyfres o seminarau ymgynghori ag aelodau am gael eu cynnal ym mis Ionawr yn rhithiol. Amlinellwyd yr amserlen i osod y gyllideb.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Mynegwyd ei bod yn gyfnod ansicr i gyllidebu ar gyfer y dyfodol.

¾  Amlygwyd pwysigrwydd seminarau Ionawr i’r aelodau, gan ei fod yn gyfle i aelodau roi eu barn ar y gyllideb.

¾  Nodwyd fod y Cyngor mewn sefyllfa cymharol gryf, oherwydd ei sylfaen gadarn, i brynu amser.

¾  Diolchwyd i’r tîm cyllid am eu gwaith.

 

Awdur: Ffion Madog Evans

14.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod  yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei bod yn debygol y datgelir    gwybodaeth eithredig fel y’i diffinir ym Mharagraff 12 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972-  Gwybodaeth ynglŷn â’g unigolyn penodol

 

Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolyn  penodol sydd â hawl i breifatrwydd yn ystod trefn benodi. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma ar y pwynt yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

 

 

Cofnod:

Penderfynwyd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Mharagraff 12 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Gwybodaeth ynglŷn a unigolion penodol.

 

Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolyn  penodol sydd â hawl i breifatrwydd yn ystod trefn benodi. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma ar y pwynt yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

15.

PENODI UWCH GRWNER GWEITHREDOL

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Penderfyniad:

 

1)    Awdurdodi’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol yn ddarostyngedig i gadarnhad y Prif Grwner â’r  Arglwydd Ganghellor i bennu amodau ac i benodi  Kate Sutherland, Crwner Cynorthwyol presennol Ardal Gogledd Orllewin Cymru i weithredu fel Uwch Grwner Gweithredol  hyd nes y bydd yr awdurdod wedi cyfarch y cwestiwn o uno ardaloedd ac y bydd Uwch Grwner parhaol wedi ei benodi/phenodi.

2)    Awdurdodi’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i gynnal adolygiad yn  ystyried priodoldeb uno ardal Crwner Gogledd Orllewin Cymru gydag ardaloedd eraill gan gynnwys cychwyn trafodaethau gyda Chynghorau Gogledd Cymru ynghyd ag unrhyw fudd-ddeiliaid perthnasol eraill, y Prif Grwner a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, gan bwysleisio pwysigrwydd cael Uwch Grwner sydd yn gallu cynnal gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a disgwyl adroddiad yn ôl ar y canfyddiadau a’r ffordd ymlaen.   

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys 

 

PENDERFYNIAD

 

1.    Awdurdodi’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol yn ddarostyngedig i gadarnhad y Prif Grwner â’r  Arglwydd Ganghellor i bennu amodau ac i benodi  Kate Sutherland, Crwner Cynorthwyol presennol Ardal Gogledd Orllewin Cymru i weithredu fel Uwch Grwner Gweithredol  hyd nes y bydd yr awdurdod wedi cyfarch y cwestiwn o uno ardaloedd ac y bydd Uwch Grwner parhaol wedi ei benodi/phenodi.

2.    Awdurdodi’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i gynnal adolygiad yn  ystyried priodoldeb uno ardal Crwner Gogledd Orllewin Cymru gydag ardaloedd eraill gan gynnwys cychwyn trafodaethau gyda Chynghorau Gogledd Cymru ynghyd ag unrhyw fudd-ddeiliaid perthnasol eraill, y Prif Grwner a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, gan bwysleisio pwysigrwydd cael Uwch Grwner sydd yn gallu cynnal gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a disgwyl adroddiad yn ôl ar y canfyddiadau a’r ffordd ymlaen.   

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr adroddiad.

 

 

Awdur: Iwan Evans