skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

Croesawyd yr Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 25 EBRILL pdf eicon PDF 294 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2023 fel rhai cywir.

6.

TREFNIANT LLYWODRAETHU AR GYFER Y CYNLLUN DATBLYGU LLEOL NEWYDD A MATERION POLISI CYNLLUNIO pdf eicon PDF 339 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y Model Llywodraethu yn Atodiad 1 ar gyfer paratoi y Cynllun Datblygu Lleol i’w cynnwys yn y Cytundeb Cyflawni Drafft.

Cytunwyd i sefydlu Gweithgor Polisi Cynllunio 15 aelod gyda’r Cylch Gorchwyl (Atodiad 2) i gefnogi’r gwaith o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd.

Dirprwywyd hawl i’r Pennaeth Adran Amgylchedd mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i wneud addasiadau ieithyddol a man gywiriadau golygyddol i’r Cylch Gorchwyl.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig.

PENDERFYNIAD

TRAFODAETH

Adroddwyd ar yr angen i sefydlu trefniant llywodraethu newydd ar gyfer paratoi Cynllun Datblygu Lleol Newydd a materion polisi cynllunio ar gyfer Awdurdod Cynllunio Cyngor Gwynedd, yn dilyn penderfyniadau i ddirwyn trefniadau cyd weithio ffurfiol gyda Chyngor Sir Ynys Môn i ben.

Eglurwyd bod y broses o sefydlu’r Cynllun Datblygu Lleol newydd yn ran o swyddogaeth ar y cyd rhwng y Cabinet a’r Cyngor Llawn. Nodwyd bod y broses hon yn waith dros gyfnod o oddeutu pedair blynedd a bod angen i fonitro’r Cynllun Datblygu Lleol, paratoi canllawiau Cynllun Atodol yn ogystal â gwaith polisi cynllunio cyffredinol. Nodwyd pwysigrwydd bod yr holl aelodau yn cymryd perchnogaeth dros ddatblygiadau’r gwaith hwn.

Awgrymwyd sefydlu Gweithgor Polisi Cynllunio gydag aelodaeth o 15 Aelod Cyngor Gwynedd, yn seiliedig ar ddyraniad gwleidyddol, er mwyn cefnogi’r broses o greu a chynnal y Cynllun Datblygu Lleol. Nodwyd mai rhai o brif swyddogaethau’r cylch gorchwyl fyddai:

·       Darparu barn ac arweiniad ar ddogfennau drafft y Gwasanaeth Polisi Cynllunio yn ogystal â dogfennau drafft y Canllawiau Cynllunio Atodol, cyn i’r gwasanaeth gwneud trefniadau am adborth gyhoeddus.

·       Darparu barn ac arweiniad ar sylwadau a dderbynnir gan y cyhoedd ac unrhyw grŵp neu fforwm budd-ddeiliaid yn ystod cyfnodau cyfranogiad cyhoeddus neu ymgynghoriadau eraill ym mhrosesau’r Cynllun Datblygu Lleol a’r Canllawiau Cynllunio Atodol.

·       Darparu barn ac arweiniad ar Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol ac unrhyw ddogfen sy’n cael ei baratoi fel rhan o’r broses o adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol.

Cadarnhawyd bod gan Y Cabinet, Y Cyngor Llawn a’r Pwyllgor Craffu Cymunedau rôl oddi fewn y prosesau hyn a rhannwyd amserlen o’r broses. Cadarnhawyd bod gofyniad statudol i’r broses hyn gael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn dwywaith o fewn y cyfnod o bedair blynedd. Ymhelaethwyd bod swyddogion y Gwasanaeth wedi amserlennu i’r diweddariadau cael eu cyflwyno i’r Cyngor Llawn bedair gwaith oddi fewn y cyfnod hwn, er mwyn cyd fynd gyda chamau allweddol ac i sicrhau bod yr Aelodau’n perchnogi’r broses ddatblygu.

Nodwyd bydd holl aelodau’r Cyngor yn derbyn sesiynau codi ymwybyddiaeth drwy gydol y broses pan fu’n amserol i wneud hynny.

