Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Courtney Leigh Jones E-bost: courtneyleighjones@gwynedd.llyw.cymru
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Gareth Coj Parry,
Linda Morgan, Elin Walker Jones, Einir Wyn Williams. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod diwethaf y pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar y 25 Medi 2025, fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd
y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Medi 2025, fel rhai cywir. |
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET TAI AC EIDDO Er mwyn craffu ar faterion
perfformiad o fewn yr Adran. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1.
Derbyn yr adroddiad. 2. Gofyn i’r adran gyllid
ohebu gyda’r asiantaeth swyddfa brisio er mwyn cael rhestr o holl dai gwag yng
Ngwynedd. 3. Gofyn i’r aelod cabinet
anfon llythyr i’r llywodraeth yn datgan pryder am renti uchel yn y sector tai
preifat a phwyso arnynt i gyflwyno mesurau i sicrhau bod y rhestr yn
fforddiadwy a lleihau digartrefedd. 4. Annog yr Adran Tai ac
Eiddo i roi cyhoeddusrwydd i ddatblygiadau tai newydd arbenigol ar gyfer pobl
gyda anghenion penodol. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan yr aelod Cabinet Tai ac Eiddo a’r Pennaeth Adran. Amlygwyd y byddai’r adroddiad yn cynnwys
gwybodaeth o berfformiad yr adran o fis Ebrill i ddiwedd mis Medi 2025.
Eglurwyd y byddai yn adrodd ar y ffigyrau mwyaf diweddar er mwyn rhoi darlun
cywir i aelodau’r pwyllgor, gan fod y cyfarfod gwreiddiol wedi ei ohirio. Cywirwyd ystadegau y nifer o dai gwag sydd wedi dod nol i
ddefnydd yn sgil cefnogaeth gan y Cyngor yng Ngwynedd, a’r nifer sydd wedi dod
nôl i ddefnydd trwy grant cartrefi gwag. Cyfeiriwyd at y mesuriadau gan nodi
mai 306 o dai sydd wedi dod nol i ddefnydd yn sgil cefnogaeth gan y Cyngor,
gyda 123 ohonynt trwy’r grantiau Cynllun Cartrefi Gwag. Nodwyd bod y ffigyrau
wedi cynyddu erbyn diwedd mis Tachwedd, i 321 o dai sydd wedi dod nôl i
ddefnydd a 128 trwy’r grantiau Cynllun Cartrefi Gwag, sydd yn adlewyrchu
llwyddiant mawr. Mynegwyd bod y Cynlluniau Tai Gwag yn parhau i fod yn
llwyddiannus, ac ar y rheng flaen yng Nghymru o ran dod a thai gwag nol i
ddefnydd ar gyfer perchnogion lleol. Mynegwyd pryder
bod y system bresennol ar gyfer ceisiadau’r grantiau braidd yn fiwrocrataidd. Nodwyd bod llawer o bobl yn
disgwyl amser maith yn ystod y broses ac yn methu dechrau ar y gwaith sydd ei
angen cyn symud i fewn. Gofynnwyd a yw’n bosib diwygio elfennau o’r grant er
mwyn cyflymu’r broses? Awgrymwyd y dylid cyflwyno mesurydd ychwanegol i adnabod beth sydd yn cymryd cymaint o
amser. Nodwyd hefyd bod y cyfyngiad amser o 6 mis mae’r perchnogion yn cael i
wneud y gwaith yn annheg gan ystyried prysurdeb contractwyr, yn enwedig mewn
ardaloedd gwledig. Holwyd a yw’n bosib i bobl cael estyniad? Mewn ymateb, rhoddwyd manylion am
ddarpariaeth y grant gan nodi ei fod yn bwrpasol i ddarparu cymorth ariannol i
bobl adfer nodweddion hanfodol mewn tai er mwyn gwneud y tai yn gynnes ac yn
ddiogel. Oherwydd hyn, pwysleisiwyd ei fod yn anodd creu cynllun sydd yn addas
i bawb. Manylwyd ar y
prosiectau sydd ar waith yn yr adran, i weithredu ar addewidion Cynllun y
Cyngor 2023-28. Adroddwyd ar y cynnydd llwyddiannus sydd wedi bod yn y flwyddyn
diwethaf, gan nodi bod yr adran ar y ffordd i gyflawni bob nod. Tywyswyd yr
Aelodau trwy’r adroddiad wrth diweddaru ar y cynnydd ymhob prosiect i wireddu
amcanion Cynllun y Cyngor; Nodwyd bod Cynllun Tŷ Gwynedd yn gwneud cynnydd da fel rhan o gynllun Gwynedd Glyd. Nodwyd bod datblygiad Dol Afon Goch bron a chwblhau a’r broses osod wrthi’n mynd rhagddo. Mynegwyd bod datblygiad hen safle Ysgol Babanod Coed Mawr, Bangor hefyd yn gwneud cynnydd da gyda’r gwaith strwythurol ar y gweill. Nodwyd bod 433 o dai gymdeithasol wedi eu gosod trwy’r rhaglen Adeiladu Tai Cymdeithasol a’r bartneriaeth gyda’r Cymdeithasau Tai, sy’n dangos eu bod ar y ffordd i gyflawni’r targed o 500 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Ymhelaethwyd ar datblygiadau’r Cynllun Prynu i Osod, gan nodi eu bod wedi llwyddo i brynu 51 ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET OEDOLION IECHYD A LLESIANT Er mwyn
craffu ar faterion perfformiad o fewn yr Adran. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan yr aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Pennaeth Adran.
