Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Jasmine Jones 01286 679667
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy'n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid Ilofnodi
cofnodion y cyfarfodydd blaenorol o'r pwyllgor a gynhaliwyd ar 18/06/26 a 14/07/26 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
DIWEDDARIAD AR GYNNYDD Y CYNLLUN YMATEB: CYFIAWNDER TRWY EIN DEWRDER Eitem wedi ei chynnwys ar raglen waith craffu yn dilyn ystyriaeth blaenorol y pwyllgorau ym mis Ionawr 2026 ac fel rhan o’r angen i graffu ar gynnydd y Cynllun Ymateb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD · Gofyn i’r aelod cabinet gysylltu gyda Llywodraeth
Cymru i nodi pryder a siom nad yw gweithdrefnau a chanllawiau cenedlaethol
newydd ar gyfer Rhan 5 yn adlewyrchu nac yn mynd i'r afael yn llawn â'r
newidiadau argymhellwyd yn adroddiad CTED ac argymell eu bod yn cael eu
diwygio. ·
Ychwanegu ymateb i ymgynghoriad ad-drefnu
llywodraethu ysgolion Llywodraeth Cymru i flaen raglen waith y pwyllgor pan yn
amserol. ·
Yn amodol ar dderbyn sêl bendith ac adnoddau gan y
Fforwm Craffu a sicrwydd nad yw’n amharu na dyblygu gwaith Llywodraeth Cymru ar
y pwnc, datgan cefnogaeth i sefydlu grŵp tasg a gorffen i edrych ar y
drefn llywodraethu ysgolion presennol, er mwyn cynorthwyo’r pwyllgor i ymateb
i’r ymgynghoriad arfaethedig ar ad-drefnu llywodraethu ysgolion yn seiliedig ar
ddata a thystiolaeth. |
|
|
STRATEGAETH 5 MLYNEDD Y GWASANAETH IEUENCTID Byddai craffu’r strategaeth ddrafft yn gyfle i’r Pwyllgor rhoi mewnbwn cyn i’r Strategaeth gael ei fabwysiadu. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD · Derbyn yr adroddiad a nodi’r sylwadau gan ofyn i’r gwasanaeth fapio lle
mae darpariaeth clybiau cymdeithasol i bobl ifanc (gan unrhyw gorff/partner (ee
clybiau pel droed) ar gael o fewn dalgylchau ysgolion. |
|
|
CYNLLUN DIWYLLIANT GWYNEDD Byddai blaengraffu’r Cynllun cyn y caiff ei fabwysiadu yn gyfle i’r pwyllgor argymell materion y dylid eu hystyried. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD · Derbyn yr
adroddiad a nodi’r sylwadau a wnaed gan nodi gwerthfawrogiad fod yr Adran wedi
cydweld i weithredu ar y pwyntiau canlynol: o
Ystyried edrych
eto ar eiriad y weledigaeth i gynnwys cyfeiriad penodol at y Gymraeg gan
eirio’r gweledigaeth i nodi uchelgais/nod o
Gwneud cais i’r gwasanaeth adrodd ar ddata ynghylch sy’n
cymharu allfudiad mewn ardaloedd tebyg (megis ardal y llynnoedd) er mwyn
cymharu â sefyllfa Gwynedd i weld os yw’r diwylliant yma yn angori pobl i’r
Sir. |
|
|
BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG AC ECONOMI Mabwysiadu rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2026/27. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD · Mabwysiadu’r
rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2026/27. |
|
|
CYFARFODYDD HERIO PERFFORMIAD I enwebu cynrychiolwyr i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD · Ethol y
Cynghorwyr Beth Lawton a Geraint Parry fel cynrychiolwyr y pwyllgor i fynychu
cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Addysg. · Ethol y
Cynghorydd Cai Larsen fel enw wrth gefn petai’r cynrychiolwyr uchod yn methu
bod yn bresennol. |