Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Anwen Davies, Annwen Hughes, Louise Hughes, Arwyn Herald Roberts ac Elfed Roberts. |
|
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr, 2025 a Chwefror 5ed, 2026 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Bu i’r Swyddog Monitro, ar ran y prif swyddogion oedd yn
bresennol, ddatgan buddiant ar eitem 9 gan fod yr adroddiad yn ymwneud â’u
cyflogau. Eglurwyd y bydd y Prif Weithredwr yn parhau yn y cyfarfodn
ond petai trafodaeth ar ei gyflog yna byddai'r Prif Weithredwr yn ymneilltuo.Roedd o’r farn bod gan y swyddogion fuddiant o
sylwedd fe adawodd y Swyddog Monitro, ynghyd â’r Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth
Gwasanaethau Democratiaeth y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. |
|
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymunwyd yn dda i’r Cynghorydd Louise Hughes
a’i merch sydd wedi derbyn llawdriniaeth yn ddiweddar, a’r Cynghorydd John
Brynmor Hughes yn dilyn cyfnod mewn ysbyty. Mynegwyd fod nifer o
aelodau’r Cyngor hwn wedi bod yn anhwylus yn ddiweddar a dymunwyd iddynt i
gyd adferiad llwyr a buan. Nos Sadwrn bu i gystadleuaeth Cân i Gymru gael ei gynnal,
llongyfarchwyd cyfansoddwyr a'r unawdydd a enillodd sef Emlyn Gomer o
Gaernarfon, Gath Thomas o Ddinas Dinlle a Henry Priestman
o Ynys Môn a'r gantores Sara Owen o Ddyffryn Nantlle. Nodwyd llongyfarchiadau i Celyn a Caio o Rostryfan
sy’n gyfrifol am gynhyrchu a dosbarthu Papur y Bobl - papur bro newydd i'r
ardal. Yno gystal Jac Dei o Ysgol y Moelwyn sy'n prysur wneud enw iddo ‘i hun
yn y byd dartiau. Ynghyd a Rio Chung 12 oed o Fangor
yn cynrychioli Cymru yn y Bencampwriaeth Ewropeaidd Biliards a Snwcer yn Gandia yn ystod y mis yma.
|
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y
Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
|
Ystyried
unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r
Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (Cyhoeddwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau
Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.)
Os nad ydych eisoes yn gwybod mae ymgyrch wedi ei ddechrau yn Harlech
gan ddynes o’r enw Andrea Bowen I gael cofeb I Catrin
merch Glyndŵr Mae hanes Catrin yn hynod o drist ac yn amlwg roedd yn ferch
ddewr iawn. Gai ofyn felly os buasai’r Cyngor yn gallu cefnogi mewn egwyddor yr
ymgyrch gymunedol i godi cerflun o Catrin ferch Owain Glyndŵr yn Harlech,
gan ystyried ei chysylltiad hanesyddol uniongyrchol â’r dref drwy Gastell
Harlech, a’r ffaith nad oes ar hyn o bryd gofeb gyhoeddus yn cydnabod ei
haberth a’i rôl yn hanes Cymru? Ateb Yr Aelod
Cabinet dros Economi a Chymuned, y Cynghorydd Medwyn Hughes Diolch i’r Cynghorydd am ei gwestiwn. Mae gan Harlech ran amlwg yn
hanes Cymru, ac mae hanes Catrin, merch Owain Glyndŵr, yn arwyddocaol yn
yr hanes yma. Dwi’n siŵr byddai Cyngor Gwynedd yn cefnogi mewn egwyddor
ymgyrch lleol i ddehongli’r hanes trwy greu cerflun o Catrin yn Harlech.
Byddai’n gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo’r hanes i blant a phobl
ifanc Gwynedd ac i ymwelwyr i’r dref a’r Castell, sydd wrth gwrs yn rhan o
Safle Treftadaeth Byd. Gwn fod swyddogion o’r Adran Economi a Chymuned yn barod
iawn i gefnogi’r grŵp lleol, a dwi’n siŵr bydd gwasanaethau eraill
o’r Cyngor hefyd yn cefnogi’r ymgyrch i adnabod safle addas ar gyfer y gofeb. Cwestiwn Atodol
Y Cynghorydd Gwynfor Owen Diolchwyd am yr ymateb
a'i fod yn edrych ymlaen at drafod y mater gyda’r swyddogion. Mynegwyd ei fod
yn credu fod yr Adran yn siŵr o gytuno ei fod yn syniad da i gael cerflun
o ferch yng ngogledd Cymru gan mai dim ond cofeb o ferch sydd i’w gweld ar
draws Cymru gyfan. Ateb yr Aelod
Cabinet dros Economi a Chymuned, y Cynghorydd Medwyn Hughes Cytunodd yr Aelod Cabinet i’r carn.
