Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones /Annes Sion  01286 679665

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

4.

COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 16 GORFFENNAF 2024 pdf eicon PDF 173 KB

Dogfennau ychwanegol:

5.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn dilyn y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei bod yn debygol y datglir gwybodaeth eithriedig o dan Baragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal yr wybodaeth hynny) a Paragraff 16 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â’r sawl y byddai modd cynnal hawl o fraint cyfreithiol proffesiynol mewn achos cyfreithiol.

 

Mae’r adroddiad ynglŷn a sefyllfa ac opsiynau ar gyfer rheolaeth elusen y mae’r Cyngor yn ymddiriedolwr ohono. Felly, mae’r swyddogaeth yma ar wahân oddi wrth sefyllfa y Cyngor fel awdurdod cyhoeddus statudol ac yn ddarostyngedig i ofynion a chyfrifoldebau penodol rheolaeth elusen. Mae budd cyhoeddus mewn cael gwybodaeth am sut mae’r Cyngor yn gweithredu mewn swyddogaeth o’r fath. Fodd bynnag mae hyn yn cael ei gyfarch drwy gyfraith elusennau, Mae’r adroddiad yma ynglŷn a thrafodion busnes ac opsiynau y dylai’r ymddiriedolwyr gael cyfle priodol i’w trafod a chloriannu mewn modd rhydd ac agored cyn dod i gasgliad gorau er budd yr elusen. Byddai cynnal y drafodaeth yn gyhoeddus yn tanseilio eu gallu i gyflawni hyn. Y Cabinet yn eistedd fel ymddiriedolwyr yw’r unig fforwm priodol ar gyfer gweithredu hyn. Felly mae’r budd cyhoeddus o blaid eithrio.

 

Dogfennau ychwanegol:

6.

YMDDIRIEDOLAETH ELUSEN AMGUEDDFA LLOYD GEORGE

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd i

1.    Gymeradwyo arwyddo’r Memorandwm o Ddealltwriaeth sy’n gosod trefniadau cydweithio ffurfiol rhwng Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Elusen Amgueddfa Lloyd George (Yr Ymddiriedolaeth) a Chyngor Gwynedd (Y Cyngor).

2.    Cymeradwyo fod gwaith o dydd i ddydd o redeg yr amgueddfa ar ran yr elusen yn cael ei roi i wasanaethau Cyngor Gwynedd.

3.    Cymeradwyo’r Cylch Gorchwyl Drafft ar gyfer y Bwrdd Cydweithio sy’n gosod y trefniadau cydweithio rhwng Yr Ymddiriedolaeth, Y Cyngor a Chyfeillion Amgueddfa Lloyd George (Y Cyfeillion).

4.    Derbyn y diweddariad ar weithredu’r Achos Busnes a chyfraniad y Cyfeillion.

5.    Ymateb i’r prosiect SPF a’r cynlluniau i greu arddangosfeydd newydd.

6.    Cefnogi bod y Gwasanaeth Amgueddfeydd a’r Celfyddydau yn cyflwyno cais i SPF 2 ar ran yr Ymddiriedolaeth er mwyn datblygu cynlluniau ar gyfer y dyfodol a gweithgareddau cysylltiol i ymgysylltu a marchnata’r Amgueddfa.