Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Cai Larsen oedd wedi methu ag ymuno
â’r cyfarfod oherwydd problemau technegol, ond oedd hefyd wedi
datgan buddiant gan ei fod
yn Aelod o Fwrdd Adra. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd yr aelod
canlynol ei fod yn aelod
lleol mewn perthynas â’r eitem
a nodir: ·
Y
Cynghorydd Dylan Fernley (nad
oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.1 (C25/0686/11/LL) ar y rhaglen |
|
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Fel mater o drefn, adroddwyd, gyda’r Cadeirydd yn ymuno yn
rhithiol, mai’r Swyddog Monitro fyddai’n cyhoeddi canlyniad pleidleisiau’r ceisiadau. |
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd
gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 12fed o Ionawr 2026 fel rhai cywir |
|
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno
adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
|
CAIS RHIF C25/0686/11/LL Cae Incline Fields, Bangor, LL57 4HP Cynnig i godi hyd at 48 o Anheddau a Datblygiad Cysylltiedig AELODAU LLEOL: Cynghorydd Nigel Pickavance a’r Cynghorydd Dylan Fernley Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau
Cofnod: Cynnig i godi hyd at 48 o Anheddau a Datblygiad Cysylltiedig Tynnwyd sylw at y Ffurflen
Sylwadau Hwyr a)
Amlygodd Arweinydd Tîm
Rheolaeth Datblygu mai cais cynllunio llawn ydoedd ar gyfer codi unedau preswyl
ynghyd â gwaith cysylltiedig ar gae amaethyddol ar gyrion Dinas Bangor ar safle
sydd o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol. Ategwyd bod y safle
wedi ei ddynodi yn benodol ar gyfer codi tai a’i fod tu mewn i’r ffin datblygu
cyfredol. Adroddwyd bod prif elfennau’r bwriad yn
cynnig codi 48 o unedau preswyl, darparu
mynedfa a ffordd ystâd safonol gysylltiedig, creu llecynnau parcio, mannau
chwarae, gwaith tirlunio a darparu system ddraenio bwrpasol. Bydd y
ddarpariaeth yn cynnwys 8 x fflat 1 llofft, 6 x fflat 2 llofft, 5 x byngalo 2
llofft, 1 x byngalo (byw a chymorth) 3 llofft, 13 x tŷ deulawr 2 llofft,12
x tŷ deulawr 3 llofft, 2 x tŷ deulawr 4 llofft ac 1 x tŷ deulawr
5 llofft; yn ddatblygiad 100% o dai fforddiadwy gan Gymdeithas Dai Cymdeithasol
gyda bwriad o ddarparu cymysgedd o wahanol ddaliadaeth (e.e. rhent cymdeithasol
a rhent fforddiadwy canolradd) i ddiwallu’r angen sydd wedi ei adnabod yn y
Ddinas ac yng Ngwynedd. Eglurwyd bod y safle gyferbyn ag Amlosgfa
Bangor ac yn cael ei ystyried yn safle sensitif oherwydd bod Heneb Gofrestredig
Rheilffordd Chwarel Penrhyn yn ffinio terfyn dwyreiniol y safle, dynodiad Safle
Treftadaeth y Byd tu hwnt i hwnnw yn cynnwys tiroedd Parc Cofrestredig gradd II
seren o amgylch Castell Penrhyn, ac adeilad rhestredig gradd 11 Bwthyn Incline sydd ar y terfyn dwyreiniol. Nodwyd bod cais blaenorol wedi ei gyflwyno yn 2020 ar gyfer datblygiad
66 tŷ ar y safle, ond bod y cais wedi ei dynnu yn ôl yn sgil gwrthwynebiad
gan CADW am yr effaith ar y dynodiadau treftadaeth. O’r dogfennau amrywiol a
gyflwynwyd gyda’r cais yma, ymddengys bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda
chyflwyniad datblygiad mwy ystyriol o’i leoliad sensitif. Yn unol â threfniadau cynllun dirprwyo
Gwasanaeth Cynllunio, cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor gan ei fod yn ddatblygiad
dros 5 tŷ ac yn ddatblygiad a ddiffinnir fel “datblygiad mawr” oherwydd
nifer yr unedau a gynigir. Yn unol â’r drefn briodol, derbyniwyd Adroddiad
Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio fel rhan o’r cais a’r datblygwr wedi hysbysebu’r
bwriad i’r cyhoedd ac ymgynghorwr statudol cyn cyflwyno cais cynllunio
ffurfiol. Wedi ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd, ystyriwyd fod y bwriad yn
dderbyniol ar sail: ·
Bod polisïau mabwysiedig yr Awdurdod yn datgan y
bydd Cynghorau’n ceisio sicrhau lefel briodol o dai fforddiadwy yn ardal y CDLl. Y bwriad yn paratoi datblygiad fyddai’n cynnwys 100%
o unedau fforddiadwy gyda’r Uned Strategol Tai wedi dangos tystiolaeth o’r
angen a chadarnhau fod y cynllun yn cyfarch angen yr ardal. ·
Bod y safle wedi ei ddynodi yn benodol ar gyfer
codi tai, ac er bod y nifer unedau yn llai na’r 72 dwysedd uned a awgrymwyd yn
y CDLl, ystyriwyd bod y rhesymeg dros warchod
buddiannau’r dynodiadau treftadaeth sensitif yn cyfiawnhau dwysedd llai yn yr
achos yma. · Bod y materion ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |