skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Aled Evans a Mair Rowlands, Colette Owen (Yr Eglwys Gatholig) a’r Cynghorydd Gareth Thomas (Aelod Cabinet Economi).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Dewi Roberts fuddiant personol yn eitem 5 – Penderfyniad y Cabinet – 28-09-21 – Eitem 8 – Ysgol Abersoch - oherwydd ei fod yn llywodraethwr Ysgol Abersoch, ond oherwydd iddo gael ei benodi i’r rôl honno gan yr Awdurdod, nid oedd o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

Datganodd y Cynghorydd Selwyn Griffiths fuddiant personol yn eitem 6 – Yr Economi a Chefnogaeth i Fusnesau - oherwydd mai ei fab oedd awdur yr adroddiad i’r pwyllgor.  Nid oedd o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 309 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Mehefin, 2021 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Mehefin, 2021 fel rhai cywir.

 

5.

PENDERFYNIAD Y CABINET - 28-09-21 - EITEM 8 - YSGOL ABERSOCH pdf eicon PDF 305 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Bod y pwyllgor craffu yn cyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet i’w ail-ystyried ar y sail na chafwyd ymateb digonol i’r ail reswm dros alw i mewn, sef:-

 

2.Nid yw’r Adroddiad yn cymryd i ystyriaeth ddyfodol Tai a Gwaith fydd yn dod i rym yn y Pentref .

 

(a) Mae Datblygiad Newydd o godi Gwesty Newydd fydd yn creu beth bynnag 40 o swyddi llawn amser yn yr ardal - mi fydd y Gweithwyr a’u Teulu angen adnoddau yn cynnwys Addysg i ein plant. 

 

(b) Mae Llywodraeth Cymru, yr Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd a Chymdeithas Tai (sydd yn berchen tir yn y pentref) ar hyn o bryd yn edrych i godi mwy o dai - mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod grant ar gael i ddatblygu y tir yma i godi o bosib 15 o dai. 

 

Mae’r Gymdeithas tai wedi cadarnhau fod cynlluniau wedi gwneud yn barod ar safle Bryn Garmon. 

 

Nid yw’r adroddiad yn sôn dim am y cynllun newydd gan yr Adran Tai ac Eiddo a dim am y datblygiadau sydd yn mynd ymlaen yn y Pentref ac felly nid yw’r Adran Addysg wedi ymateb i ofynion Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol wrth beidio gwneud hyn.”

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Democratiaeth yn nodi bod y penderfyniad a ganlyn wedi ei alw i mewn i’w graffu, yn unol ag Adran 7.25 o Gyfansoddiad y Cyngor:-

 

Eitem 8: Ysgol Abersoch, cyfarfod Cabinet 28.9.21

 

“Cadarnhawyd yn derfynol y cynnig a roddwyd drwy rybudd statudol, i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Ionawr, 2022, yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018.”

 

Eglurodd y Cadeirydd y gwnaethpwyd y cais i alw’r penderfyniad i mewn i’w graffu gan y Cynghorwyr Alwyn Gruffydd, Elwyn Jones a hithau o fewn y gofynion a’r amserlen angenrheidiol.

 

Nodwyd bod y rhesymau dros alw i mewn, sef yr agweddau o’r penderfyniad yr ystyrid y dylid eu craffu, ac sydd o fewn gofynion Cyfansoddiadol, wedi eu nodi fel a ganlyn:

 

“1. Mae’r Adroddiad yn anghywir ac yn gamarweiniol rhan effaith ar y Gymuned, er enghraifft iaith a diwylliant Cymraeg - yn y tabl ar dudalen 714 mae yn dweud nad oes dim effaith ar yr Iaith.

