Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan yr ymgeisydd Mr J Rowley

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi.


3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi.


4.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 277 KB

VENU, PWLLHELI

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

Caniatáu’r cais

 

Cofnod:


Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer The Venu, Pwllheli, Gwynedd. Gwnaed y cais mewn perthynas â gwerthu alcohol, cerddoriaeth byw ar yr eiddo, cerddoriaeth wedi ei recordio ar ac oddi ar yr eiddo, dangos chwaraeon byw a lluniaeth hwyr yn nos.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nid oedd gan Cyngor Tref Pwllheli wrthwynebiad i’r cais. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cytuno i gynnwys amodau ychwanegol mewn perthynas a Theledu Cylch Cyfyng (TCC) ar gais yr Heddlu. Ni dderbyniwyd sylwadau na gwrthwynebiadau pellach. Ategwyd bod y cais yn adlewyrchu'r hyn oedd wedi ei ganiatáu ar y drwydded eiddo oedd yn bodoli yn flaenorol.

 

Argymhellwyd fod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r cais yn unol â’r hyn a gytunwyd gyda’r Heddlu a gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003. 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â phwysleisio’r angen i sicrhau bod recordiadau TCC yn cael eu cadw am 30 diwrnod, nododd y Swyddog Trwyddedu bod hyn yn rhan o argymhellion yr Heddlu - yr ymgeisydd a staff yr eiddo i dderbyn hyfforddiant ar sut i weithredu TCC sut i recordio a llawr lwytho yn effeithiol. Ategwyd bod yr ymgeisydd wedi cytuno i gydymffurfio yn llawn a’r gofynion hyn.

Nid oedd yr ymgeisydd yn bresennol i ymhelaethu ar y cais.

 

Nid oedd Heddlu Gogledd Cymru yn bresennol i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd ganddynt.

 

d)      Ymneilltuodd y Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 dd)      Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb ac adroddiad y Swyddog Trwyddedu Ystyriwyd  Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Roedd yr holl ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

                       i.       Atal trosedd ac anhrefn

                      ii.       Atal niwsans cyhoeddus

                     iii.       Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                     iv.       Gwarchod plant rhag niwed

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais

 

Rhoddir trwydded fel a ganlyn:

 

1.    Oriau agor: Sul-Sadwrn 08:00-03:00

2.    Cerddoriaeth fyw tu mewn a thu allan: Sul-Sadwrn 08:00-02:45

3.    Cerddoriaeth wedi ei recordio tu mewn a thu allan: Sul-Sadwrn 08:00-02:45

4.    Digwyddiadau chwaraeon dan do: Sul-Sadwrn 08:00-23:45

5.    Perfformiadau dawns tu mewn a thu allan: Sul-Sadwrn 08:00-02:45  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.