Cyhoeddwyd adroddiad gan Archwilio Cymru ym mis Ionawr 2021 yn asesu pa
mor llwyddiannus neu beidio oedd Ffordd Gwynedd. Mae darn o’r adroddiad sy’n
dwyn y teitl ‘Diwylliant - Grymuso, Ymddiriedaeth ac Arweinyddiaeth’ yn
rhybuddio am ddwy broblem, sef bod her adeiladol yn cael ei hatal a bod
rhywfaint o her ddinistriol yn bodoli, yn aml gan rai mewn awdurdod - rhywbeth
sy’n tanseilio ymddiriedaeth ac yn atal grymuso. Mae’r ddau fater yn cyfrannu at yr un risg systemig: diwylliant ble nad
yw pryderon yn cael eu codi’n effeithiol, ble nad yw syniadau’n cael eu
rhannu’n ddiogel, a ble gall arferion anniogel fynd heb eu herio. Amlygwyd rhai
o ganlyniadau diwylliant o’r fath yn adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder. O ystyried bod y pryderon hyn wedi eu codi yn 2021 - ddwy flynedd cyn
arestio Neil Foden - beth wnaethpwyd ar y pryd i wella ymddiriedaeth a cheisio
datblygu diwylliant gwaith sydd yn grymuso herio iach ac adeiladol? Ateb Yr Aelod
Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol, y Cynghorydd Llio Elenid Owen Ffordd Gwynedd yw’r term ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. Sefydlu cyllideb o £379,701,110 ar gyfer 2026/27 i’w
ariannu drwy Grant Llywodraeth o £264,009,390 a £115,691,720 o incwm o’r Dreth
Cyngor (sy’n gynnydd o 4.75% sylfaenol ynghyd a 0.42% pellach i gyfarch ardoll
gan yr Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, ac felly’n rhoi cyfanswm o 5.17%) 2. Sefydlu rhaglen gyfalaf o £40,179,430 yn 2026/27 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod nifer o gwestiynau yn
codi am sut mae’r dreth cyngor yn cael ei wario. Cyflwynwyd gwybodaeth a oedd
yn amlygu’r prif feysydd megis bod 80% o’r arian yn mynd tuag at Addysg a’r
maes Gofal. Amlygwyd fod 8,000 o oriau'r wythnos yn cael ei roi i ofal cartref
bob wythnos, gyda 1500 o unigolion yn cael gwasanaeth Teleofal.
Nodwyd fod 12,000 o bobl wedi cael cymorth drwy’r cynllun Gweithredu Tai ers
2020. Tynnwyd sylw at y ffigwr fod 93% o blant wedi gallu aros adref gyda’u teuluoedd
drwy ymyrraeth trobwynt, a bod 2 Gartref Bychan yn weithredol gyda 2 gartref
arall ar y ffordd. Mynegwyd fod gwaith da yn cael ei wneud a bod angen amlygu’r
llwyddiannau sydd yn cael ei gwneud gan staff y Cyngor. Cyflwynwyd y gyllideb gan nodi fod angen cychwyn gyda’r
rhagolygon ariannol o’r flwyddyn ariannol bresennol er mwyn deall sefyllfa yn
llawn. Amlygwyd fod £5.3m o orwariant, ble nad oedd cyllidebau’r adrannau ddim
yn ddigon i ddiwallu’r galw am wasanaeth. Esboniwyd mai yn y maes gofal oedd y
prif alw gyda diffyg o £3m yn yr adran Oedolion a £1.8m yn Adran Blant. Ategwyd
fod y gorwariant wedi’i gyllido drwy ddefnydd o gronfeydd. Mynegwyd oherwydd y
fargen a wnaethpwyd yng Nghaerdydd ddiwedd flwyddyn ddiwethaf, roedd y setliad
yn llawer gwell na pheth oedd wedi ei ragweld sef 4.1% - sef £10.4m yn
ychwanegol. Eglurwyd fel rhan o’r broses o osod cyllideb fod yr adran
wedi gwneud nifer o ragdybiaethau megis codiad cyflog o 4% i athrawon a 3.4% i
weddill gweithlu’r Cyngor. Nodwyd ynghyd a chwyddiant naturiol fod angen
buddsoddi mewn gwasanaethau, a mynegwyd fod cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y
flwyddyn i ddod megis buddsoddiad yn y gwasanaethau gofal ac addysg. Amcangyfrifir y bydd angen gwario oddeutu £23.3m ychwanegol
y flwyddyn ariannol nesaf er mwyn cynnal ein gwasanaethau gyda’r pwysau mwyaf
yn dod o chwyddiant cyflogau, chwyddiant cyffredinol a’r cynnydd mewn galw am
wasanaethau. Nodwyd fod hyn yn creu gofyniad gwario ar gyfer 2026/27 yn £380m.
Esboniwyd fod setliad gan Lywodraeth Cymru yn £264m sydd yn gadael bwlch o
£116m. O ran arbedion, amlygwyd fod gwerth £664,000 wedi eu cymeradwyo yn
barod, gyda chwarter miliwn ar gael i gael ei gyfrifo'r bwlch ariannu. O
ganlyniad, er mwyn gosod cyllideb gytbwys bydd hyn yn golygu codi’r Dreth
Cyngor i 5.17%. Eglurwyd bod y sylfaen drethiannol yn cynyddu i ychydig o
dan 58k o anheddau oherwydd cynnydd yn nifer yr eiddo, y nifer sy’n destun y
Premiwm Treth Cyngor ar benderfyniad i gynyddu premiwm ar eiddo gwag hir dymor.
Mynegwyd ei bod yn siomedig iawn bod y cynnydd yn y dreth yn uwch na chwyddiant
unwaith eto, ond fod y sefyllfa llawr iawn gwell na beth oeddent yn ei ofni yn
ôl ym mis Rhagfyr. Tynnodd y Pennaeth Cyllid Statudol sylw at Ddatganiad Adran 25 yn yr atodiadau, sydd yn ddatganiad personol ganddo yn amlygu cadernid amcangyfrifon oedd yn sail i’r gyllideb ynghyd a’r risgiau posib a’r camau lliniaru. Pwysleisiodd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
STRATEGAETH CYFALAF 2026/27 (YN CYNNWYS STRATEGAETHAU BUDDSODDI A BENTHYCA) Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2026/27. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan nodi fod yr adroddiad yn cyfarch y
gofyn statudol ac i roi cyd-destun hir dymor i benderfyniadau gwariant cyfalaf
a buddsoddiadau gan ystyried y risg. Nodwyd fod y strategaeth yn priodi
adroddiad y Gyllideb gyda’r Cynllun benthyg a buddsoddi drwy gyfuno’r rhaglen
gyfalaf gyda’r ochor rheolaeth trysorlys. Mynegwyd fod yr adroddiad eisoes wedi ei gyflwyno i’r
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio er mwyn ystyried unrhyw risgiau sy’n codi
o’r strategaeth. Eglurwyd gan ei fod yn faes technegol, fod cyflwyniad wedi ei
roi ar agweddau Rheolaeth Trysorlys gan swyddogion o gwmni Arlingclose
i geisio lledaenu dealltwriaeth o’r maes. Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Holwyd pe byddent yn ystyried cael arian cyfalaf o’r
cronfeydd wrth gefn, gan fod benthyg yn gallu golygu costau. Ymatebwyd drwy
nodi fod hyn yn digwydd yn barod, ac nad yw’r Cyngor wedi benthyg yn allanol
ers blynyddoedd. Mynegwyd gyda newid
yn ffiniau ardal etholiadol newydd, efallai y bydd aelodau mewn lle anodd o ran
lobio am awdurdod unigol ac yna bydd pwysau cynyddol ar y Cyngor i lobio llawer
mwy. Ymatebwyd drwy nodi amser a ddengys ond fod posibilrwydd y bydd llais y
Cyngor yn cryfhau. PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf ar
gyfer 2026/27. |
|
|
ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TAL BLYNYDDOL 2026/27 Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadwyd y Datganiad o Bolisi Tâl drafft ar gyfer 2026/27. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn ddyletswydd
statudol ar bob Cyngor i fabwysiadu polisi tâl yn flynyddol gan y Cyngor
Llawn. Wrth fabwysiadu’r polisi tâl ar
gyfer 2012/13, penderfynodd y Cyngor Llawn ofyn i’r Pwyllgor Penodi Prif
Swyddogion i gynnal adolygiad blynyddol o gynaladwyedd y polisi tâl i’r dyfodol
a chyflwyno argymhellion i gyfarfod o’r Cyngor llawn ym mis Mawrth pob
blwyddyn. Bu i’r Pwyllgor Penodi ystyried
cynnwys y drafft o bolisi tal yn ei gyfarfod ym mis Chwefror. Amlygwyd fod dau ran i’w ystyried. Eglurwyd fod codiadau
cyflog blynyddol ar gyfer prif swyddogion yn cael eu pennu gan y Cydgyngor
Cenedlaethol ar gyfer Prif Swyddogion. Eglurwyd fod y cyflogwyr ac undebau wedi
dod i gytundeb yn ôl ym mis Gorffennaf ar gyfer 2025/26, sef cynnydd o 3.2% ar
gyflog blynyddol prif swyddogion. Mynegwyd fod y broses ar fin dechrau ar gyfer
2026/27. Yr ail elfen yw cyflogau staff o dan lefel prif swyddogion,