 

2. Nid yw’r Adroddiad yn cymryd i ystyriaeth ddyfodol Tai a Gwaith fydd yn dod i rym yn y Pentref.

 

(a) Mae Datblygiad Newydd o godi Gwesty Newydd fydd yn creu beth bynnag 40 o swyddi llawn amser yn yr ardal - mi fydd y Gweithwyr a’u Teulu angen adnoddau yn cynnwys Addysg i ein plant.

(b) Mae Llywodraeth Cymru, yr Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd a Chymdeithas Tai (sydd yn berchen tir yn y pentref) ar hyn o bryd yn edrych i godi mwy o dai - mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod grant ar gael i ddatblygu y tir yma i godi o bosib 15 o dai.

Mae’r Gymdeithas tai wedi cadarnhau fod cynlluniau wedi gwneud yn barod ar safle Bryn Garmon.

Nid yw’r adroddiad yn sôn dim am y cynllun newydd gan yr Adran Tai ac Eiddo a dim am y datblygiadau sydd yn mynd ymlaen yn y Pentref ac felly nid yw’r Adran Addysg wedi ymateb i ofynion Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol wrth beidio gwneud hyn.

 

3. Mae pryder wedi ei ddatgan rhan y ffordd droed rhwng Abersoch a Sarn Bach mae yr Adran addysg yn dweud fod cyswllt wedi bod gyda’r Adran Ffyrdd ond nid oes dim byd pendant wedi ei gyflwyno rhan datrys y risg yma sydd yn rhoi disgyblion mewn peryg. Mae’r Adran Addysg yn sôn am drefniadau cludiant sydd wrth gwrs yn ychwanegu at hinsawdd ac yn enghraifft ddrwg i’r plant ar sut mae’r Cyngor yn cymryd i ystyriaeth effaith ar hinsawdd.

 

4. Mae un plentyn yn disgyn allan o’r cynnig i gael cludiant oherwydd polisïau oed - yn y dyfodol pan fydd rhifau plant yn cynyddu oherwydd (a)  a (b) mae’n debyg bydd plant eraill yn cael gwrthod y cludiant yma ac felly yn dioddef rhan eu haddysg. 

 

5.Y penderfyniad ydi i gau yr ysgol yn ganol y flwyddyn ysgol a does dim amheuaeth fod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

YR ECONOMI A CHEFNOGAETH I FUSNESAU pdf eicon PDF 120 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan edrych ymlaen at gael mwy o wybodaeth ynglŷn â grantiau i fusnesau maes o law.

 

Cofnod:

Croesawyd swyddogion yr Adran Economi a Chymuned i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned, ar gais y pwyllgor craffu, yn amlinellu pa gefnogaeth mae’r Cyngor yn ei roi i fusnesau, yn arbennig yn sgil y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd a’r pandemig Covid-19.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Nododd aelod, o ran cywirdeb, y dylai’r adroddiad gyfeirio at y Deyrnas Gyfunol, yn hytrach na’r Deyrnas Unedig.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         Bod y cynnydd yn nifer yr ymholiadau a cheisiadau am gymorth gan fusnesau dros y 18 mis diwethaf wedi cyflwyno heriau i’r gwasanaeth o ran adnoddau ac o ran ail-gyfeirio a blaenoriaethu’r gwaith.  Hefyd, roedd y gwasanaeth wedi ail-flaenoriaethu mwy tuag at gefnogi a chynnal busnesau i barhau, yn hytrach na datblygu a chreu swyddi o’r newydd, fel yn y gorffennol.  Roedd mwy o fusnesau wedi dod i gyswllt â’r Cyngor yn ystod cyfnod y pandemig nag erioed o’r blaen, ac un o’r pethau cadarnhaol a ddeilliodd o hynny oedd sefydlu’r bwletin busnes, oedd bellach yn mynd allan o leiaf ddwywaith yr wythnos i dros 4,500 o fusnesau’r sir.  Roedd y gwasanaeth hefyd wedi symud tuag at roi cyngor ynglŷn â materion ychydig ehangach o ran arferion da a sut i fabwysiadu technoleg newydd.  Roedd yn rhaid rhoi ymdrech i mewn i’r gwaith o gynnal a sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei dosbarthu, ac roedd y gwasanaeth yn ail-drefnu eu hunain hefyd, gan chwilio am adnoddau trwy law’r Cyngor i’w galluogi i barhau gyda’r gwaith.

