skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. 

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 20 EBRILL 2021 pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2021 fel rhai cywir

6.

YSGOL NEWYDD YNG NGHRICIETH pdf eicon PDF 425 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cadarnhawyd yn derfynol y cynnig a roddwyd drwy rybudd statudol, i gynyddu capasiti Ysgol Treferthyr i 150 ac adleoli’r ysgol i safle amgen y cyfeirir ato fel safle A497 ar 1 Medi 2023, yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Cemlyn Williams.  

 

PENDERFYNIAD

 

Cadarnhawyd yn derfynol y cynnig a roddwyd drwy rybudd statudol, i gynyddu capasiti Ysgol Treferthyr i 150 ac adleoli’r ysgol i safle amgen y cyfeirir ato fel safle A497 ar 1 Medi 2023, yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn bleser ei gyflwyno. Mynegwyd fod yr adroddiad yn adrodd yn ôl i’r Cabinet yn dilyn y cyfnod gwrthwynebu ar gyfer cynyddu capasiti Ysgol Treferthyr ac i adleoli mewn safle amgen. Pwysleisiwyd fod y cynllun hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn yr ardal a'i fod yn rhan o raglen Moderneiddio Addysg.

 

Tynnwyd sylw at Faniffesto Plaid Cymru ar gyfer etholiad Llywodraeth Leol 2017 a oedd yn amlygu’r angen i wella adnoddau addysg o fewn y sir. Amlygwyd fod y cynllun yma yn un sydd yn cyd-fynd a’r weledigaeth o fewn y maniffesto.

 

Ychwanegodd Pennaeth yr Adran Addysg fod y cynllun hwn yn gynllun cyffroes ac amlygwyd yr angen am fuddsoddiad yn yr ardal.

 

Nododd y Swyddog Addysg fod yr eitem hon wedi ei drafod lawer gwaith yn y Cabinet ac mai’r penderfyniad yma fydd y cam statudol olaf. Mynegwyd fod y Cabinet yn ôl ym mis Ionawr wedi penderfynu cychwyn y cyfnod gwrthwynebu ac yn ystod y cyfnod na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad. Pwysleisiwyd fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno ag achos busnes y cynllun ac wedi cadarnhau cyfraniad o £3.174m tuag at y Cynllun £5m.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾ Croesawyd yr adroddiad gan nodi fod y diffyg gwrthwynebiad yn amlygu cryfder y sgwrs sydd wedi ei gynnal yn lleol. Holwyd os oes y bydd cyfnod galw i mewn. Mynegwyd fod cyfnod galw mewn gyda meini prawf penodol ond nad oedd yr adran yn rhagweld unrhyw broblemau penodol.

¾    Nodwyd fod cynyddu'r niferoedd yn benderfyniad da gan fod niferoedd yn dueddol o godi yn dilyn adeiladu ysgol newydd.

¾    Pan ofynnwyd pryd fydd yr ysgol newydd yn agor mynegwyd Medi 2023, ond y bydd y camau i ddechrau cyntaf o ran cynllunio yn dechrau yn ystod yr haf.

Awdur: Gwern ap Rhisiart

7.

CYNLLUN PRENTISIAETHAU A CYNLLUN RHEOLWYR AC ARBENIGWYR YFORY pdf eicon PDF 423 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ymrwymo £1.1m o gyllid un-tro o dderbyniad grant Covid-19  i ariannu'r cynllun Prentisiaethau yn ogystal â’r Cynllun Rheolwyr ac Arbenigwyr Yfory. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys 

 

PENDERFYNIAD

 

Ymrwymo £1.1m o gyllid un-tro o dderbyniad grant Covid-19 i ariannu'r cynllun Prentisiaethau yn ogystal â’r Cynllun Rheolwyr ac Arbenigwyr Yfory. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r penderfyniad o ymrwymo £1.1m i ariannu’r Cynllun Prentisiaethau yn ogystal â’r Cynllun Rheolwyr ac Arbenigwyr Yfory. Amlygwyd fod y cynlluniau hyn nid yn unig yn datblygu sgiliau unigolion ond yn cynorthwyo i ddatblygu'r gweithlu i’r dyfodol.

 

Nodwyd dwy flynedd yn ôl fod y Cyngor wedi clustnodi swm i ariannu'r Cynllun Prentisiaethau, gyda’r swm hwn llwyddwyd i benodi 35 prentis ac mae 9 o’r rhain wedi eu penodi i swyddi o fewn y Cyngor. Ymhelaethwyd fod y cynllun hwn wedi bod yn llwyddiant a bod wedi gwireddu mwy na’ beth a gynlluniwyd amdano ddwy flynedd yn ôl. Mynegwyd fod y cynllun hwn wedi bod yn ceisio annog nid yn unig pobl ifanc i gymryd rhan yn y cynllun ond pobl hyn yn ogystal. Amlygwyd fod diffyg yn y sir am ddarpariaeth prentisiaethau dwyieithog a bod yr elfen hon yn flaenllaw yn y cynllun.  Amlygwyd fod y cyfleoedd prentisiaethau mewn lleoliadau penodol er mwyn sicrhau dyfodol gwasanaethau.

 

Mynegwyd yn ogystal y bydd yr arian yn cyfrannu yn ogystal at gynllun Rheolwyr ac Arbenigwyr Yfory. Nodwyd ei fod yn gynllun ar gyfer graddedigion sydd yn rhoi swyddi mewn lleoliadau allweddol. Pwysleisiwyd fod y cynllun hwn yn un sydd yn bodoli ers nifer o flynyddoedd ac wedi profi ei werth, gan amlygu ei fod yn cyd-fynd a gweledigaeth yr aelodau.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Mynegwyd fod ariannu'r cynllun hwn yn angenrheidiol er mwyn creu cymunedau cynaliadwy.

¾    Croesawyd yr adroddiad gan holi os yw’r prentisiaethau yn arwain at swyddi parhaol o fewn y Cyngor. Nodwyd fod 9 wedi cael swydd barhaol ac 8 yn parhau i fod yn y cynllun prentisiaethau. Mynegwyd ei fod yn gynllun poblogaidd a bod nifer uchel wedi ymgeisio am swydd prentisiaeth trydanwr ac yn y maes technoleg gwybodaeth.

¾    Amlygwyd fod y ddau gynllun yn rhai cadarnhaol a bod cefnogaeth lwyr iddynt. Holwyd os oes cefnogaeth i’r rhai sydd ddim yn llwyddiannus. Holwyd os oes nifer uchel o ddiddordeb oes modd creu mwy o cyfleoedd yn y maes. Nodwyd fod perthynas gyda darparwyr a'u bod yn gwbl ffyddiog y buasai modd cael cynnal dialog i arwain unigolion sydd ddim yn derbyn swydd.

¾     Tynnwyd sylw at y slogan – Tai, Gwaith ac Iaith gan bwysleisio fod y cynllun gweithredu tai yn ei le ar gyfer yr elfen dai gan amlygu’r angen i gefnogi er mwyn gallu cynnig swyddi drwy’r Gymraeg i unigolion y sir.

 

 

Awdur: Geraint Owen

8.

GORCHYMYN DIOGELU MANNAU CYHOEDDUS - RHEOLI CWN pdf eicon PDF 236 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Catrin Wager

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd ymgymryd â’r broses o ystyried cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas â rheoli cŵn ledled y Sir yn unol â’r Gorchymyn Arfaethedig drafft. 

 

Awdurdodwyd y Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol i ymgymryd â phroses ymgynghori am gyfnod o 28 diwrnod gan gychwyn ar 24 Mai 2021, gan ddychwelyd y mater i’r Cabinet am benderfyniad ynghylch a chyflwyno GDMC rheoli cŵn, yn ogystal ag unrhyw ddirprwyaeth gysylltiol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Catrin Wager.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd ymgymryd â’r broses o ystyried cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas â rheoli cŵn ledled y Sir yn unol â’r Gorchymyn Arfaethedig drafft.   