Adroddwyd byddai’r broses llywodraethol hyn yn adlewyrchiad o’r trefniant blaenorol ar y cyd gyda Cyngor Sir Ynys Môn. Ymhelaethwyd bod nifer helaeth o awdurdodau lleol eraill yn defnyddio trefniant tebyg i’r hyn a argymhellwyd yn yr adroddiad.

Awdur: Gareth Jones (Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd)

7.

CYFLWYNO CYFARWYDDYD ERTHYGL 4 ER MWYN GALLUOGI RHEOLI'R TROSGLWYDDIAD MEWN DEFNYDD O DAI PRESWYL I DDEFNYDD GWYLIAU (AIL-GARTREFI A LLETY GWYLIAU) pdf eicon PDF 499 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Cymeradwywyd Papur Cyfiawnhau Cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn Atodiad 1.

2.    Cymeradwywyd gwneud Cyfarwyddyd Erthygl 4 sydd ddim yn dod i rym yn uniongyrchol ond wedi 12 mis (Atodiad 2) ar gyfer Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd er mwyn diddymu’r hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer y defnyddiau canlynol:

a.    Newid defnydd o C3 (prif gartref) i C5 (ail gartel) neu C6 (llety gwyliau tymor byr) a defnyddiau cymysg penodol;

b.    Newid defnydd o C5 (ail gartref) i C6 (llety gwyliau tymor byr) a defnyddiau cymysg penodol;

c.     Newid defnydd o C6 (llety gwyliau tymor byr) i C5 (ail gartref) a defnyddiau cymysg penodol.

3.    Cytunwyd bydd rhybudd o’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar y ffurf yn Atodiad 3 i’w gyhoeddi a chyflwyno yn unol a’r gofynion (gan dderbyn nad yw yn ymarferol i gyflwyno yn unigol i bob perchennog a meddiannwr o fewn yr ardal oherwydd ei maint) am gyfnod o ddim llai na chwe wythnos er caniatáu i’r cyhoedd gyflwyno ymatebion i’r bwriad.

4.    Cytunwyd i dderbyn adroddiad pellach i ystyried unrhyw ymatebion a dderbyniwyd (yn dilyn y cyfnod ymgysylltu) er mwyn gwneud y penderfyniad i gadarnhau y Cyfarwyddyd Erthygl 4.

5.    Dirprwywyd hawl i’r Pennaeth Adran Amgylchedd mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i wneud addasiadau golygyddol i’r rhybudd cyn ei gyhoeddi.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig.    

PENDERFYNIAD

1.    Cymeradwywyd Papur Cyfiawnhau Cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn Atodiad 1.

2.    Cymeradwywyd gwneud Cyfarwyddyd Erthygl 4 sydd ddim yn dod i rym yn uniongyrchol ond wedi 12 mis (Atodiad 2) ar gyfer Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd er mwyn diddymu’r hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer y defnyddiau canlynol:

a.    Newid defnydd o C3 (prif gartref) i C5 (ail gartel) neu C6 (llety gwyliau tymor byr) a defnyddiau cymysg penodol;

b.    Newid defnydd o C5 (ail gartref) i C6 (llety gwyliau tymor byr) a defnyddiau cymysg penodol;

c.     Newid defnydd o C6 (llety gwyliau tymor byr) i C5 (ail gartref) a defnyddiau cymysg penodol.

3.    Cytunwyd bydd rhybudd o’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar y ffurf yn Atodiad 3 i’w gyhoeddi a chyflwyno yn unol â’r gofynion (gan dderbyn nad yw yn ymarferol i gyflwyno yn unigol i bob perchennog a meddiannwr o fewn yr ardal oherwydd ei maint) am gyfnod o ddim llai na chwe wythnos er caniatáu i’r cyhoedd gyflwyno ymatebion i’r bwriad.

4.    Cytunwyd i dderbyn adroddiad pellach i ystyried unrhyw ymatebion a dderbyniwyd (yn dilyn y cyfnod ymgysylltu) er mwyn gwneud y penderfyniad i gadarnhau y Cyfarwyddyd Erthygl 4.

5.    Dirprwywyd hawl i’r Pennaeth Adran Amgylchedd mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i wneud addasiadau golygyddol i’r rhybudd cyn ei gyhoeddi.

