skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru 01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Caderiydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2020/2021

Penderfyniad:

Etholwyd y Cynghorydd Elin Walker Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2020/21

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail ethol y Cynghorydd Elin Walker Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2020/21

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2020/2021

Penderfyniad:

Etholwyd y Cynghorydd Cai Larsen yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2020/21

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail ethol y Cynghorydd Cai Larsen yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2020/21

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd John Pughe Roberts

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 433 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 16 o Ionawr 2020 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 20fed o Hydref 2020 fel rhai cywir.

 

7.

TROSOLWG O EFFAITH COVID 19 AR WASANAETHAU A GWEITHGAREDDAU A GYNHELIR TRWY'R GYMRAEG pdf eicon PDF 472 KB

I ystyried yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

-       Derbyn yr adroddiad gan ddatgan diolch i’r Swyddogion Iaith am eu holl waith dros y cyfnod

-       Ysgrifennu llythyr at y Comisiynydd Iaith yn datgan pryder nad oes modd i staff Cyngor Gwynedd gyfrannu trwy’r Gymraeg bob amser mewn cyfarfodydd rhithiol a drefnir gan sefydliadau allanol oherwydd nad ydynt yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer cyfarfodydd rhithiol.

-       Ysgrifennu llythyr at Gwmni Microsoft yn eu hannog i ddarparu cyfieithu ar y pryd i gyfrwng Teams

-       Derbyn diweddariad ar waith yr Is grŵp Cenedlaethol sydd yn trafod materion technoleg gwybodaeth yn y cyfarfod nesaf

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch Ymarferydd Iaith a Chraffu yn crynhoi'r cyfleoedd a’r heriau mae adrannau amrywiol wedi eu hwynebu o ran parhau i weithredu'r polisi iaith yn sgil Covid 19. Cyflwynwyd hefyd ddiweddariad ar brosiectau amrywiol sydd wedi eu cyflawni er gwaetha’r sefyllfa, er mwyn hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yng Ngwynedd.

 

Adroddwyd, yn gyffredinol bod pawb yn nodi nad oedd y feirws wedi amharu ar eu gallu i ddarparu gwasanaeth cyfrwng Cymraeg gan eu bod wedi addasu eu ffordd o ddarparu gwasanaeth a pharhau i gynnig gwasanaethau trwy’r Gymraeg. Fodd bynnag, amlygwyd rhai bod posibilrwydd o ddiffyg cyfle anffurfiol i sgwrsio yn y Gymraeg mewn swyddfa, ar y coridor neu yn y gegin, yn arbennig y rhai sydd ddim yn cael cyfle i siarad Cymraeg llawer tu allan i’r gwaith. Mewn ymateb, nodwyd bod y Cynllun Cyfeillion Cymraeg yn cynnig y cyfleoedd anffurfiol hynny i ddysgwyr allu cadw’r momentwm wrth weithio gartref ynghyd a sesiynau ychwanegol o hyfforddiant ar-lein sydd wedi bod yn gadarnhaol.

 

Amlygwyd mai un pryder a ddaeth i’r amlwg yn yr arolwg oedd nad oedd posib i staff gyfrannu trwy’r Gymraeg bob amser mewn cyfarfodydd allanol rhithiol a oedd wedi eu trefnu gan sefydliadau eraill oherwydd diffyg defnyddio technoleg sy’n galluogi defnydd rhwydd o’r gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. Eglurwyd nad oedd pob sefydliad allanol yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer cyfarfodydd rhithiol gyda rhai yn amharod i ddefnyddio Zoom oherwydd pryderon diogelwch.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·         Ei bod yn ofynnol ar gyrff cyhoeddus yn Gymru i ddarparu cyfleoedd Cyfieithu mewn cyfarfodydd - bod darpariaeth ar gael i wneud hyn - angen tynnu sylw’r Comisiynydd Iaith at y broblem

·         Awgrym i gynnal cwis i hybu cyfleodd i ymarfer siarad Cymraeg

·         Byddai’n fuddiol derbyn gwybodaeth am y nifer sydd wedi mynychu / cyfranogi digwyddiadau ar-lein.

·         Rhoi pwysau ac ymgyrchu ar Microsoft i roi adnodd cyfieithu ar y pryd i mewn i Teams (sydd yn cael ei ffafrio gan Gynghorau eraill)

·         Y Gymraeg yn datblygu fel cyfrwng cyfoes, modern mewn technoleg ac yn cael ei ddefnyddio ymysg yr ifanc - angen manteisio ar hyn

·         Angen sicrwydd  bod y gwasanaeth ‘Tracio ac Olrhain’ ar gael yn y Gymraeg

