skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL IS GADEIRYDD

Ethol is gadeirydd i’r pwyllgor hwn ar gyfer 2020-21.

Cofnod:

PENDERFYNWYD: Ethol y Cynghorydd Dewi Owen yn is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2020/21.

 

2.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Y Cynghorydd Linda Ann Jones.

 

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

 

4.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw faterion sydd yn faterion brys yn nhyb y Cadeirydd er mwyn eu hystyried.

Cofnod:

 

Nid oedd mater brys.

 

 

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 229 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig bod cofnodion cyfarfod diwethaf y pwyllgor hwn yn cael eu harwyddo fel cofnod cywir o’r cyfarfod.

Cofnod:

Derbyniwyd fod y cofnodion o’r pwyllgor blaenorol yn gywir.

 

6.

CYDNABYDDIAETH ARIANNOL I AELODAU ETHOLEDIG pdf eicon PDF 391 KB

Gofyn am sylwadau’r Pwyllgor ar gyfer ymateb i Adroddiad (drafft) Blynyddol y Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2021/22.

Penderfyniad:

(a)  Derbyn yr adroddiad.

(b)  Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu llythyr at yr aelodau yn hyrwyddo’r ad-daliadau mewn ymgais i godi’r niferoedd sy’n hawlio.

 

Rhesymau:

 

Nodwyd yn yr adroddiad fod y niferoedd sy’n hawlio’r ad-daliad am gostau personol neu gostau gofal yn parhau i fod yn isel iawn ac felly mae angen i’r Pwyllgor hybu'r ddarpariaeth.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD 

 

(a)  Derbyn yr adroddiad.

(b)  Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu llythyr at yr aelodau yn hyrwyddo’r ad-daliadau mewn ymgais i godi’r niferoedd sy’n hawlio.

 

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith ei hadroddiad gan ofyn am sylwadau gan aelodau’r pwyllgor er mwyn ffurfio ymateb i’r ymgynghoriad erbyn 23ain o Dachwedd.

 

Rhoddwyd trosolwg o’r cynnydd arfaethedig mewn cyflogau sylfaenol ac uwch gyflogau aelodau etholedig. Nododd os byddai aelodau’n dymuno peidio ei dderbyn y bydd angen iddynt roi nodyn ysgrifenedig yn ôl y drefn arferol.

 

Tynnwyd sylw at y prif fater i drafod sef y gofid sy’n parhau ynghylch y gyfradd isel o aelodau sy’n hawlio’r ad-daliad tuag at ofal angenrheidiol ar gyfer plant ac oedolion dibynnol. Nododd y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith bod y gyfradd yn isel ar draws Cymru, ac felly bod gofyn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd drafod dulliau hyrwyddo’r ad-daliad ymysg aelodau.

 

Nodwyd bod cam eisoes wedi ei gymryd wrth ddiddymu y gofyn  blaenorol i gyhoeddi enwau’r sawl oedd yn hawlio’r ad-daliad. Mynegwyd bod y diddymiad yn hybu amrywiaeth mewn democratiaeth yn y gobaith y byddai mwy o bobl o gefndiroedd amrywiol yn sefyll fel cynghorwyr.

 

 

 

Cododd y sylwadau penodol isod o’r drafodaeth:

 

-       Awgrymwyd i dynnu sylw aelodau newydd at yr ad-daliad yn sydyn wedi eu penodiad, ac atgoffa’r aelodau presennol drwy anfon llythyr.

-       Trafodwyd y posibilrwydd bod stigma yn gysylltiedig ag hawlio’r ad-daliad, felly bod angen pwysleisio fod y sawl sy’n hawlio yn aros  yn anhysbys .

-       Nodwyd bod angen normaleiddio hawlio’r ad-daliad drwy ei hyrwyddo ar lefel genedlaethol.

-       Codwyd pryder bod aelodau presennol sydd  yn gymwys i hawlio ddim yn gwneud hynny, ac awgrymwyd bod angen rhoi apêl allan iddynt ei hawlio.

 

 

 

 

7.

ABSENOLDEB MABWYSIADU pdf eicon PDF 221 KB

Trafod yr ymgynghoriad i’r newidiadau i absenoldeb mabwysiadu ar gyfer Cynghorwyr Awdurdodau Lleol.     

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad.

 

Rhesymau:

 

Nodwyd y byddai hyn yn sicrhau bod aelodau etholedig yn derbyn yr un hawliau a swyddogion. Awgrymwyd y byddai hyn yn hybu amrywiaeth mewn democratiaeth.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad.

