Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim I’w
nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Y
Cynghorydd Huw Rowlands (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.4 C23/0883/43/LL ar y rhaglen, oherwydd ei fod yn Glerc Cyngor Cymuned Y
Bontnewydd, a'r Cyngor Cymuned wedi cynnig sylwadau ar y cais. b)
Datganodd yr Aelod canlynol ei bod yn aelod lleol
mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y
Cynghorydd Beca Roberts (nad oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 cais rhif C18/0767/16/LL ar y
rhaglen ·
Y
Cynghorydd John Pughe Roberts (oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 cais rhif C24/0072/02/LL ar y
rhaglen ·
Y
Cynghorydd Gareth Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn
eitem 5.5 cais rhif C22/0637/32/LL ar y rhaglen ·
Y
Cynghorydd Meryl Roberts (nad oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.7 cais rhif C24/1026/08/LL ar y
rhaglen c)
Datganodd
yr holl Aelodau eu bod wedi derbyn llythyr yn ymwneud a chais rhif
C24/0072/02/LL ar y rhaglen (eitem 5.3) |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Fel mater o drefn, adroddwyd, gyda’r Cadeirydd yn ymuno yn
rhithiol, mai’r Pennaeth Cynorthwyol fyddai’n cyhoeddi canlyniadau’r
pleidleisiau ar y ceisiadau. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniodd
y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 24ain o Fawrth 2025 fel rhai cywir
|
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor
ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y
ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau
o’r polisïau. |
|
Cais Rhif C18/0767/16/LL Tir yn Coed Wern, Glasinfryn, Bangor, LL57 4BE Datblygiad
llety gwyliau (cynllun diwygiedig) sy'n golygu:-
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Beca Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
CYNNAL YMWELIAD SAFLE Cofnod: Datblygiad llety gwyliau (cynllun diwygiedig) sy'n golygu:- ·
Gosod sylfeini ar gyfer cabannau
gyda decio cysylltiedig. ·
Gosod sylfeini ar gyfer podiau
glampio. ·
Seilwaith cysylltiedig i gynnwys ffyrdd
mewnol, mannau parcio, systemau draenio cynaliadwy ynghyd a draenio dŵr aflan. ·
Tirlunio meddal a chaled gan gynnwys
torri rhai coed, cadw coed
ac ymgymryd â gwelliannau i'r goedlan bresennol. ·
Codi derbynfa/adeilad
gwerthiant ynghyd ac ail-orchuddio'r adeilad presennol a'i ddefnyddio
fel hwb e-beicio gyda pwyntiau gwefru trydan. Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cyfeirio
at ddogfennau diwygiedig oedd wedi ei cyflwyno ers paratoi’r adroddiad, yn
adlewyrchu lleihau’r nifer o podiau a dileu
datblygiad o fewn parth a adnabyddir fel parth 5. Ategwyd nad oedd hyn yn newid
asesiad nac argymhelliad y cais. Roedd y sylwadau hwyr hefyd yn nodi amod
tirlunio, ac amodau i gytuno cynllun adeiladau a gwarchod coed a chynllun
rheoli ecolegol a phlannu. a)
Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais
llawn oedd dan sylw ar gyfer darparu llety gwyliau a gwaith cysylltiedig o fewn
