Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting

Cyswllt: Sera Jane Whitley 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatgan o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

4.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2025/26 pdf eicon PDF 217 KB

Alwen Williams, Prif Weithredwr i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2025/26.

 

5.

DIWEDDARIAD AR Y RHAGLEN TRAWSNEWID A GWELLA pdf eicon PDF 227 KB

Alwen Williams, Prif Weithredwr ac Uwch Berchennog Cyfrifol y Rhaglen a Dave Hole, Arweinydd y Rhaglen i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Nodwyd cynnydd a heriau rhaglen 2026/27.

 

Yn y cyd-destun o drawsnewid a newid, na ddylai’r CBC dalu costau unrhyw rolau, swyddogaethau neu gyfrifoldebau ychwanegol a roddir iddo, gan defnyddio ei adnoddau ei hun.

 

6.

CYNLLUN DEISEBAU CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD pdf eicon PDF 214 KB

Helen Edwards, Dirprwy Swyddog Monitro i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y Cynllun Deisebau.

 

7.

SEFYDLU IS-BWYLLGORAU SAFONAU pdf eicon PDF 132 KB

Helen Edwards, Dirprwy Swyddog Monitro i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer yr Is-bwyllgor Safonau.

 

Cytunwyd y gofynnir i'r awdurdodau cyfansoddol ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol enwebu aelodau o'r is-bwyllgor fel y nodir ym mharagraff 4.5 isod.

 

Cytunwyd y byddai'r CBC yn cynnal ymgyrch recriwtio allanol gyhoeddus fel y bo angen, ac y byddai'r awdurdodau cyfansoddol yn cael gwybod am hyn fel y gallant dynnu sylw aelodau annibynnol eu Pwyllgorau Safonau rhag ofn y byddai unrhyw un ohonynt yn gymwys ac â diddordeb mewn gwneud cais.

 

Cytunwyd ar yr amserlen a'r broses recriwtio ar gyfer Aelodau Annibynnol fel y nodir ym mharagraffau 4.6 a 4.7 o'r adroddiad hwn, ac awdurdodi'r Swyddog Monitro i a) ei haddasu os oes angen a b) sefydlu a phennu panel penodi yn unol â rheoliad 15 o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001, fel y'u diwygiwyd.

 

8.

NEWIDIADAU I AELODAETH IS-BWYLLGORAU'R CBC A PHENODIAD AELOD LLEYG pdf eicon PDF 135 KB

Mark Watkins, Swyddog Monitro i gyflwyno’r adroddiad.

 

Mae Atodiad 2 ar wahân ar gyfer Aelodau yn unig.

 

Mae'r Atodiad wedi'i eithrio o dan Baragraff 12, Rhan 4, Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (gwybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn penodol); yn ddarostyngedig i baragraff 21, Rhan 5 (prawf budd y cyhoedd). Wedi'i gymhwyso i'r CBC gan reoliad 26 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif. 2) (Cymru) 2021 ⁠

Penderfyniad:

Nodwyd bod y Cynghorydd Hugh Evans, fel Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, yn aelod o'r CBC a'i Is bwyllgor Lles Economaidd yn rhinwedd y swydd honno.

 

Nodwyd penodiadau'r Swyddog Monitro o dan y ddirprwyaeth dyddiedig 21 Mehefin 2024, sef y Cynghorydd James Elson i'r Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol a'r Cynghorydd Geraint Lloyd Williams i'r Is-bwyllgor Cynllunio Strategol.

 

Penodwyd Dewi Lewis yn aelod lleyg o'r Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am gyfnod o bedair blynedd o ddyddiad effeithiol y penodiad, yn amodol ar gwblhau'r cytundeb cyd-ethol perthnasol.