Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorwyr:- Dylan Bullard, R. Glyn Daniels, Peter Garlick, Annwen Hughes, R. Medwyn Hughes, Sion Wyn Jones, Dewi Owen, Jason Parry, Dyfrig Siencyn, Hefin Underwood a Gethin Glyn Williams.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Eglurodd y Swyddog Monitro, oherwydd natur y cyfarfod, na fyddai manylion yr ymgeisydd am swydd y Prif Weithredwr yn hysbys hyd oni fyddai Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion wedi cyflwyno argymhelliad y pwyllgor dan eitem 7 ar y rhaglen.  Gan hynny, byddai cyfle i unrhyw aelod ddatgan buddiant yn dilyn cyflwyno’r argymhelliad.

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Cofnod:

Croesawyd y Cynghorydd Beca Brown, yr Aelod newydd dros Ward Llanrug, i’w chyfarfod cyntaf o’r Cyngor.

 

Cydymdeimlwyd â’r canlynol:-

 

·         Y Teulu Brenhinol ar farwolaeth ei Uchelder Brenhinol, Dug Caeredin.

·         Teulu Maldwyn Lewis, Porthmadog, a nodwyd y rhoddid teyrnged lawn iddo yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor.

 

Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.

 

Llongyfarchwyd y Cynghorydd Annwen Hughes ar ddod yn Nain i ferch fach, Bowen Eila.

 

4.

GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL

Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi.

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i breifatrwydd.  Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma.  O ganlyniad, mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

Cofnod:

PENDERFYNWYD

Cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd.  Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma.  O ganlyniad, mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

7.

PENODI PRIF WEITHREDWR

Derbyn cyflwyniad ac ystyried argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion.

Penderfyniad:

Penodi Mr Dafydd Gibbard i’r swydd Prif Weithredwr, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion.

 

Cofnod:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion, y Cynghorydd Dafydd Meurig, argymhelliad y pwyllgor yn eu cyfarfod ar 16 Ebrill, 2021 i’r Cyngor benodi ymgeisydd yn Brif Weithredwr. 

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

Derbyniwyd yr ymgeisydd i mewn i’r cyfarfod, ac fe’i wahoddwyd i roi cyflwyniad i aelodau’r Cyngor.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, ymatebodd yr ymgeisydd i gyfres o gwestiynau gan yr aelodau.

 

PENDERFYNWYD penodi Mr Dafydd Gibbard i’r swydd Prif Weithredwr, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion.

 

8.

AIL-AGOR Y CYFARFOD I'R WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid ail-agor y cyfarfod i’r wasg a’r cyhoedd.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail-agor y cyfarfod i’r wasg a’r cyhoedd.