TRAFODAETH

Adroddwyd nad oedd modd, yn hanesyddol, i reoli os oedd cartref yn cael ei drosi i’w ddefnyddio fel ail gartref neu llety gwyliau hunangynhaliol. Eglurwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno dosbarthiadau defnydd newydd (C5 – ail gartref ac C6 – llety gwyliau tymor byr), ond nid oes gofyniad presennol am ganiatâd cynllunio cyn newid dosbarth defnydd ar gartref.

Eglurwyd byddai cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn galluogi Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd i osod gofyniad am ganiatâd cynllunio cyn i berchnogion allu diwygio ddosbarth defnydd eu cartref. Pwysleisiwyd nad oes gofyniad am ganiatâd cynllunio os yw’r perchennog yn bwriadu diwygio dosbarth defnydd eu cartref o C5 neu C6 yn ôl i brif gartref (dosbarth defnydd C3), oni bai fod cais gwreiddiol wedi cael ei gyflwyno i’r Awdurdod ar gyfer defnydd C5 neu C6 yn flaenorol.

Pwysleisiwyd mai prif fwriad y Cyngor wrth gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 ond i gael rheolaeth dros newid dosbarthiadau defnydd, nid i atal datblygiadau rhag mynd yn eu blaen.

Darparwyd trosolwg o Bapur Cyfiawnhau Cyflwyno Cyfarwyddyd Erthyl 4 gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:

·       Dadansoddwyd y sefyllfa bresennol gan fanylu ar sut mae’r defnydd o dai gwyliau wedi datblygu dros y bedair mlynedd ddiwethaf.

o   Adroddwyd bod cynnydd yn niferoedd lletyau gwyliau dros y cyfnod hwn. Nodwyd hefyd bod lleihad yn nifer o dai sy’n talu premiwm ail gartrefi.

·       Cadarnhawyd bod 7509 o dai (12% o’r stoc dai) yn ail gartrefi neu lety gwyliau. Ystyriwyd bod posibilrwydd i’r ffigwr hwn fod yn eithaf ceidwadol oherwydd bod Arolwg Stoc Gwelyau a gwblhawyd gan y Cyngor yn 2019, ar y cyd gyda gwybodaeth gan Croeso Cymru, yn awgrymu bod darpariaeth o lety gwyliau yn unig yn 3700-4500  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Gareth Jones (Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd)

8.

YMATEB I YMGYNGHORIAD LLYWODRAETH CYMRU - CYNIGION AR GYFER BIL ADDYSG GYMRAEG pdf eicon PDF 374 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng.Beca Brown

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd ymateb y Cyngor i’r ymgynghoriad Papur Gwyn – Cynigion ar gyfer Bil Addysg Gymraeg, Llywodraeth Cymru.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown.

PENDERFYNIAD

Cymeradwywyd ymateb y Cyngor i’r ymgynghoriad Papur Gwyn – Cynigion ar gyfer Bil Addysg Gymraeg, Llywodraeth Cymru.

TRAFODAETH

Eglurwyd bod y Bil Addysg Gymraeg hon yn cynnig sylfaen i ddarparu addysg Gymraeg i bob plentyn yng Nghymru. Nodwyd byddai hyn cynyddu niferoedd o siaradwyr Cymraeg hyderus ac yn normaleiddio’r Gymraeg mewn ysgolion.

Nodwyd bod Gwynedd eisoes wedi llwyddo i normaleiddio’r Gymraeg drwy gynnig addysg Gymraeg i holl blant y Sir, ac wedi datblygu system addysg drochi lwyddiannus er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu ymdoddi i’r awyrgylch Gymreig hon.

Eglurwyd bod dyhead Cyngor Gwynedd yn aml yn uwch na’r gofynion statudol sy’n cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru ac mae hynny’n gosod sail i awdurdodau eraill i ymroddi i’r iaith.

Ymfalchïwyd bod y Bil hwn yn arwain awdurdodau eraill i gyfeiriad cyffelyb â Gwynedd oherwydd bydd cynnig addysg Gymraeg i bawb yn gwaredu problemau anghyfartaledd ieithyddol a diffyg cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg.

Awdur: Debbie A W Jones (Pennaeth Cynorthwyol Addysg: Gwasanaethau Corfforaethol)

9.

CYFRIFON TERFYNOL 2022/23 - ALLDRO REFENIW pdf eicon PDF 240 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

1.1 Nodwyd sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2022/23.

1.2 Cymradwywyd symiau i’w cario ‘mlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1), sef:

ADRAN

£’000

Oedolion, Iechyd a Llesiant

100

Plant a Theuluoedd

76

Addysg

(96)

Economi a Chymuned

0

Priffyrdd a Bwrdeistrefol

100

Amgylchedd

6

Ymgynghoriaeth Gwynedd

0

Tai ac Eiddo

0

Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol

(17)

Cyllid

(10)

Cefnogaeth Gorfforaethol

(16)

1.3 Cymeradwywyd argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn Atodiad 2):

·       Yn yr Adran Addysg, fod £1,304k o gostau ychwanegol chwyddiant trydan a chyflogau cymorthyddion a staff gweinyddol yn yr ysgolion sydd uwchlaw’r gyllideb yn cael eu cyllido o falansau’r ysgolion unigol.

·       Yn yr Adran Tai ac Eiddo fod £2,482k o’r Gronfa Premiwm Treth Cyngor yn cael ei ddefnyddio i gyllido’r pwysau ychwanegol yn y maes Digartrefedd.

·       Cymorth ariannol o £550k i’r Adran Economi a Chymuned gan fod sgil effaith Covid wedi amharu ar lefelau incwm Cwmni Byw’n Iach.

·       Yr adrannau canlynol sydd yn gorwario i dderbyn cymorth ariannol un-tro gan gyfyngu lefel y gorwariant sydd i’w gario ‘mlaen gan yr Adran i £100k:

a.    £3,785k – Oedolion, Iechyd a Llesiant

b.    £2,434k – Priffyrdd a Bwrdeistrefol

·       Ar gyllidebau Corfforaethol:

a.    Defnyddio (£2,851k) o’r tanwariant net Corfforaethol i gynorthwyo’r adrannau sydd wedi gorwario yn 2022/23.

b.    Fod (£3,899k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu’r rhaglen gyfalaf

c.     Gyda gweddill y tanwariant net o (£952k) ar gyllidebau Corfforaethol yn cael ei drosglwyddo i’r Gronfa Trawsffurfio i gyllideb blaenoriaethau’r Cyngor.

1.4 Cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adroddiad o’r cronfeydd, gan gynaeafu (£3,918k) o gronfeydd a’i ddefnyddio yn ei gyfanrwydd i gynorthwyo’r adrannau sydd wedi gorwario yn 2022/23.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas.

PENDERFYNIAD

1.1 Nodwyd sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2022/23.

1.2 Cymeradwywyd symiau i’w cario ‘mlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1), sef:

ADRAN

£’000

Oedolion, Iechyd a Llesiant

100

Plant a Theuluoedd

76

Addysg

(96)

Economi a Chymuned

0

Priffyrdd a Bwrdeistrefol

100

Amgylchedd

6

Ymgynghoriaeth Gwynedd

0

Tai ac Eiddo

0

Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol

(17)

Cyllid

(10)

Cefnogaeth Gorfforaethol

(16)

1.3 Cymeradwywyd argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn Atodiad 2):

·       Yn yr Adran Addysg, fod £1,304k o gostau ychwanegol chwyddiant trydan a chyflogau cymorthyddion a staff gweinyddol yn yr ysgolion sydd uwchlaw’r gyllideb yn cael eu cyllido o falansau’r ysgolion unigol.

·       Yn yr Adran Tai ac Eiddo fod £2,482k o’r Gronfa Premiwm Treth Cyngor yn cael ei ddefnyddio i gyllido’r pwysau ychwanegol yn y maes Digartrefedd.

·       Cymorth ariannol o £550k i’r Adran Economi a Chymuned gan fod sgil effaith Covid wedi amharu ar lefelau incwm Cwmni Byw’n Iach.

·       Yr adrannau canlynol sydd yn gorwario i dderbyn cymorth ariannol un-tro gan gyfyngu lefel y gorwariant sydd i’w gario ‘mlaen gan yr Adran i £100k:

a.    £3,785k – Oedolion, Iechyd a Llesiant

b.    £2,434k – Priffyrdd a Bwrdeistrefol

·       Ar gyllidebau Corfforaethol:

a.    Defnyddio (£2,851k) o’r tanwariant net Corfforaethol i gynorthwyo’r adrannau sydd wedi gorwario yn 2022/23.

b.    Fod (£3,899k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu’r rhaglen gyfalaf

c.     Gyda gweddill y tanwariant net o (£952k) ar gyllidebau Corfforaethol yn cael ei drosglwyddo i’r Gronfa Trawsffurfio i gyllideb blaenoriaethau’r Cyngor.