 

 

Yn ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru, cyflwynwyd adroddiad gan Reolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith ar ymestyn hyd absenoldeb mabwysiadu o bythefnos i 26 wythnos.

 

Nododd y byddai hynny’n sicrhau y byddai aelodau etholedig yn derbyn yr un hawliau a swyddogion. Ategwyd bod yr ymestyniad yma hefyd yn annog amrywiaeth mewn democratiaeth wrth i bobl o gefndiroedd amrywiol weld yr hyblygrwydd sydd ynghlwm a sefyll fel cynghorydd.

 

Cododd y sylwadau penodol isod o’r drafodaeth:

 

-     Gofynnwyd am eglurder ynghylch hawliau absenoldeb beichiogrwydd i aelodau, ac mewn ymateb nododd y Rheolwr Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith bod y rhain yr un fath i aelodau ag ydynt i Swyddogion.

 

8.

DATBLYGIADAU A CHEFNOGAETH I AELODAU DROS Y CYFNOD COVID AC I'R DYFODOL. pdf eicon PDF 452 KB

Cyflwyno diweddariad i’r aelodau o’r datblygiadau sydd wedi digwydd yn y cefndir dros y cyfnod a fu.

 

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD

 

(a)        Derbyn yr adroddiad.

(b)       Cytunwyd bod angen trafodaethau ymhellach ar y ffordd ymlaen wedi i'r aelodau leisio eu barn ar ffurf cyfarfodydd y dyfodol.

 

Rhesymau:

 

Yn dilyn trafodaeth ar ddulliau cyfarfod presennol ac ar gyfer y dyfodol, mynegwyd dymuniadau i weld rhai pwyllgorau arbennig yn cwrdd wyneb i wyneb fel bo angen.

 

Ystyriwyd bod y dull presennol yn gyfleus mewn sawl ffordd wrth arbed amser teithio a  chostau, fodd bynnag roedd teimlad ei bod yn hanfodol cwrdd yn gorfforol mewn rhai achosion. Derbyniwyd y sylwadau o'r drafodaeth agoriadol a bydd y sylwadau yn cael eu cyflwyno i drafodaethau mewnol pellach.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

(a)  Derbyn yr adroddiad.

(b)  Cytunwyd bod angen trafodaethau pellach ar y ffordd ymlaen wedi i’r aelodau leisio eu barn ar ffurf cyfarfodydd y dyfodol.

 

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith ar y datblygiadau a chefnogaeth sydd wedi bod i aelodau yn ystod y cyfnod Covid-19. Dywedodd fod newid mawr wedi wynebu aelodau ynghyd a staff y Cyngor o ganlyniad i Covid-19 a chyfyngiadau ddaeth yn sgil y cyfnod clo. Nodwyd bod gofynion uchel wedi bod ar aelodau yn ystod y cyfnod diweddaraf. Pwysleisiwyd pwysigrwydd hunan les a hunan ofal yn sgil y gofynion yma.

 

 

Cyflwynwyd crynodeb gan  Arweinydd Tîm Democratiaeth yn amlinellu'r amryw ddatblygiadau sydd wedi bod. Nodwyd bod sawl aelod o staff y tîm wedi trosglwyddo i’r rheng flaen yn ystod y cyfnod clo cyntaf, fodd bynnag erbyn hyn roeddent wedi ail ymuno a’r tîm democratiaeth. Ymhelaethwyd gan nodi bod ffyrdd o weithio’r tîm wedi addasu’n gyfan gwbl er mwyn hwyluso gweithio o bell a chynnal cyfarfodydd a phwyllgorau yn rhithiol.

 

Wrth ymhelaethu, nododd bod nifer uchel o gyfarfodydd rhithiol wedi digwydd. Cynhaliwyd 28 o bwyllgorau ffurfiol yn y cyfnod hyd ddiwedd Hydref, 30 o gyfarfodydd anffurfiol gydag aelodau etholedig, a 23 o sesiynau hyfforddiant rhithiol gydag aelodau. Yn ogystal ag hynny, nodwyd erbyn hyn bod pob aelod etholedig wedi mynychu cyfarfod rhithiol.

Dywedodd fod ambell i nodyn positif wedi ymddangos ers y datblygiad o gyfarfod yn rhithiol, gan bwysleisio bod presenoldeb aelodau wedi cynyddu  ynghyd a'u parodrwydd i gyfarfod.

