Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd ar gyfer 2026/27.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penodi’r Cynghorydd Elin Walker Jones yn Gadeirydd am 2026/27. 

2.

IS-GADEIRYDD

Penodi Is-gadeirydd ar gyfer 2026/27.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penodi’r Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths yn Is-gadeirydd am 2026/27. 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 226 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 5ed Mawrth, 2025 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

5.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

6.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

Dogfennau ychwanegol:

7.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

8.

CWESTIYNAU pdf eicon PDF 108 KB

Ystyried unrhyw gwestiynau gan aelodau etholedig, y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

9.

CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD 2023-28 - ADOLYGIAD 2026/27 pdf eicon PDF 312 KB

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadwyd Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 – Adolygiad 2026/27.  

10.

MABWYSIADU STRATEGAETH DATBLYGU ECONOMAIDD NEWYDD I WYNEDD pdf eicon PDF 354 KB

Cyflwyno adroddiad Yr Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadwyd ‘Gwynedd 2035: Economi Sy’n Gweithio i Bawb’ yn strategaeth datblygu economaidd i Wynedd.   

11.

ARDOLL YMWELWYR pdf eicon PDF 487 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

  1.  I gyhoeddi Adroddiad Cynnig Ardoll Ymwelwyr Gwynedd;  
  1. I gytuno i gynnal ymgynghoriad ar y Cynnig i gyflwyno Ardoll yn unol â’r rhestr ymgynghoron ym mharagraff 5.4 a 5.5 o’r adroddiad yma; 
  1. I hysbysu Awdurdod Cyllid Cymru, yn unol â’r statud, o’r bwriad i ymgynghori ar gyflwyno'r Ardoll. 

 

12.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL O GYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR pdf eicon PDF 252 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd i: 

  • fabwysiadu’r rhestr o bwyllgorau ac is-bwyllgorau i’w sefydlu ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol fel y nodwyd yn Atodiad A, ynghyd â mabwysiadu’r dyraniad seddau a’r uwch gyflogau a nodwyd yn yr atodiad. 
  • ddirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth wneud penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol ac yn unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol  
  • mabwysiadu cadeiryddiaethau’r pwyllgorau craffu ar sail cydbwysedd gwleidyddol, fel a ganlyn:
    • Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi  - Grŵp Plaid Cymru  
    • Pwyllgor Craffu Cymunedau -  Grŵp Annibynnol  
    • Pwyllgor Craffu Gofal - Grŵp Annibynnol  

 

13.

PENODI CADEIRYDD I'R PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATIAETH 2026/27

Penodi Cadeirydd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ar gyfer 2026/27.

 

[Yn unol â gofynion Adran 14 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, y Cyngor llawn sydd i benodi Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ac ni all benodi aelod o grŵp gwleidyddol sy’n cael ei gynrychioli ar y weithrediaeth.]

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penodi’r Cynghorydd Dewi Owen yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth am 2026/27. 

14.

PENODI AELODAU I'R PWYLLGOR SAFONAU - ARGYMHELLION PANEL CYFWELD pdf eicon PDF 166 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cyngor yn penodi Carys Edwards a Neil Hawkins yn Aelodau Annibynnol o'r Pwyllgor Safonau am gyfnod o 6 blynedd. 

15.

RHYBUDDION O GYNNIG

A)   RHYBUDD O GYNNIG GAN Y CYNGHORYDD EINIR WILLIAMS

 

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Einir Williams yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Amddiffyn Enwau Lleoedd Cymraeg ar Fapiau’r Arolwg Ordnans

 

Dwi eisiau mynegi pryder dwfn ac angerddol ynghylch polisi presennol yr Arolwg Ordnans (AO) sy’n arwain at ddileu, tanseilio ac anwybyddu enwau lleoedd Cymraeg sydd wedi bod yn rhan o’n tirwedd ers canrifoedd.

Ar hyn o bryd, mae mapiau Arolwg Ordnans yn:

·         Disodli enwau Cymraeg hanesyddol â ffurfiau Saesneg nad oes ganddynt sail na thraddodiad, e.e. The Mushroom Garden am Goed Cerrig y Frân, Heather Terrace Path am Lwybr Gwregys.

·         Rhoi enwau Saesneg ochr yn ochr ag enwau Cymraeg, gan greu’r argraff bod yr enwau Cymraeg yn ddewisol neu’n eilradd, e.e. Cwm Cneifion / Nameless Cwm, Bala Lake / Llyn Tegid. ‘Snowdon/Yr Wyddfa (er gwaethaf y ffaith nad yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn defnyddio'r enw Snowdon bellach.)'

 

Mae’r Cyngor hwn yn beirniadu’r arferion hyn, gan eu bod yn cyfrannu’n uniongyrchol at golli enwau Cymraeg, ac felly’n tanseilio ein hiaith, ein hanes a’n hunaniaeth genedlaethol. Pan fo’r Arolwg Ordnans yn mabwysiadu enw Saesneg, mae’n ymddangos ar wefannau, arwyddion, cyhoeddiadau, a’r cyfryngau ac o ganlyniad, mae’r enw Cymraeg yn cael ei wthio i’r cysgod.

Mae hyn yn digwydd hyd yn oed ymhlith siaradwyr Cymraeg ifanc, sydd yn aml yn cael eu harwain i gredu mai’r enw Saesneg yw’r “safonol”. Dyma sut mae iaith yn cael ei gwanhau,  nid mewn un ergyd, ond mewn mil o gamau bach.

 

Mae enwau lleoedd Cymraeg yn rhan o’n DNA diwylliannol. Maent yn adrodd hanes y tir, y bobl, y chwedlau, y gwaith, y bywyd. Nid oes gan neb hawl i’w dileu na’u disodli.

 

Felly, dwi eisiau rhoi cynnig i’r cyngor hwn heddiw ein bod ni yn :

1.    Ysgrifennu at yr Arolwg Ordnans i alw arnynt i roi diwedd ar y polisi niweidiol presennol, ac i fabwysiadu egwyddor glir a syml a defnyddio enwau lleoedd tirweddol Cymraeg yn unig ar fapiau yng Nghymru.

2.    Galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd yn ffurfiol ac i sicrhau bod yr Arolwg Ordnans yn parchu ac yn diogelu enwau Cymraeg hanesyddol.

 

Nid yw hyn yn fater o fapiau yn unig.  Mae’n fater o hunaniaeth, parch a chyfiawnder diwylliannol.

 

B)   RHYBUDD O GYNNIG GAN Y CYNGHORYDD NIA JEFFREYS

 

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Nia Jeffreys yn cynnig fel a ganlyn:-

 

 

Mae’r Cyngor yn nodi llofruddiaeth yr Aelod Seneddol, Jo Cox ar 16/06/2016, ddeng mlynedd yn ôl eleni. (Bu i’r AS David Amess hefyd gael ei lofruddio ar 15/10/2021).

 

Mewn byd sy’n gynyddol dreisgar ac ymosodol, trist yw’r ffaith bod aelodau etholedig, o bob plaid ac ar bob lefel o lywodraeth, yn gynyddol agored i sarhad a chamdriniaeth. Dengys ymchwil diweddar fod 72% o Gynghorwyr wedi dioddef ryw fath o fygythiad - boed yn eiriol neu’n waeth - yn ystod y 12 mis diwethaf.

 

Mae’r Cyngor hwn yn  ...  view the full Rhaglen text for item 15.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dwi eisiau mynegi pryder dwfn ac angerddol ynghylch polisi presennol yr Arolwg Ordnans (AO) sy’n arwain at ddileu, tanseilio ac anwybyddu enwau lleoedd Cymraeg sydd wedi bod yn rhan o’n tirwedd ers canrifoedd. 

Ar hyn o bryd, mae mapiau Arolwg Ordnans yn: 

  • Disodli enwau Cymraeg hanesyddol â ffurfiau Saesneg nad oes ganddynt sail na thraddodiad, e.e. The Mushroom Garden am Goed Cerrig y Frân, Heather Terrace Path am Lwybr Gwregys. 
  • Rhoi enwau Saesneg ochr yn ochr ag enwau Cymraeg, gan greu’r argraff bod yr enwau Cymraeg yn ddewisol neu’n eilradd, e.e. Cwm Cneifion / Nameless Cwm, Bala Lake / Llyn Tegid. ‘Snowdon/Yr Wyddfa (er gwaethaf y ffaith nad yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn defnyddio'r enw Snowdon bellach.)' 

 

Mae’r Cyngor hwn yn beirniadu’r arferion hyn, gan eu bod yn cyfrannu’n uniongyrchol at golli enwau Cymraeg, ac felly’n tanseilio ein hiaith, ein hanes a’n hunaniaeth genedlaethol. Pan fo’r Arolwg Ordnans yn mabwysiadu enw Saesneg, mae’n ymddangos ar wefannau, arwyddion, cyhoeddiadau, a’r cyfryngau ac o ganlyniad, mae’r enw Cymraeg yn cael ei wthio i’r cysgod. 

 

Mae hyn yn digwydd hyd yn oed ymhlith siaradwyr Cymraeg ifanc, sydd yn aml yn cael eu harwain i gredu mai’r enw Saesneg yw’r “safonol”. Dyma sut mae iaith yn cael ei gwanhau,  nid mewn un ergyd, ond mewn mil o gamau bach. 

  

Mae enwau lleoedd Cymraeg yn rhan o’n DNA diwylliannol. Maent yn adrodd hanes y tir, y bobl, y chwedlau, y gwaith, y bywyd. Nid oes gan neb hawl i’w dileu na’u disodli. 

  

Felly, dwi eisiau rhoi cynnig i’r cyngor hwn heddiw ein bod ni yn : 

  1. Ysgrifennu at yr Arolwg Ordnans i alw arnynt i roi diwedd ar y polisi niweidiol presennol, ac i fabwysiadu egwyddor glir a syml a defnyddio enwau lleoedd tirweddol Cymraeg yn unig ar fapiau yng Nghymru. 
  1. Galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd yn ffurfiol ac i sicrhau bod yr Arolwg Ordnans yn parchu ac yn diogelu enwau Cymraeg hanesyddol. 
  1. Galw ar weddill Awdurdodau Cymru i ddilyn y cynnig hwn.  

  

Nid yw hyn yn fater o fapiau yn unig.  Mae’n fater o hunaniaeth, parch a chyfiawnder diwylliannol. 

 

16.

YMATEBION / DIWEDDARIADAU I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL pdf eicon PDF 178 KB

Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Gruffydd Williams i gyfarfod 5 Mawrth, 2026 o’r Cyngor ynglŷn a System Adnabod Digidol.

Dogfennau ychwanegol: