skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Anne Lloyd Jones.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 18C, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd ei fod yn ymwneud â thrafodion y Pwyllgor Safonau wrth ddod i benderfyniad ar fater a gyfeiriwyd ato gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Credir na ddylid datgelu’r wybodaeth rhag ofn i unrhyw gyhoeddusrwydd ynglŷn â’r achos ragfarnu sefyllfa’r cynghorydd cyn unrhyw wrandawiad. Fel canlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

Cofnod:

PENDERFYNWYD y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 18C, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd ei fod yn ymwneud â thrafodion y Pwyllgor Safonau wrth ddod i benderfyniad ar fater a gyfeiriwyd ato gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.  Credir na ddylid datgelu’r wybodaeth rhag ofn i unrhyw gyhoeddusrwydd ynglŷn â’r achos ragfarnu sefyllfa’r cynghorydd cyn unrhyw wrandawiad.  Fel canlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

5.

ADRODDIAD OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU AR YMCHWILIAD I GWYN YN ERBYN CYNGHORYDD

Ystyried adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) (copi ar wahân ar gyfer aelodau’r pwyllgor yn unig).

Penderfyniad:

(a)     Gwahodd y person sy’n destun yr ymchwiliad i gyflwyno sylwadau, naill ai ar lafar neu’n ysgrifenedig, mewn perthynas â chasgliadau’r ymchwiliad ac unrhyw honiad ei fod ef / hi wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol.

(b)     Galw cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Safonau i ystyried a phenderfynu ar y mater.

(c)     Gwahodd yr Ombwdsmon i’r gwrandawiad i gyflwyno’r adroddiad a / neu egluro unrhyw faterion sydd ynddo.

(ch)   Bod y swyddogion, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yn gosod dyddiad (ynghyd â dau wrth gefn) ar gyfer cynnal y gwrandawiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) yn gwahodd y pwyllgor i ystyried adroddiad yr Ombwdsmon ar ymchwiliad i gŵyn yn erbyn cynghorydd, a dod i benderfyniad yn unol â gofynion y rheoliadau perthnasol.

PENDERFYNWYD