Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Richardson 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet,
y Cynghorwyr Selwyn Griffiths a Craig ab Iago, a Swyddogion i’r cyfarfod. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion
brys. |
|
MATERION YN CODI O BWYLLGORAU CRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn
codi o Bwyllgorau Craffu. |
|
COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 15fed O RAGFYR 2015 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion y Cabinet a gynhaliwyd ar 15eg o Ragfyr
2015. |
|
NEWIDIADAU YN Y GWASANAETH ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNWYSIAD Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Thomas. Eiliwyd gan y Cyng. Mair Rowlands. PENDERFYNIAD 1. Parhau i gynnal trafodaethau gyda Chyngor Sir Ynys Môn er mwyn ymchwilio’r cyfle i lunio Strategaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol Gyffredin a fydd yn cyfarch anghenion y disgyblion a’r bobl ifanc mewn modd effeithiol ac effeithlon. 2. Cymeradwyaeth y Cabinet o Strategaeth Cyngor Gwynedd ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad; gan ddal sylw i’r bwriad yn 1. 3.
Cymeradwyaeth o’r
Achos Busnes - sef buddsoddiad unwaith ac am byth o hyd at £1,380,131 er mwyn
dangos arbediad blynyddol parhaol o leiaf £808,461. Awdur: Iwan Trefor Jones |
|
CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2016-20 Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Ioan Thomas. PENDERFYNIAD Derbyn y Cynllun Cydraddoldeb
Strategol 2016-20 fel drafft ar gyfer ymgynghoriad gyda’r cyhoedd. Awdur: Geraint Owen |
|
ADOLYGIAD ANGHENION LLETYA SIPSIWN A THEITHWYR GWYNEDD A MON Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dafydd Meurig a Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Ioan Thomas. Eiliwyd gan y Cynghorwyr Dafydd Meurig a John Wynn Jones. PENDERFYNIAD Cymeradwyo’r argymhellion a
wnaethpwyd yn yr Adolygiad Anghenion Lletya Sipsiwn a Theithwyr Gwynedd a Môn
gan ganolbwyntio ar argymhellion Gwynedd sydd wedi eu nodi o 1-7 yn nhabl
Argymhellion ac Oblygiadau yr adroddiad a gyflwynwyd i’r cyfarfod. Awdur: Arwel Owen |
|
YMGYNGHORIAD AR DDYFODOL CARTREF Y FRONDEG Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. W Gareth Roberts Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. W Gareth Roberts. Eiliwyd gan y Cyng. Ioan Thomas. PENDERFYNIAD Datblygu Opsiwn 5, sef model llety newydd ar gyfer oedolion gydag anabledd dysgu ar safle Y Frondeg. Dod â defnydd cartref preswyl cofrestredig Y Frondeg i ben, yn dilyn cwblhau'r datblygiad llety newydd. Trosglwyddo’r safle i bartner
gweithredol e.e. cymdeithas tai er cyd-weithio mewn partneriaeth i ddatblygu’r
model llety newydd. Awdur: Olwen Ellis Jones |
|
YMCHWILIAD IAITH - Y GYMRAEG MEWN CYFARFODYDD Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Croesawyd y Cyng. Craig ab Iago i’r cyfarfod, ac fe amlinellodd yntau brif argymhellion yr Ymchwiliad Iaith i’r defnydd o’r iaith Gymraeg mewn cyfarfodydd. Derbyniwyd yr adroddiad gan y
Cabinet, a chytunodd y Dirprwy Arweinydd, yn ei rôl fel deilydd
y portffolio iaith Gymraeg, i weithredu ar argymhellion yr adroddiad. Awdur: Arwel Ellis Jones |