Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting
Cyswllt: Courtney Leigh Jones
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Ian Jones
(Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol). |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni nodwyd
unrhyw fater brys. |
|
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2025, fel rhai cywir. Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion
cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2025, fel rhai cywir. |
|
|
Vera Jones, Rheolwr Democratiaeth ac Iaith i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad ar yr
amod bod cymal i annog cynghorau cymuned i gymryd eu tâl yn cael ei ychwanegu. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith.
Esboniwyd mai hwn yw’r adroddiad cyntaf gan Gomisiwn Democratiaeth Ffiniau
Cymru sydd bellach yn gyfrifol am osod lefel y gydnabyddiaeth ariannol i
Gynghorwyr Cymru. Tynnwyd sylw at y prif faterion yn yr adroddiad gan nodi bod
amryw o egwyddorion newydd gan y Comisiwn yn cael eu gynnwys yn yr adroddiad.
Rhoddwyd trosolwg o brif flaenoriaethau’r Comisiwn ar gyfer y dyfodol, gan
nodi’r gwaith sydd ar y gweill a’r hyn sydd dan ystyriaeth. Amlinellwyd yr argymelliadau ar gyfer blwyddyn Ariannol 2026-27 ac
esboniwyd bod cyfle i ymateb i argymhellion yr adroddiad drafft erbyn yr 18fed
o Dachwedd, 2025. Cadarnhawyd bydd newidiadau mawr i’r fframwaith unwaith bob
tymor etholiadol gyda newidiadau llai yn digwydd yn flynyddol. Nodwyd bod yr
adroddiad yn canolbwyntio ar y ffioedd ar gyfer y flwyddyn 2026-27, gan nodi
bydd cynnydd o 6.4% i dal aelodau, wrth ddod a chyflog blynyddol sylfaenol bob
cynghorydd i £21,044.00. Adroddwyd bod y Comisiwn yn bwriadu edrych ar y
berthynas rhwng cyflogau Cynghorwyr a’r arolwg blynyddol o oriau ac enillion
Cymru gan ystyried a’i dyma’r sail cywir
wrth wneud penderfyniadau i’r
dyfodol. Cadarnhawyd bod Aelodau’r Cyngor yn cael eu talu ar raddfa o oriau gwaith cyfwerth â thri diwrnod
yr wythnos. Mynegwyd pryder gan rai Aelodau am bresenoldeb Aelodau mewn pwyllgorau a chyfarfodydd y Cyngor. Mewn
ymateb i hyn, cadarnhawyd bod rheol yn dynodi bod rhaid i Gynghorwyr fynychu
cyfarfodydd bob chwe mis. Atgoffwyd Aelodau bod presenoldeb Cynghorwyr wrth
fynychu cyfarfodydd a phwyllgorau yn wybodaeth gyhoeddus ar wefan y Cyngor.
Awgrymwyd y dylai’r Pwyllgor hwn ymafael a’r mater wrth adnabod a chysylltu â’r
aelodau sydd â lefel presenoldeb isel i gynnig cefnogaeth ac i atgoffa’r
aelodau o’r disgwyliadau wrth iddynt fod yn aelod o’r Pwyllgorau. Cadarnhaodd y
Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth y byddai yn ychwanegu nodyn atgoffa yn
dynodi’r sail cyfwerth â 3 diwrnod gwaith wrth ohebu ar benderfyniad terfynol
ar raddfa cyflog i Aelodau ar gyfer 2026/27.