coedlan bresennol i’r de-ddwyrain o bentref Glasinfryn. Mynegwyd, ers
cyflwyno’r cais yn wreiddiol yn 2018, bod y datblygiad wedi ei ddiwygio a’i
leihau nifer o weithiau a bellach y nifer o unedau wedi eu lleihau i 25 caban
gwyliau a 4 pod glampio. Nodwyd bod y goedlan, sy’n ffurfio’r ffin gyda’r ffordd
Dosbarth III tuag at Glasinfryn, yn destun Gorchymyn Gwarchod Coed gyda
gweddill y safle yn Safle Bywyd Gwyllt ymgeisiol. Cyfeiriwyd at polisi TWR 3 sy’n caniatáu cynigion i
ddatblygu safleoedd carafannau neu siale sefydlog
newydd, neu lety gwersylla amgen parhaol y tu allan i Ardaloedd o Harddwch
Naturiol Eithriadol ac Ardaloedd Tirwedd Arbennig, yn ddarostyngedig i feini
prawf perthnasol. Adroddwyd bod y maen prawf cyntaf yn cyfeirio’n benodol at
ormodedd o ddatblygiadau newydd, ac ‘Astudiaeth Capasiti
a Sensitifrwydd y Dirwedd yn Ynys Môn, Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri’ er
mwyn diffinio gormodedd ar gyfer y safle yma. Ategwyd bod yr Astudiaeth yn nodi
fod rhywfaint o gapasiti ar gyfer datblygiadau bach i
bach iawn y tu allan i’r safleoedd sy’n cyfrannu tuag at osodiad Parc
Cenedlaethol Eryri o fewn yr Ardal Cymeriad Tirwedd penodol yma, gyda’r
Astudiaeth yn diffinio datblygiadau ‘bach iawn’ fel rhai hyd at 10 uned a
datblygiadau ‘bach’ fel rhwng 10 - 25 uned. Er bod nifer unedau sy’n destun y
cais yma yn 29 a gan gydnabod bod y ffigwr yma yn uwch na’r hyn a ddiffinnir
fel datblygiad bychan yn yr Astudiaeth, rhoddwyd ystyriaeth i gapasiti ardaloedd ar gyfartaledd yn hytrach na lleoliadau
unigol, ac ystyriaeth i’r safle fel un cuddiedig. I’r perwyl hyn, ystyriwyd bod
capasiti digonol i’r safle yn yr ardal benodol yma, a
gan ei fod yn safle anymwthiol sydd eisoes wedi ei sgrinio’n dda roedd hefyd yn
cydymffurfio gyda’r ail faen prawf. Yng nghyd-destun y maen prawf sy’n cyfeirio at ddarparu mynediad digonol heb amharu’n sylweddol ar nodweddion a chymeriad y dirwedd, ynghyd a sicrhau fod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C25/0046/20/LL 79 Ffordd Glyder, Y Felinheli, Gwynedd, LL56 4QX Newid
defnydd o Prif Gartref (C3) i Ddefnydd Cymysg- Ail Gartref (5) a Llety Gwyliau
tymor byr (C6) AELODAU LLEOL: Cynghorydd Iwan Huws a’r Cynghorydd Sasha
Williams Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y CAIS WEDI CAEL EI DYNNU YN ÔL Cofnod: Newid defnydd o Prif Gartref (C3) i Ddefnydd Cymysg- Ail
Gartref (5) a Llety Gwyliau tymor byr (C6) YR YMGEISYDD WEDI TYNNU Y CAIS YN ÔL |
|
Cais Rhif C24/0072/02/LL Tir gerllaw Pandy, Corris, SY20 9RJ Cynllun arallgyfeirio fferm ar gyfer gosod 5 uned llety gwyliau ar y tir AELOD LLEOL:
Cynghorydd John Pughe Roberts Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: CYNNAL
YMWELIAD SAFLE Cofnod: a)
Amlygodd Arweinydd Tîm
Rheolaeth Datblygu mai cais ydoedd ar gyfer newid defnydd tir a datblygu llety
gwyliau newydd ar ffurf 5 pod glampio parhaol, parcio cysylltiedig, addasiadau
i’r fynedfa, draenio a thirlunio.
