Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol Zoom / Zoom Virtual Meeting
Cyswllt: Einir Rh Davies 01286 679868
Rhif | eitem |
---|---|
GWEDDI Myfyrdod
tawel neu weddi |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd
fel y gellir eu hystyried.. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o CYSAG a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2020. (Copi’n amgaeedig) |
|
GWAHODDIAD GAN CYSAGAU Gwahoddiad i enwebu 4 cynrychiolydd i fynychu Cynhadledd Wanwyn CYSAGAU – sydd i’w chynnal 23 Mawrth 2021, drwy Zoom. Penderfyniad: Derbyn yr enwebiadau
ar gyfer mynychu y gynhadledd : Dashu Cynghorydd Paul
Rowlinson Eurfryn Davies Cynghorydd Selwyn
Griffiths |
|
ADRODDIADAU BLYNYDDOL CYSAG Diweddariad
ar y Cynnydd gyda Adroddiadau Blynyddol CYSAG ar gyfer 2018-2019 a 2019-2020 Penderfyniad: Derbyn y sefyllfa, ond annog y Swyddog Gwella Ansawdd Addysg Cynorthwyol a Chlerc CYSAG yn cysylltu gyda Bethan James ar fyrder i symud y mater ymlaen. |
|
YMATEB GAN BRIFYSGOL BANGOR YNGLYN A DYFODOL AG I dderbyn a thrafod yr ymateb a dderbyniwyd
gan Brifysgol Bangor ynglyn a Dyfodol Canolfan AG Prifysgol Bangor, a Dyfodol
AG ym Mhrifysgol Bangor Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad ac ysgrifennu at y Dirprwy Is-Ganghellor gan
gynnig iddo wahodd darlithydd o’r Brifysgol i fynychu cyfarfod nesaf CYSAG i
roi cyflwyniad ar yr heriau sydd yn wynebu Addysg Grefyddol o fewn y Cwricwlwm
newydd o fewn y dyniaethau |
|
ADDOLI AR Y CYD I drafod addoli ar
y cyd mewn Ysgolion Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad a nodi bod llawer o adnoddau ar gael - nid yn unig
yr adnoddau a gyfeirir atynt gan CYSAGAU Cymru eu hunain ond yn y gymuned yn
lleol. Cytunwyd i gasglu yr holl
bwyntiau cyswllt at ei gilydd cyn anfon llythyr atgoffa at yr ysgolion yn
amlygu yr adnoddau hyn, a’u hannog i
ystyried addoli ar y cyd. |