Mynegwyd pryderon pellach fod rhai seddi gwag ar bwyllgorau yn parhau i
fod ers peth amser. Soniodd Aelod bod angen cydnabod cyfrifoldebau ac ystyried
sefyllfaoedd personol yr holl aelodau, gan nodi fod hyn yn holl bwysig os yw’r
Cyngor yn ymrwymedig i gael amrywiaeth o aelodau. Anogwyd aelodau i lenwi’r
seddi gwag er mwyn sicrhau cyfraniad llawn ym materion democratiaeth yng
Nghyngor Gwynedd. Gofynnodd aelod a yw’n bosib y gall seddi gwag grŵp
gwleidyddol gael eu cynnig i’r naill grŵp os yw’r grŵp yn cael trafferth
yn llenwi'r seddi. Nodwyd y byddai hyn yn effeithio ar y cydbwysedd gwleidyddol
ond byddai yn bosib wrth fynd a’r penderfyniad trwy’r Cyngor Llawn os yw’r
pwyllgor yn dymuno newid. Cadarnhawyd y byddai’r tîm gwasanaethau democratiaeth
yn gohebu unwaith yn rhagor a’r arweinyddion grŵp ar ôl yr is-etholiad yn
ward Felinheli a’r Bethel. Mewn ymateb i sylw ynghylch hygyrchedd manylion cyswllt Cynghorwyr Gwynedd, cadarnhawyd bod cyfeiriadau e-byst Cynghorwyr wedi eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor. Cadarnhawyd bod cyfeiriadau e-byst cyffredinol hefyd ar gael i’r cyhoedd gysylltu os ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
|
Vera Jones,
Rheolwr Democratiaeth ac Iaith i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Derbyn
yr adroddiad a’r ymateb drafft. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Arweinydd Tîm Gwasanaethau Democratiaeth. Eglurwyd bod y Gwasanaeth eisoes yn darparu gwasanaeth gwe ddarlledu i
gyfarfodydd y Cyngor Llawn, Cabinet, Cynllunio a Phwyllgor Craffu. Esboniwyd
bod hyn eisoes yn mynd tu hwnt i’r gofyn statudol, sydd yn nodi bod angen gwe-
ddarlledu cyfarfodydd Cyngor Llawn yn unig. Eglurwyd fod yr ymgynghoriad yn awgrymu ymestyn y gofyn i we ddarlledu i gynnwys y
pwyllgor safonau, pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth, Pwyllgorau Trwyddedu a
Phwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ychwanegol i’r pwyllgorau a nodwyd uchod.
Nodwyd bydd goblygiadau o ran adnoddau a chostau os penderfynir mabwysiadu’r
cynnig gan y bydd angen ehangu darpariaeth adnoddau. Eglurwyd byddai’r offer
hefyd angen ei uwchraddio er mwyn gwella darpariaeth y gwe ddarlledu os yw’r
angen yn codi i gynyddu defnydd ohono. Esboniwyd y cytunir a’r cynnig mewn
egwyddor ond bod angen bod yn ymwybodol o’r cyfyngiadau costau a staffio.
Croesawyd sylwadau gan aelodau. Diolchwyd i staff Gwasanaethau Democratiaeth am eu gwaith. Mynegwyd y
dylid ceisio adnabod bob cyfle i annog diddordeb a chyfraniad y cyhoedd yng
ngwaith llywodraeth leol. Nodwyd bod darpariaeth gwe ddarlledu yn rhoi
mewnwelediad gwerthfawr i waith pwysig y Cynghorwyr ac yn rhoi blas o’r
penderfyniadau mae’r Aelodau yn gyfrifol am eu gwneud. Nododd Aelod bod
darpariaeth gwe ddarlledu hefyd yn fodd effeithiol o hyrwyddo’r iaith Gymraeg
a’i ddefnydd yng ngwaith llywodraeth leol. Cytunwyd bod costau staffio ac
adnoddau yn parhau i fod y rhwystr mwyaf, ac felly cytunwyd y dylid derbyn yr
adroddiad a’r ymateb drafft. PENDERFYNIAD Derbyn
yr adroddiad a’r ymateb drafft. |
|
|
DARPARIAETH DYSGU A DATBLYGU I AELODAU Mari Edwards, Rheolwr Dysgu a Datblygu’r Sefydliad a Cara Williams, Swyddog Datblygu Aelodau i
gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: I dderbyn
yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Dysgu a Datblygu. Rhoddwyd
trosolwg o flaenoriaethau’r adran wrth barhau i ymateb i ganlyniadau’r holiadur
Anghenion Dysgu a Datblygu. Eglurwyd bod y rhaglen hyfforddiant diweddaraf ar
gael i aelodau ac yn datblygu yn barhaus. Cadarnhawyd bydd y rhaglen yn cael ei
ddiweddaru yn ôl yr angen trwy ymgynghori gyda Phenaethiaid Adrannau a
Swyddogion yn ogystal â chynnwys teitlau ar gais Aelodau. Croesawyd awgrymiadau
am anghenion hyfforddiant ychwanegol ar gais Aelodau trwy ffurf holiadur neu’r
Swyddog Datblygu aelodau. Cadarnhawyd y byddai’r adran yn penodi Swyddog
Datblygu Aelodau newydd yn fuan. Manylwyd ar yr 8 Maes Craidd sydd wedi eu hadnabod ar gyfer Aelodau.