 

 

Rhoddwyd mwy o wybodaeth ynghylch trefniadau ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol gan y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol. Soniwyd bod trafodaethau mewnol eisoes wedi bod ar waith a rhannwyd y pwyntiau canlynol ynghylch trefniadau’r dyfodol ar gyfer swyddogion;

 

       

-     Sefydlwyd rhagdybiaeth ymysg swyddogion y byddant yn cynnal cyfarfodydd mewnol yn rhithiol yn y dyfodol.

       

-     Cydnabuwyd y bydd rhaid i gyfarfodydd wyneb i wyneb ddigwydd yn achlysurol, er enghraifft ar benodiad swyddogion newydd neu ar gyfer sgwrs anodd.

 

-     Nodwyd fod cyfarfodydd ‘hybrid’ yn cael eu hystyried yn llai ffafriol am ei fod yn gallu bod yn brofiad eilradd i’r rhai sydd yn ymuno o bell.  

 

Agorwyd y drafodaeth i aelodau’r pwyllgor leisio eu barn ar sefyllfa’r dyfodol i aelodau.

 

Cododd y sylwadau penodol isod o’r drafodaeth:

 

-     Nodwyd bod angen cael cydbwysedd rhwng cyfarfodydd rhithiol a chorfforol. Awgrymwyd rhoi ystyriaeth i flaenoriaethu pa gyfarfodydd sydd wir angen bod yn digwydd yn gorfforol.

-     Awgrymwyd bod angen gosod rheolau ynghylch yr amser mae aelodau yn treulio o flaen sgrin o ganlyniad i gyfarfodydd rhithiol. Nodwyd bod angen trefniadau clir ynghylch amser, osgo, a gosodiad y cyfrifiadur er lles aelodau.

-     Canmolwyd y drefn rithiol ymysg aelodau sy’n byw yn bell o Gaernarfon gan eu bod yn arbed amser teithio, yn well i’r amgylchedd ac yn arbed arian costau teithio i’r Cyngor. Dywedwyd bod y drefn rithiol yn caniatáu iddynt gyflawni mwy mewn diwrnod gan nad ydynt yn teithio am gyfnod hir.

-     Awgrymwyd bod y drefn rithiol yn hybu amrywiaeth mewn democratiaeth gan ei bod yn haws i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

DARPARIAETH DYSGU A DATBLYGU I AELODAU pdf eicon PDF 623 KB

Rhoi trosolwg o’r ddarpariaeth Dysgu a Datblygu i Aelodau, gan amlygu llwyddiannau, sialensiau a datblygiadau.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad.

 

Rhesymau:

 

Oherwydd yr argyfwng Covid-19, ni fu’n bosib cynnal hyfforddiant yn y ffordd ‘draddodiadol’ ers peth amser, a bu’n anorfod datblygu dulliau amgen e.e. hyfforddiant rhithiol (‘o bell’) ar gyfer y dyfodol.

 

Gyda hyn mewn golwg, lluniwyd rhaglen hyfforddiant ar gyfer 2020/21, gan ymdrechu i gynnal amrywiaeth o deitlau perthnasol o ansawdd uchel.

 

Nodwyd bod nifer o’r aelodau presennol wedi bod ar y cyrsiau hyfforddiant ac yn croesawu’r dull newydd o’u gweithredu’n rhithiol. Ategwyd bod mwy o aelodau yn mynychu oherwydd y natur hwylus o dderbyn hyfforddiant o bell.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad.

 

 

Cyflwynodd y Rheolwr Dysgu a Datblygu’r Sefydliad ei adroddiad ar y ddarpariaeth sesiynau hyfforddiant o bell.

Rhoddwyd trosolwg o’r ddarpariaeth, gan amlygu llwyddiannau, heriau a datblygiadau sydd wedi bod gan y gwasanaeth  o ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19. Nodwyd bod y ddarpariaeth yn cynnwys pecynnau adnoddau, darpariaeth o fideos hyfforddiant a hyfforddi unigol.

 

Nodwyd bod y diwylliant o ddarparu hyfforddiant wedi newid cryn dipyn dros y misoedd diweddaraf a bod yr hen ddulliau yn amherthnasol erbyn hyn. Dywedwyd bod mwy o aelodau wedi ymgymryd â sesiynau hyfforddiant gan eu bod yn digwydd yn rhithiol, ac yn ogystal  bod mwy yn cyfrannu yn ystod y sesiynau.

Gofynnwyd i’r aelodau ar y pwyllgor ystyried cynnwys y pecyn hyfforddiant newydd a rhoi adborth ar y dull o gynnig hyfforddiant yn rhithiol.

 

Cododd y sylwadau penodol isod o’r drafodaeth:

 

-     Dywedwyd bod mwy o gyfle i gymryd rhan wedi bod ers dyfodiad hyfforddiant rhithiol. Ategwyd ei bod yn syniad da i gynnal y sesiynau yn rhithiol gan ei bod yn fwy hwylus i fynychu heb fod gorfod teithio iddynt.  Nodwyd y dylid ystyried cynnal rhai sesiynau gyda’r nos.

-     Nodwyd bod mwy o aelodau i weld yn mynychu’r sesiynau rhithiol o gymharu ag rhai sydd angen teithio iddynt.

-     Mynegwyd sylwadau ar y rhaglen newydd gan nodi ei bod yn ddiddorol ac yn cynnig hyblygrwydd.

 

10.

AMRYWIAETH MEWN DEMOCRATIAETH pdf eicon PDF 282 KB

Cyflwyno diweddariad o’r gwaith sydd wedi digwydd hyd yma a chynlluniau’r dyfodol. 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn yr adroddiad a chefnogi cyfeiriad y rhaglen waith.

 

Rhesymau:

 

Sefydlwyd Is-grŵp amrywiaeth er mwyn ymdrechu i geisio hybu mwy o amrywiaeth o

wahanol gefndiroedd i sefyll etholiad ar gyfer Llywodraeth Leol.

 

Gyda newid deddfwriaethol yn golygu y gall pobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio yn

etholiadau Senedd Cymru o 2021 ymlaen ac etholiadau Llywodraeth Leol o 2022 ymlaen.

Mae’r newid deddfwriaethol wedi dod a chyfleoedd yn ei sgil.

 

 

Nodwyd bod y cyfnod presennol yn adlewyrchu’r angen i gael aelodau o wahanol gefndiroedd fel eu bod yn gallu ymateb mewn dulliau amrywiol i’r heriau sy’n codi o fewn y gymuned.

 

Cofnod:

 

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn yr adroddiad a chefnogi cyfeiriad y rhaglen waith.

 

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith amlinelliad o’r camau a’r datblygiadau sydd wedi digwydd hyd yn hyn ac sydd ar y gweill er mwyn hybu amrywiaeth mewn democratiaeth.

 

Nodwyd bod y pwyllgor heddiw wedi cyfeirio at sawl agwedd oedd yn berthnasol er mwyn hybu amrywiaeth, er enghraifft wrth drafod ad-daliadau gofal a chyfarfodydd rhithiol.

 

Cyfeiriwyd at un o’r meysydd targed sef hyrwyddo democratiaeth ymysg ieuenctid drwy sefydlu prosiect i annog pobl ifanc 16 i 17 oed i gofrestru i bleidleisio. Ategwyd at hyn gan nodi bod y cyfnod presennol wedi amlygu bod wir angen amrywiaeth fel bod aelodau yn medru ymateb i wahanol amgylchiadau sy’n codi o fewn y gymuned.

 

Dywedwyd  bod angen bwrw ymlaen gyda’u hymgais i ddenu mwy o ferched, pobl ifanc a phobl anabl i gymryd rhan mewn etholiadau ac i sefyll mewn etholiadau. Ar y nodyn yma, gofynnwyd am ganiatâd y pwyllgor i gychwyn paratoadau ar gyfer etholiadau Llywodraeth Leol 2022 ac am gefnogaeth i gyfeiriad y rhaglen waith.

 

Cododd y sylwadau penodol isod o’r drafodaeth:

 

-     Rhannwyd nifer o ddulliau o sut i gyfathrebu a hyrwyddo cyfranogiad ymysg y grwpiau targed.

-     Mynegwyd bod y newid deddfwriaethol hefyd yn caniatáu dinasyddion o wledydd eraill i bleidleisio mewn etholiadau.

-     Dywed fod posibilrwydd edrych ar sut mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â’r her o hyrwyddo’r etholiad yn etholiadau Senedd Cymru yn 2021. Yn dilyn hynny, gall y Cyngor fabwysiadu’r un dulliau ar gyfer etholiadau Llywodraeth Leol.

-   Cynigwyd bod angen amlygu ei fod yn bosib gwneud swydd cynghorydd ac ymgymryd â dyletswyddau teuluol neu barhau i weithio mewn swydd ar yr un pryd.