Eglurwyd, wrth ymdrin a’r cais bod y bwriad wedi ei ddiwygio gan leihau
maint y safle a’r nifer podiau wedi lleihau o 6 i 5; bod y safle wedi ei leoli
yng nghefn gwlad ac o fewn Ardal Tirwedd Arbennig (ATA) gydag un eiddo preswyl
yn ffinio gyda’r safle ac adeilad allanol nad yw ym mherchnogaeth yr ymgeisydd
i’r dwyrain o’r fynedfa bresennol. O ystyried
y math o bodiau a lleoliad y cais o fewn ATA, amlygwyd bod pwynt 1 Polisi TWR 3
yn cadarnhau y gwrthodir cynigion i ddatblygu safleoedd carafanau sefydlog
newydd, safleoedd sialé gwyliau newydd neu lety gwersylla amgen parhaol o fewn
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Môn neu Llyn ac yn yr ATA; y bwriad felly
yn sylfaenol groes i bwynt 1 o bolisi TWR 3 a pholisi PCYFF 1 gan y byddai’n
sefydlu safle gwersylla amgen parhaol newydd oddi fewn i’r ATA. Yng
nghyd-destun materion cyffredinol a phreswyl, eglurwyd bod y tŷ annedd
agosaf i’r safle wedi ei leoli ar waelod y trac a fyddai’n cael ei ddefnyddio
gan ddefnyddwyr yr unedau gwyliau arfaethedig ac fwy na heb yn ffinio gyda ffin
ddeheuol safle’r cais. Yn bresennol caeau amaethyddol a’r afon sydd o amgylch y
tŷ annedd yma ac mae mewn lleoliad gymharol breifat, llonydd a tawel lle
nad oes llawer o weithgareddau ac aflonyddwch i ddeiliaid yr eiddo. Byddai
cyflwyno safle gwersylla amgen yn y lleoliad hwn gyda photensial o achosi
effaith andwyol annerbyniol ar yr eiddo cyfagos oherwydd mwy o weithgaredd,
sŵn ac aflonyddwch gan ymwelwyr. Ategwyd bod natur defnydd gwyliau yn
golygu symudiadau gwahanol i unedau preswyl parhaol, ac nid yw’r ymgeisydd yn
byw ar y safle o ran gallu goruchwylio a rheoli’r safle ac ymateb i unrhyw
faterion neu broblemau allai godi ar y pryd. Ystyriwyd fod y bwriad felly yn
groes i ofynion maen prawf 7 o Bolisi PCYFF 2 ar sail effaith ar mwynderau’r
cymdogion. Tynnwyd
sylw at faterion priffyrdd, bioamrywiaeth, archeolegol, cynaliadwyedd,
llifogydd, draenio a ieithyddol oedd wedi derbyn sylw priodol ac ystyriwyd fod
y bwriad yn dderbyniol o ran hynny, ond pwysleisiwyd nad oedd hynny yn goresgyn
gwrthwynebiad sylfaenol i’r bwriad ar sail y byddai sefydlu safle gwersylla
amgen parhaol newydd oddi fewn i’r ATA yn gwbl groes i bolisi. Roedd y
swyddogion yn argymell gwrthod y cais b)
Yn manteisio ar yr hawl i
siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol: ·
Bod y bwriad yn un i geisio
ailgyfeirio'r fferm ·
Yn un o dair merch o deulu
Cymraeg, trydedd genhedlaeth ar y fferm gyda dymuniad o aros a chreu teulu yng
Nghorris ·
Y fferm fach yn un 300 erw ac
angen ailgyfeirio a sefydlu menter newydd ac incwm ychwanegol i sicrhau dyfodol
