Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rebeca Jones  01286 679890

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Anne Lloyd Jones (CG), Cyng. Berwyn Parry Jones (CG), Cyng. John Pughe Roberts (CG) a Cyng. Bryan Owen (CSYM)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.  

4.

COFNODION pdf eicon PDF 111 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 06.09.2019 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion Pwyllgor a gynhaliwyd ar 6 Medi 2019 fel y rhai cywir

5.

ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL pdf eicon PDF 137 KB

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Polisi Cynllunio, Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwyniad gan Rebeca Jones ar AMB y Cynllun Datblygu ar y Cyd.  Amlinellodd Rebeca bwrpas yr AMB ac eglurodd bod yr AMB yn cynnwys 69 o ddangosyddion sydd yn rhoi trosolwg o berfformiad y cynllun.  Darparwyd dadansoddiad o berfformiad y dangosyddion ac amlygir unrhyw weithred a godwyd yn dilyn y dadansoddiad.

 

            Fel rhan o’r adroddiad fe gyflwynodd Rebeca sylwadau’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ar yr AMB a gafodd ei gyflwyno yng nghyfarfod Pwyllgor Craffu Cymunedau ar y 26 Medi 2019.

 

            Materion a godwyd:

 

·         Cafodd trafodaeth am 1 ddangosydd sydd wedi cael ei farcio yn goch, sef caniatáu trosi uned i dŷ mewn parth perygl llifogydd. 

·         Adnabyddodd cynghorwr wall yn ambell i air Cymraeg yn y ddogfen.

·         Gofynnir am ddadansoddiad o apeliadau dros gyfnod y cynllun hyd yn hyn.

·         Cododd cwestiwn am gyfnod caniatâd cynllunio Wylfa Newydd a faint o arian cyhoeddus sydd wedi ei wario ar ddatblygiad arfaethedig Wylfa Newydd a’i ddatblygiadau cysylltiedig hyd yn hyn.

 

Ymateb:

 

·         Cytuno i newid y Gymraeg

·         Cytuno i yrru tabl sydd wedi ei greu yn rhoi trosolwg/dadansoddiad o’r apeliadau

·         Eglurodd os bydd Wylfa Newydd yn cael caniatâd bydd y cyfnod yr un peth ac unrhyw ganiatâd arall.  O ran faint o arian sydd wedi ei wario nid ydy hyn yn berthnasol i’r adroddiad sy’n cael ei gyflwyno.

 

Penderfyniad – Derbyn yr argymhelliad i dderbyn yr Adroddiad Monitro Blynyddol.

 

6.

ARGYMHELLION PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU - CYNLLUNIO A'R IAITH GYMRAEG pdf eicon PDF 310 KB

Cyflwyno adroddiad gan Arweinydd Tîm Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd

Cofnod:

Cyflwyniad gan Gareth Jones yn cynnig ymateb i’r argymhellion yn deillio allan o adroddiad yr ymchwiliad Craffu ar Gynllunio a’r Iaith Cymraeg a gafodd ei gyflwyno yng nghyfarfod Pwyllgor Craffu Cymunedau ar y 4 Gorffennaf 2019.  Rhoddwyd cefndir i’r ymchwiliad craffu ac eglurodd Gareth fod y Pwyllgor Craffu Cymunedau hefo 5 argymhelliad ychwanegol i’w roi i’r Pwyllgor Polisi ar y Cyd.

 

Materion a godwyd:

 

·         Gofynnir cwestiwn am apêl aflwyddiannus ar ddatblygiad tai ym Mangor.  Pwy o’r Arolygaeth sy’n gwneud y penderfyniad ac os oes ffordd i’r Cynghorau cwestiynu’r penderfyniadau apeliadau?

·         Cododd pryder am yr effaith gronnol ar yr Iaith Gymraeg gyda’r datblygiadau tai ym Mangor.

 

Ymateb:

 

·         Yr Arolygydd Cynllunio sydd wedi ei benodi i glywed yr apêl sy’n gwneud y penderfyniad drwy ddefnyddio’r polisïau o Gynllun Datblygu cyfredol. Eglurwyd fod y sefyllfa gyda’r apêl yn ymwneud a chodi 366 o dai ym Mhenyffridd, Bangor yn sefyllfa unigryw.  Roedd y tir wedi ei ddynodi ar gyfer tai yn yr hen Gynllun Datblygu Unedol (Gwynedd) pan gyflwynwyd y cais, ond pan benderfynwyd yr apêl roedd y cyd-destun polisi cynllunio wedi newid gyda’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd wedi disodli’r hen Gynllunio Datblygu Unedol. Roedd y strategaeth tai yn Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn hollol wahanol ac nid oedd safle Penyffridd wedi ei ddynodi ar gyfer tai gyda llawer o’r safle erbyn hyn wedi ei leoli tu allan i’r ffin datblygu. Ar ben hyn roedd y Cynllun yn cyflwyno polisi PS1 oedd yn ymwneud a sut i roi ystyriaeth i’r iaith Gymraeg gyda datblygiadau perthnasol. Gwrthodwyd yr apêl ar sail diffyg tystiolaeth ynglŷn a’r effaith ar iaith Gymraeg ac am nad oedd y datblygiad yn cydfynd a’r polisïau tai perthnasol. Hwn yn benderfyniad arwyddocaol o ran y defnydd o bolisi PS1 a cadernid strategaeth y Cynllun.

·         Eglurodd bod Bangor hefo rôl isranbarthol yn ardal y Cynllun felly fan hyn a bod yna dystiolaeth o’r angen am dai, ond bod y strategaeth tai o ran Bangor wedi symud i ffwrdd o ddynodi datblygiadau mawr ar un neu ddau o safleoedd.  Nodwyd hefyd fod y Canllaw Cynllunio Atodol, Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy, sydd wedi ei fabwysiadu’n ddiweddar yn rhoi arweiniad manwl i sicrhau ystyriaeth briodol o’r iaith Gymraeg pan yn berthnasol.

 

 

Penderfyniad - Derbyn yr argymhelliad i dderbyn ymateb i argymhellion yn deillio allan o adroddiad yr ymchwiliad Craffu ar Gynllunio a’r Iaith Gymraeg.