·         Na chafwyd sgwrs benodol gyda’r Adran Tai ac Eiddo yn y cyfnod yma o ran cynorthwyo gweithwyr allweddol, ac ati, sy’n symud i mewn i’r ardal i ddod o hyd i rywle i fyw.  Roedd trafodaethau’n mynd ymlaen gyda’r Adran o ran polisïau cynllunio, ac ati, ond roedd angen gwneud mwy o waith ar hynny.  Eglurwyd nad prinder sgiliau oedd y brif gŵyn gan fusnesau ar hyn o bryd, ond prinder pobl i weithio i’r busnesau hynny, ac roedd hynny’n wir ar draws y sectorau.  Cyfeiriwyd at ddarn o waith i geisio cefnogi pobl nad ydynt mewn gwaith i mewn i swyddi mewn meysydd lle mae bylchau, ond roedd graddfa’r broblem yn llawer ehangach nag a fu, a byddai’n rhaid edrych ar hyn yn ehangach gyda phartneriaid eraill, er mwyn cwrdd â lefel y galw presennol.  Nodwyd ymhellach bod dros 120 o bobl wedi cael cymorth drwy’r Tîm Gwaith Gwynedd, ac er nad oedd hyn yn cyfarch y galw yn ei gyfanrwydd, roedd yna weithgaredd sylweddol wedi digwydd.  Hefyd, fe geisiwyd cymryd rhywfaint o gamau bychan, ond ymarferol, i gefnogi busnesau, e.e. drwy hwyluso cael tudalennau ar Facebook, fel bod modd i fusnesau hyrwyddo’r cyfleoedd gwaith sydd ganddynt.

·         Bod cyhoeddiad Llywodraeth Prydain ar y trefniadau grant i’r dyfodol, yn sgil diflaniad arian Ewropeaidd, wedi ei wthio nôl, ond roedd yn debygol y byddai yna ryw fath o gyhoeddiad yn dilyn yr adolygiad ariannol fis nesaf.  Eglurwyd mai’r bwriad oedd cyhoeddi  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

GAGENDOR LLES A CHYRHAEDDIAD pdf eicon PDF 415 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a chofnodi ein diolchiadau i’r gweithlu am eu cyfraniad yn ystod y 18 mis diwethaf.

 

Cofnod:

Croesawyd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE a’i gyd-swyddogion, swyddogion yr Adran Addysg a Phennaeth Ysgol Cefn Coch ac Ysgol Talsarnau, Pennaeth Ysgol Botwnnog a Phennaeth Ysgol Pendalar i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn cyflwyno gwybodaeth i’r pwyllgor craffu ar y Gagendor Lles a Chyrhaeddiad, gan gynnwys:-

 

·         Effaith Covid ar addysg yr holl ddisgyblion;

·         Pa gynlluniau sydd gan ysgolion o ran llesiant yr holl ddisgyblion

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun drwy nodi:-

 

·         Er bod y gagendor lles a chyrhaeddiad wedi gwaethygu efallai yn ystod y pandemig, bod angen cydnabod bod y problemau hyn wedi bodoli ers rhai blynyddoedd.

·         Bod presenoldeb swyddogion GwE yn y cyfarfod hwn yn tanlinellu pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth gyda GwE, a bod hyn yn ein galluogi i ymateb yn bositif i’r broblem ddyrys yma.

·         Ei fod yn awyddus i’r pwyllgor gael darlun drwy lygaid gweithwyr rheng flaen, a’i fod felly’n hynod ddiolchgar bod cynrychiolwyr o’r uwchradd, y cynradd ac arbennig yn y cyfarfod i rannu eu profiadau.