i’r fferm. Ffermio erbyn hyn yn anodd gyda rheolau a newidiadau cyson · ATA yn ddosbarthiad o dir sydd wedi ei ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais am ardal ailgylchu deunyddiau ar gyfer gwastraff adeiladu, dymchwel a phriddoedd, codi adeilad peiriannau ailgylchu, offer paratoi concrid parod, creu mynediad gerbydol newydd a llwybrau cludo mewnol, creu ardaloedd storio dŵr llifogydd, newid defnydd tir yn ôl-weithredol ar gyfer storio cyffredinol (Dosbarth Defnydd B8) sy’n cynnwys prosesu, llifio a phacio deunydd mwynau a chadw adeilad gweithdy, cabanau a pharcio cysylltiedig AELODAU LLEOL: Cynghorydd Cai Larsen, Dewi Jones, Menna
Trenholme a Gareth Coj Parry Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: GOHIRIO
ER MWYN I’R SWYDDOGION GAEL CYFLE I YMATEB I WYBODAETH YCHWANEGOL A DDERBYNIWYD
GAN YR YMGEISYDD Cofnod: Cais am ardal ailgylchu deunyddiau ar
gyfer gwastraff adeiladu, dymchwel a phriddoedd, codi adeilad peiriannau
ailgylchu, offer paratoi concrid parod, creu mynediad cerbydol newydd a
llwybrau cludo mewnol, creu ardaloedd storio dŵr llifogydd, newid defnydd
tir yn ôl-weithredol ar gyfer storio cyffredinol (Dosbarth Defnydd B8) sy’n
cynnwys prosesu, llifio a phacio deunydd mwynau a chadw adeilad gweithdy,
cabanau a pharcio cysylltiedig a) Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau
hwyr oedd yn nodi bod gohebiaeth gan yr asiant wedi ei dderbyn ar y 24.04.2025 yn cadarnhau bwriad i gyflwyno
rhagor o wybodaeth oedd yn berthnasol i’r cais. Amlygwyd y
byddai’r swyddogion angen amser i asesu’r wybodaeth a diwygio’r adroddiad. Yn
sgil hynny, awgrymwyd bod y Pwyllgor yn gohirio trafodaeth o’r cais. b) Cynigiwyd ac eiliwyd gohirio’r
drafodaeth PENDERFYNWYD: GOHIRIO ER MWYN I’R
SWYDDOGION GAEL CYFLE I YMATEB I WYBODAETH YCHWANEGOL A DDERBYNIWYD GAN YR
YMGEISYDD |
|
Cais Rhif C22/0637/32/LL Tir ger Stad Congl Meinciau, Botwnnog, Pwllheli, LL53 8RA Cais llawn ar gyfer datblygiad yn cynnwys 8 tŷ fforddiadwy ynghyd a gwaith cysylltiol ar safle eithrio gwledig (cam 1 o 2) AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: GWRTHOD 1.
Mi fyddai’r datblygiad hwn yn creu
ymlediad trefol i safle tir glas yng nghefn gwlad agored ac nid yw’n yn union
gerllaw'r ffin datblygu. Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn ychwanegu at neu wella
cymeriad ac ymddangosiad y safle nac yn integreiddio gyda'r hyn sydd o'i gwmpas
ac felly nid yw’n estyniad rhesymegol i’r anheddle. Mae'r cais felly'n groes i
ofynion Polisïau PCYFF 1, PCYFF 3, PS 5 a TAI 16 Cynllun Datblygu Lleol ar y
Cyd Gwynedd a Môn ynghyd a rhan 2.6 o Nodyn Cyngor Technegol 12: Dylunio sydd yn
nodi na ddylai dylunio sy’n amhriodol yn ei gyd-destun, neu nad yw’n manteisio
ar gyfleoedd i wella cymeriad, ansawdd a swyddogaeth ardal, gael ei dderbyn
oherwydd bydd yn cael effaith niweidiol ar gymunedau sy’n bodoli’n barod. 2.
