Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol Cadeirydd ar gyfer 2021/22. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd
Dyfrig Siencyn yn Gadeirydd ar gyfer 2021/22. Cofnod: PENDERFYNWYD
ethol y Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn Gadeirydd ar gyfer 2021/22. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2021/22. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Mark
Pritchard yn Is-gadeirydd ar gyfer 2021/22. Cofnod: PENDERFYNWYD
ethol y Cynghorydd Mark Pritchard yn Is-gadeirydd ar gyfer 2021/22. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan Jane Richardson
(Cadeirydd Grwp Swyddogion Gweithredol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o
fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mai, 2021 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol a gynhaliwyd ar 14 Mai, 2021 fel rhai cywir. |
|
BLAEN RAGLEN WAITH Y BWRDD UCHELGAIS - GORFFENNAF 2021 - GORFFENNAF 2022 Cyflwyno Blaen
Raglen Waith y Bwrdd Uchelgais. Penderfyniad: Mabwysiadu Blaen Raglen
Waith y Bwrdd Uchelgais – Gorffennaf 2021 – Gorffennaf 2022. Cofnod: Cyflwynwyd – blaen raglen waith y Bwrdd am y
cyfnod Gorffennaf 2021 – Gorffennaf 2022. Mewn ymateb i sylw, cadarnhawyd bod y
swyddogion wedi cymryd i ystyriaeth bod yr achosion busnes yn drwm, ac mai dau
yn unig y gellid ymdrin â hwy mewn un cyfarfod. PENDERFYNWYD
mabwysiadu Blaen
Raglen Waith y Bwrdd Uchelgais – Gorffennaf 2021 – Gorffennaf 2022. |