 

Awdurdodwyd y Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol i ymgymryd â phroses ymgynghori am gyfnod o 28 diwrnod gan gychwyn ar 24 Mai 2021, gan ddychwelyd y mater i’r Cabinet am benderfyniad ynghylch a chyflwyno GDMC rheoli cŵn, yn ogystal ag unrhyw ddirprwyaeth gysylltiol. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y papur yn gofyn am ganiatâd i ddechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar reolaeth cŵn o fewn y sir. Pwysleisiwyd fod teimladau cryf i’w gweld am gŵn a bod angen i’r rheoliadau barchu ystod eang o deimladau am gŵn. Pwysleisiwyd fod nifer uchel o unigolion yn cymryd rheolaeth cŵn o ddifri ond fod baw cŵn wedi mynd yn annerbyniol. Amlygwyd ymgyrchoedd sydd wedi ei gynnal gan y Cyngor i geisio lleihau'r nifer baw ci sydd ar strydoedd.

 

Pwysleisiwyd fod rheoliadau wedi bod mewn lle ers peth amser, esboniwyd er y bydd hwn yn orchymyn newydd yn sgil newidiadau deddfwriaethol nid yw natur y rheoliadau yn newid. Amlygwyd nad oedd llawer o addasiadau oni bai am rai traethau yn benodol addasu ffiniau yn Tywyn, Abersoch, Y Friog a Chricieth. Nodwyd y bydd rhai addasiadau i’r holl sir, yn benodol i gadw cŵn ar dennyn a chodi baw ci.  Mynegwyd y bydd modd derbyn dirwy lom am beidio codi baw cŵn ac os yw'n peidio talu'r ddirwy ar amser a bod posibilrwydd o fynd i’r llys.

 

Esboniwyd fod teimlad cyffredinol, yn benodol wedi blwyddyn o nifer o bobl yn cerdded mwy yn eu hardal, fod nifer uchel o faw cŵn i’w gweld ar y strydoedd. Pwysleisiwyd yr angen am gymunedau glan a thaclus a gofynnwyd i drigolion gymryd yr amser i leisio eu barn.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Pwysleisiwyd fod diddordeb yn y maes gan drigolion a phwysigrwydd dechrau’r ymgynghoriad. Amlygwyd yr amserlen gan nodi y bydd yr adran yn adrodd yn ôl i’r Cabinet ym mis Gorffennaf er mwyn symud ymlaen i gyhoeddi’r Gorchymyn.

¾     Nodwyd fod y maes yma yn holl bwysig i bobl leol a bod y flwyddyn ddiwethaf wedi amlygu’r broblem ond fod yr adroddiad hwn yn amlygu bwriad y Cyngor i wneud rhywbeth am y mater.

 

Awdur: Steffan Jones

9.

AWDURDOD LLETYA PARTNERIAETH CHWARAEON GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 264 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd i Gyngor Gwynedd fod yr awdurdod lletya ar gyfer Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru. 

 

Dirprwywyd yr hawl i’r Pennaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Phennaeth Cyllid i gytuno a chwblhau cytundeb cyd-weithio addasedig. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd i Gyngor Gwynedd fod yr awdurdod lletya ar gyfer Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru.   

 

Dirprwywyd yr hawl i’r Pennaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Phennaeth Cyllid i gytuno a chwblhau cytundeb cyd-weithio addasedig.   

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Cabinet yn ôl mis Rhagfyr wedi cymeradwyo fod yn rhan o’r Bartneriaeth. Nodwyd pan wnaethpwyd y penderfyniad roedd bwriad i Gyngor Conwy yn awdurdod lletya. Bellach, mynegwyd fod Cyngor Conwy yn methu cwrdd â'r gofynion o ran yr elfen awdurdod lletyol, nodwyd fod gofyniad i Gyngor Gwynedd i weithredu yn eu lle.

 

Pwysleisiwyd fod y Cyngor yn awdurdod lletya ar gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a GwE, ond y buasai lletya'r Bartneriaeth yn llawer llai o waith ar gyfer swyddogion y Cyngor. Nodwyd y penderfyniad a geisiwyd.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Holwyd gyda’r Cyngor yn lletya amrediad o gynlluniau ar draws y gogledd holwyd am faint y gwaith y buasai ei angen i’w letya. Nododd y Pennaeth Cyllid fod graddfa'r cynllun yma yn llawer yn llai, amlygwyd nad oedd yn gydbwyllgor gan ei fod yn bartneriaeth anffurfiol. Er bod gwaith i ddyrannu’r arian grant, ei bod ar raddfa llawer yn llai o ran cyfrifon blynyddol.