ac eglurwyd fod y Cydgyngor yn pennu'r rhain yn ogystal. Amlygwyd fod yr
undebau ar gyflogwr wedi dod i gytundeb ar gynnydd o 3.2% i’r holl staff ynghyd
a dileu lefel 2 ar y strwythur tal. Nodwyd ei bod hi’n ddyddiau cynnar ar y
trafodaethau ar gyfer 2026/27. Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Amlygwyd y blynyddoedd diwethaf fod yr adroddiadau yn cael
eu cymeradwyo gan y Swyddog Monitro a Chyllid ond ei fod eleni yn cael ei
gymeradwyo gan eu dirprwyon. Ategwyd fod hyn yn amlwg yn fwy synhwyrol gan eu
bod yn trafod cyflogau ond gofynnwyd pam y newid mewn trefn. Ymatebwyd drwy
nodi nad oes newid bwriadol wedi ei wneud a'i fod yn arferiad i ddirprwyon fod
yn cymeradwyo’r adroddiad ond bydd y Prif Weithredwr yn edrych i mewn i hyn. Mabwysiadwyd y
Datganiad o Bolisi Tâl drafft ar gyfer 2026/27. |
|
|
PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU (PPC) - DIWEDDARU'R CYTUNDEB RHYNG-AWDURDOD (IAA) Cyflwyno adroddiad Cadeirydd Pwyllgor Pensiynau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd y diwygiadau i’r Gytundeb Rhyng-Awdurdod (IAA) ar
gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru. Awdurdodwyd y Pennaeth Cyfreithiol mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Cyllid i gymryd y camau angenrheidiol i gwblhau y cytundeb. Cofnod: Bu i’r Swyddog Monitro amlygu’r rhesymau dros gyflwyno’r
adroddiad hwn gan nodi fod y Cyngor yn ôl ym mis Gorffennaf wedi cytuno, gyda’r
wyth awdurdod sy’n rhan o’r pwl buddsoddi i sefydlu cwmni. O ganlyniad i hyn,
eglurwyd fod y Cydbwyllgor yn parhau ond o fewn cyfundrefn newydd. Amlygwyd mai
dim ond y Cyngor Llawn sydd a’r hawl i newid y cylch gorchwyl, a bod angen
addasu rôl y cydbwyllgor a chymeradwyo’r addasiadau cyn i’r cwmni fod yn
weithredol ac i sicrhau craffu llawn o’i gwaith. Bu i Gadeirydd y Pwyllgor Pensiynau nodi fod y Pwyllgor
Pensiynau yn un trawsbleidiol a’u bod yn unfrydol gyda’r argymhelliad sydd
wedi’i i gyflwyno. Eglurwyd fod gwaith enfawr wedi ei wneud i baratoi tuag at y
newid i fod yn gwmni. Mynegwyd fod y mater yn un cymhleth ond fod y Pwyllgor
wedi cymryd pob cam posib i sicrhau fod y penderfyniad hwn yn gywir ac wedi ei
graffu yn llawn. Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn chwilio am
gymeradwyaeth i ddiweddaru’r Cytundeb Rhyng-Awdrudod
rhwng yr wyth Cyngor yng Nghymru sy’n gweinyddu cronfeydd Pensiwn. Cymeradwywyd
y cytundeb yn wreiddiol gan y Cyngor llawn ar 2il Mawrth 2017, er mwyn sefydlu pŵl buddsoddi ar gyfer cronfeydd
pensiwn Cymru. Eglurwyd fod addasiadau
wedi ei gymeradwyo yn ôl yn Hydref 2021. Pwysleisiwyd fod y drefn a sefydlwyd
dan y gyfundrefn wedi gweithio yn dda gyda chydweithio effeithiol gyda’r bwriad
o arbed ffioedd rheolwyr buddsoddi drwy fuddsoddi ar raddfa fwy. Serch hynny, mae rhaglen “Addas ar gyfer y Dyfodol” Llywodraeth San Steffan dros y ddeunaw mis diwethaf wedi golygu ein bod yn cael ei gorfodi
i newid. Bu i’r Cyngor Llawn ym mis Gorffennaf gymeradwyo ffurfio endid
corfforaethol sy’n berchnogaeth llwyr Awdurdodau Gweinyddu Partneriaeth Pensiwn
Cymru, sef Cwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC, ac i gymeradwyo’r holl gamau eraill
sy’n angenrheidiol i gyflwyno cais i’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol ar gyfer
awdurdodi’r cwmni. Eglurwyd fod y newidiadau sydd wedi ei gorfodi wedi golygu
gwaith sylweddol ynghyd ag amser ac adnoddau. Bydd y cwmni newydd i fod yn
weithredol erbyn 1 Ebrill 2026. Er hyn mae un cytundeb arall na all y Cyngor ei
ddirprwyo i’r Pwyllgor Pensiynau sef y Cytundeb Rhyng-Awdurdod.
Amlinellwyd yr addasiadau sydd wedi ei wneud i’r cytundeb, gan egluro eu bod
wedi bod yn destun gwaith gan ymgynghorwyr cyfreithiol. Mynegwyd fod nifer o
drafodaeth wedi bod i gadw golwg o’r datblygiadau ac felly eu bod yn hyderus ei
fod wedi ei graffu yn briodol. Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Nodwyd cefnogaeth i’r penderfyniad gan bwysleisio nad oes
llawer o ddewis, ond fod y Pwl yn gobeithio y byddant yn parhau i weithio yn
dda gyda’i gilydd. Mynegwyd gyda’r
perfformiad da sydd wedi bod i’r pwl fod risgiau amlwg o beidio arwyddo hwn.
Eglurwyd fod gwaith wneud ei wneud i sicrhau fod modd parhau i weithio fel
partneriaeth ond y prif bryder yw ei fod wedi ei orfodi arnom. Holwyd os oes buddiant os aelod yn rhan o’r cynllun pensiwn, nodwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
|
DIWYGIADAU I GÔD YMDDYGIAD YR AELODAU A PHOLISI CHWYTHU'R CHWIBAN Y CYNGOR Cyflwyno adroddiad yr Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Monitro gan nodi fod
yr adroddiad yn amlygu newidiadau i’r cyfansoddiad. Nodwyd fod dau agwedd, y
cyntaf yw diwygio’r cod ymddygiad yn unol ar Reoliadau Llywodraeth Leol a
ddaeth i rym ym mis Ionawr. Mynegwyd ei fod yn fan newid, yn syml o ran geiriad
yn y Cod Ymddygiad ac Egwyddorion Ymddygiad wrth drafod cydraddoldeb yn
flaenorol roedd rhyw, hil, anabledd a
chrefydd er enghraifft wedi ei rhestru yn unigol, ond fod y diwygiad yn ei addasu i fod yn
“nodweddion gwarchodedig” fel term i’w cynnwys i gyd . Yn ychwanegol yn unol
â’r Rheoliadau mae “amgylchiadau economaidd-gymdeithasol” yn cael ei gynnwys yn
ogystal. Amlygwyd fod y Cod wedi ei newid yn statudol yn barod, ond
fod angen i’r Cyngor ei fabwysiadu yn ffurfiol ac i awdurdodi’r Swyddog Monitro
i ddiwygio'r Drefn Datrys Mewnol yn ogystal i gyd-fynd a’r Cod Ymddygiad. Eglurwyd o ran yr ail agwedd fod y Cabinet wedi adolygu
polisi Canu’r Gloch yn ôl ym mis Ionawr a bod diwygiadau wedi eu gwneud.
Mynegwyd gan ei fod yn ddogfen sydd yn rhan o’r Cyfansoddiad fod angen ei
chyflwyno i’r Cyngor er gwybodaeth fel bod cofnod fod newid wedi ei wneud i’r
Cyfansoddiad. Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Nodwyd fod yr eitemau wedi eu trafod yn y Pwyllgor Safonau,
a'u bod yn hapus gyda’r addasiadau. PENDERFYNIAD 1. Mabwysiadwyd
y diwygiadau i'r Egwyddorion Ymddygiad a’r Cod Ymddygiad Aelodau yn unol â'r
gofyniad statudol. Gofynnir i'r Cyngor hefyd awdurdodi'r Swyddog Monitro i
ddiwygio'r Weithdrefn Datrys Leol i gyd fynd â'r Cod Ymddygiad lle cyfeirir at
y darpariaethau hyn. 2. Nodwyd
cynnwys y Polisi Canu’r Gloch ddiwygiedig yn y Cyfansoddiad. |
|
|
CALENDR PWYLLGORAU 2026/27 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadwyd Y Calendr Pwyllgorau ar gyfer 2026/27 Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau
Democratiaeth gan amlygu fod Etholiad mis Mai ac Etholiad 2027 yn cael cryn
effaith ar y dyddiadau. Tynnwyd sylw at y Pwyllgorau Craffu ychwanegol sydd
wedi eu cynnwys ym mis Gorffennaf o ganlyniad i bwysau gwaith y pwyllgorau a’r
cyfnod cyn-etholiadol. O ganlyniad i hyn, amlygwyd fod un addasiad i ddyddiad y
Pwyllgor Ymgynghorol Lleol oherwydd yr angen am ddyddiadau i’r pwyllgorau
Craffu ychwanegol. Bydd y pwyllgor yn cael ei gynnal ar y 22 Medi, a bydd yr
addasiad hwn yn cael ei adlewyrchu yn dilyn penderfyniad. Nodwyd fod ymgynghoriadau eang wedi ei wneud a bod
addasiadau wedi eu gwneud yn dilyn trafodaethau gyda Pharc Cenedlaethol Eryri
ac yr Awdurdod Tân. Mynegwyd ein bod wedi ceisio bod mor hyblyg â phosib ond yn
methu cyfarch pob dim. Diolchwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth am eu
mewnbwn i’r Calendr eu cyfarfod ym mis Chwefror. Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Diolchwyd am y trafodaethau gyda’r Awdurdod Tân, ond holwyd
os oes trafodaethau pan fo cyfarfodydd brys neu ychwanegol yn cael eu cynnal.
