Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 23 Tachwedd 2020 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 23ain o Dachwedd 2020 fel rhai cywir |
|
COFNODION PWYLLGOR PENSIYNAU Derbyn, er gwybodaeth gofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 21 Ionawr 2021 Cofnod: Derbyniwyd, er
gwybodaeth, gofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2021 Nid oedd gan yr aelodau unrhyw sylwadau pellach i’w codi o’r cofnodion |
|
Er mwyn deall y risgiau perthnasol i’r Gronfa
Bensiwn a chraffu’r Gofrestr Risg Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd y Rheolwr Buddsoddi a’r Rheolwr Pensiynau
y gofrestr risg gyfredol oedd yn
amlygu risgiau perthnasol i’r Gronfa Bensiwn. Amlygwyd bod y gofrestr yn ddogfen weithredol,
yn cael ei
hadolygu’n rheolaidd a’i diweddaru mewn
ymateb i unrhyw risgiau sylweddol sydd yn debygol o ddatblygu. Diolchwyd am y wybodaeth Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol: · Risg: Ffactorau allanol na ellid eu Rheoli - angen adolygu / lleihau’r sgôr risg ·
Risg: Pwll Buddsoddi Cymru - angen adolygu
a lleihau’r sgôr risg o dan y penawdau
effaith a thebygolrwydd. Y Pwll Buddsoddi bellach wedi ei
sefydlu ac yn weithredol. Awgrymiadau i fformat y gofrestr: · ·Lliwio’r matrics – defnyddio RAG? · Ychwanegu colofn i gynnwys rhifau i’r risgiau fel bod modd cyfeirio atynt yn effeithiol · Trefnu’r risgiau fesul lefel risg - amlygu materion risg uchel ar ddechrau’r ddogfen fel bod modd rhoi blaenoriaeth iddynt - angen cytuno a’r lefel sgôr uchel - awgrym 20 ·
Angen adolygu’r ddogfen gan ystyried sut
i amlygu risgiau sydd wedi
ei goroesi neu nad ydynt bellach yn
‘risgiau’. Rhaid, er hynny, sicrhau
bod cofnod o’r ‘risgiau’ hynny Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â sut y defnyddir y gofrestr, nodwyd bod y ddogfen yn un byw
sydd ar gael
i Aelodau’r Bwrdd, Aelodau’r Pwyllgor Pensiynau ac i’r Swyddogion perthnasol gofnodi a chadw golwg ar
y risgiau PENDERFYNWYD · Derbyn y wybodaeth · Aelodau i adolygu’r ddogfen gan gyflwyno cynigion ar addasiadau pellach i’r gofrestr i’r Rheolwr Pensiynau |
|
Y Rhaglen Waith Diwygiedig I ystyried y Rhaglen Waith am y
flwyddyn 2021/22 Cofnod: Cyflwynwyd rhaglen
waith diwygiedig ar gyfer 2021/2022 yn dilyn sylwadau
a dderbyniwyd mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Bwrdd ynghyd
a materion sydd yn codi yn
y maes. Atgoffwyd
yr Aelodau bod y ddogfen yn ddogfen weithredol
ac i’w haddasu yn unol â’r
gofyn. Diolchwyd am yr
adroddiad Yn ystod
y drafodaeth ddilynol, awgrymwyd y sylw canlynol ·
Awgrym bod un mater gweinyddol ac un mater buddsoddi yn ymddanogs
bob yn ail gyfarfod gyda mater trefn lywodraethol i’w gyflwyno i bob cyfarfod Mewn ymateb
i’r sylw nodwyd y byddai materion buddsoddi yn debygol o gael
eu trafod tu allan i’r
cyfarfodydd Bwrdd gyda’r Aelodau yn cael eu gwahodd
i gyfarfodydd chwarterol y Paneli Buddsoddi ar y cyd gydag Aelodau’r
Pwyllgor Pensiynau . Gall unrhyw fater
buddsoddi arall ei gyflwyno fel
y mae’n ymddangos - anodd fyddai rhaglennu
hyn ymlaen llaw. Mewn ymateb
i gwestiwn ynglŷn ag amseriad
cyhoeddi deddfwriaethau, canllawiau a safonau newydd, nododd y Rheolwr Pensiynau nad oedd unrhyw
batrwm i gyhoeddiadau, ond byddai modd eu
cyflwyno i’r Bwrdd pan yn briodol. Ategwyd y byddai
cynigion ar gyfer marchnadoedd datblygol yn cael
eu cyflwyno Medi 2021 ac egwyddorion actiwari ar gyfer
y prisiad i’w gyflwyno i’r Bwrdd
yn ystod Gwanwyn 2022. PENDERFYNWYD derbyn y rhaglen waith |
|
Gofynion Hyfforddiant y Bwrdd Pensiwn I ystyried yr
adroddiad a derbyn adborth gan y Bwrdd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
gan y Rheolwr Pensiynau yn cynnwys
canlyniadau Asesiad Gwybodaeth Cenedlaethol Hymans
Robertson o wybodaeth a dealltwriaeth
Aelodau’r Bwrdd i weinyddu’r Cynllun
Pensiwn yn llwyddiannus. Y prif nod oedd ceisio mynediad
at wybodaeth Aelodau yn y meysydd sydd wedi
eu hadnabod gan Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau CIPFA a Chod
Ymarfer 14 y Rheoleiddiwr Pensiynau (TPR). Amlygywd mai
sgor cyfartalog y Bwrdd ar gyfer
yr asesiad oedd 66.67%. Derbyniwyd dadansoddiad manwl o’r canlyniadau oedd hefyd yn
mesur sgor y Bwrdd yn erbyn
cyfataledd cenedlaethol. Adrannau ar farchnadoedd
ariannol, rôl y Pwyllgor a deddfwriaeth oedd y meysydd a sgoriodd uchaf i'r Bwrdd gyda
pherfformiad cryf ym maes llywodraethu sy’n galonogol o ystyried cyfrifoldeb y Bwrdd. Ymddengys bod gwybodaeth
y Bwrdd yn y meysydd eraill yn dda ar
y cyfan, er mai dulliau actiwaraidd
a gweinyddu pensiwn fyddai'r meysydd allweddol i ganolbwyntio
arnynt i’r dyfodol. Adroddwyd bod gyda Hymans Robertson eisoes wedi awgrymu cynllun
hyfforddi i fynd i’r afael
a’r meysydd hyn. Ategwyd bod holl aelodau’r Bwrdd wedi cymryd
rhan yn yr
asesiad a Chronfa Gwynedd gyda’r ymgysylltiad uchaf mewn perthynas
â chwblhau’r asesiad Diolchwyd am yr
adroddiad Yn ystod
y drafodaeth ddilynol, awgrymwyd y sylwadau canlynol · Bod yn anodd cymharu canlyniadau oherwydd diffyg pob Cronfa i gymryd rhan yn llawn – ffigyrau Gwynedd yn galonogol ac yn gosod fframwaith ar gyfer meysydd hyfforddiant i’r dyfodol. ·
Awgrym i gynnwys adborth
/ diweddariad o sesiynau hyfforddi a fynychwyd fel eitem ar
raglen y Bwrdd pan fydd yr angen
yn codi Mewn ymateb
i gwestiwn ynglŷn â rhaglenni hyfforddi, amlygwyd bod Pwl Pensiwn Cymru
yn cynnig rhaglen hyfforddiant ynghyd a webinarau gan gwmnïau perthnasol.
Ategwyd bod y Rheoleiddiwr Pensiwn hefyd yn
cynnig cyrsiau ar lein ac y byddai
modd cyfeirio’r wybodaeth yma i’r
Aelodau yn fisol PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth |
|
CYFLWYNO CYLLIDEB UNED GWEINYDDU PENSIYNAU AC UNED BUDDSODDI 2021/22 I gyflwyno cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22 ar gyfer yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
gan y Rheolwr Buddsoddi yn amlinellu
cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021–2022, ar gyfer yr Uned
Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi. Amlygwyd mai
2019/2020 oedd y tro cyntaf i’r gyllideb
ar gyfer yr Unedau gael ei chyflwyno
i’r Pwyllgor Pensiynau am gymeradwyaeth a bod bwriad erbyn hyn
i gyflwyno’r wybodaeth yn flynyddol.
Addaswyd cyllideb 2019 /20 yn unol ag
addasiadau i strwythur staff yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned
Buddsoddi - man addasiadau yn unig oedd
i gyllideb 2021/22 gyda chyllidebau sylfaenol yn parhau'r
un fath. Nodwyd bod y Pwyllgor
Pensiynau wedi cymeradwyo’r gyllideb 21/01/2021 PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth |
|
Amcanion Ymgynghorwyr I adrodd ar gynnydd yn erbyn amcanion cyfredol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi
yn adrodd ar y cynnydd yn
erbyn yr amcanion a osodwyd
i’r ymgynghorwyr buddsoddi ynghyd a manylion amcanion ar gyfer 2020/21. Adroddwyd, yn dilyn
adolygiad o’r marchnadoedd ymgynghori buddsoddi a rheoli ymddiriedol bu i’r Awdurdod Cystadleuaeth
a Marchnadoedd nodi’r angen i Ymddiriedolwyr
Cronfeydd Pensiwn osod amcanion i’w
ymgynghorwyr buddsoddi gan nodi yn
glir yr hyn
ddisgwylir ganddynt. Cyfeiriwyd at yr amcanion cyfredol ynghyd a’r cynnydd
a wnaed yn erbyn yr amcanion
hynny yn ystod 2020. Amlygwyd bod yr amcanion wedi
bod yn weithredol ers Rhagfyr 2019, a bod datganiad cydymffurfio ar gyfer 2020 wedi
ei arwyddo gan Gadeirydd y Pwyllgor Pensiynau erbyn y dyddiad cau gofynnol (7fed o Ionawr 2021). Adroddwyd bod Hymans yn cyflawni gwaith da, yn darparu adroddiadau
cynhwysfawr ar gyfer y paneli buddsoddi, yn cynnig
cyngor ymarferol, ymatebion a gohebiaeth amserol ac yn perfformio
yn unol â’r
amcanion. Mewn ymateb i gais am eglurhad dros y gwahaniaeth rhwng amcan 5 ac amcan 6, amlygwyd bod amcan 5 yn cyfeirio
at yr amser mae’n cymryd i
ddatblygu polisïau addas gyda Hymans yn chwarae rôl
ddefnyddiol iawn o lunio a datblygu polisïau yn unol
â chyfarwyddyd y Cyngor. Ategwyd
mai bwriad amcan 6 yw sicrhau
bod y gwaith yn adlewyrchu gofynion y polisi PENDERFYNWYD
derbyn y wybodaeth |
|
Buddsoddi Cyfrifol a Buddsoddiadau Carbon Isel I ddiweddaru’r Bwrdd ar weithgareddau’r Gronfa yn y
meysydd buddsoddi cyfrifol a buddsoddiadau carbon isel, a chyflwyno datganiad
drafft Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
gan Gadeirydd y Pwyllgor Pensiynau yn diweddaru’r Bwrdd ar weithgareddau’r
Gronfa yn y meysydd buddsoddi cyfrifol a buddsoddiadau carbon isel ynghyd a chyflwyno
datganiad drafft sydd yn darparu
safbwynt y Gronfa o ddad-fuddsoddiadau o danwydd ffosil. Adroddwyd bod buddsoddiadau
carbon isel wedi ei amlygu fel
maes blaenoriaeth
gan y Gronfa gyda nifer o ddatblygiadau
wedi eu gweithredu
o ganlyniad i gydweithio da rhwng y Pwyllgor, Y Bwrdd, Rheolwyr ac Ymgynghorwyr. Ategwyd bod y rheolwyr asedau wedi ymgysylltu
gyda chwmnïau o ran eu cynlluniau ar
gyfer dyfodol carbon isel gyda’r Gronfa
Bensiwn wedi dwyn pwysau ar
gwmnïau i gynyddu ymdrechion yn y maes
pwysig hwn. Y bwriad yw
cyhoeddi’r datganiad gan dynnu sylw
cyhoeddus at yr holl weithredoedd. Yn ystod
y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol: · Bod y datblygiadau yn gadarnhaol a chalonogol ·
Bod y ddogfen yn un ddefnyddiol - braf gweld y
wybodaeth ar ddu a gwyn PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad
ynghyd a chynnwys y datganiad drafft. Llofnododd y Cadeirydd y datganiad. |
|
Rheoliadau Taliadau Ymadael y Sector Cyhoeddus 2020 I ystyried yr adroddiad Cofnod: Ers cyhoeddi’r
rhaglen, cafwyd datganiad gan y Llywodraeth (12/02/21) yn diddymu’r rheoliadau cap talu ymadael o £95k, ac felly ni chafwyd
trafodaeth ar y mater. Awgrymwyd y byddai’n debygol y bydd addasiadau neu gynigion i’r rheoliadau
yn cael eu
cyflwyno i’r dyfodol ac y byddai’r argymhellion hynny yn cael eu
rhannu a’u trafod gyda’r Bwrdd. |
|
Y Rheolydd Pensiynau: Arolwg Trefn Llywodraethol Gwasanaeth Cyhoeddus 2020 Derbyn adborth gan y Bwrdd er mwyn cwblhau’r arolwg Cofnod: Cyflwynwyd arolwg
gan y Rheolydd Pensiynau i dderbyn
adborth y Bwrdd am drefniadau llywodraethu Cronfa Bensiwn Gwynedd. Eglurwyd mai’r dyddiad cau ar
gyfer ymatebion oedd 12 Chwefror 2021, ond ymestynnwyd y terfyn amser gan
y Rheolydd er mwyn derbyn mewnbwn
y Bwrdd yn y cyfarfod hwn. Cwblhawyd yr
arolwg yn ystod y cyfarfod. Yn ystod
y drafodaeth, nodwyd y materion canlynol fel rhai oedd
angen sylw: · A10 - cynllun olyniaeth Aelodaeth y Bwrdd - nodwyd nad oedd ‘cyfnod’ penodol wedi ei osod ond bod bwriad adolygu’r Aelodaeth yn Mai 2022. Amlygwyd y bydd proses penodi ffurfiol yn cael ei dilyn gyda hysbyseb yn cael ei rhyddhau am enwebiadau newydd ynghyd a chyfle i’r aelodau cyfredol ail gynnig am aelodaeth. · Bod Ateb A3 a B5.7 yn gwrth-ddweud ei gilydd - angen adolygu’r ateb o dan B5.16 ‘arall’ · Bod angen diweddariad ar ddiogelwch cyber (rhan D) – cadarnhawyd bod ‘risg cyber’ wedi ei gynnwys ar y rhaglen waith ddiwygiedig (Haf 2021) · Bod rhan I, J a K yn ychwanegiadau newydd ac yn fodd o osod ffocws ar gyfer yr hyn sydd angen ei weithredu |