Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Peredur Jenkins – Cadeirydd Pwyllgor Pensiynau

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 231 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 22ain o Chwefror 2021 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 22ain o Chwefror 2021 fel rhai cywir.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, yn dilyn gwybodaeth a rannwyd ar webinar ddiweddar gan y Rheolydd Pensiynau yn ymwneud ac ymgynghori ar fersiwn drafft o’r côd ymarfer sengl, amlygodd y Pennaeth Cyllid y byddai’n ceisio darganfod mwy o wybodaeth am y sefyllfa. Awgrymodd y byddai unrhyw ymateb yn cael ei ffurfio rhwng y Bwrdd a’r Pwyllgor Pensiynau yn dilyn arweiniad gan Hymans.

 

5.

COFNODION PWYLLGOR PENSIYNAU pdf eicon PDF 214 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 25ain Mawrth 2021

 

 

Cofnod:

Derbyniwyd, er gwybodaeth, gofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd ar 25ain o Fawrth 2021

 

Adroddwyd bod rhai o’r eitemau a drafodwyd yn y Pwyllgor eisoes wedi eu blaen graffu gan y Bwrdd. Nodwyd bod diweddariad o’r Gofrestr Risg wedi ei chyflwyno i’r Pwyllgor yn dilyn gweithredu’r  addasiadau a awgrymwyd gan y Bwrdd

 

6.

ADRODDIAD (drafft) BLYNYDDOL BWRDD PENSIWN GWYNEDD ar gyfer 2020-21 pdf eicon PDF 323 KB

I ystyried cynnwys yr adroddiad

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad drafft cychwynnol Cadeirydd y Bwrdd Pensiynau am 20120/21 yn gwahodd yr Aelodau i gyfrannu ychwanegiadau neu welliannau i’r adroddiad. Atgoffwyd yr Aelodau ei bod yn ofynnol i Gadeirydd y Bwrdd Pensiwn gyflwyno adroddiad blynyddol fel rhan o adroddiad blynyddol y Gronfa Pensiwn ac fel rhan o gyfarfod blynyddol y Gronfa. Nodwyd bod angen cwblhau’r adroddiad erbyn 31/07/21.

 

Eglurwyd bod gosodiad yr adroddiad yn gyfatebol i adroddiad 2019/20 ac yn cynnig datganiadau ffeithiol oedd yn adlewyrchu’r pynciau a drafodwyd.

 

Diolchwyd am yr adroddiad drafft

 

Ychwanegiadau ac addasiadau posib i’r drafft;

·         Ychwanegu cyfarfod 19/04/21 i’r tabl presenoldeb

·         Angen cynnwys mwy o wybodaeth am hyfforddiant - cais i’r Aelodau gyflwyno gwybodaeth am sesiynau hyfforddi maent wedi mynychu

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chreu cofnod canolog ar gyfer cofrestr hyfforddiant, nodwyd bod trefn bellach wedi ei sefydlu.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad yn ddarostyngedig i gynnwys y sylwadau uchod.

 

7.

GWEINYDDIAETH PENSIYNAU pdf eicon PDF 532 KB

I ystyried yr adroddiad

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad cynhwysfawr gan y Rheolwr Pensiynau yn rhoi trosolwg cyffredinol o weinyddu pensiwn dros y 6 mis diwethaf ynghyd a gwybodaeth am y gwaith a gyflawnwyd dros y cyfnod, diweddariad ar amrywiol brosiectau ynghyd a rhestr o’r heriau yr oedd yr Uned Weinyddu yn eu hwynebu o ddydd i ddydd.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r awgrym i sefydlu tîm bychan ar gyfer cwblhau’r gwaith sydd yn deillio o ddyfarniad McCloud, mynegodd y Rheolwr Pensiynau y byddai buddsoddiadau diweddar yn yr Uned yn caniatáu oriau ar gyfer y gwaith ychwanegol yma. Cytunwyd bod angen i’r staff fod yn gyfrifol a phrofiadol ac wedi eu hyfforddi. Nododd nad yw’r dyddiad cau sydd wedi ei gynnig ar gyfer cwblhau’r gwaith  (Mawrth 2022) yn realistig gan nad yw’r datrysiad wedi ei gyflwyno i’r broses.  