Ymatebwyd drwy nodi ei fod yn rhywbeth i’w gadw yn y cof o ran ymgynghori, a
bod angen parhau a’r drafodaeth a’r Awdurdod Tân ond mai eithriadau yw’r rhain. PENDERFYNIAD Mabwysiadwyd Y
Calendr Pwyllgorau ar gyfer 2026/27 |
|
|
RHYBUDDION O GYNNIG (A)
RHYBUDD O GYNNIG GAN Y
CYNGHORYDD GRUFFYDD WILLIAMS Yn
unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y
Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gruffydd Williams yn cynnig fel a ganlyn:- Ym
mis Ionawr 2026, cafwyd tro u bedol gan Lywodraeth San Steffan parthed eu
cynlluniau i wneud cardiau adnabod digidol yn orfodol ar gyfer profi'r
hawl i weithio,a hynny yn dilyn ymateb sylweddol gan Aelodau o’r
cyhoedd gyda deiseb hefo dros 3 mil yn cael ei gyflwyno gerbron y Llywodraeth
yn datgan eu gwrthwynebiad i DI . Er fod y gofyniad gorfodol am gyflogaeth
wedi'i ollwng, mae'r llywodraeth yn bwriadu symud prosesau dilysu ar-lein erbyn
2029, gan arwain at bryderon y bydd system adnabod ddigidol yn dal i gael ei
chyflwyno'n raddol drwy ‘r drws cefn fel petai Bod
y Cyngor yma yn llwyr gwrthwynebu
cyfundrefn Digital Identification a bod Cyngor Gwynedd yn
galw ar Llywodraeth Cymru i wrthwynebu DI yn unol a ‘r Llywodraeth yn yr Alban
a hefyd yn unol a sawl awdurdod lleol ledled Gwledydd Prydain . Ni ddylai cyfleustra byth ddod ar draul rhyddid personol. (B)
RHYBUDD O GYNNIG GAN Y
CYNGHORYDD ELIN HYWEL Yn
unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y
Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elin Hywel yn cynnig fel a ganlyn:- Mae’r Cyngor hwn yn
cydnabod mai ymddiriedaeth yw sylfaen democratiaeth. Gwyddom fod digwyddiadau
diweddar yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol wedi tanseilio’r berthynas
honno â phobl Gwynedd. Ni all democratiaeth weithredu’n iach heb ymddiriedaeth
y cyhoedd yn y rhai sy’n eu cynrychioli; yr ymddiriedaeth honno sy’n galluogi
pobl i gymryd rhan mewn democratiaeth leol ac, yn ei thro, yn sicrhau eu llais
wrth lunio eu dyfodol. Noda dystiolaeth gan yr
Office for National Statistics fod ymddiriedaeth mewn
gwleidyddiaeth a gwleidyddion ar lefel isel iawn, gyda dim ond un o bob pump yn
ymddiried mewn pleidiau gwleidyddol, a bod cysylltiad uniongyrchol rhwng diffyg
ymddiriedaeth a diffyg cyfranogiad. Yn wyneb hynny, mae’r
Cyngor hwn yn nodi’r cyfranogiad isel yn etholiad Cyngor Gwynedd 2022, yn unol
â thueddiadau ehangach ledled Cymru, gyda thua 38–39% yn pleidleisio, a bod 28
o’r 69 sedd wedi eu hethol yn ddi-wrthwynebiad, gan olygu nad oedd gan
nifer fawr o etholwyr Gwynedd ddewis democrataidd. Cydnabu’r y Cyngor
bod y ffigyrau hyn yn amlygu her ddifrifol i iechyd democratiaeth leol ac i’r
berthynas rhwng etholwyr a’u cynrychiolwyr. Cydnabu’r mai ein
hymddygiad ni fel arweinwyr cyhoeddus sy’n gosod safon y drafodaeth
ddemocrataidd. Na ellir adeiladu ymddiriedaeth, na chynyddu
cyfranogiad, oni bai ein bod ni’n modelu’r gwerthoedd hynny ein
hunain. Mae’r Cyngor hwn yn
croesawu camau Y Senedd drwy Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig
(Cymru) i gryfhau uniondeb bywyd cyhoeddus a gosod gonestrwydd a gwirionedd
wrth wraidd ein diwylliant democrataidd. Yn unol â hyn, mae’r
Cyngor hwn yn datgan yn glir mai arnom ni, yn bersonol ac ar y cyd, y mae’r
ddyletswydd i gynnal ac adfer ymddiriedaeth y cyhoedd. Ymrwymwn i’r gwir, i dryloywder, i degwch ac ... view the full Rhaglen text for item 13. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Eitem 13(A): RHYBUDD O GYNNIG Y CYNG. GRUFFYDD WILLIAMS Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn
unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, cytunwyd a cynnig y Cynghorydd Gruffydd
Williams fel a ganlyn:- Ym mis Ionawr 2026, cafwyd tro u bedol gan Lywodraeth San
Steffan parthed eu cynlluniau i wneud cardiau adnabod digidol yn orfodol
ar gyfer profi'r hawl i weithio, a hynny yn dilyn ymateb sylweddol gan Aelodau
o’r cyhoedd gyda deiseb hefo dros 3 mil yn cael ei gyflwyno gerbron y
Llywodraeth yn datgan eu gwrthwynebiad i DI . Er fod y gofyniad gorfodol am
gyflogaeth wedi'i ollwng, mae'r llywodraeth yn bwriadu symud prosesau dilysu
ar-lein erbyn 2029, gan arwain at bryderon y bydd system adnabod ddigidol yn dal
i gael ei chyflwyno'n raddol drwy ‘r drws cefn fel petai. Bod y Cyngor yma yn llwyr gwrthwynebu cyfundrefn Digital Identification a bod
Cyngor Gwynedd yn galw ar Llywodraeth Cymru i wrthwynebu DI yn unol a ‘r
Llywodraeth yn yr Alban a hefyd yn unol a sawl awdurdod lleol ledled Gwledydd
Prydain . Ni ddylai cyfleustra byth ddod ar draul rhyddid personol. Eitem 13(B): RHYBUDD O GYNNIG Y CYNG. ELIN HYWEL Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn
unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, cytunwyd a cynnig y Cynghorydd Elin Hywel
fel a ganlyn:- Mae’r Cyngor hwn yn cydnabod mai ymddiriedaeth yw sylfaen
democratiaeth. Gwyddom fod digwyddiadau diweddar yn lleol, yn genedlaethol ac
yn rhyngwladol wedi tanseilio’r berthynas honno â phobl Gwynedd. Ni all
democratiaeth weithredu’n iach heb ymddiriedaeth y cyhoedd yn y rhai sy’n eu
cynrychioli; yr ymddiriedaeth honno sy’n galluogi pobl i gymryd rhan mewn
democratiaeth leol ac, yn ei thro, yn sicrhau eu llais wrth lunio eu dyfodol. Noda dystiolaeth gan yr Office for
National Statistics fod ymddiriedaeth mewn
gwleidyddiaeth a gwleidyddion ar lefel isel iawn, gyda dim ond un o bob pump yn
ymddiried mewn pleidiau gwleidyddol, a bod cysylltiad uniongyrchol rhwng diffyg
ymddiriedaeth a diffyg cyfranogiad. Yn wyneb hynny, mae’r Cyngor hwn yn nodi’r cyfranogiad isel
yn etholiad Cyngor Gwynedd 2022, yn unol â thueddiadau ehangach ledled Cymru,
gyda thua 38–39% yn pleidleisio, a bod 28 o’r 69 sedd wedi eu hethol yn ddi-wrthwynebiad, gan olygu nad oedd gan nifer fawr o
etholwyr Gwynedd ddewis democrataidd. Cydnabu’r y Cyngor bod y ffigyrau hyn yn amlygu her
ddifrifol i iechyd democratiaeth leol ac i’r berthynas rhwng etholwyr a’u
cynrychiolwyr. Cydnabu’r mai ein hymddygiad ni fel arweinwyr cyhoeddus sy’n
gosod safon y drafodaeth ddemocrataidd. Na ellir adeiladu ymddiriedaeth, na
chynyddu cyfranogiad, oni bai ein bod ni’n modelu’r gwerthoedd hynny ein
hunain. Mae’r Cyngor hwn yn croesawu camau Y Senedd drwy Ddeddf
Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) i gryfhau uniondeb bywyd cyhoeddus a
gosod gonestrwydd a gwirionedd wrth wraidd ein diwylliant democrataidd. Yn unol â hyn, mae’r Cyngor hwn yn datgan yn glir mai arnom
ni, yn bersonol ac ar y cyd, y mae’r ddyletswydd i gynnal ac adfer
ymddiriedaeth y cyhoedd. Ymrwymwn i’r gwir, i dryloywder, i degwch ... view the full Penderfyniad text for item 13. Cofnod: (A) RHYBUDD O GYNNIG GAN Y CYNGHORYDD GRUFFYDD WILLIAMS Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig gan y Cynghorydd Gruffydd
Williams o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i heiliwyd. Mynegwyd cefnogaeth i’r rhybudd gan nodi:- ·
Fod rhyddid personol yn holl bwysig ac yn
rhywbeth gall ei golli. ·
Amlygwyd yn aml fod gamau fel hyn digwydd -
dechrau yn fach ac yn tyfu dros amser a bod risg i ddata unigolion. PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:- Ym mis Ionawr 2026, cafwyd tro u bedol gan Lywodraeth San
Steffan parthed eu cynlluniau i wneud cardiau adnabod digidol yn orfodol
ar gyfer profi'r hawl i weithio, a hynny yn dilyn ymateb sylweddol gan Aelodau
o’r cyhoedd gyda deiseb hefo dros 3 miliwn yn cael ei gyflwyno gerbron y
Llywodraeth yn datgan eu gwrthwynebiad i DI . Er bod y gofyniad gorfodol am
gyflogaeth wedi'i ollwng, mae'r llywodraeth yn bwriadu symud prosesau dilysu
ar-lein erbyn 2029, gan arwain at bryderon y bydd system adnabod ddigidol yn
dal i gael ei chyflwyno'n raddol drwy’r drws cefn fel petai. Bod y Cyngor yma yn llwyr wrthwynebu cyfundrefn Digital Identification a bod
Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu DI yn unol ar
Lywodraeth yn yr Alban a hefyd yn unol â sawl awdurdod lleol ledled Gwledydd
Prydain . Ni ddylai cyfleustra byth ddod ar draul rhyddid personol. 11(b) RHYBUDD O GYNNIG Y CYNGHORYDD ELIN HYWEL Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig gan y Cynghorydd Elin Hywel o
dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i heiliwyd. Gosododd yr aelod y cyd-destun
i’w gynnig, gan nodi:- ·
Nad oes modd i ddemocratiaeth weithredu heb
ymddiriedaeth, a'i fod yn cael ei ennill neu ei golli drwy'r ffordd mae pobl yn
siarad, yn ymddwyn neu’r penderfyniadau sydd yn cael eu gwneud. Pwysleisiwyd
fod ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth ar hyn o bryd yn hynod isel. ·
Cyfnod heriol dros ben i drigolion Gwynedd ar
hyn o bryd gyda digwyddiadau cenedlaethol a lleol wedi effeithio ymddiriedaeth
mewn gwleidyddion. ·
Nodwyd fod y cyfrifoldeb yn gorwedd gyda
Chynghorwyr gan ofyn y cwestiwn beth yw eu rhan. Fel cynghorwyr fod ganddynt
gyfrifoldeb i ddatgan a dangos
parodrwydd i arfer a chynnal ymddiriedaeth. Eglurwyd mai’r cam cyntaf yn unig
yw i ddatgan. ·
Mynegwyd mai dim ond 38-39% o drigolion Gwynedd
a bleidleisiodd yn yr Etholiad Llywodraeth Leol yn ôl yn 2022, gyda 28 sedd
wedi ei hethol heb wrthwynebiad. O ganlyniad doedd dim trefn ddemocrataidd yn
yr ardaloedd hynny oherwydd heb ddewis doedd dim etholiad. ·
Croesawyd camau'r Senedd drwy Ddeddf Etholiadau
a Chyrff Etholedig (Cymru) i gryfhau uniondeb bywyd cyhoeddus a gosod
gonestrwydd yn ganolog. ·
Mynegwyd fod y rhan fwyaf o’r Cynghorwyr yma am
y rheswm gorau sef i wella bywydau pobl
ac i greu cymunedau gorau. Amlygwyd fod trafodaethau yn gallu bod
tanbaid ond fod gwasanaethu trigolion Gwynedd yn ganolog i bawb. ·
Nodwyd fod angen i beth sydd yn digwydd yn y
Siambr fod yn cryfhau democratiaeth ac i feithrin parch a hyder mewn sefydliadau. · Eglurwyd os drwy eiriau mae modd arwain fod yn rhaid bod yn onest a'i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13. |
|
|
YMATEBION A DIWEDDARIADAU I RYBUDDION O GYNNIG Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y
Cynghorydd Jina Gwyrfai i gyfarfod 3 Gorffennaf 2025 o’r Cyngor ynglŷn a Treth
Etifeddiant. Dogfennau ychwanegol: |