Esboniwyd bod darpariaeth y cyrsiau craidd ar gael ar lein i aelodau gael
mynediad iddynt ar unrhyw adeg a chroesawyd i aelodau gysylltu ar unrhyw bryd os oes unrhyw
drafferthion. Nodwyd bod 12 aelod wedi cwblhau pob cwrs hyfforddiant a
chadarnhawyd bod 6 aelod heb gwblhau dim un o’r modiwlau. Mynegwyd siom bod 6
aelod heb gwblhau dim o’r hyfforddiant, yn enwedig y maes Cod Ymddygiad.
Pwysleisiwyd pwysigrwydd cwblhau’r cyrsiau craidd, a bod y rhain yn allweddol
i’w rôl fel Cynghorwyr. Bu pwyslais arbennig ar bwysigrwydd y cyrsiau Cod
Ymddygiad, Rhiantu Corfforaethol a Thrais yn erbyn Menywod. Mewn ymateb i’r pryderon, cadarnhawyd bod anogaeth gyson i Aelodau i
gwblhau’r hyfforddiant craidd, gan gynnwys nodiadau atgoffa rheolaidd gan y
Swyddog Datblygu Aelodau. Nodwyd bod Arweinyddion y Grwpiau gwleidyddol yn
annog ac atgoffa Aelodau i gwblhau’r hyfforddiant yn rheolaidd mewn cyfarfodydd
grŵp. Ymhelaethwyd bod darpariaeth y cyrsiau gan y gwasanaeth Dysgu a Datblygu yn hygyrch wrth iddynt fod
ar gael ar-lein i’w gwblhau ar unrhyw bryd. Ystyriwyd addasu teitl y meysydd
craidd i nodi eu bod yn feysydd mandadol er mwyn annog mwy o aelodau i’w
cwblhau. Eglurwyd bod y nifer o gyrsiau gwblhawyd gan aelodau bellach yn
wybodaeth gyhoeddus ar wefan y Cyngor. Nodwyd bod amryw o gyrsiau datblygiad personol ar gael bellach i’r holl
aelodau, sydd yn gyfle iddynt adlewyrchu ar eu rôl ac ystyried unrhyw feysydd o
ddiddordeb iddynt yr hoffent eu
datblygu. Nodwyd bod posib llunio Rhaglen Ddatblygu Bersonol i gwrdd â’u
hanghenion. Esboniwyd bod nifer o aelodau cabinet wedi mynychu'r rhain a’u
bod bellach ar gael i’r holl aelodau. Manylwyd ar ddatblygiad Ymgyrch Ford gan Heddlu Gogledd Cymru a gafodd
ei gyflwyno trwy’r Protocol Plismona Amddiffyn Democratiaeth. Nodwyd bod
sesiynau briffio ar ddiogelwch ar gael i Aelodau sy’n rhoi cyngor ar ddiogelwch personol.
Cynigwyd sesiynau pellach i Aelodau cyn
diwedd y flwyddyn gan annog aelodau i
gysylltu â’r gwasanaeth er mwyn nodi pa ddyddiad sydd yn gyfleus ganddynt i gwblhau’r hyfforddiant. Diolchwyd am yr adroddiad a diolchwyd i’r staff am eu gwaith wrth roi’r
adnoddau at ei gilydd. Canmolwyd datblygiad y cwrs Trais yn Erbyn Menywod,
Cam-drin domestig a thrais rhywiol, gan nodi ei fod yn gwrs gwerthfawr iawn. Soniwyd bod Hyfforddiant i Fentoriaid yn gynnig newydd ar y gweill sydd yn cael ei ddatblygu ar hyn o’r bryd. Nodwyd mai bwriad y cynnig yw cefnogi gwaith Aelodau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |