skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiehruiad gan Cyng. Gareth Thomas.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 18 MAI 2021 pdf eicon PDF 317 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mai 2021 fel rhai cywir.

 

6.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CYNGOR GWYNEDD 2020/21 pdf eicon PDF 121 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siecyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Cyngor Gwynedd 2020/21 ac argymhellwyd i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu yn y Cyngor Llawn ar yr 8 Gorffennaf 2021.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn.  

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Cyngor Gwynedd 2020/21 ac argymhellwyd i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu yn y Cyngor Llawn ar yr 8 Gorffennaf 2021.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn bleser ei gyflwyno. Pwysleisiwyd fod y ddogfen yn un clir, darllenadwy sy’n rhoi darlun clir o waith yr holl gyngor. Eglurwyd fod un rhan a’r ddechrau’r adroddiad yn rhoi disgrifiad o’r gwaith a wnaethpwyd ar ddechrau’r cyfnod clo pan fu i waith y Cyngor gael ei gyfyngu o ganlyniad i’r rheoliadau covid. Eglurwyd fod staff y Cyngor wedi ymateb yn ystwyth a hyblyg i gyfarch y sefyllfa ac wedi gweithio i greu ffordd newydd o weithio. Diolchwyd i’r holl staff am fod mor barod i addasu ac i ymateb mor gyflym ac effeithlon i’r cyfnod clo.

 

Nodwyd fod yr adroddiad yn amlygu blaenoriaethau’r Cyngor gan bwysleisio'r angen i barhau i drafod y maes twristiaeth gynaliadwy. Nodwyd y bydd yr Adran Addysg yn parhau i  weithio i wella’r ddarpariaeth addysg o fewn y sir, gan nodi fod gwaith wedi ei wneud yn Ysgol Godrau’r Berwyn ac Ysgol y Garnedd a bod ysgol newydd ar ei ffordd yng Nghricieth.

 

Mynegwyd yn wyneb yr argyfwng tai fod y Cynllun Gweithredu Tai yn ei le. Nodwyd fod y cynllun hwn yn uchelgeisiol ac arloesol a bod  ymrwymiad o  £77miliwn o arian ar gyfer cyfnod y cynllun.

 

Esboniwyd fod rhai adrannau yn anweledig gan drigolion y sir ac wedi ei effeithio dros y blynyddoedd gan doriadau. Amlygwyd adran Gwarchod y Cyhoedd sydd wedi delio gyda nifer o newidiadau o ganlyniad i argyfwng Covid-19. Diolchwyd i staff am ymroi i’r drefn Profi, Olrhain a Diogelu sydd wedi amlygu gallu Llywodraeth Leol i wneud y gwaith heb wastraffu arian ar gwmnïau allanol.

 

Mynegwyd mai dyma Adroddiad Blynyddol olaf y tymor yma  ac y bydd trefn newydd i’r dyfodol. Ychwanegwyd fod y drefn herio perfformiad mewnol o fewn y Cyngor yn ail gychwyn er mwyn sicrhau fod y Cyngor yn edrych ar ei gwendidau ac yn gwella yn barhaus.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Diolchwyd i staff yr adran Blant a Chefnogi Teuluoedd am barodrwydd a hyblygrwydd yn ystod y cyfnod. Diolchwyd i’r holl rieni maeth sydd wedi bod mor barod i lenwi’r bwlch. Ychwanegwyd fod yr adran yn ymwybodol o’u heriau wrth symud yn eu blaenau a bod y cynllun awtistiaeth am fod yn un o’r flaenoriaeth am eleni.

¾    Diolchwyd i staff yr adran Oedolion, Iechyd a Llesiant am ddyfalbarhau mewn blwyddyn anodd. Nodwyd fod eleni wedi amlygu cryfder y staff.

¾    Tynnwyd sylw at un cywiriad bychan i’w addasu, fod 8 blaenoriaeth gwella bellach nid 7.

¾    Cydnabuwyd y gwaith arbennig sydd wedi ei wneud yn yr ysgolion i ymateb i’r her o ddysgu o adref.

¾    Diolchwyd i staff yr adran gyllid a technoleg gwybodaeth am ei gwaith i gefnogi yr adrannau eraill.

¾    Diolchwyd i staff yr adran Economi am siarad gyda busnesau yn ystod yr holl gyfnod ac i ddyrannu grantiau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Dewi Wyn Jones

7.

YSGOL ABERSOCH pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bu i’r Cabinet, yn dilyn ystyried sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol, ynghyd â’r ymateb yr Adran Addysg i’r sylwadau hynny

 

      i.        Gymeradwyo cyhoeddi cynnig statudol i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol sarn Bach o 1 Ionawr 2022

    ii.        Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig yn (i) yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Cemlyn Williams 

 

PENDERFYNIAD

 

Bu i’r Cabinet, yn dilyn ystyried sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol, ynghyd â’r ymateb yr Adran Addysg i’r sylwadau hynny 

 

      i.Gymeradwyo cyhoeddi cynnig statudol i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Ionawr 2022 

    ii.Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig yn (i) yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai pwrpas yr adroddiad yw adrodd yn ôl yn dilyn cyfnod ymgynghori statudol ar yr opsiwn i gau Ysgol Abersoch a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol Sarn Bach. Mynegwyd nad oedd y penderfyniad i ddod a’r adroddiad i’r Cabinet wedi bod yn rhwydd ond fod yr adran yn gofyn am gymeradwyaeth i gyhoeddi cynnig statudol i gau Ysgol Abersoch yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

 

Pwysleisiwyd ei bod yn anodd iawn cyflwyno’r adroddiad hwn, ond fod  dyletswydd sicrhau addysg a phrofiadau ac amgylchedd gorau posib i blant. Mynegwyd fod ystyriaeth lawn wedi ei roi i’r holl opsiynau posib i’r ysgol. Diolchwyd i’r holl unigolion, disgyblion, athrawon a llywodraethwyr ar roi eu hamser i ymateb i’r ymgynghoriad statudol.

 

Mynegwyd fod yr angen wedi codi i edrych ar ddyfodol Ysgol Abersoch y dilyn gostyngiad yn nifer y disgyblion Nodwyd fod niferoedd Ysgol Abersoch wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf a bellach fod 76% o gapsiti’r ysgol yn wag gyda rhag amcanion am y blynyddoedd nesaf yn dangos fod y niferoedd am barhau yn isel.

 

Bu i’r Pennaeth Addysg nodi yn ôl yn Mai 2019 y bu i’r Cabinet gytuno i gefnogi cynnal trafodaeth ffurfiol gyda chorff llywodraethol yr Ysgol i drafod opsiynau posib yn dilyn lleihad yn y nifer y disgyblion. Bu i 3 cyfarfod ei gynnal a oedd yn gyfle i egluro’r angen i drafod opsiynau, i gyflwyno a thrafod yr opsiynau cyn dod i benderfyniad ar yr opsiwn ffarfredig.

 

Yn ôl ym Medi 2020 nodwyd y bu i’r Cabinet ymgymryd â’r proses ymgynghori statudol ar gynnig i gau Ysgol Abersoch Awst 2021, gan gynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol Sarn Bach. Bu i’r penderfyniad gan ei gadarnhau yn y Cabinet ar y 5ed o Dachwedd wedi i’r penderfyniad gael ei alw mewn i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ym mis Hydref.

 

Amlygodd y Pennaeth Addysg y prif heriau oedd yn wynebu’r ysgol a oedd yn cynnwys niferoedd disgyblion wedi gostwng ers 2016. Mynegwyd fod 8 disgybl yn yr ysgol yn llawn amser ar hyn o bryd gyda 2 ddisgybl yno rhan amser. Ychwanegwyd fod y rhagolygon yn nodi y bydd 10 disgybl yn 2021, a 12 yn 2022 a 2023. Esboniwyd fod data yn amlygu fod 21 o blant yn nalgylch Abersoch yn mynychu ysgolion arall a bod 3 disgybl o du hwnt i ddalgylch Aberoch yn mynychu’r ysgol. Mynegwyd fod niferoedd isod yn rhoi pwysau ychwanegol ar gyllidebau. Tynnwyd sylw at  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Gwern ap Rhisiart

8.

YMATEB I'R ADRODDIAD "AIL GARTREFI - DATBLYGU POLISIAU NEWYDD YNG NGHYMRU pdf eicon PDF 508 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfirg Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd ar ymateb y Cyngor i’r adroddiad “Ail Gartrefi – Datblygu Polisïau Newydd yng Nghymru” fel y nodir yn rhan 9 o’r adroddiad gan amlygu’n benodol yr angen i addasu argymhelliad rhif 7 – Llety Gwyliau Tymor Byr a Threthi Busnes.

 

Cytunodd yr Arweinydd i gyfleu’r ymateb yn ffurfiol i Lywodraeth Cymru gan alw arnynt i’w fabwysiadau a gweithredu’r argymhellion mwyaf effeithiol ar fyrder er mwyn ymateb i’r argyfwng tai sy’n wynebu cymunedau Gwynedd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn.

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd ar ymateb y Cyngor i’r adroddiad “Ail Gartrefi – Datblygu Polisïau Newydd yng Nghymru” fel y nodir yn rhan 9 o’r adroddiad gan amlygu’n benodol yr angen i addasu argymhelliad rhif 7 – Llety Gwyliau Tymor Byr a Threthi Busnes.  

 

Cytunodd yr Arweinydd i gyfleu’r ymateb yn ffurfiol i Lywodraeth Cymru gan alw arnynt i’w fabwysiadau a gweithredu’r argymhellion mwyaf effeithiol ar fyrder er mwyn ymateb i’r argyfwng tai sy’n wynebu cymunedau Gwynedd.  

. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod angen ymatebiad i’r adroddiad “Ail Gartrefi – Datblygu Polisïau Newydd yng Nghymru” gan y Dr Simon Brooks, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Coleg Cymraeg. Mynegwyd fod Dr Brooks wedi cysylltu â’r Cyngor a bod nifer o’r argymhellion wedi dod o adroddiad a gyflwynwyd gan yr Adran Amgylchedd i’r Cabinet yn ôl ym mis Rhagfyr.

 

Eglurwyd fod deuddeg argymhelliad yn yr adroddiad a bod angen i’r Cyngor ymateb i’r adroddiad. Amlygwyd mai dim ond un argymhelliad mae’r Cyngor yn anghytuno a hi sef argymhelliad 7 – Llety Gwyliau Tymor Byr a Threthi Busnes. Mynegwyd yr angen i bob annedd gael ei gyfrif fel annedd ac yn cael ei orfodi i dalu treth Cyngor ac unrhyw bremiwm sydd yn cyd-fynd ar annedd hwn. Nodwyd fod yr adroddiad yn un clodwiw ac o bwys ac ategwyd yr awydd i yrru neges at y Llywodraeth at ymateb y Cyngor i’r adroddiad.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad wedi tynnu ar lawer o ffynonellau a'i bod yn holl bwysig i’r Cyngor ymateb gan fod problem ail gartrefi yng Nghywydd ar ei gwaethaf. Amlygwyd y camau mae’r Cyngor wedi ei wneud yn barod i daclo’r broblem a oedd yn cynnwys mabwysiadu Polisi Gosod Newydd fel bod y flaenoriaeth ar bobl leol, gwneud defnydd o godi Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi gan fuddsoddi’r arian ychwanegol mewn Cynllun Gweithredu Tai. Pwysleisiwyd fod y Cyngor wedi gwneud popeth o fewn eu gallu ar gyfer y sefyllfa ynghyd a chomisiynu gwaith penodol er mwyn edrych i’r broblem. Cefnogwyd adroddiad Dr Simon Brooks gan bwysleisio fod nifer o argymhellion a wnaethpwyd gan y Cyngor yn y gwaith comisiwn i’w gweld yn yr adroddiad.

 

Eglurwyd i wneud gwahaniaeth mwyaf mae angen canolbwyntio ar yr argymhellion sydd am wneud gwahaniaeth ac amlygwyd 3 argymhelliad. Y cyntaf oedd Argymhelliad 7, gan ei fod wedi ei amlygu fel un o brif broblemau’r trigolion sef fod ail gartrefi ddim yn talu treth Cyngor wrth symud i dreth fusnes bach. Pwysleisiwyd yr angen i rwystro hyn rhag digwydd fel eu bod yn cyfrannu i’r Cyngor ac efallai gyda’r premiwm yn rhwystro eraill rhag prynu ail gartref. Yr ail flaenoriaeth oedd sicrhau fod dosbarth derbyn penodol er mwyn newid cartref o fod yn annedd i fod yn ail gartref a drwy hyn fod angen cais cynllunio. A'r trydydd er mwyn cael y dystiolaeth ar gyfer y ceisiadau cynllunio od angen cynllun trwyddedu ar gyfer dai gwyliau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

Awdur: Dafydd Gibbard