1.4 Cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adroddiad o’r cronfeydd, gan gynaeafu (£3,918k) o gronfeydd a’i ddefnyddio yn ei gyfanrwydd i gynorthwyo’r adrannau sydd wedi gorwario yn 2022/23.

TRAFODAETH

Eglurwyd bod yr adroddiad yn manylu ar wariant y Cyngor yn y flwyddyn ariannol 2022/23 yn ogystal â’r sefyllfa alldro tanwariant neu orwariant.

Cadarnhawyd bod gorwariant gan 7 adran ar ddiwedd y flwyddyn ariannol 2022/23. Ymhelaethwyd mod nifer o ffactorau wedi cyfrannu at hyn gan gynnwys prisiau ynni cynyddol, methiannau i wireddu arbedion a chwyddiant cyflogau. Manylwyd a’r gorwariant amlycaf mewn 5 adran:

·       Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant – eglurwyd bod £3.9 miliwn o orwariant oherwydd costau staffio’r adran a’r defnydd o staff asiantaeth. Yn ogystal roedd pwysau ar lety cefnogol a phecynnau taliadau uniongyrchol yng Ngwasanaethau pobl Hŷn. Cadarnhawyd bod yr adran wedi profi trafferthion i wireddu arbedion.

·       Adran Addysg - eglurwyd bod £1.2 o orwariant yn dilyn chwyddiant yng nghostau staffio cymorthyddion a staff gweinyddol yn ogystal â phrisiau trydan uwch. Er hyn, cadarnhawyd bod yr adran wedi gallu defnyddio arian a gynilwyd o gyfnodau clo Covid i gynorthwyo gyda’r pwysau ariannol.

·       Adran Economi a Chymuned / Byw’n Iach – Cadarnhawyd bod Byw’n Iach wedi bod yn profi sgil-effeithiau’r pandemig drwy gydol y flwyddyn ariannol 2022/23. Atgoffwyd y bu i’r cwmni dderbyn £1.4 miliwn gan Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn 2021/22 ac mae’r Cyngor  wedi ymestyn y cyfnod sicrwydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

Awdur: Ffion Madog Evans (Pennaeth Cyllid Cynorthwyol)

10.

RHAGLEN GYFALAF 2022/23 - ADOLYGIAD DIWEDD BLWYDDYN (SEFYLLFA 31 MAWRTH 2023) pdf eicon PDF 252 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Derbynwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2023) o’r rhaglen gyfalaf.

2.    Nodwyd gwariant o £37,131,000 ar y rhaglen gyfalaf yn ystod y flwyddyn ariannol 2022/23, fydd yn cael ei gynnwys yn y datganiadau ariannol statudol ar gyfer 2022/23.

3.    Cymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

·       £68,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau

·       £30,000 cynnydd mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf

·       £701,000 cynnydd mewn defnydd o gyfraniadau refeniw

·       £797,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas.

PENDERFYNIAD

1.    Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2023) o’r rhaglen gyfalaf.

2.    Nodwyd gwariant o £37,131,000 ar y rhaglen gyfalaf yn ystod y flwyddyn ariannol 2022/23, fydd yn cael ei gynnwys yn y datganiadau ariannol statudol ar gyfer 2022/23.

3.    Cymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

·       £68,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau

·       £30,000 cynnydd mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf

·       £701,000 cynnydd mewn defnydd o gyfraniadau refeniw

·       £797,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill

TRAFODAETH

Eglurwyd mai prif ddiben yr adroddiad oedd cyflwyno rhaglen gyfalaf diwygiedig (sefyllfa 31 Mawrth 2023) a gofynnwyd i’r Cabinet cymeradwyo ffynonellau ariannu perthnasol. Rhannwyd dadansoddiad fesul Adran o’r rhaglen gyfalaf £142.2 miliwm am y tair blynedd 2022/23 - 2024/25.

