Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jasmine Jones  01286 679667

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy'n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu

hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 263 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid Ilofnodi cofnodion y cyfarfodydd

blaenorol o'r pwyllgor a gynhaliwyd ar 18/06/26 a 14/07/26 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

5.

DIWEDDARIAD AR GYNNYDD Y CYNLLUN YMATEB: CYFIAWNDER TRWY EIN DEWRDER pdf eicon PDF 448 KB

Eitem wedi ei chynnwys ar raglen waith craffu yn dilyn ystyriaeth blaenorol y pwyllgorau ym mis Ionawr 2026 ac fel rhan o’r angen i graffu ar gynnydd y Cynllun Ymateb.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

·       Gofyn i’r aelod cabinet gysylltu gyda Llywodraeth Cymru i nodi pryder a siom nad yw gweithdrefnau a chanllawiau cenedlaethol newydd ar gyfer Rhan 5 yn adlewyrchu nac yn mynd i'r afael yn llawn â'r newidiadau argymhellwyd yn adroddiad CTED ac argymell eu bod yn cael eu diwygio.

 

·       Ychwanegu ymateb i ymgynghoriad ad-drefnu llywodraethu ysgolion Llywodraeth Cymru i flaen raglen waith y pwyllgor pan yn amserol.

 

·       Yn amodol ar dderbyn sêl bendith ac adnoddau gan y Fforwm Craffu a sicrwydd nad yw’n amharu na dyblygu gwaith Llywodraeth Cymru ar y pwnc, datgan cefnogaeth i sefydlu grŵp tasg a gorffen i edrych ar y drefn llywodraethu ysgolion presennol, er mwyn cynorthwyo’r pwyllgor i ymateb i’r ymgynghoriad arfaethedig ar ad-drefnu llywodraethu ysgolion yn seiliedig ar ddata a thystiolaeth.   

 

6.

STRATEGAETH 5 MLYNEDD Y GWASANAETH IEUENCTID pdf eicon PDF 154 KB

Byddai craffu’r strategaeth ddrafft yn gyfle i’r Pwyllgor rhoi mewnbwn cyn i’r Strategaeth gael ei fabwysiadu.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

·       Derbyn yr adroddiad a nodi’r sylwadau gan ofyn i’r gwasanaeth fapio lle mae darpariaeth clybiau cymdeithasol i bobl ifanc (gan unrhyw gorff/partner (ee clybiau pel droed) ar gael o fewn dalgylchau ysgolion.

 

7.

CYNLLUN DIWYLLIANT GWYNEDD pdf eicon PDF 242 KB

Byddai blaengraffu’r Cynllun cyn y caiff ei fabwysiadu yn gyfle i’r pwyllgor argymell materion y dylid eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

·       Derbyn yr adroddiad a nodi’r sylwadau a wnaed gan nodi gwerthfawrogiad fod yr Adran wedi cydweld i weithredu ar y pwyntiau canlynol:

o   Ystyried edrych eto ar eiriad y weledigaeth i gynnwys cyfeiriad penodol at y Gymraeg gan eirio’r gweledigaeth i nodi uchelgais/nod

o   Gwneud cais i’r gwasanaeth adrodd ar ddata ynghylch sy’n cymharu allfudiad mewn ardaloedd tebyg (megis ardal y llynnoedd) er mwyn cymharu â sefyllfa Gwynedd i weld os yw’r diwylliant yma yn angori pobl i’r Sir.

 

8.

BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG AC ECONOMI pdf eicon PDF 219 KB

Mabwysiadu rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2026/27.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

·       Mabwysiadu’r rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2026/27.

 

9.

CYFARFODYDD HERIO PERFFORMIAD pdf eicon PDF 90 KB

I enwebu cynrychiolwyr i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

·       Ethol y Cynghorwyr Beth Lawton a Geraint Parry fel cynrychiolwyr y pwyllgor i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Addysg.

·       Ethol y Cynghorydd Cai Larsen fel enw wrth gefn petai’r cynrychiolwyr uchod yn methu bod yn bresennol.