skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Anwen Daniels oedd hefyd yn datgan buddiant oherwydd bod ei gwr yn gweithio i gwmni Llechwedd

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

 

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 260 KB

Gwesty Plas Weunydd, Llechwedd, Blaenau Ffestiniog, LL41 3NB

 

I ystyried y cais

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Caniatáu’r cais

 

Cofnod:

Ar ran yr eiddo:        

 

Mr Michael Bewick      Gwesty Plas Weunydd, Llechwedd, Blaenau Ffestiniog

                       

Eraill a wahoddwyd:

           

Mark Mortimer - Swyddog Iechyd yr Amgylchedd

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 10 munud i gyflwyno eu sylwadau

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Gwesty Plas Weunydd, Llechwedd, Blaenau Ffestiniog. Gwnaed y cais mewn perthynas â gwerthu alcohol, cerddoriaeth byw ar yr eiddo a cherddoriaeth wedi ei recordio ar, ac oddi ar yr eiddo

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod sylwadau wedi ei derbyn gan yr Heddlu ac Adran Gwarchod y Cyhoedd a bod yr ymgeisydd eisoes wedi cyfaddawdu i’r amodau a gynigiwyd:

 

·         Cytunodd drwy gwtogi oriau chwarae cerddoriaeth oddi ar yr eiddo am 9y.h.

·         Rhoi cais rhybudd digwyddiad dros dro os ydynt yn bwriadu cynnal digwyddiad ar ôl 11y.h.

·         Peidio gwagio biniau boteli ac ailgylchu ar ôl 9:30y.h.

·         Cynnal asesiad risg ac i gyflogi goruchwylwyr drysau os bernir o’r asesiad risg fod angen hynny, neu ar unrhyw adeg arall ar gais a chytundeb yr Heddlu.

 

Argymhellwyd fod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r cais yn unol â’r hyn a gytunwyd gydag Adran Gwarchod y Cyhoedd, yr Heddlu a gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003. 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu

·      Gwahodd yr Heddlu i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i'r Heddlu

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded a’r ymgynghorai

b)         Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd:

·                  Bod yr adeilad hanesyddol bellach wedi ei drosi yn westy moethus

·                  Y gobaith yw y bydd y safle, i’r dyfodol yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd

·                  Bod cynnydd yn nifer yr ymwelwyr i’r ardal – y gwesty yn ymateb i’r angen

·                  Bwriad yw cynnig gwasanaeth o werth uchel ac ansawdd da i ymwelwyr

·                  Byddai’r gwesty yn creu swyddi yn yr ardal

·      Bwriad bod yn gymdogion da a chydweithio gyda’r gymuned – bod cynnig arhosiad diogel a distaw yn rhan o’r gwasanaeth

 

c)         Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd ganddynt drwy lythyr.

 

Swyddog Iechyd yr Amgylchedd,

·      Bod Llechwedd wedi cydymffurfio gyda’r holl ofynion

 

Cyfeiriwyd at y sylwadau a dderbyniwyd gan yr Heddlu

 

ch)    Yn manteisio ar y cyfle i gloi ei achos  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.