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chyfathrebu drwy lythyr efallai pob 5 mlynedd gydag unigolion ynglŷn â grant marwolaeth, nodwyd bod yr Uned Pensiynau yn cyfathrebu gydag Aelodau, ond yn ceisio peidio cyfathrebu drwy lythyr. Amlygwyd bod ‘yr enwebiadyn cael ei gynnwys ar ddatganiadau blynyddol a bod modd i aelodau ddiweddaru eu polisïau ar-lein drwy’r porth Hunanwasanaeth. Yn ychwanegol, bydd yr Uned hefyd, wrth ddod ar draws hen wybodaeth, yn anfon ffurflenni perthnasol at yr aelod yn gofyn iddynt ddiweddaru eu manylion. Ategwyd bod Gwasanaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu'r Cyngor wedi bod y cefnogi’r Uned Pensiynau i uchafu dulliau rhannu gwybodaeth a bod teilsenFy mhensiwn ar leinwedi ei ychwanegu ar fewnrwyd y Cyngor ar gyfer staff.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â rhesymeg dros fuddiannau yr elfen cyfartaledd gyrfa yn ymddangos yn isel yn y tabl crynodeb o ganlyniadau data penodol y Cynllun, nodwyd bod gwaith yn cael ei wneud i wella hyn drwy ychwanegu mwy o ddata / cofnodion i’r system. Nodwyd bod y canlyniadau a gyflwynwyd yn cael eu cynhyrchu o ddata a dynnwyd o Wasanaeth Byw Altair Gwynedd ar 29ain o Fedi 2020. Y gobaith yw i’r Uned fuddsoddi mewn meddalwedd ar gyfer cynhyrchu adroddiadau eu hunain i’r dyfodol - bydd posib cael gwybodaeth am y sefyllfa ddiweddaraf a data cyfredol cywir.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth

 

 

8.

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 151 KB

I ystyried yr adroddiad

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn diweddaru’r Aelodau ar waith y Bartneriaeth, perfformiad y Gronfa ynghyd a datblygiadau sydd ar y gweill ers  sefydlu yn 2017. Rhoddwyd crynodeb ar berfformiad y cronfeydd hyd at 31/12/20 gan dynnu sylw at y prif negeseuon.

 

Adroddwyd bod cyfarfodydd rheolaidd drwy Teams yn caniatáu i faterion gael eu trafod yn amserol ac ymddengys hyn yn effeithiol gyda phethau yn symud ymlaen yn gynt. Adroddwyd bod y trosglwyddiadau rhwydd wedi eu gweithredu a gwaith bellach yn cael ei wneud ar faterion sy’n ymddangos yn fwy heriol, megis Marchnadoedd Preifat. Ategwyd bod cefnogaeth i’r gwaith o gyfuno asedau yn y categori yma yn cael ei wneud gan Hymans gyda thrafodaethau busnes parhaus yn cael eu trefnu i benderfynu ar y strwythur a’r mecanwaith priodol i fuddsoddi ynddo.

 

Tynnwyd sylw at y drafodaeth ynglŷn â phroses penodi cynrychiolydd Aelodau ar gyfer y Cydbwyllgor Llywodraethu. Amlygwyd mai’r argymhelliad a gynigwyd mewn adroddiad i’r Cydbwyllgor (24ain o Fawrth 2021) oedd y dylai pob Bwrdd Pensiwn lleol enwebu un cynrychiolydd aelodau'r cynllun a fyddai'n cyfarch gofynion y swydd ddisgrifiad. Byddai'r broses penodi yn cael ei chynnal gan is-grŵp a fyddai'n argymell enwebiad i'w gymeradwyo gan y Cydbwyllgor Llywodraethu. Mynegodd y Pennaeth Cyllid y byddai yn cefnogi achos Osian Richards (Cadeirydd Bwrdd Pensiwn Gwynedd) fel aelod ar y Cydbwyllgor.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yng nghyd-destun Marchnadoedd Preifat - mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â'r term ‘isadeiledd’ ac os byddai’r maes yn cynnwystechnoleg’, mynegwyd bod y term yn un eang iawn ac nad oedd manylder ffurfiol i’r maes ar hyn o bryd. Adroddwyd tuedd i gadw at faterion traddodiadol o fewn y maes, ond bod parodrwydd i ystyried opsiynau amgen eraill. Ategwyd bod cyfleoedd diddorol ar y gorwel gyda rhai yn berthnasol i Gymru.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chanran rhaniadau o fewn y prif feysydd ffocws (5% ar gyfer Ecwiti Preifat a 2.5% ar gyfer Isadeiledd), nodwyd bod y dychweliadau yn gyson, ond tebyg y byddai angen adolygu’r rhaniad i’r dyfodol.

 

Cefnogwyd cynnig y Pennaeth Cyllid i gefnogi achos Osian Richards fel aelod i’r Cydbwyllgor Llywodraethu