Nid oes gwybodaeth a thystiolaeth
ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais cynllunio i alluogi’r Awdurdod
Cynllunio Lleol i asesu’r holl ystyriaethau cynllunio materol angenrheidiol yn
llawn. Yn ogystal, mae gwybodaeth anghyson a chamarweiniol yn y dogfennau a
gyflwynwyd ynglŷn â’r math a maint o unedau a ddatblygir o’r hyn a
ddangosir ar y cynlluniau manwl. Er mwyn galluogi asesiad cyflawn o'r cynnig
dan bolisïau perthnasol Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn
2011-2026, byddai angen cyflwyno rhagor o wybodaeth ynghylch y materion isod: i. Tystiolaeth ar ffurf asesiad marchnad
tai ffurfiol i brofi’r angen am dŷ fforddiadwy (Polisi TAI 16) ii. Tystiolaeth am addasrwydd y gymysgedd o
dai a phrisiad o werth yr unedau (Polisïau TAI 8 a TAI 15). 3. Ar sail yr
wybodaeth a gyflwynwyd, nid yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi na
fyddai’r datblygiad yn achosi niwed o sylwedd i gymeriad a chydbwysedd yr iaith
Gymraeg yn y gymuned ac felly mae’r cais yn groes i ofynion polisi PS1 Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn yn ogystal â gofynion perthnasol CCA
Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy. 4. Nid oes gwybodaeth
ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais cynllunio i alluogi’r Awdurdod
Cynllunio Lleol i asesu’r effaith y bwriad ar fioamrywiaeth leol yn llawn. O
ganlyniad credir fod y bwriad yn annerbyniol ac yn methu bodloni gofynion
perthnasol polisïau PS 19 ac AMG 5 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a
Môn ynghyd a Pennod 6 Polisi Cynllunio Cymru. 5. Nid oes manylion trefniadau mynediad digonol wedi eu cynnwys
fel rhan o’r cais ac felly ni chredir bod y cynnig yn cwrdd gyda’r gofynion
perthnasol o safbwynt cydymffurfiaeth gyda meini prawf perthnasol polisïau TRA
4 a PCYFF 3 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn sydd yn nodi’r
angen i sicrhau fod datblygiadau newydd yn darparu mynedfa dderbyniol. Cofnod: Cais llawn ar gyfer
datblygiad yn cynnwys 8 tŷ fforddiadwy ynghyd a gwaith cysylltiol ar safle
eithrio gwledig (cam 1 o 2) a)
Atgoffwyd
yr Aelodau bod y cais wedi ei gyflwyno yn flaenorol ond bod penderfyniad wedi
ei wneud i’w ohirio ar y pryd fel bod yr ymgeisydd yn cael cyfle i ymateb i’r
rhesymau gwrthod a chyflwyno rhagor o wybodaeth. Nodwyd bod y cais yn
un llawn i godi 8 tŷ fforddiadwy unllawr ynghyd
a gwaith cysylltiol ar safle eithrio gwledig, tu allan i ffin ddatblygu
gyfredol pentref Botwnnog. Bydd y cynnig yn
golygu codi’r tai a darparu mynedfa trwy ymestyn y ffordd bresennol trwy
stad Congl Meinciau ac yna trwy stribyn o dir gwag at leoliad y tai newydd. Mi
fyddai llecyn parcio i’w ddarparu i flaen y tai unigol. Eglurwyd bod gwybodaeth
ddiweddar a gyflwynwyd yn nodi cymysgedd o ran y math a maint y tai i’w
darparu, ond nad oedd hyn wedi cael ei gyfleu yn y cynlluniau a gyflwynwyd ac
nad oedd y cynlluniau wedi eu newid o’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol. Ategwyd
nad oedd y cynlluniau arfaethedig yn cynnwys unrhyw wybodaeth o ran trefn a
gosodiad gerddi neu ofod unigol y tai nac unrhyw gyfeiriad at dirlunio
ffurfiol. Adroddwyd bod safle’r
