skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Natalie Lloyd Jones  01286 679780

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Ethol Cadeiryd ar gyfer 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Etholwyd Y Cynghorydd Berwyn P Jones yn Gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y cyfnod 2021/22.

 

Cofnod:

To elect Councillor Berwyn P Jones as Chair of this committee for 2021/22.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Etholwyd Y Cynghorydd Glyn Daniels yn Is-Gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y cyfnod 2021/22.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Simon Glyn a Dafydd Owen.

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd datganiadau o fuddiant personol gan Y Cynghorwyr Elwyn Jones ac Anwen Hughes, yn eitem 7 ar y rhaglen, gan eu bod yn glercod i Gynghorau Cymuned.

Nid oedd yr aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu, ac ni adawsant y cyfarfod yn

ystod y drafodaeth ar yr eitem.

The members weren’t of the opinion that it was a prejudicial interest and therefore didn’t leave the meeting during the discussion on the Item.

 

5.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni fu unrhyw faterion brys i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 219 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol

o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22 Ebrill, 2021 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 22ain Ebrill 2021, fel rhai cywir.

7.

BINIAU HALEN pdf eicon PDF 257 KB

I adrodd ar y sefyllfa gyfredol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd

b)    Bod adroddiad pellach yn dod gerbron y pwyllgor i’w diweddaru ar y sefyllfa.

 

Cofnod:

Cafwyd rhagair gan y Cynghorydd Catrin Wager yr Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Bwrdeistrefol yn atgoffa’r Pwyllgor o’r toriadau sydd wedi bod dros y blynyddoedd ag arweiniodd at Gynghorau cymuned yn cymryd cyfrifoldeb dros y biniau halen.

Eglurwyd bod gwaith wedi ei gomisiynu i edrych ar y ddarpariaeth gan fod ymdeimlad ei fod yn annheg ar gynghorau cymuned fwy gwledig neu ar dirwedd wahanol sydd angen fwy o ddarpariaeth.

Ychwanegodd y Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol bod yr adroddiad yn amlygu trefniadau graeanu sydd eisoes yn bodoli a threfniadau ynghylch ffyrdd prif flaenoriaeth ac ail flaenoriaeth.

Yn ystod y drafodaeth, cafwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:-

- Diolchwyd am yr adroddiad a llongyfarchwyd y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd ar eu hetholiad.

- Gofynnwyd a fydd modd ystyried cydweithio gydag amaethwyr a chontractwyr lleol yn yr ardal fel bod ganddynt gyflenwad i’w ddefnyddio ac o ganlyniad ni fydd angen biniau halen o amgylch yr ardal.

- Holwyd os oes gan gynghorau cymuned a thref yswiriant ar gyfer damweiniau wrth i bobl nôl halen ynteu ydi hyn yn gyfrifoldeb ar yr Awdurdod.

- Nodwyd mewn rhai ardaloedd bod rhai ffermwyr yn cydweithio efo’r Cyngor ers blynyddoedd a holwyd a fyddai hyn yn parhau yn enwedig mewn ardaloedd sydd ag lonydd serth o gymharu â threfi mwy gwastad.

- Awgrymwyd y buasai’n tecach i’r gost cael ei rhannu’n gyfartal rhwng cynghorau tref a chymuned fel bod llai o bwysau ar bentrefi llai sydd angen ei ddefnyddio fwy.

- Atgoffwyd un aelod nad oes gaeaf caled wedi bod ers i’r ddyletswydd hwn ddisgyn ar gynghorau cymuned a thref a gofynnwyd beth fyddai’r gost o’r holl ddamweiniau allai ddigwydd petai ddim cyflenwad. Bod angen ail ystyried y trefniadau, dylid rhoi ystyriaeth i ail-sefydlu’r gwasanaeth fel yr oedd gyda’r gwariant yn cael ei ariannu drwy Dreth y Cyngor.

- Cwestiynwyd y targed arbed arian o £100,000 gan nad oedd wedi ei wireddu a holwyd os oes opsiynau gwell i osgoi trafferth i gynghorau cymuned a thref.

- Holodd aelod faint o gynghorau cymuned a thref oedd wedi ymrwymo ac os yw’r Cyngor yn parhau i lenwi biniau mewn cymunedau sydd heb ymrwymo.

Mewn ymateb i’r sylwadau nododd y Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol y canlynol:-

- Cytunwyd, os fyddai’r Cyngor yn edrych ar y ddarpariaeth, bod angen cyfle i gydweithio a chadw’r budd yn lleol drwy roi cytundebau i gontractwyr neu ffermwyr lleol.

- O ran yswiriant, nodwyd bod biniau halen yna i’w ddefnyddio ar sail risg yr unigolyn ac felly does dim oblygiad dilynol yn erbyn y cyngor cymuned neu dref.

- Nodwyd os fydd perygl o risg, bod cyfrifoldeb yn parhau ar yr Awdurdod Lleol i sicrhau bod y ffyrdd yn ddiogel.

- Cytunwyd bod angen cysoni’r dull gyfathrebu er mwyn trefnu ail lenwi biniau â halen.

- Nodwyd bod yr adran am edrych ar ffyrdd blaenoriaeth/ ail flaenoriaeth er mwyn sicrhau diogelwch y defnyddwyr.

- Mewn perthynas â’r arbediad arian, eglurodd y Pennaeth ei fod yn awyddus i glywed barn y pwyllgor ar y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

TRAFNIDIAETH - GWERTH CYMDEITHASOL pdf eicon PDF 194 KB

I Ddiweddaru’r Pwyllgor am y cynnydd hyd yma.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth yr Adran Amgylchedd a chychwynnwyd drwy atgoffa’r Pwyllgor o brif faterion ynghylch cludiant cyhoeddus sef y gost, gorddibyniaeth ar rhai cwmnïau penodol, a gorddibyniaeth pobl ar fysiau. Pwysleisiwyd bod y rhwydwaith bysiau wedi datblygu yn ddiweddar ac ategwyd bod anghenion trigolion wedi newid o ganlyniad i newid arferion dros y cyfnod pandemig.

Trafodwyd y prif faterion yr ystyriwyd wrth greu’r adolygiad strategol dan sylw, gan gynnwys y canlynol:

- Adnabod yr angen sydd ym mhob cymuned gan fod rhai yn hollol ddibynnol ar deithiau penodol er mwyn cyfarch eu hanghenion sylfaenol.

- Y gwaith ymgysylltu sydd wedi digwydd yn lleol er mwyn defnyddio’r ymatebion i adnabod yr angen.

- Adnabod beth yw’r gwerth cymdeithasol buddsoddi mewn gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.

- Atgoffwyd bod sefyllfa Gwynedd fel ardal fwy gwledig yn creu fwy o heriau ynghylch anghenion trafnidiaeth.

- Trafodwyd yr her o ysgogi defnyddwyr i deithio ar fysiau unwaith eto ar ôl cyfnod o ddefnydd isel.

Yn ystod y drafodaeth, cafwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-

- Diolchwyd am y wybodaeth ddefnyddiol o fewn yr adroddiad a nodwyd bod colli gwasanaeth mewn rhai cymunedau wedi bod yn ergyd gan fod llawer o bobl eu hangen ar gyfer ymweld â’r deintydd neu feddyg.

- Cynigwyd bod angen edrych ar amserlen y bysiau er enghraifft cynnig gwasanaeth cynharach er mwyn defnyddio at ddibenion gwaith neu addysg.

- Gofynnwyd am eglurder o ran y wybodaeth ar dudalen 33 o’r rhaglen am Wasanaeth Rhif 14 yn adroddiad y Brifysgol.

- Holwyd a oes trafodaethau ynghylch y bysiau wennol gan eu bod yn darfod yn gynnar, a byddai teithiau hwyrach yn fantais i bentrefi a threfi elwa o ymwelwyr.

- Ategwyd y byddai bysiau hwyrach yn galluogi pobl parcio yng Nghaernarfon a theithio i Eryri yn hytrach na pharcio ger y mynyddoedd.

- Holwyd a ydi’r amserlen yn adlewyrchu angen presennol y bobl leol gan fod bysiau yn

pasio’n hanner gwag.

- Ategwyd bod angen ysgogi hen ddefnyddwyr i ddychwelyd yn ôl i ddefnyddio’r bysiau gan fod gwerth cymdeithasol uchel i bobl fynd i siopa a theithiau tebyg.

Mewn ymateb i sylwadau’r aelodau, nododd y Pennaeth Adran Amgylchedd y canlynol:-

- Bod yr adran yn ceisio pwyso ar Lywodraeth Cymru i adolygu eu hamserlenni fodd bynnag maent yn awyddus bod yna daith eithaf sydyn drwy Gymru.

- Nododd bod awgrym i’r Llywodraeth Cymru bod bob yn ail daith y gwasanaeth T2 yn mynd i mewn i gymunedau a’r gweddill yn fwy uniongyrchol drwy Gymru.

- Eglurodd bod adran newid hinsawdd wedi ei sefydlu o fewn y Llywodraeth a’u bod yn canolbwyntio ar gludiant cyhoeddus a threnau bysiau er mwyn lleihau ôl troed carbon.

- Byddai’n cysylltu gyda’r aelod o ran y wybodaeth am Wasanaeth Rhif 14.

- Mewn perthynas â’r sefyllfa parcio ar gyfer ymweld ag Eryri, nododd bod gwaith yn digwydd ar y cyd efo Parc Cenedlaethol er mwyn edrych ar ddatrysiadau i leihau’r defnydd o drafnidiaeth bersonol.

- Cytunwyd bod angen diwygio’r amserlen fel bod teithiau hwyrach  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS pdf eicon PDF 330 KB

Darparu adroddiad ar gynnydd gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn y rhaglen waith.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Arweinydd y Cyngor gan nodi bod gweithgareddau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi eu heffeithio’n fawr gan yr haint Covid, ond wedi ail gydio erbyn hyn. Trosglwyddwyd i’r Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn a thywyswyd y Pwyllgor drwy'r adroddiad gan nodi’r canlynol;

- Bod gan y Bwrdd 4 is-grŵp sy’n cyflawni eu gwaith ar rolau amrywiol, a cynigwyd diweddariad ar rhain.

- Mewn perthynas â’r is-grŵp Newid Hinsawdd nodwyd bod gweithdai yn cael eu cynnal ynghyd ag ymgysylltu o fewn y gymuned.

- Nodwyd bod yr is-grŵp Cartrefi ar gyfer pobl leol wedi dod i ben gan fod adrannau eraill wedi cymryd yr awenau a bod gwaith y grŵp bellach wedi ei chyflawni.

- Soniwyd am y ffrydiau gwaith o dan yr is-grŵp Iechyd Meddwl Oedolion a Phlant a bod y Bwrdd yn cydweithio efo’r arweinyddion.

- Mewn perthynas â’r is-grŵp sy’n ymwneud a’r Iaith Gymraeg, nodwyd bod arweinydd erbyn hyn i’r grŵp yma ac felly bod gwaith wedi ail gychwyn.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:-

- Holwyd pam bod yr is grŵp sy’n ymwneud a thai i bobl leol wedi dod i ben.

- Cynigwyd bod angen ymgysylltu gyda thrigolion ynghylch newid hinsawdd ag sut i ymdopi a heriau megis llifogydd.

- Ategwyd at gwestiwn ynghylch tai i bobl leol a nodwyd bod pryder efo diffyg tai mewn ardaloedd mwy deheuol yn y Sir, er enghraifft, Tywyn sy’n wynebu argyfwng tai ac sydd efo cymuned sy’n tyfu.

- Bod swyddi gan Llywodraeth Cymru yn nodi’r angen am lefel cwrteisi o ran sgiliau Iaith Gymraeg. Angen i’r defnydd o Gymraeg fod yn naturiol drwy Gymru.

- Bod angen cwota o ran ail-gartrefi gyda cholli stoc tai a diffyg mewn tai rhent. Holwyd a oedd cynllun i blannu fwy o goed o fewn Gwynedd fel rhan o’r agenda newid hinsawdd.

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nodwyd y canlynol:-

- Bod angen osgoi dyblygu ar bob cyfrif ac felly dyma pam y penderfynwyd bod y gwaith ar dai i bobl leol wedi dod i ben. Ategodd arweinydd y Cyngor bod gwaith aruthrol wedi ei wneud o safbwynt tai.

- Nodwyd bod llawer i ddysgu gan drigolion a bod bwriad i fynd allan i gynnal deialog o fewn cymunedau i weld beth sy’n bwysig iddynt. O safbwynt newid hinsawdd, nodwyd bod hyn yn bwnc trafod i’r dyfodol gyda thrigolion.

- Bod gwaith Is-Grŵp yr Iaith Gymraeg o ran sicrhau bod y cyhoedd yn derbyn gwasanaeth drwy’r Gymraeg nid yn unig yn berthnasol i dderbynfeydd ond unrhyw gyswllt gyda’r cyhoedd.

- Bod stoc tai annedd yn gostwng, dros y pedair blynedd diwethaf roedd oddeutu 600 o dai wedi eu hadeiladu ac oddeutu 800 wedi eu colli o’r stoc dai. Cynnydd anferthol yn y nifer yn ddigartref gydag argyfwng o ran lletya, angen rhoi mwy o gyhoeddusrwydd i’r sefyllfa.

PENDERFYNWYD

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

10.

RHAGLEN WAITH DDRAFFT CRAFFU 2021/22 pdf eicon PDF 213 KB

Cyflwyno rhaglen waith ddrafft craffu 2021/22 i’w mabwysiadu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr rhaglen waith ddrafft.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd rhaglen waith ddrafft craffu 2021/22 i’w mabwysiadu yn dilyn y gweithdy a gynhaliwyd ar 4 Mai 2021.

Tynnwyd sylw bod un addasiad i’r rhaglen waith ers y gweithdy. Eglurwyd oherwydd amgylchiadau tu hwnt i reolaeth, bod yr eitem ‘Diweddariad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol’ wedi ei symud o gyfarfod 4 Tachwedd 2021 i gyfarfod 13 Ionawr 2022.

PENDERFYNWYD

Derbyn y rhaglen waith.