skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2020 / 21

Penderfyniad:

I AIL ETHOL Y CYNGHORYDD ELFED WILLIAMS YN GADEIRYDD AR GYFER 2020/21

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD AIL ETHOL Y CYNGHORYDD ELFED WILLIAMS YN GADEIRYDD AR GYFER 2020/21

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is gadeirydd ar gyfer 2020 / 21

Penderfyniad:

I AIL ETHOL Y CYNGHORYDD ANNWEN HUGHES YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2020/21

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD AIL ETHOL Y CYNGHORYDD ANNWEN HUGHES YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2020/21

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd John Brynmor Hughes a’r Cynghorydd Dafydd Owen

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 99 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 2il o Ragfyr 2019 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd Rhagfyr 2il 2019 fel rhai cywir

 

7.

COFNODION IS BWYLLGORAU TRWYDDEDU pdf eicon PDF 234 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd;

 

1.    26-01-21

2.    05-01-21

3.    26-11-20

4.    09-03-20

5.    18-12-19

6.    05-11-19

7.    20-09-19

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd, er gwybodaeth gofnodion yr Is bwyllgorau a gynhaliwyd

 

26-01-21,  05-01-21,  26-11-20,  09-03-20,  18-12-19,  05-11-19 a 20-09-19

 

8.

EFFAITH YR ARGYFWNG COVID 19 AR WASANAETHAU TRWYDDEDU pdf eicon PDF 292 KB

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

DERBYN Y WYBODAETH

 

DIOLCH I’R UNED TRWYDDEDU AM EI GWAITH CALED YN YSTOD ARGYFWNG COVID 19

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Trwyddedu yn amlinellu gwaith yr Uned Drwyddedu gan fanylu ar y modd maent wedi ymateb i argyfwng covid 19 drwy addasu a blaenoriaethu eu cyfrifoldebau er mwyn cyfrannu at yr ymdrech o reoli ymlediad yr haint ynghyd a pharhad gwasanaethau ‘arferol’.

 

Tynnwyd sylw at effaith yr argyfwng ar y gwasanaethau trwyddedu a hefyd at y cyfnod heriol sydd yn wynebu’r gwasanaeth wrth ddod allan o gyfnod clo. Ategwyd y bydd angen adolygu dogfennau polisi dros y flwyddyn nesaf gan ddechrau gyda’r Datganiad o Bolisi Trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003. Pan fydd newidiadau wedi ei gwneud i'r Polisi (drafft) ar draws Gogledd Cymru, y bwriad yw cyflwyno’r Polisi drafft newydd i’r Pwyllgor, cyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus dros yr Haf.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglyn a’rnewidiadau bychan’ (para 4.6) sydd angen eu gwneud i’r Polisi drafft, mynegwyd mainewidiadau bach oeddynt fyddai’n adlewyrchu deddfau a ffigyrau cyfredol gyda’r gwaith sylweddol o addasu’r Polisi eisoes wedi ei weithredu.

 

Canmolwyd Swyddogion yr Uned Trwyddedu am eu gwaith a’u cefnogaeth dros gyfnod yr argyfwng.

 

 

PENDERFYNWYD:

Derbyn y wybodaeth

Diolch i’r Uned Trwyddedu am eu gwaith caled yn ystod argyfwng covid 19