cais, yn bresennol yn dir gwag sydd wedi gôr dyfu gyda olion gwaith clirio o’r
gorffennol. Ategwyd bod y tir a’r ardal gyfagos o fewn dynodiad Tirwedd o
Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Ynys Enlli ac o fewn Ardal Tirwedd
Arbennig Gorllewin Llŷn. Tynnwyd sylw at
ddarn o dir sydd yn mesur oddeutu 30 troedfedd o lêd
rhwng ffin stad bresennol Congl Meinciau a dechrau ffin y stad newydd sydd ym
mherchnogaeth rhywun arall ac felly yn fater sifil i’w ddatrys; bydd angen
caniatâd y perchennog tir yma i greu mynediad tuag at y tai newydd ynghyd a’r
angen am ganiatâd cynllunio ffurfiol ar wahân ar gyfer creu ffordd stad newydd. Roedd y swyddogion yn
parhau i argymell gwrthod y cais ar sail nad oedd y wybodaeth a dderbyniwyd yn
ddigonol ac er derbyn cais gan yr ymgeisydd am estyniad amser i gyflwyno mwy o
wybodaeth, ystyriwyd bod cyfle ac amser digonol eisoes wedi ei roi. Er derbyn
bod gwybodaeth wedi dod i law, roedd y wybodaeth yn arwynebol heb dystiolaeth
i’w gefnogi ac felly nid oedd modd asesu’r cynllun yn llawn. Ni dderbyniwyd
tystiolaeth asesiad marchnata, tystiolaeth cymysgedd a phrisiad; ni dderbyniwyd
tystiolaeth am gyfiawnhad y bwriad ac nid oedd yr angen wedi ei brofi; er
derbyn asesiad effaith roedd y wybodaeth eto yn arwynebol heb dystiolaeth o’r
sefyllfa leol; ni dderbyniwyd asesiad bioamrywiaeth na manylion trafnidiaeth a
mynediad. Nid oedd gofynion sylfaenol cyflwyno cais wedi eu cyflawni. b)
Yn
manteisio ar yr hawl ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol; ·
Yn annog
y Pwyllgor i ganiatáu gohiriad am fis arall ·
Bod yr
ymgeisydd yn gweithio yn galed i geisio cael gwybodaeth ychwanegol ·
Byddai
cynnal ymweliad safle yn fuddiol c) Cynigwyd ac eiliwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Newid defnydd 5 fflat preswyl (C3) i 5 uned llety gwyliau tymor byr (C6) AELOD LLEOL: Cynghorydd Gwilym Evans Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Y CAIS
WEDI EI DYNNU YN ÔL Cofnod: Newid defnydd 5 fflat
preswyl (C3) i 5 uned llety gwyliau tymor byr (C6) YR YMGEISYDD WEDI
TYNNU Y CAIS YN ÔL |
|
Cais ar gyfer lleoli tryc bwyd gyda chyfleusterau toiledau cyhoeddus a llecynnau picnic. Cadw llain caled ar gyfer parcio ceir a llwybr mynediad. Adeiladu 20 o siediau rhandir. AELOD
LLEOL: Cynghorydd Meryl Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu yn unol â’r amodau canlynol: 1 - Amser 2 - Yn unol gyda’r
cynlluniau 3 - Amodau tir
halogedig 4 – Amodau bioamrywiaeth gan gynnwys sicrhau gwelliannau 5 – Tryc bwyd ond i osod ar y safle pan mae o mewn
defnydd. 6 - Cyfyngu oriau
agor y tryc bwyd i 8-7 pob diwrnod. 7 - Cytuno ar fanylion rheoli gwastraff i’r tryc bwyd. 8 - Arwyddion Cymraeg Cofnod: Cais ar gyfer lleoli tryc bwyd gyda
chyfleusterau toiledau cyhoeddus a llecynnau picnic. Cadw llain galed ar gyfer
parcio ceir a llwybr mynediad. Adeiladu 20 o siediau rhandir. a)
Amlygodd y
Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer codi 20 sied gardd ar gyfer
rhandiroedd, lleoli tryc bwyd gyda chyfleusterau toiledau cyhoeddus a llecynnau
picnic, cadw llain galed ar gyfer parcio ceir a hwyluso mynediad cerbydol. Er
bod y siediau angen hawl cynllunio, nid oedd bellach angen hawl i gynllunio ar