¾     Amlygwyd fod y Cyngor yn lletya cymaint o gynlluniau a holwyd os ddylid llongyfarch y Cyngor am fod llwyddiannus yn gwneud y gwaith. Ychwanegwyd fod Gwynedd yn arwain ar lawer o gynlluniau a bod angen bod yn falch o hynny, ond pwysleisid yr angen i gadw golwg i sicrhau nad yw’n tarfu ar waith dydd i ddydd y Cyngor.

 

 

Awdur: Sioned Williams

10.

LLYTHYR ARCHWILIAD SICRWYDD AROLYGIAETH GOFAL CYMRU pdf eicon PDF 213 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig ac y Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd cynnwys y Llythyr Archwiliad Sicrwydd a gyhoeddwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ynghylch eu canfyddiadau am wasanaethau cymdeithasol Cyngor Gwynedd yn dilyn archwiliad ar 18-22 Ionawr 2021.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig a Cyng. Dilwyn Morgan.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd cynnwys y Llythyr Archwiliad Sicrwydd a gyhoeddwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ynghylch eu canfyddiadau am wasanaethau cymdeithasol Cyngor Gwynedd yn dilyn archwiliad ar 18-22 Ionawr 2021.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn cael ei chyflwyno er gwybodaeth i’r aelodau Cabinet. Nodwyd fod yr archwiliad wedi ei gynnal yn ystod mis Ionawr ac yn ystod yr ail don y pandemig. Croesawyd yr archwiliad fel modd o sicrhau safon o fewn y gwasanaethau. Esboniwyd fod y llythyr yn canmol gwaith y ddwy adran ar y cyfan. Tynnwyd sylw at y prif negeseuon o ran yr Adran Oedolion a oedd yn cynnwys fod gwaith da yn cael ei wneud yn y maes atalion ond y buasent yn gwerthfawrogi mwy o fuddsoddiad yn y maes. Mynegwyd yr angen am wella amser aros ar gyfer therapi galwedigaethol, ond atgoffwyd fod y Cabinet yn ddiweddar wedi cytuno i gynyddu’r gyllideb o fewn y maes i gynyddu adnoddau’r adran.  Pwysleisiwyd fod y Cyngor wedi ymdopi yn dda gyda’r pandemig a chanmolwyd y defnydd amserol o ffyrdd digidol, rhannu’r cyfarpar diogelu unigol ynghyd a sicrhau fod unigolion yn dychwelyd adref yn amserol yn dilyn cyfnod yn yr ysbyty.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd fod y bartneriaeth gyda’r Arolygaeth Gofal yn holl bwysig ac esboniwyd fod yr archwiliad yn edrych yn benodol ar ddiogelwch a llesiant. Nodwyd ei fod yn deimlad braf fod y llythyr yn amlygu materion ble roedd yr adran yn ymwybodol ohonynt a'u bod yn rhan o’r rhaglen waith. Diolchwyd i staff yr arolygaeth am y modd iddynt drefnu’r arolwg ynghyd a’r staff am eu cynorthwyo yng nghanol pandemig ac i’r defnyddwyr gwasanaeth am roi eu hamser yn ogystal.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ei diolch i’r penaethiaid, rheolwyr a staff am fod mor barod i drefnu’r arolwg gan sicrhau fod gwaith dydd i ddydd yn cael ei flaenoriaethu yn ogystal. Diolchwyd i’r Archwilwyr am fynd ati mor ystyrlon gan sicrhau nad oedd yn ormod o fyrdwn i staff. Pwysleisiwyd ei bod yn braf cael adroddiad nad oedd yn codi dim o’r newydd, a bod mwyafrif ohonynt wedi ei amlygu yn y rhaglen waith. Nodwyd fod y Llythyr wedi ei anfon at y Pwyllgor Craffu yn ogystal er gwybodaeth.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Mynegwyd fod y maes mor eang a cynhennus nodwyd fod cynnwys llythyr da. Ychwanegwyd ei bod yn arbennig o dda fod y llythyr yn cydnabod meysydd mae’r adrannau yn ymwybodol ohonynt yn barod.

 

Awdur: Morwena Edwards

11.

CYFRIFON TERFYNOL 2020-21 - ALLDRO REFENIW pdf eicon PDF 394 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.1 Nodwyd y sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2020/21.

 

1.2 Cymeradwywyd y symiau i’w cario ymlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant

Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1), sef –

 

ADRAN

£’000

Oedolion, Iechyd a Llesiant

(100)

Plant a Theuluoedd

0

Addysg

(100)

Economi a Chymuned

(100)

Priffyrdd a Bwrdeistrefol

0

Amgylchedd

(100)

Ymgynghoriaeth Gwynedd

(64)

Tai ac Eiddo

(75)

Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol

(100)

Cyllid

(86)

Cefnogaeth Gorfforaethol

(100)

 

1.3 Cymeradwywyd yr argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u

egluro yn Atodiad 2) –

·         Yr Adran Plant a Theuluoedd i dderbyn cymorth ariannol un-tro o £1,261k i

ddiddymu y gorwariant yn llwyr, o ystyried yr amgylchiadau eithriadol yn

ymwneud â’r argyfwng eleni. Fel bod modd i’r adran symud ymlaen i wynebu

her 2021/22.

·         Yn unol â'r Rheoliadau Ariannol argymhellir cadw at y drefn arferol i ganiatáu

i'r Adran Addysg gadw (£100k) o'i danwariant, gan symud (£159k) sef y swm

uwchlaw (£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adran sydd wedi gorwario yn

2020/21.

·         Caniatáu i’r Adran Tai ac Eiddo drosglwyddo (£848k) cynnal a chadw corfforaethol i gronfa cynnal a chadw i ariannu'r gwariant i'r dyfodol.

·         Yn unol â'r Rheoliadau Ariannol argymhellir cadw at y drefn arferol i ganiatáu y Tim Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol gadw (£100k) o'i danwariant, gan symud (£6k) sef y swm uwchlaw (£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adran sydd wedi gorwario yn 2020/21.

·         Ar gyllidebau Corfforaethol:

¾    defnyddio (£926k) o’r tanwariant net Corfforaethol i gynorthwyo'r Adran Plant sydd wedi gorwario yn 2020/21.

¾    fod (£2,047k) cynlluniau cyfalaf sydd i'w hariannu o refeniw i'w trosglwyddo i gronfa i alluogi ailbroffilio'r adnodd.

¾    fod £600k yn cael ei ryddhau o falansau cyffredinol y Cyngor.

¾    (£4,000k) yn cael ei neilltuo i gronfa Trawsffurfio y Cyngor i gefnogi gwaith trawsffurfiol ac o natur un-tro.

¾    (£2,519k) yn cael ei neilltuo i gronfa ar gyfer trefniadau adfer yn sgil Covid19.

 

1.4 Cymeradwywyd y trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel a amlinellir

yn Atodiad 4 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd, gan gynaeafu (£170k) o gronfeydd i gynorthwyo’r Adran Plant sydd wedi gorwario yn 2020/21.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas.

 

PENDERFYNIAD

 

1.1 Nodwyd y sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2020/21.  

 

1.2 Cymeradwywyd y symiau i’w cario ymlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant  

Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1), sef –  

 

ADRAN 

£’000 

Oedolion, Iechyd a Llesiant  

(100) 

Plant a Theuluoedd 

Addysg 

(100) 

Economi a Chymuned 

(100) 

Priffyrdd a Bwrdeistrefol 

Amgylchedd 

(100) 

Ymgynghoriaeth Gwynedd  

(64) 

Tai ac Eiddo 

(75) 

Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol 

(100) 

Cyllid 

(86) 

Cefnogaeth Gorfforaethol 

(100) 

 

1.3 Cymeradwywyd yr argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u  

egluro yn Atodiad 2) –  

  • Yr Adran Plant a Theuluoedd i dderbyn cymorth ariannol un-tro o £1,261k i  

ddiddymu y gorwariant yn llwyr, o ystyried yr amgylchiadau eithriadol yn  

ymwneud â’r argyfwng eleni. Fel bod modd i’r adran symud ymlaen i wynebu  

her 2021/22.  