Mewn ymateb i’r sylwadau, amlygwyd bod y Comisiynydd Iaith yn ymwybodol o’r rhwystrau ynglŷn â darparu cyfleoedd Cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd. Amlygwyd bod is -grŵp cenedlaethol wedi ei sefydlu i geisio datrysiadau. Ategwyd bod Cyngor Gwynedd yn rhannu ymarfer da gyda Chynghorau a Phartneriaethau i wella’r ddarpariaeth os nad ydynt yn cael defnyddio zoom. Cynigwyd rhoi diweddariad ar waith yr is-grŵp yn y cyfarfod nesaf

 

Mewn ymateb i gadw momentwm gyda gwersi Cymraeg, nodwyd bod ‘Cynllun Cymraeg i Gefnogi’ wedi ei sefydlu sydd yn llwyddiannus iawn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynlluniau sirol Arfor a pharhad ymrwymiad y Llywodraeth i’r cynllun, adroddwyd bod y misoedd diwethaf mewn gwirionedd wedi bod yn gyfnod prysur iawn i’r cynllun gyda’r cynlluniau yn cael eu haddasu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

SAFONAU'R GYMRAEG A PHOLISI IAITH Y CYNGOR pdf eicon PDF 313 KB

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Ymgynghorydd Iaith yn rhoi diweddariad bras ar y gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo dros y misoedd diwethaf yng nghyd-destun y Safonau Iaith a’r dyletswyddau adrodd. Amlygwyd bod y Gwasanaeth yn gyffredinol, yn parhau i lwyddo i gydymffurfio gyda gofynion y Safonau, ond bod rhai meysydd o bryder yn codi, gyda themâu pendant yn amlygu eu hunain sydd yn gosod meysydd gwaith penodol.  Adroddwyd bod y Gwasanaeth wedi bod yn rhagweithiol wrth gysylltu gyda’r Comisiynydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i drafod pryderon ynghyd a’r rhwystrau wrth gomisiynu systemau ac apiau allanol. Ategwyd bod cynnal sgyrsiau agored yn datblygu dealltwriaeth a chydweithio da sydd yn cael effaith bositif wrth geisio dylanwadu ar gyrff allanol sydd ar brydiau yn anwybodus am statws yr iaith a gofynion y Safonau yng Nghymru - enghraifft o hyn yw’r templed asesiad effaith.

 

Cyfeiriwyd at yr heriau ynghyd a’r meysydd datblygol gan dynnu sylw at yr adroddiad sgiliau sydd yn mynegi bod canran gallu'r Gymraeg o fewn y Cyngor yn ‘uchel iawn’ gyda 99.1% yn cyrraedd gofynion y swydd. Tynnwyd sylw pellach at Adroddiad Sicrwydd Comisiynydd Gymraeg 2019-20 - Cau’r Bwlch ac y byddai’r adroddiad yn cael ei rannu gyda’r Aelodau drwy e-bost. Amlygwyd bod bwriad adolygu’r Polisi Iaith ym mis Ionawr gan nad oedd rhai cymalau yn ddigon cadarn mewn rhai meysydd. Nodwyd y byddai’r gwaith yn cael ei rannu i ddau gategori - newidiadau gweinyddol, sydd yn golygu man newidiadau i olygu geiriad, er mwyn gwneud gofynion yn fwy eglur, a newidiadau mawr / egwyddor sydd yn golygu’r angen i drafod a chael cytundeb i weithredu rhai cyd-destunau. Adroddwyd y byddai eitem yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf ar ddiwygiadau posib i’r Polisi.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

 

·         Bod angen cyflwyno delwedd Gymreig ar draws y Cyngor

·         Cais am adroddiad cwynion iaith -  holiadur halenu wedi ei anfon allan i weithwyr Adran Priffyrdd yn uniaith Saesneg

·         Bod defnydd o gyfryngau cymdeithasol yn cael effaith ar y blynyddoedd cynnar - awgrym i ymchwilio i mewn i  hyn

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chael ‘default’ Cymraeg ar wefannau cymdeithasol adroddwyd bod gwaith ymchwil ar ddefnydd y cyhoedd o’r wefan yn cael i wneud gyda thîm y we a’r uned gyfathrebu. Ategodd y r Aelod Cabinet bod hyn yn her dechnegol, ond bod nifer yr ymwelwyr i’r wefan sydd yn defnyddio Cymraeg yn galonogol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â thempled asesu effaith nodwyd bod pob penderfyniad Cabinet yn gofyn am asesiad cydraddoldeb gydag iaith yn cael ei gynnwys fel un elfen o’r asesiad hwn. Nodwyd bod Swyddfa’r Comisiynydd yn datblygu canllawiau fyddai’n edrych yn benodol ar rai meysydd i sicrhau cydymffurfiaeth.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chyfeiriad medrusrwydd iaith a dyletswydd y sefydliad i gyrraedd y safon gyda chyfleoedd ar gael i hyrwyddo dysgu Cymraeg os nad yw’n ofynnol i’r swydd, nodwyd bod y safon yn cyrraedd ac yn pasio'r gofynion  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.