gyfer creu rhandiroedd. Ystyriwyd bod egwyddor y bwriad yn
dderbyniol yn nhermau polisi ISA 2 oherwydd bod y safle yn ffinio gyda ffin
datblygu Penrhyndeudraeth a bod y datblygiad yn hawdd ei gyrraedd ar droed,
beic a chludiant cyhoeddus. Ategwyd bod yr egwyddor yn dderbyniol o ystyried
polisi MAN 6 sydd yn cefnogi datblygiad manwerthu ar raddfa fach yng nghefn
gwlad a pholisi MAN 7 sydd yn berthnasol i ddefnyddiau bwyd poeth i gario
allan. Er yn cydnabod byddai rhywfaint o
effaith gweledol, ni ystyriwyd y byddai cael siediau ar randiroedd yn rhywbeth
annisgwyl ac oherwydd ei maint a’i lleoliad ynghyd a llystyfiant naturiol o
amgylch y safle, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn niweidiol i edrychiad y
safle nac yn amharu ar fwynderau gweledol yr ardal. Nodwyd bod dyluniad y toiled yn
cyd-fynd gyda’r siediau ac yn caniatáu mynediad hygyrch; Byddai modd sicrhau
ansawdd i’r edrychiad trwy osod amodau er mwyn sicrhau bod lliw'r siediau a’r
toiled yn cydweddu a’i gilydd. Er bod y safle wedi ei leoli mewn
lleoliad cynaliadwy gyda phalmant yn gwasanaethu’r safle, derbyniwyd y bydd
defnyddwyr y rhandiroedd angen defnyddio cerbyd ar adegau i gludo nwyddau ac
offer garddio, ond wrth bwyso a mesur unrhyw effeithiau gweledol, a’r ffaith
bod defnydd tir fel rhandir yn ddatblygiad a ganiateir, ystyriwyd y byddai
rhywfaint o effaith gweledol bychan yn deillio o’r maes parcio yn well na
cherbydau yn parcio ar y palmant ac yn creu problemau diogelwch ffordd. O
ganlyniad, ystyriwyd fod y trefniadau parcio a mynediad yn dderbyniol. Yng nghyd-destun gosod tryc bwyd,
sydd yn gerbyd yn hytrach nag adeilad, ystyriwyd y bydd yn cael ei weld yng
nghyd-destun cerbydau eraill sydd wedi parcio ar y safle. I gyfyngu’r effaith
gweledol, priodol fyddai gosod amod i sicrhau fod y tryc yn cael ei osod ar y
safle pan fydd mewn defnydd yn unig ac y bydd angen ei symud oddi ar y safle
pob nos. Wrth ystyried mwynderau preswyl,
eglurwyd bod y safle wedi ei leoli mewn ardal ar gyrion y dref, gyda thai
preswyl gerllaw, gyda’r tŷ agosaf oddeutu 20m i ffwrdd o’r rhandiroedd. O
ystyried natur defnydd rhandir, mae’n annhebygol y byddai’r bwriad o osod
siediau yn amharu ar unrhyw fwynderau preswyl. Ategwyd bod defnyddiau amrywiol eraill gerllaw megis
gorsaf rheilffordd ag unedau diwydiannol/masnachol ac felly nid yw’r ardal yn
cael ei hystyried fel un anheddol yn unig. Tynnwyd sylw at y pryderon a dderbyniwyd mewn ymateb i’r cyfnod ymgynghori, ac ni ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn denu ymddygiad anghymdeithasol i’r safle gan ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Cais Rhif C24/0922/14/LL Plot C6, Stâd Ddiwydianol Cibyn, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2BD Cais llawn ar gyfer creu 'depot' yn cynnwys swyddfeydd, gweithdy, adeiladau ar gyfer storio ynghyd a gwaith cysylltiol AELOD LLEOL: Cynghorydd Dewi Jones Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
CANIATÁU yn ddarostyngedig a’r amodau canlynol: 1. 5 mlynedd. 2. Unol a chynlluniau
a dogfennau. 3. Cytuno cynllun a
mesurau atal sŵn y gweithdy ym mhen gorllewinol y safle. Gallai hyn
gynnwys mesurau fel insiwleiddio, cytuno ar leoliad unrhyw sustemau echdynnu,