 

Ategwyd sylwadau’r Aelod Cabinet gan y Pennaeth Addysg, a nododd ymhellach:-

 

·         Bod cyfnod y pandemig wedi bod yn gyfnod heriol iawn i’r ysgolion, a bod yr Awdurdod, GwE, yr ysgolion a phartneriaid eraill wedi cydweithio’n agos iawn er mwyn lleihau’r problemau i’r graddau mwyaf oedd yn bosib’.

·         Bod adroddiad Estyn ynghylch i ba raddau roedd yr Awdurdod wedi bod yn llwyddiannus yn cefnogi dysgwyr yn ystod y cyfnod yma yn adroddiad clodwiw, a’i fod yn ymwybodol bod Rheolwr Gyfarwyddwr GwE a’i dîm hefyd wedi derbyn adroddiad yr un mor ganmoliaethus ar eu gwaith hwy yn ystod y cyfnod hwn, oedd eto’n amlygu’r cydweithio rhyngddynt.

 

Gosododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE y cyd-destun i’r Strategaeth Adnewyddu a Diwygio, sy’n cefnogi lles a dysgu’r disgyblion ar draws Gogledd Cymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar Wynedd.

 

Yna derbyniwyd cyfres o gyflwyniadau gan swyddogion GwE, fel a ganlyn:-

 

·         Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Safonau) – prif benawdau’r Strategaeth (Atodiad 1)

·         Uwch Arweinydd – Uwchradd – blas o’r gwaith ymgysylltu gyda’r ysgolion i ddal cynnydd ac effaith y gweithredu sydd wedi bod hyd yma (Atodiad 2)

·         Arweinyddion Craidd – Cynradd / Uwchradd – diweddariad ar y defnydd a’r effaith o’r Grant Cyflymu’r Dysgu (Atodiad 4)

 

Nododd aelod mai un sgil-effaith o’r cyfnod Covid yw’r diffyg cyfleoedd i ddisgyblion ymarfer a siarad ar lafar gyda’i gilydd, a bod y cyfeiriad yn y papurau at ‘ailgodi’ sgiliau llafar a thrafod Cymraeg yn tanlinellu bod rhywbeth wedi syrthio.  O gofio mai prif bwrpas y Siarter Iaith yw hybu defnydd anffurfiol o’r Gymraeg, holwyd beth fyddai rôl y Siarter Iaith yn y cyfnod hwn wrth geisio cyflymu’r dysgu, a pham nad oedd cyfeiriad penodol at waith allweddol y Siarter Iaith yn yr adroddiad cyflymu dysgu?  Mewn ymateb, eglurwyd bod yr adroddiad hwn yn cyfeirio at ffocws y grant yn benodol.  Yn dilyn cyflwyniadau GwE, byddai swyddogion yr Awdurdod yn ymhelaethu ar y gwaith partneriaethol sydd wedi digwydd rhwng yr Awdurdod a GwE, a byddai cyflwyniad Swyddog Addysg Uwchradd Gwynedd yn manylu ar ddylanwad y Siarter Iaith.

 

Derbyniwyd cyflwyniad gan Swyddog Addysg Uwchradd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

RHAGLEN WAITH CRAFFU DDIWYGIEDIG 2021-22 pdf eicon PDF 300 KB

Cyflwyno rhaglen waith craffu ddiwygiedig ar gyfer 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r rhaglen waith ar gyfer cyfarfod 9 Rhagfyr, a thrafod gweddill y rhaglen yn y cyfarfod anffurfiol i ddilyn y pwyllgor.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd rhaglen waith craffu ddiwygiedig ar gyfer 2021/22.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen waith ar gyfer cyfarfod 9 Rhagfyr, a thrafod gweddill y rhaglen yn y cyfarfod anffurfiol i ddilyn y pwyllgor.