Manylwyd ar ffynonellau i ariannu’r cynnydd net sydd oddeutu £1.6 miliwn ers yr adolygiad diwethaf.

Casglwyd bod y Cyngor wedi llwyddo i wario £37.1 miliwn yn 2022/23 ar gynlluniau cyfalaf, gyda £17.1 miliwn ohono (46%) wedi ei ariannu drwy grantiau penodol. Nodwyd bod effaith heriau ariannol diweddar yn parhau ar y rhaglen gyfalaf a gwelwyd bod £17 miliwn pellach o wariant arfaethedig, yn ychwanegol i’r £41 miliwn adroddwyd arno mewn adolygiadau blaenorol wedi’i ail-broffilio o 2022/23 i 2023/24.

Eglurwyd fod Rhaglen Gyfalaf 2023/24 wedi cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ym mis Mawrth fel rhan o’r Gyllideb flynyddol.  Mae’r rhaglen yn cynnwys nifer o gynlluniau yn y maes Tai, yn ogystal â datblygiadau y maes Addysg megis Ysgol Uwchradd Bangor ac Ysgol Treferthyr.  Yn ychwanegol i hynny, mae gwariant cyfalaf wedi llithro o 2022/23 i 2023/24 (fel amlinellir yn Atodiad 3) gan gynnwys:

·       £11.8 miliwn – Cynlluniau Strategaeth Tai a Digartrefedd

·       £9.3 miliwn – Cynlluniau Ysgolion (Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ac Eraill)

·       £5.4 miliwn – Adnewyddu Cerbydau

·       £5.2 miliwn – Cynlluniau Grantiau a Thai

·       £3.5 miliwn – Cynllun Hwb Iechyd a Gofal Penygroes.

Eglurwyd bod y Cyngor wedi llwyddo i dderbyn grantiau ychwanegol ers yr adolygiad diwethaf, gan gynnwys:

·       £2.2 miliwn – Grant Cynnal a Chadw Ysgolion 2022/23

·       £0.3 miliwn – Grantiau gan Lywodraeth Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol tuag at gynllun amddiffyn yr arfordir ym Mhorthdinllaen

·       £0.2 miliwn – Grantiau Dechrau’n Deg a Gofal Plant gan Lywodraeth Cymru.

·       £0.2 miliwn – Grant Cronfa Integreiddio Rhanbarthol.

Awdur: Ffion Madog Evans (Pennaeth Cyllid Cynorthwyol)

11.

ADOLYGIAD O GYNLLUN GWEITHREDU TAI CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 770 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Cymeradwywyd ychwanegiadau cyllidol i brosiectau unigol o fewn y Cynllun Gweithredu Tai fel y nodir yn y tabl ym mharagraff 6.4 o’r Adroddiad.

2.    Cymeradwywyd addasiad i’r achos busnes gwreiddiol ar gyfer benthyca er mwyn prynu tai i’w gosod i drigolion lleol, a gymeradwywyd gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 16 Chwefror, 2021, drwy wneud defnydd o £5.6m o’r Premiwm Treth Cyngor.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago.

PENDERFYNIAD

1.    Cymeradwywyd ychwanegiadau cyllidol i brosiectau unigol o fewn y Cynllun Gweithredu Tai fel y nodir yn y tabl ym mharagraff 6.4 o’r Adroddiad.

2.    Cymeradwywyd addasiad i’r achos busnes gwreiddiol ar gyfer benthyca er mwyn prynu tai i’w gosod i drigolion lleol, a gymeradwywyd gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 16 Chwefror, 2021, drwy wneud defnydd o £5.6m o’r Premiwm Treth Cyngor.

TRAFODAETH

Adroddwyd i’r aelodau bod argyfwng digartrefedd yng Nghymru ar hyn o bryd. Manylwyd ar nifer o ffigyrau i amlinellu’r sefyllfa, gan gynnwys:

·       Bod 657 o bobl digartref yng Ngwynedd ar hyn o bryd a dros 7,000 o blant yn byw mewn tlodi.

·       Bod 3000 o bobl Gwynedd ar restr aros ar gyfer tai cymdeithasol

·       Bod pris tai, ar gyfartaledd, wyth gwaith yn fwy na’r cyflog arferol.

Eglurwyd bod y Cyngor yn ymwybodol o’r argyfwng hwn a rhannwyd fideo i gyflwyno pum agwedd allweddol o’r Cynllun Gweithredu Tai, sef:

1.    Mynd i’r afael â digartrefedd.

2.    Adeiladu tai newydd.

3.    Prynu tai.

4.    Dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd

5.    Sicrhau bod tai Gwynedd yn ecogyfeillgar.

Adroddwyd bod y Cynllun Gweithredu Tai gwreiddiol yn seiliedig ar ganran premiwm treth cyngor o 50%. Atgoffwyd yr aelodau bod y premiwm wedi cael ei gynyddu i 100% gan greu oddeutu £20 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer cynlluniau tai a digartrefedd, dros hyd y cynllun.

Nodwyd bod y Cynllun Gweithredu Tai mewn bodolaeth ers dwy flynedd ac hyd yma wedi gallu cwblhau bron i 600 o unedau drwy amrywiol brosiectau, sydd am greu bydd i dros 4000 o bobl Gwynedd. Ymhelaethwyd bod 313 o unedau ychwanegol i hynny ar y gweill ar hyn o bryd.

Eglurwyd bod £34 miliwn o arian wedi ei ddyrannu i amrywiol brosiectau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24.

Cadarnhawyd bod 8 tŷ wedi cael ei brynu fel rhan o gynllun Prynu i Osod, gyda’r potensial i 32 o bobl elwa o’r tai hyn. Ymhelaethwyd bod nifer o dai eraill yn y broses o gael eu prynu ar hyn o bryd. Datganwyd hefyd bod 15 cais wedi cael ei gymeradwyo fel rhan o’r cynllun Prynu Cartref, ers iddo lawnsio ym Medi 2022.

Adroddwyd bod y cynllun Tai Gwag wedi llwyddo i ddychwelyd 104 o dai yn ôl i ddefnydd ar draws Gwynedd ac mae’r adran hefyd wedi llwyddo i adeiladu 173 o dai cymdeithasol, gydag 88 o dai newydd yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd. Ymhelaethwyd bod arian wedi cael ei glustnodi er mwyn adeiladu 113 o dai cymdeithasol pellach o fewn y flwyddyn ariannol hon.

Ymfalchïwyd bod yr adran yn helpu i gefnogi 40 o bobl o fewn y Sir ar hyn o bryd, drwy gydweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i sefydlu darpariaeth cefnogol i unigolion sydd mewn perygl o fod yn ddigartref oherwydd materion iechyd meddwl, i barhau yn eu cartref.

Esboniwyd bod costau adeiladu, llafur a deunyddiau, wedi cynyddu llawer ers i’r Cynllun Gweithredu Tai gwreiddiol gael  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

Awdur: Carys Fôn Williams (Pennaeth Adran Tai ac Eiddo)

12.

ADDASIADAU I'R CYFANSODDIAD CYNLLUN DIRPRWYO: ADRODDIAD SWYDDOG MONITRO pdf eicon PDF 308 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd yr addasiadau i Adran 13 (3) o’r Cyfansoddiad Cynllun Dirprwyo Swyddogion a ddangosir yn Atodiad 1.

Cofnod:

Cymeradwywyd yr addasiadau i Adran 13 (3) o’r Cyfansoddiad Cynllun Dirprwyo Swyddogion a ddangosir yn Atodiad 1.

TRAFODAETH

Adroddwyd bod dyfodiad cronfeydd grantiau newydd megis Cronfa Ffyniant Cyffredin (SPF) a chronfa ARFOR wedi amlygu’r angen i ddiwygio’r hawliau dirprwyedig i bennaeth Adran Economi a Chymuned er mwyn prosesu ceisiadau yn effeithiol.

Nodwyd bod y cronfeydd newydd hyn wedi arwain at yr angen i brosesu ceisiadau o symiau uwch, yn ogystal a bod mwy o drosiant ceisiadau i’w delio â nhw. Argymhellwyd i ddiwygio’r Adran hon o’r Cyfansoddiad ac eglurwyd bod natur rhai o’r cronfeydd yn dibynnu ar drosiant cyflym iawn i brosesu ceisiadau, ac felly mae’r newidiadau hyn yn angenrheidiol.

Awdur: Iwan Evans (Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol - Swyddog Monitro)