Nodwyd fod yr adroddiad yn seiliedig ar berfformiad yr adran Oedolion hyd
ddiwedd mis Awst. Cydnabuwyd bod y data a’r ffigyrau bellach wedi dyddio ers
dyddiad gwreiddiol cyfarfod y pwyllgor hwn, oherwydd bod data'r maes yn newid
yn ddyddiol. Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet ei fod yn adrodd ar y data sydd yn yr
adroddiad. Diolchodd yr Aelod Cabinet i holl staff yr adran gan ddiolch yn
arbennig i’r nifer fawr o staff bydd yn gweithio dros gyfnod y Nadolig.
Diolchwyd i’r amryw bartneriaid allweddol yr adran, y trydydd sector a’r
gwirfoddolwyr. Amlinellwyd prif brosiectau’r adran gan nodi bod yr adran yn
parhau i gyflawni er gwaethaf yr heriau lleol a chenedlaethol, gyda’r galw
cynyddol a’r capasiti cyfyngedig. Tywyswyd yr
aelodau trwy’r adroddiad yn dangos sut mae’r adran yn gweithredu i gyflawni
addewidion Cynllun y Cyngor 2023-28. Rhoddwyd trosolwg o waith ddydd i ddydd yr
adran a rhannwyd gwybodaeth am yr archwiliadau allanol sydd wedi bod yn y
cyfnod dan sylw. Rhoddwyd trosolwg o effaith yr heriau a godwyd yn adroddiad
Llechen Lan, sy’n tynnu sylw at y pwysau ariannol a gweithredol yn y system
iechyd a gofal. Manylwyd ar y prosiect o foderneiddio
adnoddau gofal i gwrdd ag anghenion y dyfodol. Nodwyd bod y gwaith o uwchraddio
cartrefi preswyl Hafod Mawddach a Cefn Rodyn wedi eu
cwblhau, a’r uned ddementia yn Bryn Blodau wedi ei agor. Nodwyd bod yr uned
dementia ar fin agor ym Mhlas Hedd a disgwylir cadarnhau dyddiad agor yn fuan.
Nodwyd bod trafodaethau yn datblygu o ran darpariaeth Tai Gofal Ychwanegol yng
Nghaernarfon, gyda’r safle wedi ei adnabod. Amlygwyd bod y cynllun busnes
amlinellol nesaf ar gyfer safle Penyberth wedi ei
gymeradwyo gan y Cabinet yn ddiweddar. Cadarnhawyd bod y gwaith adeiladu wedi
dechrau ar ddatblygiad tai gyda gofal addas ar safle Penyberth,
gyda’r bwriad o fod yn barod erbyn Hydref 2026. Cadarnhawyd hefyd bod y gwaith
atgyweirio safle Dolfeurig yn mynd ymlaen a bod
datblygiadau sylweddol wedi bod dros y misoedd diwethaf. Ymhelaethwyd bod
adnodd wedi ei adnabod i gychwyn gwaith Tai Gofal Ychwanegol yn ardal Dolgellau
a bod y gwaith wedi cychwyn. Rhannwyd manylion am y defnydd cynyddol o
dechnoleg yn yr adran, i wella gallu trigolion Gwynedd i gael mynediad at
gefnogaeth gofal. Manylwyd ar y darpariaeth teleofal
ar wefan y Cyngor, sy’n galluogi i bobl Gwynedd weld beth sydd yn digwydd o
fewn eu cymunedau nhw. Mynegwyd bod dros 80% o ddyfeisiadau teleofal
y Sir wedi eu trosglwyddo i ddyfeisiadau newydd digidol, heb gost bellach i
drigolion y sir. Nodwyd fod hyn yn waith arloesol yn y maes ac yn cefnogi
unigolion i fod yn annibynnol. Cyfeiriwyd at y gwaith datblygu gwasanaeth
taliadau uniongyrchol syth yn parhau. Nodwyd bod pecynnau newydd yn cael cynnig
cyfrif digidol, gyfwerth a ‘waled rithiol; er mwyn gallu rheoli eu pecynnau
taliadau uniongyrchol yn haws. Adroddwyd ar y datblygiadau sydd wedi bod wrth i’r Cyngor cydweithio a Gwasanaethau Iechyd i alluogi pobl ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET PLANT A CHEFNOGI TEULUOEDD Er mwyn craffu ar faterion perfformiad o fewn yr Adran. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: Gofynnodd y Cadeirydd beth yw’r diweddaraf
gyda’r rhaglen waith ymateb i Adolygiad Ymarfer Plant – Cyfiawnder Trwy Ein
Dewrder a phryd fydd y pwyllgor yn derbyn adroddiad ar y rhaglen waith? Mewn
ymateb, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bydd cyfarfod arbennig o’r
Pwyllgor ym mis Ionawr 2026. Eglurwyd y broses, gan nodi bod y Cyngor wedi
sefydlu Bwrdd a Chynllun Ymateb, sydd wedi ei diwygio a’i adnewyddu ers i’r
Adolygiad Ymarfer Plant gael ei gyhoeddi, a chadarnhawyd bydd cyfle i’w graffu
yn y cyfarfod arbennig. Sicrhawyd bod yr Adran yn ymrwymedig i weithredu i
ymateb i’r argymhellion yn llawn. Cyflwynwyd cais gan aelodau o’r Pwyllgor am
gyfarfod arbennig o’r Cyngor Llawn er mwyn rhoi cyfle i’r holl aelodau graffu
ar y Cynllun hollbwysig. Cyflwynwyd yr
adroddiad gan yr aelod Cabinet Plant a Theuluoedd. Rhoddwyd diweddariad ar beth
sydd wedi ei gyflawni gan yr adran plant hyd at ddiwedd mis Medi. Nodwyd bod
gan yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd ddau brosiect sydd ar waith yng
Nghynllun y Cyngor, y Cynllun Awtistiaeth a Chynllun datblygu darpariaeth
breswyl i blant mewn gofal cartrefi grŵp bychain. Manylwyd ar y
Cynllun Awtistiaeth, gan nodi nod y gwaith yn ffynnu a’r galw am wasanaeth yn
parhau i godi. Nodwyd bod y system ymgynghori rhwng y Tîm Awtistiaeth a’r
gweithwyr cymdeithasol yn gweithio yn effeithiol ac mae nifer o achosion o
ymyrraeth gynnar a chefnogaeth arbenigol wedi arwain at ostyngiad mewn angen a
statws, a nifer o achosion wedi cau yn dilyn ymyrraeth. Nodwyd bod y
rhaglen hyfforddi staff yn parhau ac yn datblygu gyda gwahanol lefelau o
hyfforddiant, a’r union lefel i’w gyflawni yn ddibynnol ar y swydd.
Ymhelaethwyd bod y tîm bellach yn hyfforddi gweithwyr i hwyluso a rhedeg
grwpiau a rhaglenni cefnogi ac addysgol i rieni a gofalwyr yn ogystal â grwpiau
hunaniaeth i bobl ifanc awtistig. Adroddwyd bod grwpiau ‘Paned a Sgwrs’ i rieni
a gofalwyr a chlwb Niwro i bobl ifanc yn parhau i fod
yn llwyddiannus. Nodwyd bod yr Ap Niwro Cymru bellach
ar gael, sydd wedi ei ddatblygu gan Awtistiaeth Gwynedd ar gyfer darparu
gwybodaeth, cyngor a chymorth i’r gymuned. Nodwyd bod yr arian ar gyfer y
cynllun yn dod i ben ym 2027 ac felly bydd angen ystyried sut i sicrhau parhad
y gwasanaeth i’r dyfodol o safbwynt cynaliadwyedd. Manylwyd ar y cynllun datblygu darpariaeth breswyl i blant mewn gofal mewn cartref grŵp bychan, sydd wedi datblygu yn sylweddol. Nodwyd bod cartref ym Morfa Bychan bellach yn weithredol, gyda 2 blentyn yn byw ynddo. Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd mai lle i 2 blentyn yn unig sydd yn y cartref, er mwyn sicrhau aelwyd gartrefol i’r plant yn unol â’r strategaeth genedlaethol. Eglurwyd bod datblygiadau yn digwydd yn safle Deiniolen, gan nodi bod dirprwy reolwr wedi ei benodi a 5 gweithiwr preswyl ar gyfer yr ail dŷ yn Neiniolen. Cadarnhawyd bod y staff wedi cychwyn eu swyddi. Nodwyd bod yr adran yn parhau i ddisgwyl am gofrestriad swyddogol i’r cartrefi, a disgwylir hyn yn fuan gan ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
BRIFF GRWP TASG A GORFFEN CWYNION I fabwsiadu’r
briff ac i ethol Aelodau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. Mabwysiadu’r briff. 2. Ethol y Cynghorwyr Elwyn Jones, Sian Williams, Menna Baines,
Angela Russell, Elin Walker Jones i fod yn aelod o’r grŵp tasg a gorffen.
Etholwyd y Cynghorydd Beth Lawton i fod yn aelod wrth gefn. Cofnod: Gofynnodd y Cadeirydd beth yw’r diweddaraf
gyda’r rhaglen waith ymateb i Adolygiad Ymarfer Plant – Cyfiawnder Trwy Ein
Dewrder a phryd fydd y pwyllgor yn derbyn adroddiad ar y rhaglen waith? Mewn
ymateb, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bydd cyfarfod arbennig o’r
Pwyllgor ym mis Ionawr 2026. Eglurwyd y broses, gan nodi bod y Cyngor wedi
sefydlu Bwrdd a Chynllun Ymateb, sydd wedi ei diwygio a’i adnewyddu ers i’r
Adolygiad Ymarfer Plant gael ei gyhoeddi, a chadarnhawyd bydd cyfle i’w graffu
yn y cyfarfod arbennig. Sicrhawyd bod yr Adran yn ymrwymedig i weithredu i
ymateb i’r argymhellion yn llawn. Cyflwynwyd cais gan aelodau o’r Pwyllgor am
gyfarfod arbennig o’r Cyngor Llawn er mwyn rhoi cyfle i’r holl aelodau graffu
ar y Cynllun hollbwysig. Cyflwynwyd yr
adroddiad gan yr aelod Cabinet Plant a Theuluoedd. Rhoddwyd diweddariad ar beth
sydd wedi ei gyflawni gan yr adran plant hyd at ddiwedd mis Medi. Nodwyd bod
gan yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd ddau brosiect sydd ar waith yng
Nghynllun y Cyngor, y Cynllun Awtistiaeth a Chynllun datblygu darpariaeth
breswyl i blant mewn gofal cartrefi grŵp bychain. Manylwyd ar y
Cynllun Awtistiaeth, gan nodi nod y gwaith yn ffynnu a’r galw am wasanaeth yn
parhau i godi. Nodwyd bod y system ymgynghori rhwng y Tîm Awtistiaeth a’r
gweithwyr cymdeithasol yn gweithio yn effeithiol ac mae nifer o achosion o
ymyrraeth gynnar a chefnogaeth arbenigol wedi arwain at ostyngiad mewn angen a
statws, a nifer o achosion wedi cau yn dilyn ymyrraeth. Nodwyd bod y
rhaglen hyfforddi staff yn parhau ac yn datblygu gyda gwahanol lefelau o
hyfforddiant, a’r union lefel i’w gyflawni yn ddibynnol ar y swydd.
Ymhelaethwyd bod y tîm bellach yn hyfforddi gweithwyr i hwyluso a rhedeg
grwpiau a rhaglenni cefnogi ac addysgol i rieni a gofalwyr yn ogystal â grwpiau
hunaniaeth i bobl ifanc awtistig. Adroddwyd bod grwpiau ‘Paned a Sgwrs’ i rieni
a gofalwyr a chlwb Niwro i bobl ifanc yn parhau i fod
yn llwyddiannus. Nodwyd bod yr Ap Niwro Cymru bellach
ar gael, sydd wedi ei ddatblygu gan Awtistiaeth Gwynedd ar gyfer darparu
gwybodaeth, cyngor a chymorth i’r gymuned. Nodwyd bod yr arian ar gyfer y
cynllun yn dod i ben ym 2027 ac felly bydd angen ystyried sut i sicrhau parhad
y gwasanaeth i’r dyfodol o safbwynt cynaliadwyedd. Manylwyd ar y cynllun datblygu darpariaeth breswyl i blant mewn gofal mewn cartref grŵp bychan, sydd wedi datblygu yn sylweddol. Nodwyd bod cartref ym Morfa Bychan bellach yn weithredol, gyda 2 blentyn yn byw ynddo. Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd mai lle i 2 blentyn yn unig sydd yn y cartref, er mwyn sicrhau aelwyd gartrefol i’r plant yn unol â’r strategaeth genedlaethol. Eglurwyd bod datblygiadau yn digwydd yn safle Deiniolen, gan nodi bod dirprwy reolwr wedi ei benodi a 5 gweithiwr preswyl ar gyfer yr ail dŷ yn Neiniolen. Cadarnhawyd bod y staff wedi cychwyn eu swyddi. Nodwyd bod yr adran yn parhau i ddisgwyl am gofrestriad swyddogol i’r cartrefi, a disgwylir hyn yn fuan gan ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |