Lleoliad: Cyfarfod Hybrid / Hybrid Meeting
Cyswllt: Gwen Alaw Roberts E-bost: Gwenalawroberts@gwynedd.llyw.cymru
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cydnabuwyd yr
wythnos hon fel Wythnos Genedlaethol Gofalwyr. Esboniwyd bod yr wythnos hon yn
ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth o ofalu ac i dynnu sylw at yr heriau y
mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu, gan gydnabod eu cyfraniad hollbwysig.
Diolchwyd yn ddiffuant ar ran y Cabinet i’r miloedd o ofalwyr di-dâl yng
Ngwynedd sy’n edrych ar ôl aelodau o’u teuluoedd, ffrindiau a chymdogion bob
dydd. Pwysleisiwyd bod eu gwaith yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl ac
i’n cymunedau, ac yn aml iawn bod y gwaith hwn yn digwydd y tu ôl i’r llenni.
Diolchwyd i staff a phartneriaid sy’n gweithio ochr yn ochr â gofalwyr i’w
cefnogi. Nodwyd bod y Cyngor
yn trefnu digwyddiadau drwy’r wythnos ac ar draws y sir er mwyn trafod y
gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl, a chroesawyd unrhyw un i fynychu. Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganwyd buddiant personol gan y Cyng June Jones mewn
perthynas ag eitem 6 gan ei bod yn Lywodraethwr yn yr Ysgol. |
|
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
|
COFNODION Y CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 19 MAI Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 19 Mai
2026 fel rhai cywir. |
|
|
YSGOL Y GARREG - ADRODDIAD GWRTHWYNEBU Cyflwynwyd gan: Cyng Dewi Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cadarnhawyd yn derfynol y cynnig a roddwyd drwy hysbysiad statudol sef - “Cau Ysgol Y Garreg ar 31 Awst 2026 a dynodi Ysgol Cefn Coch fel yr ysgol amgen o 1 Medi 2026,” yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones. PENDERFYNIAD Cadarnhawyd yn derfynol y cynnig a roddwyd drwy hysbysiad
statudol sef - “Cau Ysgol Y Garreg ar 31 Awst 2026 a dynodi Ysgol Cefn Coch fel
yr ysgol amgen o 1 Medi 2026,” yn unol
ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion
y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018. TRAFODAETH Nodwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd adrodd ar yr hyn a
ddeilliodd o’r cyfnod gwrthwynebu statudol o 28 diwrnod ar y cynnig i gau Ysgol
y Garreg. Mynegwyd bod y penderfyniad ynglŷn ag Ysgol y Garreg yn
un o’r penderfyniadau anoddaf yr oedd wedi ei ystyried fel Aelod Cabinet
Addysg. Nodwyd nad oedd neb yn mynd i’r maes addysg gyda’r bwriad o gau
ysgolion, gan fynegi ei uchelgais i weld ysgolion yn ffynnu, plant yn llwyddo a
chymunedau yn gryf. Cydnabuwyd y teimladau cryf a oedd wedi amlygu eu hunain yn
ystod y broses hon a’r tristwch yr oedd llawer yn ei deimlo. Nodwyd bod Ysgol y Garreg wedi gwasanaethu ei chymuned yn
ffyddlon dros flynyddoedd lawer. Talwyd teyrnged i’r staff, y llywodraethwyr,
rhieni a’r gymuned a oedd wedi gweithio mor galed dros yr ysgol am dros ganrif
a mwy. Er hyn, mynegwyd cyfrifoldeb i edrych yn onest ar y sefyllfa fel yr oedd
hi heddiw, nid fel y byddem yn dymuno iddi fod. Nodwyd bod yr heriau demograffig sy’n wynebu rhai o’n
cymunedau gwledig yn real ac yn ddwys. Er ei bod yn boenus, mynegwyd yr angen i
gydnabod y ffeithiau a oedd gerbron, yn enwedig sefyllfa ddifrifol Ysgol y
Garreg. Nodwyd bod lles a chyfleoedd plant yn ganolog wrth wneud penderfyniadau
addysgol, a dyna oedd yr egwyddor a oedd wedi arwain drwy’r broses hon.
Tanlinellwyd yr angen i sicrhau bod plant yn cael mynediad at addysg
gynaliadwy, ystod eang o brofiadau ac amgylchedd dysgu a allai ddiwallu anghenion
heddiw ac i’r dyfodol. Pwysleisiwyd nad oedd y penderfyniad ynglŷn ag Ysgol y
Garreg yn un yr oedd y Cabinet yn dymuno ei wneud, ond yn un yr oedd
amgylchiadau wedi arwain ato. Nodwyd, pe bai’r sefyllfa, y niferoedd a’r
rhagolygon yn wahanol, na fyddai’r penderfyniad yn cael ei ystyried.
Pwysleisiwyd bod Gwynedd wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y plant dros
y degawd diwethaf, a bod dyletswydd i wneud penderfyniadau cyfrifol ar gyfer yr
hirdymor, hyd yn oed pan oedd y penderfyniad yn anodd ac yn amhoblogaidd. Argymhellwyd felly y penderfyniad i gau Ysgol y Garreg, gan
gydnabod cyfraniad nifer fawr o bobl at yr ysgol dros y blynyddoedd, a’r angen
i weithredu er mwyn sicrhau’r ddarpariaeth ysgol orau a mwyaf cynaliadwy i
blant y dyfodol yng Ngwynedd. Ategwyd tristwch y sefyllfa gan Aelod Lleol Ward Glaslyn, a nodwyd bod yr ysgol wedi bod yn gwasanaethu’r gymuned ers oddeutu 143 o flynyddoedd. Pwysleisiwyd y newid hwn mewn demograffeg a’r lleihad yn nifer y plant yn ein cymdeithas, gyda dim ond dau ddisgybl yn Ysgol y Garreg ym mlwyddyn 6 ac yn symud i’r ysgol uwchradd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Addysg |
|
|
POLISI IAITH ADDYSG GWYNEDD Cyflwynwyd gan: Cyng Dewi Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd a mabwysiadwyd Polisi Iaith Addysg Gwynedd ar gyfer ei gyflwyno fel Polisi Iaith Addysg Enghreifftiol i ysgolion ystyried ei fabwysiadu a’i weithredu. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones. PENDERFYNIAD Derbyniwyd a mabwysiadwyd Polisi Iaith Addysg Gwynedd ar
gyfer ei gyflwyno fel Polisi Iaith Addysg Enghreifftiol i ysgolion ystyried ei
fabwysiadu a’i weithredu. TRAFODAETH Mynegwyd balchder o’r cyfle i gyflwyno’r Polisi Iaith Addysg
Enghreifftiol newydd ar gyfer ysgolion i’r Cabinet. Nodwyd bod y polisi wedi
bod gerbron y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ar fwy nag un achlysur, ac
gerbron y Cabinet yn flaenorol er mwyn cael caniatâd i ymgysylltu. Nodwyd,
bellach, bod y polisi gerbron y Cabinet yn dilyn y broses ymgysylltu honno â’r
cyhoedd a rhanddeiliaid. Nodwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gydag aelodau
unigol o’r Cyngor, mudiadau iaith, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a sawl
sefydliad arall er mwyn derbyn safbwyntiau gwahanol, gwrando ar bryderon ac
ystyried syniadau cyn symud ymlaen. Nodwyd mai polisi i Wynedd oedd hwn, sy’n adlewyrchu Gwynedd, ei gwerthoedd, ei huchelgais, ei hanghenion ac anghenion plant a phobl ifanc y sir. Diolchwyd i’w ragflaenydd ar y Cabinet, Meirion Prys Jones, ac i’r swyddogion am eu gwaith ar lunio’r polisi. Mynegwyd pwysigrwydd bod yn hollol agored yn ystod y broses, yn agored i syniadau, her a chydweithio gyda rhanddeiliaid er mwyn llunio’r polisi gorau posib. Pwysleisiwyd pwysigrwydd perswadio ac argyhoeddi yn hytrach na mynnu neu orfodi. Nodwyd yr angen i argyhoeddi pobl o werth y Gymraeg, ennill eu calonnau, dangos gwerth addysg Gymraeg a’r modd y mae’r Gymraeg yn agor drysau yn hytrach na’u cloi. Tanlinellwyd bod gwaith anhygoel wedi ei wneud dros y degawdau diwethaf yn y maes. Nodwyd bod cenedlaethau wedi gweithio’n ddiflino i gryfhau’r iaith, i adeiladu’r system addysg Gymraeg sydd gennym heddiw, ac i sicrhau bod mwy a mwy o blant a phobl ifanc yn cael y cyfle i fyw a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Pwysleisiwyd bod y llwyddiannau hyn yn rhai i’w dathlu. Mynegwyd gobaith bod y polisi newydd hwn yn adeiladu ar y gwaith hwnnw, ar y llwyddiant, ar yr hyn sydd eisoes yn gweithio, ar gyfleoedd, ar hyder, ac ar adeiladu dyfodol cryfach i’r Gymraeg. Pwysleisiwyd bod y Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom, y
rhai sy’n siarad yn rhugl, y rhai sy’n dysgu, a’r rhai nad ydynt wedi cael
cyfle eto. Mynegwyd bod lle i bawb yn stori’r Gymraeg. Galwyd ar bawb i uno y
tu ôl i’r Gymraeg a rhoi cyfle i bob plentyn yng Ngwynedd brofi’r manteision
o’i chael hi, gan sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i fod yn iaith fyw,
ffyniannus a hyderus. Galwyd ar bawb i agor drysau i fyd o gyfleoedd, profiadau
a manteision a fyddai’n aros gyda’n pobl ifanc am weddill eu bywydau. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
Awdur: Siwan Llwyd Roberts, Pennaeth y Gyfundrefn Addysg Drochi |