Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol
Is-gadeirydd ar gyfer 2026-27. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Gary Pritchard yn Is-gadeirydd. |
|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2026 fel rhai cywir. |
|
|
CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG CHWARTER 1 Hedd
Vaughan-Evans (Cyfarwyddwr Portffolio) I gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi Adroddiad
Perfformiad Chwarter 1 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i diweddaru. Cymeradwyo cyflwyno
Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i
diweddaru. |
|
|
SEFYLLFA REFENIW A CHYFALAF 2026/27 - ADOLYGIAD DIWEDD GORFFENNAF 2026 Dewi Morgan
(Pennaeth Cyllid a Swyddig Cyllid Statudol CBC) a Sian Pugh (Pennaeth
Cynorthwyol Cyllid) I gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodi'r adolygiad refeniw diwedd Gorffennaf 2026 ar gyfer
y Cynllun Twf, gan gynnwys y sefyllfa cronfeydd wrth gefn. Nodi proffil gwarant cyfalaf diwygiedig y Cynllun Twf Nodi’r adolygiad refeniw diwedd Gorffennaf 2026 ar gyfer
y Parth Buddsoddi, gan gynnwys y defnydd o’r llog ar falansau’r Parth Buddsoddi
i adael sefyllfa niwtral ar gyfer 2026/27. Nodi’r adolygiad refeniw diwedd Gorffennaf 2026 ar gyfer
y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol. Nodi trosglwyddiadau yng nghyllidebau'r Cynllun Twf a’r
Parth Buddsoddi fel y nodir yng Nghyllideb Refeniw'r Cynllun Twf 2026/27. |
|
|
PROSIECT PORTH Y PORTHLADD RHYDD, LLANGEFNI - CYTUNDEB CYLLIDO GRANT David
Mathews (Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo) I gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Nodi bod yr holl
gamau oedd yn weddill ar adeg cymeradwyo’r Achos Cyfiawnhad Busnes bellach
wedi’u cwblhau neu wedi’u hymgorffori yn y cytundeb ariannu, ac yn awdurdodi’r
Cyfarwyddwr Portffolio i gymryd pob cam gweithredol i ymrwymo i’r Cytundeb
Cyllido Grant gyda Chyngor Sir Ynys Môn. |
|
|
CYNLLUNIAU DEFNYDDIO PROSIECT LPWAN Stuart
Whitfield (Rheolwr Rhaglen Ddigidol) I gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd rhyddhau y cyllid ar gyfer y Cynlluniau
Defnyddio amlinellir yn adran 4.10 o’r adroddiad mewn perthynas â phrosiect
LPWAN ac awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio i gymryd y camau gweithredu
angenrheidiol i fynd mewn i Gytundebau Cyllido Grant gyda’r awdurdodau lleol
perthnasol. |
|
|
RHAGLEN MABWYSIADU YNNI ADNEWYDDADWY YN Y CARTREF (HARP) Meghan
Davies (Rheolwr Rhaglen Ynni a Sero Net) i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Cymeradwyo datblygiad y Rhaglen Mabwysiadu Ynni
Adnewyddadwy yn y Cartref (HARP) ar gyfer Gogledd Cymru. Awdurdodi Uchelgais Gogledd Cymru i arwain ar y
gweithgaredd caffael i benodi darparwr ar ran yr awdurdodau lleol sy’n cymryd
rhan i ddirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio i wneud unrhyw gamau gweithredol i
gwblhau’r weithgaredd. |
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL PARTNERIAETH SGILIAU RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU 2025-26 Cath
Morris-Roberts (Rheolwr Sgiliau
Rhanbarthol Dros Dro) i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2025-26, gan
nodi ei fod eisoes wedi’i gymeradwyo gan Fwrdd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol
Gogledd Cymru. |
|
|
Y GRONFA DWF LLEOL YNG NGOGLEDD CYMRU Alwen
Williams (Prif Weithredwr)
