skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Anwen Hughes a’r Cynghorydd Simon Glyn

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 188 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 19 Mawrth 2021, fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 19-03-21 fel rhai cywir

 

5.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

6.

CYFWELD YMGEISWYR AR GYFER SWYDD PRIF WEITHREDWR

I dderbyn adroddiadau o’r Ganolfan Asesu a chyfweld ymgeiswyr ar gyfer y swydd.

Penderfyniad:

Argymell i’r Cyngor Llawn benodi Mr Dafydd Gibbard i’r swydd Prif Weithredwr 

 

Cofnod:

a)    Cadarnhawyd trefn y diwrnod gyda’r Aelodau.

 

b)    Gwahoddwyd Ms Siân Goodson o gwmni Goodson Thomas i gyflwyno adborth cryno o berfformiadau’r ddau ymgeisydd yn y Ganolfan Asesu a gynhaliwyd 29/03/21 drwy nodi canlyniadau’r profion seicometreg a chymwyseddau’r ymgeiswyr. Roedd copi o’r adroddiad wedi ei ddosbarthu i’r Aelodau.

 

Gwahoddwyd Mr Dilwyn Williams (Prif Weithredwr), i gyflwyno adborth cryno o berfformiadau’r ddau ymgeisydd mewn cyfweliad proffesiynol a gynhaliwyd 01/04/21 gyda chefnogaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol, 3 Aelod Cabinet a Chadeirydd y Fforwm Craffu. Roedd copi o’r adroddiad wedi ei ddosbarthu i’r Aelodau.

 

c)    Cyfwelwyd dau ymgeisydd ar gyfer y swydd.

 

Rhoddodd yr ymgeiswyr gyflwyniad ar “Mae nhw’n dweud bod y 100 diwrnod cyntaf yn bwysig mewn taith unrhyw Arweinydd. Be fyddech chi yn ei wneud yn eich 100 diwrnod cyntaf a pham?” Ymatebwyd i chwe chwestiwn ffurfiol a ofynnwyd gan y Cadeirydd ynghyd a chwestiynau dilynol gan yr Aelodau.

 

 ch)  Cynigiwyd ac eiliwyd bod y swydd yn cael ei chynnig i Mr Dafydd Gibbard.

 

PENDERFYNWYD: Argymell i’r Cyngor Llawn (mewn cyfarfod arbennig a gynhelir 23/04/21), benodi Mr Dafydd Gibbard i’r swydd Prif Weithredwr