oriau defnydd a ffens acwstig. 4. Sicrhau defnydd o
arwyddion dwyieithog sy’n rhoi blaenoriaeth i’r Gymraeg. 5. Tirlunio. 6. Cynnal tirlunio. 7. Angen cytuno ar
unrhyw sustemau echdynnu ar y gweithdy cyn gosod ar yr adeilad. Cofnod: Cais llawn ar gyfer
creu 'depot' yn cynnwys swyddfeydd, gweithdy,
adeiladau ar gyfer storio ynghyd a gwaith cysylltiol. Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd
Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu
Caernarfon a'r cyfan o fewn ardal sydd wedi ei warchod fel prif safle
cyflogaeth ar gyfer defnydd cyflogaeth. Ategwyd bod y safle yn cael ei
wasanaethu gan ffordd sirol ddi-ddosbarth sy’n arwain drwy’r stad a'r bwriad yn
cynnwys darpariaeth ar gyfer 44 o lefydd parcio ceir (yn cynnwys 3 ar gyfer yr
anabl), 10 ar gyfer loriau ac 8 ar gyfer peiriannau eraill yn ogystal â gofod
cadw beiciau. Gyda’r safle wedi ei
leoli o fewn ffin ddatblygu Caernarfon ac ardal sydd wedi ei warchod ar gyfer
cyflogaeth ac yn benodol defnyddiau diwydiannol B1, B2 a B8, roedd egwyddor y
bwriad yn dderbyniol o safbwynt polisïau PCYFF 1 a CYF 1. Dsigrifiwyd
y tir yn weddol wastad ac yn cefnu ar weddill y stâd
sydd ar lefel sylweddol uwch i’r gogledd. Cydnabuwyd y byddai'r unedau unllawr a deulawr yn weladwy o ffordd osgoi Caernarfon, ac
yn ychwanegu at strwythurau ac ardaloedd storio offer yn y tirlun. Er hynny,
byddai'r stâd bresennol yn ffurfio cefndir i’r safle
ac, felly yn lleihau effaith y bwriad ar y tirlun. Cyfeiriwyd at gynllun safle a chynllun trawstoriad oedd yn
amlygu bwriad i weithredu cynllun tirlunio ar gyfer terfyn deheuol, gorllewinol
a gogleddol y safle fydd yn cynnwys cadw coed ar hyd y terfyn deheuol. O
ganlyniad ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael effaith weledol annerbyniol. Yng nghyd-destun
materion cyffredinol a phreswyl nodwyd bod yr adeilad bwriedig
mwyaf i’w leoli ym mhen gorllewinol y safle, oddeutu17 medr o’r terfyn a tua 28
medr o edrychiad cefn tai cymdogion agosaf. Amlygwyd bod bwriad gosod deunydd
ynysu ychwanegol ar wal gefn yr adeilad er mwyn lleihau unrhyw sŵn a
fyddai yn deillio ohono. Adroddwyd bod y datganiad cynllunio yn nodi mai sied
gynnal a fwriedir yma ac ni ddisgwylid bod sŵn yn tarddu ohoni; nid oes
ffenestri na drysau ar yr edrychiad cefn a byddai’r adeilad hefyd yn lliniaru
sŵn sy’n deillio o lefydd arall ar y safle. Ystyriwyd felly bod potensial i ychwanegu at
y mesurau lliniaru sŵn drwy osod amodau priodol i leihau effaith andwyol
ar drigolion cyfagos. Cyfeiriwyd at faterion
priffyrdd, bioamrywiaeth, ac ieithyddol oedd wedi derbyn sylw priodol. Roedd y swyddogion
yn argymell caniatáu y cais b)
Yn
manteisio ar yr hawl ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau
canlynol; ·
Y safle
wedi ei leoli ar ddarn o dir sydd wedi
ei ddynodi ar gyfer datblygu ·
Bod y
cwmni angen cynyddu eu gweithdy presennol yn yr ardal ·
Defnydd
arfaethedig a manteision economaidd. Yn dilyn cynnydd yn y busnes, yn ymateb
drwy geisio cyfuno pum depo rhanbarthol i ganoli adnoddau fydd yn creu
cyfleoedd cyflogaeth i bobl leol yn yr ardal · Bod y safle yma yn ddelfrydol o ran manteision strategol a logistaidd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13. |