ac Iain Taylor (Rheolwr Rhaglen)
I gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Nodi’r gofyniad gan Lywodraeth Cymru am Gynllun Twf
Rhanbarthol 10 Mlynedd a Chynllun Cyflawni’r Gronfa Twf Lleol ar gyfer
Blynyddoedd 2 a 3 i’w gyflwyno erbyn Ionawr 2027 - i’w gymeradwyo gan
Lywodraeth Cymru i ryddhau cyllid o fis Ebrill 2027. Gofyn i bob sefydliad partner ymgynghori’n fewnol, nodi a
chyflwyno erbyn 30 Hydref 2026 eu blaenoriaethau strategol yn unol â
chanllawiau a fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gronfa Twf Lleol, gan
weithio gyda swyddogion CBC a fydd yn cydlynu’r broses. Bod yr Is-bwyllgor yn cymeradwyo’r rhaglen waith
arfaethedig fel y nodi yn adrannau 4.5 a 4.6 o’r adroddiad hwn a gofyn i’r Prif
Weithredwr sy’n gweithio ochr yn ochr â swyddogion o sefydliadau partner a
Llywodraeth Cymru baratoi Cynllun Twf Rhanbarthol interim a cheisio cadarnhad y
bydd y dull hwn yn bodloni gofynion Llywodraeth Cymru. Nodi y bydd adroddiadau pellach ar y Cynllun Twf
Rhanbarthol a Chynllun Cyflawnir Cronfa Twf Lleol ar gyfer Blynyddoedd 2 a 3 yn
cael eu cyflwyno ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr i sicrhau mewnbwn a chyfarwyddyd
gan yr Is-bwyllgor, ochr yn ochr â chanllawiau Llywodraeth Cymru, cyn cyflwyno
cynnig terfynol i’w gymeradwyo ym mis Ionawr 2027. |
|
|
PARTH BUDDSODDI SIR Y FFLINT A WRECSAM - CYMERADWYAETHAU PROSIECT A DYRANIADAU Alwen Williams (Prif Weithredwr), Iain Taylor (Cynrychiolydd
AMION Consulting) a Milly Cross (Rheolwr Rhaglen) i gyflwyno’r
adroddiad. Mae Atodiadau 1-4 yn eithriedig yn
unol â Paragradd 14 o Ran 4
o Atodlen 12A I Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth
sy'n ymwneud â materion ariannol a busnes sefydliadau adnabyddadwy, gan gynnwys gwybodaeth ariannol fanwl am brosiectau, gofynion cyllido a rhagdybiaethau, trefniadau masnachol a chyflawni, risgiau prosiectau, gofynion buddsoddi yn y dyfodol a gwybodaeth fasnachol sensitif arall a ddarperir at ddibenion arfarnu a chyllido. Penderfyniad: Yn amodol ar Asesiad Rheoli Cymhorthdal, cymeradwyo'r
dyraniad o £2.5m (cyfalaf a refeniw) i Gyngor Sir y Fflint ar gyfer Rhaglen
Grantiau SME ac awdurdodi'r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr
Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro i ymrwymo i Gytundeb
Arian Grant gyda Chyngor Sir y Fflint. Yn amodol ar Asesiad Rheoli Cymhorthdal, cymeradwyo'r
dyraniad o £2.6m (cyfalaf a refeniw) i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar
gyfer Rhaglen Grantiau SME ac awdurdodi'r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â'r
Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro i ymrwymo i
Gytundeb Arian Grant gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Cymeradwyo'r cynnig gan Drafnidiaeth Cymru i fuddsoddi £10m
o gronfeydd refeniw'r Parth Buddsoddi yn Sir y Fflint a £7m o gronfeydd
refeniw'r Parth Buddsoddi yn Wrecsam i drawsnewid gwasanaethau bysiau i
leoliadau cyflogaeth a sgiliau allweddol. Yn amodol ar Asesiad Rheoli Cymhorthdal, awdurdodi'r Prif
Weithredwr mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran
151 a'r Swyddog Monitro i ymrwymo i Gytundeb Arian Grant gyda Chyngor Sir y
Fflint am £10m o Refeniw Parth Buddsoddi i gefnogi'r Prosiect Trawsnewid
Bysiau. Yn amodol ar Asesiad Rheoli Cymhorthdal, awdurdodi'r Prif
Weithredwr mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran
151 a'r Swyddog Monitro i ymrwymo i Gytundeb Arian Grant gyda Chyngor
Bwrdeistref Sirol Wrecsam am £7m o Refeniw Parth Buddsoddi i gefnogi'r Prosiect
Trawsnewid Bysiau. Yn amodol ar Asesiad Rheoli Cymhorthdal, awdurdodi'r Prif
Weithredwr mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran
151 a'r Swyddog Monitro i ymrwymo i Gytundeb Arian Grant gyda Thrafnidiaeth
Cymru am £50,007 o Refeniw Parth Buddsoddi i gefnogi'r Prosiect Seilwaith
Bysiau. Yn amodol ar Asesiad Rheoli Cymhorthdal a bod 31ten yn
cwblhau'r Adolygiad Sicrwydd Achos Busnes, cymeradwyo'r dyraniad o £3.5m
(cyfalaf) i Pochin Goodman Northern
Gateway Limited i gefnogi
prosiect seilwaith i ddatgloi tir datblygu tu mewn i Safle Treth Parth
Buddsoddi Porth Glannau Dyfrdwy ac awdurdodi'r Prif Weithredwr mewn
ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog
Monitro i ymrwymo i Gytundeb Arian Grant gyda Pochin Goodman Northern Gateway Limited. Yn amodol ar Asesiad Rheoli Cymhorthdal, cymeradwyo'r
dyraniad o £0.5m (refeniw) i Wales and West Utilities
i gefnogi'r gwaith cyn-ddatblygu i ddatgloi buddsoddiad yn y dyfodol yn y
prosiect Hyline Gogledd ac awdurdodi'r Prif
Weithredwr mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran
151 a'r Swyddog Monitro i ymrwymo i Gytundeb Arian Grant gyda Wales and West Utilities Limited. Yn amodol ar Asesiad Rheoli Cymhorthdal, cymeradwyo'r
dyraniad o £0.25m (cyfalaf) i MAAS Spectrometry Limited i gefnogi prosiect Ymchwil a Datblygu, sy'n ffurfio
rhan o Raglen Arloesi'r Parth Buddsoddi, i greu peiriant sbectrometreg màs newydd
i ddangos sut mae technoleg newydd yn cael ei gymhwyso i gefnogi twf
gweithgynhyrchu a chyfleoedd allforio ac awdurdodi'r Prif Weithredwr mewn
ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog
Monitro i ymrwymo i Gytundeb Arian Grant gyda MAAS Spectrometry
Limited. |
|
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Er bod diddordeb y cyhoedd mewn tryloywder ac atebolrwydd, mae hyn yn cael ei orbwyso ar hyn o bryd gan yr angen i ddiogelu gwybodaeth fasnachol sensitif o ystyried y byddai datgelu yn debygol o ragfarnu trafodaethau parhaus a gallu'r awdurdod i sicrhau'r gwerth gorau a diogelu'r defnydd priodol o arian cyhoeddus. Penderfyniad: Pleidleisiwyd o blaid cau allan y wasg a’r cyhoedd. |
|
|
STRATEGAETH AR GYFER GWEDDILL CYLLID Y CYNLLUN TWF Hedd
Vaughan-Evans (Cyfarwyddwr Portofolio) I gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Cymeradwyo’r strategaeth ddrafft ar gyfer y cronfeydd
Cynllun Twf sydd heb eu dyrannu fel y nodir yn adran 5, Achos Fusnes Strategol
y Gronfa Eiddo Fasnachol a’r Achos Fusnes Strategol ar gyfer y Gronfa Arloesi a
Thwf a gofyn i’r Cyfarwyddwr Portffolio gymryd y camau angenrheidiol ar gyfer
cyflwyno Achosion Busnes Terfynol i’w ystyried.
Cymeradwyo’r fframwaith penderfynu arfaethedig ar gyfer y
cronfeydd arfaethedig fel nodir yn adran 6 o’r adroddiad a gofyn i’r
Cyfarwyddwr Portffolio ymgorffori'r fframwaith yn yr achosion busnes terfynol
cyn cael ei gyflwyno am ystyriaeth.
Achos Amlinellol Strategol y Gronfa Arloesi a Thwf ac yn gofyn i’r
Cyfarwyddwr Portffolio ymgymryd â’r holl gamau angenrheidiol i gyflwyno achos
busnes terfynol i’w ystyried. Cytuno i’r newidiadau i’r Rhestr wrth gefn fel amlinellir
yn adran 5 o’r adroddiad a gofyn i’r Cyfarwyddwr Portffolio ymgymryd â’r holl
gamau gweithredol i weithredu'r newidiadau. |