Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2026/27

Penderfyniad:

Cofnod:

Cynigwyd ac eiliwyd ethol y Cyng. Gwynfor Owen  yn Gadeirydd

 

PENDERFYNWYD ethol y Cyng. Gwynfor Owen yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2026/27

 

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2026/27

Penderfyniad:

Cofnod:

Cynigwyd ac eiliwyd ethol y Cyng. Anne Lloyd Jones yn Is-gadeirydd

 

PENDERFYNWYD ethol y Cyng. Anne Lloyd Jones yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2026/27

 

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Louise Hughes (Cyngor Gwynedd), Cyng. Trevor Roberts (Pwyllgor Rheilffordd Amwythig / Aberystwyth), Liz Saville Roberts (AS Dwyfor Meirionnydd), Mabon ap Gwynfor (AS Dwyfor Meirionnydd), Gwyn Rees (Network Rail), Lorraine Simkiss, (Rheilffordd Tal-y-llyn), Llio Hughes (Swyddfa Plaid Cymru – Dwyfor Meirionnydd), Chris Wilson ( Rheolwyr Gwasanaeth - Teithio Diogel a Chynaliadwy - Ceredigion), Gerwyn Jones (Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd (Trafnidiaeth)) a Deb Justice (Swyddog Datblygu - Rheilffyrdd Cymunedol y Cambrian)

 

AELODAETH:

Seddau Aelodau Etholedig:

Nodwyd bod dwy sedd wag ar gyfer Aelodau Etholedig ar y Pwyllgor. Yn unol â chyfansoddiad y Pwyllgor, y gofyn yw, ymhlith yr Aelodau Etholedig, bod cyfanswm o 10 aelod, pum aelod o ardal Dwyfor a pum aelod o ardal Meirionnydd. Gyda phum Aelod eisoes ar y Pwyllgor o Feirionnydd, bydd angen i’r ddwy sedd wag gael eu llenwi gan Aelodau o Ddwyfor. Nododd y Cadeirydd y byddai’n trafod y seddi gwag gyda’r Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cyng. Craig ab Iago

 

Sedd wag Cyngor Ceredigion:

Nid oedd enwebiad wedi ei dderbyn gan y Cyngor ers tro bellach. Gwnaed cais i anfon neges at y Cyngor yn ail ofyn am enwebiad

 

Sedd Cyngor Powys:

Ers ei enwebiad ym mis Mawrth 2025, nodwyd nad oedd y Cyng. Alwyn Evans wedi bod yn bresennol yn y cyfarfodydd. Gwnaed cais i ail gysylltu gyda Chyngor Powys; Da fyddai cael presenoldeb Cynghorydd Machynlleth yn y cyfarfod gan fod nifer o faterion / elfennau yn ymwneud a’r rheilffordd yn digwydd yn y Compownd ym Machynlleth.

 

 

 

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

 

5.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 89 KB

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 21ain o Dachwedd 2025 fel rhai cywir

 

7.

I DDERBYN DIWEDDARIAD GAN GYNRYCHIOLWYR

I dderbyn diweddariad gan gynrychiolwyr:

 

·        Network Rail

 

·        Trafnidiaeth Cymru

 

·        Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig

 

·        Arall

Cofnod:

Trafnidiaeth Cymru (TrC)

 

Croesawyd James Nicholas (Partner Cefnogi Busnes, Trafnidiaeth Cymru) i’r cyfarfod.

 

Fflyd Trenau newydd Dosbarth 197

·        Bydd y trenau newydd yn cael eu cyflwyno i  wasanaeth ym mis Medi 2026. Nododd y byddai trenau Dosbarth 197 yn fwy dibynadwy ac yn perfformio yn well – wedi eu cynllunio i fod yn fwy hygyrch na'r trenau Dosbarth 158 hŷn; bod drysau canolog ar y trenau yn cynorthwyo teithwyr i fynd ar ac oddi ar y trên yn haws, yn ogystal â symud rhwng cerbydau. Er y gallu i deithio ar gyflymder o 100mya, ni fydd addasiadau i’r amserlen, ond y gobaith yw y bydd y trenau yn cyrraedd a gadael ar amser

·        Bod bwriad gyrru un o’r trenau newydd i Aberystwyth yn ystod yr haf gan wahodd rhanddeiliaid i weld y trên a chwrdd â rhai aelodau o’r Tîm Gweithrediadau sydd wedi bod yn gweithio ar y prosiect.

·        Hyfforddiant gyrwyr yn parhau, a hyfforddiant rheolwyr trên yn dechrau ym mis Mehefin

·        Bod gosod CET (tanciau gwaredu gwastraff toiledau), wedi'i gymeradwyo ar gyfer Pwllheli gyda gobaith i’r gwaith gael ei gwblhau ym mis Awst.

·        Twmpathau Harrington yn cael eu gosod mewn 6 gorsaf ar yr arfordir

·        Platfform yn cael ei addasu yng ngorsafoedd Abermaw, Harlech a Phorthmadog

 

Yng nghyd-destun perfformiad, adroddwyd bod 482 o wasanaethau wedi eu rhedeg rhwng Ebrill a Mai, oedd yn fwy nag unrhyw gyfnod arall yn y flwyddyn. Ategwyd bod perfformiad ‘cyrraedd ar amser’ wedi gostwng ychydig, ond yn parhau i fod yn uwch na lefelau targed Cymru. O ran teithiau sydd wedi eu canslo, bod y rhain islaw 2%, ac eto yn well na chyfartaledd Cymru.

 

Ar gyfer tymor yr Haf, bydd bwriad rhedeg trenau 4 cerbyd ar hyd yr arfordir, yn amodol ar effaith hyfforddiant criwiau trên ar gyfer y trenau newydd.

 

Bod bwriad rhedeg y trên cysgu moethus Britannic Explorer ar y Cambrian, gyda chynllun wedi ei ddatblygu fel nad yw'n cael effaith ar ganslo unrhyw wasanaethau teithwyr.

 

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn treialu addasiadau i amserlen yr arfordir gydag ymadawiadau ychydig yn hwyrach, felly anogwyd pawb i wirio amseroedd cyn teithio

 

Diolchwyd i James am y diweddariad

 

Sylwadau a materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Yn llongyfarch Trafnidiaeth Cymru ar welliant mewn perfformiad, er hynny nifer oriau gwasanaeth yn llawer llai o gymharu gyda gweddill Cymru (trenau'n rhedeg oddeutu pob 2 awr (dydd Llun - dydd Sadwrn) ac yn llai aml ar ddydd Sul).

·        Yn croesawu’r bwriad o gyflwyno trenau 4 cerbyd dros yr Haf

·        Trenau ar amser, cynnydd yn y defnydd, nifer digwyddiadau mewn trefi lleol yn cael eu cefnogi gan ddefnydd y trên – y gobaith yw y gall hyn arwain at drenau yn rhedeg pob awr. Bydd cynnydd mewn defnydd hefyd yn arwain at gynnydd mewn cyflogaeth.

·        Cais i gadw’r trenau hwyr ar amserlen gaeaf 2026/27

·        Pryder yn y nifer achosion lle nad yw teithwyr yn talu, neu'r tocynnwr ddim yn cyrraedd at deithwyr, ac felly nid ydynt yn gynwysedig yn nata nifer defnyddwyr.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CWESTIYNAU FFURFIOL pdf eicon PDF 144 KB

I ystyried ymatebion i gwestiynau a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cwestiynau gan Cyngor Cymuned Criccieth a Chyngor Cymuned Llanbedr

 

Nododd Swyddog Trafnidiaeth Cymru y byddai’n ymateb yn uniongyrchol i'r Cynghorau Lleol, ond ymatebwyd yn fras i’r materion canlynol:

 

·        Bod gwasanaeth y trenau newydd i ddechrau ym mis Medi 2026

·        Mewn ymateb i gais i’r amserlen ddangos y trenau drwodd i ac o Birmingham gan nad yw pob trên yn dod i fyny'r arfordir, nodwyd mai’r neges gyffredinol yw gwirio cyn teithio, a bod swyddogion ar gael yn y gorsafoedd i rannu gwybodaeth a chynorthwyo gyda  chysylltiadau

·        Gall platfform Llanbedr wneud gyda rhywfaint o ofal - yn ddelfrydol estyniad platfform, ac angen llwybr mynediad addas i’r orsaf; byddai’n ymateb yn uniongyrchol i Gyngor Cymuned Llanbedr

 

 

 

Cwestiynau eraill a godwyd yn y cyfarfod:

 

Gwaith Dŵr Cymru, Dyffryn Ardudwy

Yr Aelod Lleol wedi codi pryderon ynghylch defnydd y groesfan reilffordd gan lorïau 30 tunnell gyda threlars yn cario llwythi trwm dros gyfnod y gwaith. Nid yw eisiau i'r gwaith gael unrhyw effaith ar wasanaeth y rheilffordd, y rheiliau na'r trawstiau. Roedd hefyd yn gofyn a oedd swyddogion Network Rail wedi cynnal ymweliad safle i asesu'r sefyllfa.

 

A yw'r Cambrian yn cael ei adael ar ôl oherwydd bod y system ERTMS sydd ar y rheilffordd wedi dyddio?

 

Nodwyd bod System Rheoli Traffig Rheilffyrdd Ewrop (ERTMS) yn system unedig, awtomatig o safon sydd yn cael ei ddefnyddio i reoli traffig rheilffyrdd. Newidiwyd y signalau ar gyfer y Cambrian i ERTMS yn 2011 fel rhan o dreialu’r Cynllun Defnyddio Cynnar oedd yn cael ei gyflwyno i'r DU. Ystyriwyd bod ERTMS yn cynnig manteision perfformiad, diogelwch ac yn lleihau costau yn yr hirdymor. Ategwyd bod cyflwyno i weddill y DU wedi bod yn llawer arafach nag a ddisgwyliwyd, ond y bwriad yw parhau gan adennill momentwm gyda gwaith i ddechrau ar Brif Linell Arfordir y Dwyrain. Nid yw'r Cambrian yn cael ei adael ar ôl gydag uwchraddiadau'n cael eu gwneud yn 2020.

 

Eglurwyd bod cyflwyno ERTMS yn golygu na allai Trenau Stêm, sy’n atyniad poblogaidd iawn, redeg ar y Cambrian mwyach a bod ymgyrchu dros fersiwn gludadwy ar gyfer y trenau stêm heb wneud llawer o gynnydd.

 

Nododd Bill Redfern, yn ei farn ef, fod fersiwn gludadwy yn rhwystr oherwydd y lefel uchel o integreiddio sydd ei angen rhwng yr offer ERTMS a'r trên stêm. Byddai'r gost yn debygol o fod yn llawer mwy na bwrw ymlaen â rhedeg trên stêm addas ar gyfer y Cambrian. Ategwyd, yn ddiweddar bod trên stêm y Tornado wedi cael ei osod gyda ERTMS ac fe'i profwyd ar y Cambrian rhwng Amwythig a'r Drenewydd, ond ei fod yn rhy drwm i ddod ymhellach.

 

Cyfarfod nesaf i’w gynnal 27ain o Dachwedd 2026