  • Yn unol â'r Rheoliadau Ariannol argymhellir cadw at y drefn arferol i ganiatáu  

i'r Adran Addysg gadw (£100k) o'i danwariant, gan symud (£159k) sef y swm  

uwchlaw (£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adran sydd wedi gorwario yn  

2020/21. 

  • Caniatáu i’r Adran Tai ac Eiddo drosglwyddo (£848k) cynnal a chadw corfforaethol i gronfa cynnal a chadw i ariannu'r gwariant i'r dyfodol.  
  • Yn unol â'r Rheoliadau Ariannol argymhellir cadw at y drefn arferol i ganiatáu y Tim Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol gadw (£100k) o'i danwariant, gan symud (£6k) sef y swm uwchlaw (£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adran sydd wedi gorwario yn 2020/21. 
  • Ar gyllidebau Corfforaethol: 

¾    defnyddio (£926k) o’r tanwariant net Corfforaethol i gynorthwyo'r Adran Plant sydd wedi gorwario yn 2020/21.  

¾    fod (£2,047k) cynlluniau cyfalaf sydd i'w hariannu o refeniw i'w trosglwyddo i gronfa i alluogi ailbroffilio'r adnodd.  

¾    fod £600k yn cael ei ryddhau o falansau cyffredinol y Cyngor.  

¾    (£4,000k) yn cael ei neilltuo i gronfa Trawsffurfio y Cyngor i gefnogi gwaith trawsffurfiol ac o natur un-tro.  

¾    (£2,519k) yn cael ei neilltuo i gronfa ar gyfer trefniadau adfer yn sgil Covid19.  

 

1.4 Cymeradwywyd y trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel a amlinellir  

yn Atodiad 4 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd, gan gynaeafu (£170k) o gronfeydd i gynorthwyo’r Adran Plant sydd wedi gorwario yn 2020/21. 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn manylu ar wariant y Cyngor yn 2020/21. Tynnwyd sylw at dalfyriad o’r sefyllfa derfynol yr holl adrannau a oedd i’w gweld yn yr adroddiad gyda’r symiau i’w cario ymlaen ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yn y golofn Gor / Tan Wariant Addasedig.

 

Amlygwyd y prif faterion a meysydd ble gwelwyd gwahaniaethau sylweddol. Nodwyd fod effaith ariannol Covid wedi bod yn sylweddol i’r Cyngor gyda £20m wedi ei hawlio o’r gronfa caledi a Furlough erbyn diwedd y flwyddyn. Esboniwyd yn dilyn derbyn nifer o grantiau sylweddol eraill cysylltiedig â Covid-19 yn hwyr yn y flwyddyn ariannol, golyga hyn fod y sefyllfa ariannol 2020/21 wedi ei drawsnewid erbyn diwedd y flwyddyn. Cyn dyrannu'r grantiau digolledu am Covid19 gan Lywodraeth Cymru nodwyd fod 5 adran yn gorwario, ond yn dilyn y dyraniad dim ond yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd sydd yn gorwario yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

Awdur: Ffion Madog Evans

12.

RHAGLEN GYFALAF 2020-21 - ADOLYGIAD DIWEDD BLWYDDYN (SEFYLLFA 31 MAWRTH 2021) pdf eicon PDF 329 KB

Cyflwynwyd gan: Cllr. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2021) o’r rhaglen gyfalaf.

 

Nodwyd y gwariant o £27,667,000 ar y rhaglen gyfalaf yn ystod y flwyddyn ariannol 2020/21, fydd yn cael ei ddefnyddio yn y datganiadau ariannol statudol ar gyfer 2020/21.

