Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2024/25. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd
Mark Pritchard yn Gadeirydd ar gyfer 2024/25. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol
Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd
Charlie McCoubrey yn Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellr eu hystyried. |
|
CYLCH GORCHWYL AR GYFER YR IS-BWYLLGOR LLES ECONOMAIDD I adolygu’r
Cylch Gorchwyl ar gyfer yr Is-bwyllgor Lles Economaidd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadu’r Cylch
Gorchwyl |
|
CYFETHOL I'R IS-BWYLLGOR LLES ECONOMAIDD I ystyried Cyfethol aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i’w benodi ar yr Is-bwyllgor Lles Economaidd. Penderfyniad: Gohirio trafodaeth a
phenderfyniad ar y mater hwn nes y Cyfarfod nesaf. |
|
BLAEN RAGLEN WAITH YR IS-BWYLLGOR LLES ECONOMAIDD I ystyried
Blaen Raglen Waith ar gyfer yr Is-bwyllgor Lles Economaidd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cytuno ar Flaen
Raglen Waith Cadarnhau y gall y
Cadeirydd ddiwygio’r Cynllun i ystyried amrywiadau mewn amserlennu gwaith yn
amodol ar y Cynllun yn cael ei ddwyn i’r cyfarfod canlynol o’r Is-bwyllgor i
gael ei gytuno. |
|
PENODI SRO Y CYNLLUN TWF Cyflwyno
enwebiad ar gyfer yr Uwch Berchennog Cyfrifol (SRO) Newydd ar gyfer y Cynllun
Twf. Penderfyniad:
|
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid cau allan y wasg a’r
cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei
bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym
Mharagraff 14 o Atodiad 12A
o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn
â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson
penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth
hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a
materion ariannol cysylltiedig.
Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a
masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglyn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau
cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn
gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff
a’r Cynghroau ac yn tanseilio hyder rhai
eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer
ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn
cyfansawdd gorau |
|
ADOLYGIAD PORFFOLIO Alwen
Williams (Prif Weithredwr Dros Dro y CBC / Cyfarwyddwr Portffolio) ac Hedd
Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Bod yr Is-bwyllgor yn
cytuno ar yr argymhellion sy'n benodol i'r prosiect, fel a osodwyd yn adran 5
ac Atodiad 1 o'r adroddiad hwn yn dilyn cwblhau'r adolygiad portffolio. Cymeradwyo sefydlu
Rhestr Wrth Gefn fel a osodwyd yn adran 7 ac Atodiad 2 o'r adroddiad hwn,
ynghyd â'r meini prawf ac amserlen ar gyfer y broses Datganiad o Ddiddordeb
(EOI) i benodi prosiectau i'r rhestr wrth gefn.
Ychwanegu cynllun
amgen Trawsfynydd ar y Rhestr Wrth Gefn ffurfiol y Cynllun Twf. Bod yr Is-bwyllgor yn
gofyn i'r Swyddfa Rheoli Portffolio (PMO) gytuno ar broses sicrwydd a
chymeradwyo symlach gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i alluogi bod
penderfyniadau ar brosiectau newydd yn cael eu gwneud mewn modd effeithiol ac
effeithlon. |
|
ACHOS BUSNES LLAWN 4G+ (SAFLEOEDD A CHORIDORAU ALLWEDDOL CYSYLLTIEDIG) Stuart
Whitfield (Rheolwr y Rhaglen Ddigidol) a Kirrie Roberts (Rheolwr Prosiect
Cysylltedd Digidol) i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Bod yr Is-bwyllgor Lles Economaidd yn cymeradwyo'r Achos
Busnes Llawn ar gyfer y prosiect 4G+ (Safleoedd a Choridorau Allweddol
Cysylltiedig) gan nodi y bydd cyfnod cychwynnol dyluniad y cynllun grant ar ôl
cymeradwyo'r Achos Busnes Llawn angen asesiad rheoli cymhorthdal terfynol o'r
Cynllun Cymhorthdal arfaethedig. Bod y Is-Bwyllgor Lles Economaidd yn dirprwyo’r hawl i’r
Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd,
Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro i gytuno ar ddyluniad terfynol y cynllun
grant. Bod yr Is-Bwyllgor Lles Economaidd yn dirprwyo cyflwyno’r
prosiect i’r Cyfarwyddwr Portffolio gan
gynnwys dyfarniadau grant unigol dilynol yn unol â’r cynllun grant terfynol hyd
at £500,000. |