 

Cymeradwywyd ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

¾    £3,000 cynnydd mewn defnydd o fenthyca

¾    £10,561,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau

¾    Dim newid mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf

¾    £234,000 cynnydd mewn defnydd o gyfraniadau refeniw

¾    Dim newid mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf

¾    £200,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2021) o’r rhaglen gyfalaf.  

 

Nodwyd y gwariant o £27,667,000 ar y rhaglen gyfalaf yn ystod y flwyddyn ariannol 2020/21, fydd yn cael ei ddefnyddio yn y datganiadau ariannol statudol ar gyfer 2020/21.  

 

Cymeradwywyd ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:  

·         £3,000 cynnydd mewn defnydd o fenthyca 

·         £10,561,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau  

·         Dim newid mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf  

·         £234,000 cynnydd mewn defnydd o gyfraniadau refeniw  

·         Dim newid mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf  

·         £200,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill  


TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn cyflwyno’r rhaglen gyfalaf diwygiedig a chymeradwyo’r ffynonellau ariannu perthnasol. Nodwyd fod yr adroddiad yn dadansoddi’r rhaglen gyfalaf £114.6m am y tair blynedd 2020/21 – 2022/23 fesul adran. Ychwanegwyd fod yr adran yn manylu ar y ffynonellau i  ariannu’r cynnydd net sydd oddeutu £11m ers yr adolygiad blaenorol.  

 

Mynegwyd fod y Cyngor wedi llwyddo i wario £27.7m yn 2020/21 ar gynlluniau cyfalaf, gyda £18.2m ohono wedi’i ariannu drwy grantiau penodol. Esboniwyd fod effaith Covid19 a’r cyfnod clo i’w weld yn glir. Ategwyd fod £14.1m adroddwyd arno yn yr adolygiadau blaenorol 2020/21 fod £19.3m pellach o wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio i 2021/22 gyda’r prif gynlluniau yn cynnwys £4.5m Cynllunia Ysgolion Ganrif 21, £3.3m Adnewyddu Cerbydau, £2.2m ar Gynnal a Chadw Ysgolion a gyrhaeddodd ym Mawrth 2021, gyda hawl benodol gan Lywodraeth Cymri i ddisodli ariannu cyfredol a’i lithro i’r flwyddyn ganlynol a £1.7m i gynllun Cei Aberdyfi.

 

Tynnwyd sylw at y grantiau ychwanegol y llwyddodd i’r Cyngor ei ddenu ers yr adolygiad diwethaf a oedd yn cynnwys £7.2m o’r Gronfa Trafnidiaeth Leol a Llwybrau Diogel, £0.6m Grant Tai Arloesol i gynorthwyol gyda lleihau digartrefedd a £0.5m Grant Cronfa Gofal Canolraddol.

 

Nododd y Pennaeth Cyllid fod yr adroddiad yn ymwneud a chynlluniau cyfalaf. Ychwanegwyd fod y drefn monitro perfformiad am ail gychwyn mewn ychydig a bydd monitro cynlluniau cyfalaf yn cael ei ymgorffori yn y drefn yn ogystal.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Nodwyd ei bod yn rhyfeddol y bydd y Cyngor am wario £64m ar gynlluniau cyfalaf yn ystod y flwyddyn nesaf i fuddsoddi yn nyfodol y sir. Diolchwyd i staff am sicrhau fod cynlluniau yn ei lle yn barod i pan mae cyfleoedd yn codi, ac i fod mor barod i wneud defnydd o grantiau hwyr. 

¾    Tynnwyd sylw at rai o’r cynlluniau tu ôl i’r ffigyrau yn benodol cynlluniau economi gylchol sydd yn amlygu newid sylweddol o sut y bydd modd delio a gwastraff mewn ffordd wahanol i sicrhau fod adnoddau yn cael ei ail ddefnyddio a'i gadw mewn defnydd o fewn cymunedau. 

 

Awdur: Ffion Madog Evans

13.

BLAEN RAGLEN Y CABINET pdf eicon PDF 275 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y Flaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod.

 

 

Cofnod:

Cymeradwywyd y Flaen raglen a gynhyswyd yn y papurau i’r cyfarfod.